AIL-AGOR ADDOLDAI YN RADDOL

Yn raddol fach, mae addoldai Cymru yn dechrau ail-agor, gyda threfniadau diogelwch gofalus yn eu lle. Mae’r ail-agor hwn yn digwydd yn unol â rheoliadau a chanllawiau Llywodraeth Cymru, sy’n cael eu diweddaru’n rheolaidd. Gallwch ddarllen crynodeb o’r canllawiau cyfredol ar dudalen arbennig gwefan Cytûn, sy’n cael ei diweddaru yn rheolaidd.

Mewn llythyr at y Fforwm Cymunedau Ffydd (sy’n cynnwys Cytûn a llawer o gyrff crefyddol eraill yng Nghymru) ar Fehefin 25, dywedodd y Dirprwy Weinidog yn Llywodraeth Cymru, Jane Hutt AS: Mae’r gefnogaeth a’r arweiniad yr ydych wedi ei ddangos i’n cymunedau ledled Cymru wedi bod yn wirioneddol eithriadol. Hoffwn gofnodi fy niolch a chyfleu fy ngwerthfawrogiad i chi.

Mae methu cael mynediad i fannau addoli wedi bod yn anodd i gynifer o bobl, ac mae llawer o ddigwyddiadau arwyddocaol, gweddïau, gwyliau crefyddol a seremonïau wedi, naill ai peidio cael eu cynnal o gwbl, neu wedi gorfod cael eu cynnal mewn ffyrdd gwahanol iawn.

Ni fyddai’r symudiad diweddar i ddechrau ail-agor addoldai, lle mae’n ddiogel i wneud hynny, wedi digwydd mor llwyddiannus heb eich cymorth, cyngor a’ch dealltwriaeth. … Yr wyf fi, a’m swyddogion, yn croesawu ac yn gwerthfawrogi’n fawr eich cytundeb i barhau â’r ymgysylltu hwn wrth inni symud ymlaen i lacio’r mesurau cyfyngiadau symud ac ystyried sut y gallem alluogi seremonïau a defodau eraill i ailddechrau, a gwneud hynny’n ddiogel.

Mae’r ffordd yr ydym yn gweithio mor llwyddiannus ar draws crefyddau, credoau a chymunedau yn Nghymru yn wirioneddol arbennig. Mae’r gwaith yr ydych yn ei wneud gyda’ch gilydd ar draws cymunedau ffydd a gyda Llywodraeth Cymru yn dangos yn glir sut y gall cydweithio effeithiol fod o fudd i’n holl gymunedau.

Yn y cyfamser, bu eglwysi yn gweithio mewn ffyrdd amgen. Ar Awst 14 aeth Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford AS, i Eglwys St Thomas yng Nghaerffili i weld prosiect CARE (Church Assistance Request in an Emergency) a sefydlwyd fis Mawrth i ddanfon parseli bwyd, siopa a meddyginiaeth, yn ogystal â chynnig cymorth emosiynol i unrhyw un yn ardal cod post CF83 a oedd angen help ychwanegol. Ers hynny, mae dros 100 o wirfoddolwyr – o bobl ifanc i bensiynwyr – wedi ateb miloedd o alwadau ffôn a danfon miloedd o barseli bwyd, gan helpu cannoedd o bobl.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford: “Mae hi wedi bod yn fraint dod yma heddiw a chwrdd â’r Parchedig Ddeon a’r tîm o wirfoddolwyr. Mae prosiect CARE yn fenter ardderchog sy’n llawn pobl gymwynasgar a ymatebodd yn gyflym a gyda chalon gynnes, er yr amgylchiadau heriol.”

Dywedodd y Parchedig Ddeon Aaron Roberts: “Mae’r ymweliad wedi bod yn galondid mawr i’n holl wirfoddolwyr yma. … Rydym wedi’n syfrdanu gan gefnogaeth yr ardal leol sydd wedi cyfrannu arian a bwyd, ond hefyd amser ac egni i sicrhau bod pobl yn cael y gofal sydd ei angen arnynt. Bydd ein helusen nawr yn rhoi blaenoriaeth i feithrin cadernid yn ein cymunedau a pharhau i gynnig cymorth ymarferol wrth inni addasu ein bywydau i’r normalrwydd newydd yr ydym ar fin ei ddarganfod wrth i’r genedl geisio adfer o’r cyfnod clo.”

DATGANOLI A MARCHNAD FEWNOL Y DEYRNAS UNEDIG

Pan alwodd rhai o aelod enwadau Cytûn am ffurfio Gweithgor cyd-enwadol am Gymru ac Ewrop yn dilyn refferendwm Mehefin 2016, un o’r materion ar yr agenda o’r cychwyn oedd effaith posibl yr ymadawiad ar ddatganoli i Gymru. Beth fyddai’n digwydd i’r cyfrifoldebau fyddai’n dychwelyd o’r Undeb Ewropeaidd i wledydd Prydain yn dilyn ein hymadawiad?

Llun: Canva

Mae Llywodraeth Cymru a phwyllgorau Senedd Cymru wedi mynegi gofid mawr am oblygiadau’r awgrymiadau hyn, heb iddynt gael eu gwrthbwyso gan egwyddorion eraill megis sybsidiaredd (gwneud penderfyniadau ar y lefel mwyaf lleol posibl) a threfn cyd-drafod a chydweithredu rhwng llywodraethau. Mae Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru, Jeremy Miles, AS, wedi ysgrifennu at Alok Sharma AS, Gweinidog Busnes Llywodraeth y DU, yn dweud: Our reading of the proposals is that the proposed legislation would prevent the Senedd or Welsh Ministers from imposing mandatory requirements relating to lawful sale of goods and services in Wales – even where there were justified by public health objectives, environmental concerns or any other public policy reason. This would represent a direct attack on the current model of devolution.

Cyfrannodd Cytûn at ymateb i’r ymgynghoriad byr (4 wythnos yn unig) am y Papur Gwyn ar ran Fforwm Cymdeithas Sifil Cymru am Brexit, yr ydym yn aelodau ohono, ac ar Awst 24 fe dderbyniodd Gweithgor Cymru ac Ewrop Cytûn wybodaeth am yr ymateb hwnnw. Ymhlith y pryderon mae:

Cytunodd y Gweithgor y byddem yn parhau i gydweithredu â’r Fforwm wrth i’r Bil gael ei gyhoeddi, ac y byddem yn ymateb i ymgynghoriad cyfredol un o bwyllgorau Senedd Cymru am baratoadau yng Nghymru ar gyfer diwedd y cyfnod pontio. Byddem yn falch o glywed gan ddarllenwyr hoffai gyfrannu at yr ymateb hwn – cysyllter â gethin@cytun.cymru erbyn Medi 30.

Esgob yn cymell dinasyddion Ewropeaidd i geisio Statws Preswylio nawr

Mae Gweithgor Cymru ac Ewrop Cytûn yn cefnogi’r apêl hwn yn wresog.

Gyda llai na blwyddyn i fynd cyn terfyn amser Llywodraeth y DU i ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd, Parth Economaidd Ewrop a’r Swisdir wneud cais I gael preswylio’n sefydlog yn y DU, mae esgob aeth drwy’r broses yn cymell pobl I beidio ag oedi cyn gwneud eu cais. Dywed yr Esgob William Kenney, esgob Catholig cynorthwyol Birmingham, ac yn ddinesydd o Sweden, yn dweud dylai pawb sy’n gymwys ymgeisio ymhell cyn 30 Mehefin 2021. Mae’n esbonio mwy yma.

Mae’r llywodraeth yn mynnu fod angen i ddinasyddion Ewropeaidd sydd wedi ymgartrefu yn y DU wneud cais neu golli eu hawliau sylfaenol i fyw a gweithio yma. Mae’n rhaid i bawb gan gynnwys plant a phartneriaid dinasyddion Ewropeaidd wneud hyn. Tra bod llawer wedi cael hyn yn rhwydd, mae’r Esgob Kenney yn rhybuddio fod eraill wedi cael trafferth i ddefnyddio’r broses, neu ddim yn sylweddoli fod angen iddynt wneud cais. Mae felly yn annog pawb i ymgeisio’n gynnar a gofalu am bobl eraill allai fod ag angen cefnogaeth.

Mae cefnogaeth di-dâl ar gyfer dinasyddion Ewropeaidd yng Nghymru ar gael yma: http://www.eusswales.com/cy/. Mae’r mudiad Settled yn cynnig cymorth mewn nifer o ieithoedd.

GWIRFODDOLWYR TRAMOR YN GORFOD TALU AM OFAL IECHYD?

Mae trefn fewnfudo newydd y DU wedi i ni ymadael â’r UE, seiliedig ar ddyrannu pwyntiau, yn cael ei chyflwyno yn San Steffan drwy’r Immigration and Social Security Co-ordination (EU Withdrawal) Bill. Mae papur esboniadol Llywodraeth y DU (CP 258) fel petai’n cadarnhau y bydd angen i’r sawl sydd am ddod o dramor i weithio’n wirfoddol yn y DU dalu’r Tâl Iechyd Mewnfudo. Bydd hwn yn swm sylweddol (yn codi hyd at £624 y flwyddyn o 1 Hydref 2020 ar gyfer y rhan fwyaf o fisas).

Mae’r Farwnes Jolly, Arglwyddes gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol, wedi cyflwyno gwelliant i’r Bil ar ran Camphill Scotland, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a mudiadau cyfatebol yng Ngogledd Iwerddon a’r Alban, a mudiadau eraill sy’n credu y bydd yn rhwystro elusennau rhag recriwtio gwirfoddolwyr o dramor. Gall eglwysi a mudiadau eraill sydd am gefnogi’r gwelliant wneud hynny trwy gysylltu â Robert McGeachy, Rheolydd Polisi a Chydlyniant Camphill Scotland ar 07825-149005 neu Robert@camphillscotland.org.uk

DEDDFAU YN YR ARFAETH I GYMRU

Ar Orffennaf 15, cyhoeddodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford AS, raglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru am weddill tymor y Senedd hon (sy’n gorffen erbyn yr etholiadau ar Fai 6 2021). O ganlyniad i’r pandemig bu raid gollwng, o leiaf tan ar ôl yr etholiad, deddfau yn ymwneud â gwasanaethau bysiau, addysgu plant gartref, addysg drydyddol ac ymchwil, a “phartneriaeth gymdeithasol”, er y bydd rhai ohonynt yn cael eu cyhoeddi ar ffurf drafft.

Yn ogystal â’r Bil Cwricwlwm ac Asesu (tt 4-5), mae’r Llywodraeth yn gobeithio cwblhau:


BIL CWRICWLWM NEWYDD CYMRU

Llun: Llywodraeth Cymru

Ar 6 Gorffennaf 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Fil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru). Cyhoeddwyd hefyd nifer o ddogfennau cefndirol. Nod y Bil yw gosod sail statudol i Gwricwlwm i Gymru a gyhoeddwyd yn Ionawr 2020 ar gyfer ysgolion i’w gyflwyno o Fedi 2022. Mae’r Llywodraeth o hyd yn bwriadu i gyflwyno’r cwricwlwm ddechrau yn 2022, ond mewn tystiolaeth gerbron pwyllgor Seneddol ar Orffennaf 14, fe ddywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams AS, nad yw’n gwarafun oedi yn dilyn helbul Covid-19.

Mae Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Senedd Cymru ar hyn o bryd yn craffu ar y Bil, a byddant yn llunio adroddiad yn cynnig eu sylwadau a gwelliannau posibl i’r Bil erbyn Rhagfyr 4 2020. Mae’r Pwyllgor yn gwahodd tystiolaeth ysgrifenedig gan y cyhoedd tan Medi 29 2020. Mae’r Pwyllgor hefyd wedi cyhoeddi arolwg arbennig i blant a phobl ifainc. Mae angen ymatebion i hwnnw erbyn Medi 13.

Fe gyhoeddodd Cytûn bapur briffio am ddogfennau’r cwricwlwm yn gynharach eleni, a gellir gweld hwnnw ar wefan Cytûn. Newid allweddol yw y bydd pob ysgol yn llunio ei chwricwlwm ei hun, o fewn y cyfyngiadau yn y Bil, megis bod rhaid iddo gynnwys chwe Maes Dysgu a Phrofiad penodol, sef: Y Celfyddydau Mynegiannol; Iechyd a Lles; Y Dyniaethau; Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu; Mathemateg a Rhifedd; Gwyddoniaeth a Thechnoleg.

Bydd Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb (ACRh) bellach yn orfodol i bob disgybl fel rhan o Faes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles. Mae’r Bil yn dweud fod rhaid i’r ddarpariaeth yn y pwnc hwn fod yn briodol yn ddatblygiadol i ddisgyblion. Bydd y rhan hon o’r cwricwlwm yn llawer mwy penodol na meysydd eraill, yn hytrach na chael ei benderfynu yn bennaf yn lleol. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyflwyniad cychwynnol i’r dull o lunio meysydd llafur ACRh yr ysgolion. Mae’r Grŵp Ymgysylltu Cymunedau Ffydd a Du a Lleiafrifol Ethnig, y mae Cytûn yn aelod ohono, wedi mynegi peth pryder am absenoldeb pynciau sylfaenol megis cyfeillgarwch, teulu, partneriaeth a phriodas o fewn yr amlinelliad hwn, ac yn aros cyfle i roi mewnbwn i’r canllawiau cenedlaethol drafft manylach fydd yn dilyn.

Mae’r Bil yn ailenwi Addysg Grefyddol yn Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM) a bydd yn orfodol i bob disgybl fel rhan o Faes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau. Fe fydd yna broses gymhleth – yn Atodlenni 1 a 2 y Bil – o ran llunio cwricwlwm ysgolion ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg:

  1. Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi canllawiau statudol i awdurdodau lleol ynghylch y meysydd llafur cytunedigar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg. Fe fydd ymgynghoriad cyhoeddus am ganllawiau drafft tua diwedd 2020.
  2. Bydd yn ofynnol i bob awdurdod lleol gynnull cynhadledd maes llafur i lunio’r maes llafur cytunedig o ran Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg ar gyfer yr ysgolion a gynhelir yn ei ardal. Bydd raid i’r maes llafur cytunedig: a) adlewyrchu’r ffaith mai Cristnogol yn bennaf yw’r traddodiadau crefyddol ym Mhrydain Fawr, gan ystyried dysgeidiaeth ac arferion y prif grefyddau eraill a gynrychiolir ym Mhrydain Fawr, a b) adlewyrchu hefyd y ffaith y delir ystod o argyhoeddiadau athronyddol nad ydynt yn grefyddol ym Mhrydain Fawr.
    Mae’r Bil yn newid cyfansoddiad y Gynhadledd Maes Llafur Cytunedig i gynnwys pedwar pwyllgor (mae gan bob pwyllgor un bleidlais ar y cyd):
    – Pwyllgor yn cynrychioli enwadau crefyddol yr ardal;  
    – Pwyllgor newydd yn cynrychioli “such non-religious philosophical convictions … as, in the opinion of the authority, ought to be represented”;        
    – Pwyllgor yn cynrychioli’r Awdurdod Addysg Lleol;      
    – Pwyllgor yn cynrychioli cymdeithasau’r athrawon.     
    Mae angen i’r pedwar pwyllgor fod yn gytûn er mwyn mabwysiadu maes llafur; os na allant gytuno, bydd Llywodraeth Cymru yn penodi a body of persons appearing to the Welsh Ministers to possess relevant experience to prepare a syllabus of Religion, Values and Ethics i gyflawni’r gwaith.  
  3. Bydd ysgolion wedyn yn llunio eu maes/meysydd llafur lleol eu hunain, fel a ganlyn:

Ysgolion cymunedol ac ysgolion sefydledig a gwirfoddol heb gymeriad crefyddol: Bydd raid i’r ysgolion hyn ddylunio eu cwricwlwm ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM) gan roi sylw i’r maes llafur cytunedig lleol (yn hytrach nag addysgu’n unol â’r maes llafur Addysg Grefyddol, fel ar hyn o bryd.)

Ysgolion sefydledig ac ysgolion gwirfoddol a reolir sydd â chymeriad crefyddol (Ysgolion VC): Bydd gofyn i’r ysgolion hyn ddarparu ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM) enwadol a CGM gan roi sylw i’r maes llafur y cytunedig. Y drefn ddiofynar gyfer yr ysgolion hyn fydd i ddysgwyr dderbyn addysg CGM a gynlluniwyd gan roi sylw i’r maes llafur cytunedig, ond bydd rhaid darparu CGM yn unol â gweithredoedd ymddiriedolaeth neu ddaliadau’r ffydd (h.y. CGM enwadol) pan fydd rhiant yn gofyn am y ddarpariaeth honno. (Mae hyn yn wahanol i’r sefyllfa bresennol, lle mae dim ond ystyried cais ar gyfer darpariaeth enwadol y mae’n rhaid i ysgol VC ei wneud).

Ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir sydd â chymeriad crefyddol (Ysgolion VA): Bydd yn ofynnol i’r ysgolion hyn ddarparu ar gyfer CGM enwadol a CGM yn unol â maes llafur cytunedig. Y drefn ddiofyn ar gyfer yr ysgolion hyn fydd i ddysgwyr gael addysg CGM yn unol â gweithredoedd ymddiriedolaeth neu ddaliadau ffydd yr ysgol (CGM enwadol). Fodd bynnag, os bydd rhiant yn gofyn am addysg CGM yn unol â’r maes llafur cytunedig, rhaid ei darparu. (Mae hyn yn wahanol i’r sefyllfa bresennol, lle mae dim ond ystyried cais ar gyfer darpariaeth yn unol â’r maes llafur cytunedig y mae’n rhaid i ysgol VA ei wneud).         
Noder yn achos ysgol VA mai darparu yn unol â’r maes llafur cytunedig fydd raid, ac nid darparu gan roi sylw i’r maes llafur hwnnw. Dyma’r unig ysgolion fydd dan rwymedigaeth i addysgu CGM yn unol â’r maes llafur cytunedig.

Mae’r newidiadau hyn yn sefyllfa ysgolion VA o ran Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg wedi arwain at gryn bryder gan yr Eglwys Gatholig a’r Eglwys yng Nghymru – sef yr unig ddau gorff crefyddol sydd ar hyn o bryd yn noddi ysgolion o’r fath yng Nghymru.

Mae’r Pwyllgor Seneddol eisoes wedi ysgrifennu at y Gweinidog Addysg yn gofyn nifer o gwestiynau penodol am CGM a mae hi wedi ymateb. Gellir gweld yr ohebiaeth hon, ynghyd â dogfennau seneddol eraill am y Bil, yma. Byddem am annog holl aelod eglwysi a mudiadau Cytûn i ystyried ymateb i ymgynghoriad y Pwyllgor Seneddol i fynegi barn.

Ond yn bwysicach, dyma’r cyfle i eglwysi lleol ddechrau ystyried sut y maent am ymwneud â’u hysgolion lleol, a sut y dylent ymateb i geisiadau gan ysgolion lleol, gan fod gennym gymaint i’w gyfrannu i gyfoethogi’r cwricwlwm newydd hwn yng nghynefin y disgyblion.

GWEDDÏO A GWEITHIO DROS Y CREAD

Bydded i Dduw, a sefydlodd ddawns y cread, a ryfeddodd wrth lili’r maes, sy’n trawsnewid dryswch yn drefn, arwain ni i drawsnewid ein bywydau ninnau a bywyd yr Eglwys i adlewyrchu gogoniant Duw yn y cread.

Mae Cytûn yn gwahodd eglwysi i gynnal Sul yr Hinsawdd lleol rywbryd rhwng Medi 6 2020 a Medi 5 2021, wrth i wledydd Prydain baratoi i groesawu cynhadledd hinsawdd bwysig COP26 i Glasgow yn Nhachwedd 2021. Mae deunydd Cymraeg, gan gynnwys trefn oedfa gyflawn, ar wefan Cytûn – http://www.cytun.co.uk/hafan/sul-yr-hinsawdd/ a dolenni i doreth o ddeunydd Saesneg ychwanegol ar https://www.climatesunday.org/  A mae llawer mwy o i ddod dros yr wythnosau nesaf!

HOUSING JUSTICE CYMRU: Y CYNLLUN CADARNLE

Daeth ein hysbrydoliaeth ar gyfer y cynllun hwn o’r adnod yma: Yr ARGLWYDD yw fy nghraig, fy nghadernid a’m gwaredydd; fy Nuw yw fy nghraig lle llochesaf, fy nharian, fy amddiffynfa gadarn a’m caer – Salm 18:2.

Nod y cynllun Cadarnle yng Nghymru yw helpu pobl i ddod o hyd i’r lle cadarn oddi fewn iddynt eu hunain, adeiladu cadernid fel y byddant yn llai tebygol o gael eu hunain yn ddi-gartref ac yn gallu cadw gafael ar eu tenantiaeth. Mae’r cynllun Cadarnle yn gwneud hyn drwy hyfforddi gwirfoddolwyr i weithio gydag unigolion, yn defnyddio dull seiliedig ar gryfder i helpu pobl nodi beth sy’n bwysig iddyn nhw a’i gyflawni.

Mae’r cynllun Cadarnle yn defnyddio model ‘Cylchoedd Cefnogaeth’ er mwyn adeiladu rhwydwaith o gefnogaeth ar gyfer unigolion, yn cynnwys unrhyw asiantaethau sydd eisoes ynglŷn â’r sefyllfa a mudiadau eraill allai fod o ddefnydd i’r unigolyn. Byddai Gwirfoddolwyr Cadarnle yn cyfarfod ag unigolion yn rheolaidd (mewn man cyhoeddus megis caffi) dros gyfnod o 3-6 mis i gychwyn, ac yn derbyn goruchwyliaeth gan Gyd-lynydd Cynllun Cadarnle yn fisol er mwyn sicrhau fod pob perthynas yn llwyddiannus.  

Datblygwyd Cadarnle gan i ni weld bwlch a’r angen am fodel cefnogi o’r fath. Gwyddom fod oddeutu 90% o bobl sydd wedi profi digartrefedd yn y pum mlynedd ddiwethaf yn poeni o hyd am eu sefyllfa, sy’n dweud wrthym fod yna angen enfawr am gefnogaeth barhaus er gwaethaf y gwasanaethau sy’n bodoli eisoes.

Gallwch wylio ffilm fer am gynllun Cadarnle yma: https://youtu.be/J-ZiQ5_VAjU

Bonnie Navarra, Cyfarwyddydd, Housing Justice Cymru

Daw’r hanes yma o gylchlythyr diweddaraf Housing Justice Cymru, a ddosbarthwyd i danysgrifwyr ebost gyda’r Bwletin hwn/ Os hoffech danysgrifio i’r Cyclhlythyr hwnnw, cysyllter â  b.navarra@housingjustice.org.uk. Pob llun yn yr erthygl hon: Housing Justice Cymru.

CYSYLLTU Â SWYDDOG POLISI CYTÛN:
Noder cyfeiriad a rhif ffôn ein swyddfa newydd

Parch./Revd Gethin Rhys – Swyddog Polisi/Policy Officer
Cytûn – Eglwysi ynghyd yng Nghymru/Churches together in Wales

Yst 3.3, Tŷ Hastings, Llys Fitzalan (gyferbyn â Tŷ Brunel), Caerdydd CF24 0BL Ffôn y swyddfa: 03300 169860  Gethin: 03300 169857

Mudol/mobile: 07889 858062 E-bost: gethin@cytun.cymru  ww.cytun.co.uk @CytunNew

Hapus i gyfathrebu yn Gymraeg ac yn Saesneg. Happy to communicate in Welsh and English

Dyddiad cyhoeddi: 26 Awst 2020. Cyhoeddir y Bwletin nesaf 30 Hydref 2020.