EGLWYSI CYMRU YN PARATOI AR GYFER BREXIT DI-GYTUNDEB

Mewn cyfarfod arbennig o Weithgor Cymru ac Ewrop Cytûn ar Chwefror 5, a fynychwyd gan bron pob eglwys sy’n aelod yn Cytûn, cytunwyd galw ar i eglwysi yng Nghymru ymbaratoi ar gyfer gofynion bugeiliol Brexit di-gytundeb. Bu’r sawl oedd yn y cyfarfod yn cyfeirio’n benodol at:

  • Cefnogaeth fugeiliol i ddinasyddion yr UE sy’n byw yng Nghymru wrth iddynt ymbaratoi i ymgeisio ar gyfer Cynllun Preswylio’r UE er mwyn aros yn y Deyrnas Unedig.
  • Cefnogaeth fugeiliol i ddinasyddion y DU sy’n byw yn yr UE, sydd mewn llawer achos yn wynebu ansicrwydd parhaus wrth i awdurdodau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol benderfynu sut i gymhathu dinasyddion y DU unwaith eu bod yn colli’r hawl i breswylio yno yn awtomatig oherwydd eu dinasyddiaeth yn yr UE.
  • Sut y gallai eglwysi gydweithio gyda chymunedau ffydd eraill a chyda chynllunio awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru ar gyfer argyfyngau sifil. Fe all y bydd rhai amgylchiadau yn rhagweladwy, ac fe’u hamlinellir isod; fe all y bydd eraill yn gwbl annisgwyl.
  • Sut y gallai eglwysi gydweithio gyda mudiadau eraill i hybu iacháu a chymodi’r rhwygiadau dyfnion yn ein Cymdeithas o amgylch Brexit, ac ymateb i unrhyw ddyfnhau ar y rhwygiadau hynny o amgylch amser ymadawiad y DU o’r UE.

Bydd Cytûn yn parhau i gefnogi ein holl aelod eglwysi a mudiadau yn y gwaith hwn, gan gydnabod mai eglwysi, clerigion a gweithwyr eglwysig lleol fydd yn y lle gorau i helpu unigolion sydd mewn angen.

Beth yw Brexit di-gytundeb?

Arfaethir i’r DU ymadael â’r Undeb Ewropeaidd ar 29ain Mawrth 2019 am 11yh. Os nad oes cytundeb ymadael ffurfiol wedi’i gadarnhau erbyn y dyddiad a’r amser hwnnw, fe fydd holl gyfreithiau a rheolau’r UE yn peidio â bod yn gymwys yn y DU ar unwaith. Byddai hyn yn dileu ar unwaith unrhyw gytundebau rhwng y nail ochr a’r llall ynghylch sut i reoli, ymysg pethau eraill, tollau, hawliau teithio a masnach. Byddai’n dileu’r cyfnod pontio arfaethedig (oedd i fod i roi amser i sefydliadau a busnesau ymaddasu i’r newidiadau). Heb i’r ddwy ochr ddod i gytundeb, byddai angen i’r DU gadw at reolau Sefydliad Masnach y Byd (WTO), a wynebu’r un gwiriadau a thollau mewnforio â gwledydd y tu allan i’r UE. Mae beirniaid wedi awgrymu y gallai’r gwiriadau Ychwanegol hyn arwain at brinder mewn meysydd allweddol megis meddyginiaethau, yn ogystal ag achosi ciwiau hir ar gyfer trafnidiaeth.  

Pam y mae hyn yn bwysig i Gymru?

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn bendant ers Refferendwm yr UE y byddai Brexit di-gytundeb yn creu anhrefn yng Nghymru. Meddai Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, “Nid wyf yn derbyn bod Brexit heb gytundeb yn anochel” wedi gohirio rhan fwyaf trafodion Senedd Cymru ar 22ain Ionawr er mwyn trafod paratoadau ar gyfer Brexit di-gytundeb. Awgrymodd y byddai’n cefnogi ail bleidlais gyhoeddus i ddatrys yr anghydfod pe bai angen, ac wedi galw am ddileu’r bygythiad o adael yr UE heb gytundeb. Mae beirniaid y Llywodraeth, a arweinir gan y Blaid Lafur, wedi’i chyhuddo o “godi bwganod”, yng ngeiriau arweinydd grŵp UKIP, Gareth Bennett, yn eu paratoadau ar gyfer Brexit di-gytundeb.

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud?

Wrth i’r tebygrwydd yr ymadewir heb gytundeb gynyddu, mae Llywodraeth Cymru wedi cychwyn gwefan Paratoi Cymru, sy’n amlinellu nifer o baratoadau i geisio lliniaru’r effaith gymaint ag yn bosibl.

Mae’r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol wedi cynhyrchu cyfres o adroddiadau ar ddiwedd 2018 yn nodi’r sectorau allweddol yng Nghymru ellid eu heffeithio gan ymadawiad di-gytundeb, yn cynnwys porthladdoedd; gofal iechyd a meddyginiaethau; a bwyd a diod. Fe godwyd y meysydd hyn yn y cyfarfod llawn ar Ionawr 22, ac fe’u nodwyd yn fwy ffurfiol ar Ionawr 29, gan nodi – ymysg eraill – y pryderon canlynol:

  • Paratoi porthladdoedd: Mae gan yr UE rôl allweddol o ran trafnidiaeth drwy’r awyr, y môr a’r ffyrdd. Mae cyfraith ryngwladol yn darparu peth cefnogaeth wrth gefn, ond mae’n amrywio yn ôl natur y teithio. Rhai o’r materion allweddol a godwyd gan y Pwyllgor oedd: gallu porthladdoedd Cymru i ymdopi â chynnydd posibl yn y drafnidiaeth, cysylltiadau rhwng cyfranogwyr, yn ogystal ag atebion technegol ar gyfer trefniadau tollau’r dyfodol. Derbyniwyd y saith argymhelliad gan Lywodraeth Cymru. Dywedodd Ken Skates, y Gweinidog Economi a Thrafnidiaeth, yn ystod y cyfarfod llawn fod porthladdoedd Cymru yn “gwneud cyfraniad hollbwysig i’n heconomi” drwy “ddarparu swyddi a gwerth ychwanegol i gymunedau lleol” a bod effeithio ar eu “gweithredu effeithlon” yn creu risg sylweddol i Gymru gyfan.
  • Gofal iechyd a meddyginiaethau: Mae statws gofal iechyd a meddyginiaethau yn creu anawsterau penodol. Mae argymhellion y Pwyllgor yn canolbwyntio ar feysydd megis cyflenwi meddyginiaethau a chydnabyddiaeth gilyddol o ran safonau. Derbyniodd Llywodraeth Cymru yr argymhellion. Mae Llywodraeth y DU ar hyn o bryd yn ceisio trefniadau â gwledydd yr UE, Parth Economaidd Ewrop (EEA) a’r Swisdir er mwyn sicrhau parhau gofal iechyd ar gyfer dinasyddion y DU os na cheir cytundeb. Meddai Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, hefyd y byddai unrhyw newidiadau i bolisi mudo “yn cael eu teimlo ddwysaf yn y rhannau hynny o’r sector iechyd a gofal cymdeithasol sy’n dibynnu ar weithwyr cyflog is,” a fyddai’n arwain at “oedi rhyddhau pobl o’r ysbyty a phwysau ychwanegol”.
  • Bwyd a diod: Y sector bwyd a diod yw un o’r mwyaf integredig yn yr Undeb Ewropeaidd, gyda chadwyni cyflenwi yn rhychwantu’r Undeb Ewropeaidd, rhyddid symud i weithwyr, a safonau rheoleiddio wedi eu halinio. Mae rhai o gynhyrchwyr bwyd Cymru hefyd yn rhan o gynlluniau’r UE o warchod nodau daearyddol bwydydd. Disgwylir y bydd y sector hwn yn wynebu anawsterau arbennig heb gytundeb. Derbyniwyd argymhellion y Pwyllgor yma hefyd, gan gynnwys gofyn i Lywodraeth Cymru amlinellu manylion ei chynlluniau i gefnogi busnes er lliniaru effeithiau Brexit di-gytundeb ar gyflenwadau bwyd.

Derbyniodd cyfarfod yr eglwysi ar Chwefror 5 adroddiad gan Trussell Trust, sy’n cefnogi rhwydwaith o 37 banc bwyd yn gweithredu trwy 110 canolfan yng Nghymru, y rhan helaethaf mewn eglwysi a chapeli. Mae Trussell yn cymryd tri cham i ymbaratoi ar gyfer Brexit di-gytundeb:

  • Galw ar Lywodraeth y DU i ddad-rewi budd-daliadau o Ebrill 2019 a diweddu’r oedi pum wythnos ar gyfer taliad cyntaf y Credyd Cynhwysol, er mwyn sicrhau fod gan bawb ddigon o incwm i dalu am hanfodion bywyd, a chreu dyfodol lle nad oes angen cymorth banc bwyd ar neb. Dylai fod diogelwch a chymorth ychwanegol yn ei le i sicrhau nad ysgubir pobl i dlodi wrth i Brexit ddigwydd.
  • Gweithio’n galed gyda phartneriaid corfforaethol Trussell ac ymchwilio i beth all archfarchnadoedd ei wneud yn achos Brexit di-gytundeb i sicrhau cyflenwadau ar gyfer banciau bwyd – boed trwy gasgliadau ychwanegol yn yr archfarchnadoedd, dosbarthu bwyd yn uniongyrchol i fanciau bwyd, neu gefnogaeth arall.
  • Edrych ar sut i wella dosbarthu bwyd rhwng banciau bwyd er sicrhau fod bwyd ar gael ymhobman a bod pawb yn gallu cael mynediad at fwyd mewn argyfwng.

Cytunodd cynrychiolwyr yr eglwysi y dylai’r holl fanciau bwyd a gynhelir gan eglwysi, gan gynnwys y rhai y tu allan i rwydwaith Trussell, gymryd camau tebyg, a phwysleisiwyd yr angen am gydlynu da rhwng holl gyflenwyr bwyd argyfwng.

Amlinellwyd meysydd eraill sy’n pryderu Llywodraeth Cymru yng nghyfarfod llawn y Cynulliad ar 22ain Ionawr:

  • Cadarnhaodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, “mae fy swyddogion yn cydweithio’n agos â Llywodraeth y DU ar gynllunio argyfwng i … sicrhau cyflenwad ynni di-dor a chyda Dŵr Cymru a Hafren Dyfrdwy i sicrhau ein cyflenwad dŵr.”
  • Bu Julie James, Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, yn trafod argyfyngau sifil, yn cynnwys agor Canolfan Cydgysylltu Argyfyngau, y gellid ei defnyddio (pe byddai angen) i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus. Cadarnhaodd hefyd fod Bwrdd Cymru ar gyfer Troseddau Casineb wedi cydnabod “effeithiau posibl Brexit a throseddau casineb yn targedu lleiafrifoedd ethnig a chrefyddol”, gan gyfeirio at Brosiect Hawliau Dinasyddion yr UE (£1.3m) fydd yn cefnogi mynediad i wasanaethau allweddol ac yn sicrhau bywoliaeth sefydlog barhaol yng Nghymru.
  • Awgrymodd Jeremy Miles, Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog Brexit, y byddai Brexit heb gytundeb “yn golygu llai o swyddi, incwm is a mwy o risg o dlodi i bobl mewn cymunedau dros Gymru”, a gofynnodd i Lywodraeth y DU ryddhau arian i helpu cefnogi busnesau a phartneriaid allweddol eraill i liniaru unrhyw effaith negyddol.

Beth sy’n digwydd nesaf?

Cyhoeddodd Llywodraeth y DU arweiniad ar gyfer Brexit di-gytundeb yn hydref 2018, gan esbonio: “fel llywodraeth gyfrifol, wedi treulio dros ddwy flynedd yn paratoi’n drwyadl ar gyfer pob canlyniad posibl, gan gynnwys ymadael heb gytundeb” Mae’r paratoadau hyn yn sicr o gynyddu wrth i’r 29ain o Fawrth agosáu. Ond, ar adeg ysgrifennu hyn, bydd llawer yn dibynnu ar ganlyniad trafodaethau pellach Prif Weinidog y DU â’r Undeb Ewropeaidd i ail-negodi’r cytundeb yn dilyn pleidleisiau yn Nhŷ’r Cyffredin ar 29ain Ionawr. Fe all y ceir cytundeb, ond os na, mae Llywodraethau’r DU a Chymru yn paratoi at bob amgylchiad.

Gyda diolch i George Watkins a luniodd y papur briffio y seiliwyd yr erthygl uchod arno.

STRATEGAETH RYNGWLADOL NEWYDD CYMRU

Ar Ionawr 31, wrth siarad yn un o’i digwyddiadau cyntaf fel y Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol Newydd yn Llywodraeth Cymru, fe ddywedodd Eluned Morgan AC “Ar yr adeg dyngedfennol hon pan fo’r berthynas rhwng Cymru a gweddill y byd yn cael ei phennu, mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i anfon neges glir – beth bynnag fydd canlyniad y trafodaethau ar Brexit, dydy Cymru ddim yn mynd i droi ei chefn ar y byd, yn arbennig ei chymdogion agosaf yn yr Undeb Ewropeaidd.” Dywedodd y byddai’n ymgynghori’n fuan am Strategaeth Ryngwladol Newydd i Gymru.

Mae eglwysi Cymru hefyd yn benderfynol o gryfhau eu cysylltiadau Ewropeaidd a rhyngwladol yn sgil Brexit. Mae Grŵp Rhyngwladol yr Eglwys yng Nghymru eisoes wedi cyfrannu sylwadau i’w cyflwyno i’r ymgynghoriad, a bydd Swyddog Polisi Cytûn yn croesawu cyfraniadau gan enwadau eraill hefyd trwy gethin@cytun.cymru

EGLWYSI RHYDDION YN CROESAWU LLE I ADDYSG GREFYDDOL YN Y CWRICWLWM NEWYDD

Mae Cyngor Eglwysi Rhyddion Cymru (sy’n dwyn ynghyd naw o aelod eglwysi Cytûn) yn croesawu cyhoeddiad Papur Gwyn Llywodraeth Cymru, Cenhadaeth ein Cenedl: Cwricwlwm Trawsnewidiol. Rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am ymgysylltu â’r eglwysi a grwpiau ffydd eraill yn ystod y cyfnod o ddatblygu’r cwricwlwm newydd ar gyfer ysgolion ac yn gwerthfawrogi eu bod wedi cymryd nifer o’n pryderon a’n hawgrymiadau i ystyriaeth. 

Rydym yn croesawu’r ffaith fod Addysg Grefyddol (AG) wedi’i diogelu fel rhan greiddiol o’r cwricwlwm newydd a bod y pwnc yn mynd i gael ei gynnwys bellach mewn dosbarthiadau meithrin ysgolion y wladwriaeth, gan fod gwerthfawrogi gwahanol ffyrdd crefyddol o ddeall y byd yn bwysicach nag a fu erioed yn y Gymru gyfoes.

Croesawn yn ogystal y bwriad i gadw Cynghorau Sefydlog Statudol Addysg Grefyddol lleol (CYSAGau) sy’n helpu i sicrhau perchnogaeth sirol i’r AG a addysgir mewn ysgolion.  Croesawn hefyd y penderfyniad i gyhoeddi Fframwaith Ategol Cenedlaethol er mwyn cynorthwyo CYSAGau i ddatblygu eu meysydd llafur sirol lleol.  Edrychwn ymlaen i gyfrannu at ddatblygiad y fframwaith newydd hwn.  Nodwn y bydd yn cynnwys arweiniad ar addysgu safbwyntiau nad ydynt yn grefyddol.  Er ein bod yn derbyn bod lle i’r safbwyntiau hyn yn y cwricwlwm, byddem yn anfodlon petai’n ofynnol i AG roi lle cyfartal i safbwyntiau nad ydynt yn grefyddol fel yn yr un modd na ddylai’r cwricwlwm Gwyddoniaeth roi sylw cyfartal i safbwyntiau nad ydynt yn wyddonol. 

Nodwn fod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu ymgynghori ar hawl rhieni i dynnu eu plant allan o wersi AG ac Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb. 

Rydym yn annog ein heglwysi ac unigolion i ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru sy’n parhau tan 25 Mawrth ac i ymgynghoriad drafft y cwricwlwm sydd i’w gyhoeddi ym mis Ebrill.

Vaughan Salisbury – Cynrychiolydd Addysg, Cyngor Eglwysi Rhyddion Cymru.

Bu’r drafodaeth gyhoeddus fwyaf wedi cyhoeddi’r Papur Gwyn yn ymwneud â’r awgrym y byddai angen i gylchoedd a dosbarthiadau meithrin Cymraeg ddysgu’r Saesneg i’w plant. Bellach, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru  ar dudalen we’r ymgynghoriad ddatganiad yn cadarnhau ei bwriad y bydd trochi plant yn y Gymraeg yn parhau o dan drefniadau’r cwricwlwm newydd. Mae dolen i’r datganiad hefyd wedi’i gynnwys yn y Papur Gwyn ochr yn ochr â’r bwled perthnasol ym mharagraff 3.79.

CAIFF FY LLAIS EI GLYWED…

Mae’r Ymchwiliad Annibynnol i Gamdrin Plant yn Rhywiol wedi lansio ymgyrch ymwybyddiaeth ar y teledu i sicrhau fod dioddefwyr a goroeswyr camdriniaeth yn cael y cyfle i’w clywed yn y Prosiect Gwirionedd. Mae’r Prosiect yn galluogi dioddefwyr a goroeswyr i rannu yr hyn ddigwyddodd iddyn nhw a gwneud awgrymiadau ar gyfer sut i gadw plant yn fwy diogel yn y dyfodol. Gall pobl rannu eu hanesion yn ysgrifenedig yn ogystal â wyneb yn wyneb neu ar y ffôn.

Crëwyd yr ymgyrch mewn ymgynghoriad â dioddefwyr a goroeswyr er mwyn sicrhau ei fod yn adlewyrchu meddyliau, profiadau a barn y sawl a effeithiwyd gan gam-drin plant yn rhywiol. Bydd yr ymgyrch deledu yn parhau tan ddiwedd Chwefror. Gellir gweld yr hysbyseb ar wefan https://www.iicsa.org.uk/ a fideo hirach ar wefan y Prosiect Gwirionedd.

Mae’r Prosiect wedi cyhoeddi nifer o Brofiadau a Rannwyd. Mae’r hanesion di-enw yn darlunio profiadau dioddefwyr a goroeswyr mewn nifer o sefydliadau, yn eu plith ysgolion, sefydliadau i droseddwyr ifainc, ac addoldai.

HER Y NEWID YN YR HINSAWDD

Mae Llywodraeth Cymru wrthi yn ymgynghori am Gynllun ymaddasu Cymru i newid yn yr hinsawdd. Er ei fod wedi ei ysgrifennu yn ieithwedd bwyllog arferol ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru, mae ei ddarllen yn sobri – ac yn peri pryder. Mae’n amlinellu’r effeithiau tebygol ar Gymru o newid yn yr hinsawdd a achoswyd eisoes gan weithgaredd dynol, ac sy’n debygol o gael ei achosi yn y blynyddoedd nesaf, sut y bydd angen i Gymru ymaddasu iddo a beth mae’r Llywodraeth yn bwriadu ei wneud.

Dangosir y ffeithiau allweddol yn y ffeithlun isod:

Bwriedir diweddaru’r ddogfen yng ngoleuni rhagfynegiadau UKCP18 (Tachwedd 2018) gan y Swyddfa Dywydd. O’u darllen ar y cyd â’r adroddiadau diweddaraf gan y Swyddfa Dywydd (Chwefror 2019) a’r Panel Rhyng-lywodraethol am Newid yn yr Hinsawdd (IPCC), maent yn awgrymu y gallai rhagfynegiadau Llywodraeth Cymru fod yn rhy obeithiol.

Mae Cynllun Llywodraeth Cymru yn nodi camau i liniaru’r peryglon. Byddai rhai o’r gweithrediadau hyn hefyd yn helpu osgoi cynnydd pellach yn yr allyriadau carbon sy’n achosi newid yn yr hinsawdd – e.e. gwell insiwleiddio, a sicrhau fod corsydd mawn yn aros yn wlyb yn yr haf fel na fyddant yn dechrau allyrru (yn hytrach na storio) carbon.

Mae peryglon yn wynebu rhai agweddau eiconig ar Gymru – megis Llwybr yr Arfordir, sy’n fregus yn wyneb codiadau yn lefel y môr a thywydd stormus. Fe fydd asideiddio’r cefnforoedd yn effeithio ar fywyd morol o gwmpas arfordir Cymru. Mae cynefinoedd bywyd gwyllt a rhai rhywogaethau yn wynebu peryglon penodol.

Effeithir hefyd ar bobl – fel y gŵyr pawb a ddioddefodd effeithiau haf poeth 2018. Bydd hafau o’r fath yn fwy cyffredin, gan effeithio iechyd corfforol a meddyliol. Bydd effaith ar yr amgylchedd hanesyddol (gan gynnwys hen addoldai) a mae’r Cynllun yn sôn amdanynt.

Mae Cytûn yn bwriadu ymateb i’r ymgynghoriad hwn, a byddwn yn croesawu ymatebion gan ein darllenwyr erbyn diwedd Chwefror 2019 trwy gethin@cytun.cymru .

I’r eglwysi Cristnogol, nid mater ar gyfer gweithredu gwleidyddol yn unig yw her newid hinsawdd. Mae angen hefyd gweddi – wedi’r cyfan, mae’r bvd yn rhan o gread Duw – ac edifeirwch ac ymrwymiad personol i newid. Grawys (Mawrth 6 – Ebrill 20 yn 2019) yw amser y flwyddyn pan yw Cristnogion yn canolbwyntio ar geisio cymorth Duw i newid eu hunain er mwyn newid y byd.

Ar gyfer Grawys 2019, mae aelodau Cytûn wedi cynhyrchu adnoddau i ganolbwyntio ein gweddïau dros newid ar newid hinsawdd. Mae cymorth Cristnogol yn canoli ei adnodd blynyddol Cyfra dy Fendithion ar yr alwad Codwch yn erbyn newid hinsawdd. Mae’r deunydd yn cynnig disgyblaeth ddyddiol i’r Grawys, ac ar gael yn Gymraeg a Saesneg

Mae Tîm Materion Cyhoeddus ar y cyd yr Eglwys Fethodistaidd, yr Eglwys Ddiwygiedig Unedig ac Undeb Bedyddwyr Prydain Fawr (oll yn aelodau Cytûn) gydag Eglwys yr Alban wedi creu gwefan arbennig dan yr enw Living Lent, sy’n ein hannog i weithredu mewn un o chwe maes yn ein bywydau yn ystod Grawys 2019 – plastigau, cig, cludiant, ynni, byw yn fwy lleol neu hyd yn oed peidio â phrynu dim byd newydd. Fe fydd pob un sy’n ceisio gwneud un o’r newidiadau hynny yn eu bywydau yn cyfrannu at greu hinsawdd newydd.

Hoffai’r Bwletin Polisi glywed profiadau ein darllenwyr wrth ymddisgyblu mewn un o’r ffyrdd yma dros y Grawys. Rhannwch eich hanesion gyda ni trwy ddefnyddio’r manylion cyswllt isod. Yn y cyfamser, fe fydd nifer o arweinyddion eglwysi ar draws Prydain ac Iwerddon yn cyfarfod ddiwedd mis Chwefror i drafod a gweddïo am beth mwy ddylai eglwysi wneud.

CYSYLLTU Â SWYDDOG POLISI CYTÛN
neu tanysgrifio i’r Bwletin drwy ebost

Parch./Revd Gethin Rhys – Swyddog Polisi/Policy Officer
Cytûn – Eglwysi Ynghyd yng Nghymru/Churches Together in Wales

58 Richmond Road, Caerdydd/Cardiff, CF24 3AT
Tel:  029 2046 4378  Mudol/mobile: 07889 858062
E-bost/E-mail: gethin@cytun.cymru           @CytunNew

Hapus i gyfathrebu yn Gymraeg ac yn Saesneg. Happy to communicate in Welsh and English

Dyddiad cyhoeddi: 7 Chwefror 2019.    Cyhoeddir y Bwletin nesaf 28 Mawrth 2019.