CAM BRAS TUAG AT GWRICWLWM NEWYDD I GYMRU

Ar Ebrill 30 fe gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru gwricwlwm drafft newydd ar gyfer holl ysgolion Cymru a gynhelir gan awdurdodau lleol – cynradd ac uwchradd, Cymraeg a Saesneg, ysgolion eglwysig ac ysgolion cymunedol. Mae paratoi’r gwaith hwn yn dilyn cyhoeddi adroddiad yr Athro Graham Donaldson, Dyfodol Llwyddiannus, yn 2015, ac yn ganlyniad i bedair blynedd o waith gan y Llywodraeth, gan ysgolion arloesi a thimau o athrawon ac arbenigwyr. Gallwch weld crynodeb o’r hanes a’r hyn sydd eto i’w ddisgwyl yma.

Fe fu cymunedau ffydd Cymru yn rhan o’r drafodaeth am y cwricwlwm newydd, ac o’r cyfarfod cyntaf fe fu gan y Fforwm Cymunedau Ffydd ddau aelod o’r Grŵp rhanddeiliaid ar gyfer diwygio addysg, gyda llu o fudiadau eraill sydd â diddordeb yn y maes. Buom yn cymryd diddordeb arbennig yn natblygu’r cwricwlwm Addysg Grefyddol, ond hefyd yn cyfrannu at drafod yr holl gwricwlwm a’r meysydd atodol – megis hyfforddiant athrawon, meithrin arweinyddiaeth mewn ysgolion, ac yn y blaen. Fe fu gan yr Eglwys Gatholig a’r Eglwys yng Nghymru hefyd un cynrychiolydd ar y cyd ar y Bwrdd Newid, yn rhinwedd eu rôl fel darparwyr addysg trwy eu hysgolion enwadol.

Beth yw hanfod y cwricwlwm newydd?

Fe dderbyniodd Llywodraeth Cymru y cyfan o argymhellion Dyfodol Llwyddiannus, ac fe barhaodd yr Athro Donaldson i gymryd rhan yn y trafodaethau. O ganlyniad, y ddogfen honno fu sail y gwaith ac fe seilir y cwricwlwm newydd ar bedwar diben a nodwyd gan yr Athro Donaldson, sef y dylai plant a phobl ifanc ddatblygu

  • yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes
  • yn gyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith
  • yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd
  • yn unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas

Cyrraedd y dibenion hyn yw nod y cwricwlwm. Bydd addysg ysgol i ddisgyblion o 3 hyd at 16 mlwydd oed yn cael ei dysgu ar draws chwe maes dysgu a phrofiad, sef:

Llun: Llywodraeth Cymru
  • Celfyddydau mynegiannol
  • Iechyd a lles
  • Dyniaethau
  • Ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu
  • Mathemateg a rhifedd
  • Gwyddoniaeth a thechnoleg

Aethpwyd ati gydag athrawon, ysgolion ac arbenigwyr addysg i lunio yn y chwe maes hyn trosolwg o ‘Beth sy’n bwysig’ – hynny yw y pethau hynny ymhob maes y bydd eu hangen i ddisgyblion eu gwybod, eu profi neu eu meithrin er mwyn cyrraedd y pedwar diben.

Beth yw cynnwys y cwricwlwm?

Yn wahanol iawn i’r cwricwlwm cenedlaethol a gyflwynwyd ym 1988, ac a ddiweddarwyd yn dameidiog ers hynny, mae’r cwricwlwm newydd yn cynnig fframwaith yn unig i ysgolion ac athrawon unigol ei llenwi gyda chynnwys priodol i’w disgyblion a’u hardal eu hunain. Ond bod ysgolion yn datblygu cwricwlwm lleol sy’n talu sylw dyladwy i’r fframwaith cenedlaethol, yn rhychwantu’r chwe maes dysgu a phrofiad, ac yn anelu at gyrraedd y pedwar diben, fe fydd ganddynt ryddid eang i ddatblygu eu dulliau eu hunain o weithredu.

Yn ôl un pennaeth a siaradodd â’r Grŵp rhanddeiliaid ar gyfer diwygio addysg am sut y mae ei ysgol yn datblygu’r cwricwlwm newydd, Mae pob disgybl newydd sy’n dod i’r ysgol yn newid y cwricwlwm, gan fod pob disgybl yn dod â phrofiadau, cefndir a doniau newydd a fydd yn cyfrannu ato. Ond mae’r cwricwlwm o hyd dan arweiniad athrawon proffesiynol – nid yw’n fwriad cyflwyno dulliau addysgol sy’n gadael i blant benderfynu drostynt eu hunain pob dim y maent am ei ddysgu.

Mae’r Parch. Ddr Philip Manghan wedi ysgrifennu erthygl gynhwysfawr am sut y bydd ysgolion yr Eglwys Gatholig yn ymwneud â’r cwricwlwm newydd yn rhifyn Mehefin 2019 o Catholic People.

Beth am Addysg Grefyddol?

Fe fydd Addysg Grefyddol wedi’i chynnwys ym maes dysgu a phrofiad Y Dyniaethau – er y gall agweddau ar grefydd godi ymhob maes (e.e. gall straeon crefyddol fod yn rhan o’r celfyddydau mynegiannol a ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu; gellir trafod agweddau crefyddol tuag at iechyd a lles; ac yn y blaen).

Mae pob rhan o’r cwricwlwm yn anelu at ddeilliannau cyflawniad sydd yn disgrifio beth all disgyblion ei wneud o fod wedi dilyn eu hastudiaethau. Er enghraifft, yng ngham cynnydd 3 y Dyniaethau (sy’n cyfateb yn fras â deilliannau plentyn 11 mlwydd oed) fe anelir at ddisgyblion sy’n gallu dweud (ymysg pethau eraill):

  • Gallaf egluro amseroedd, digwyddiadau a thraddodiadau arbennig yn fy nghymuned a’r byd ehangach a chyfleu fy nheimladau amdanynt.
  • Gallaf ddeall fod gwahanol brofiadau, crefyddau, bydolygon, credoau ac arferion yn cyfrannu at gymdeithasau amrywiol yng Nghymru a’r byd ehangach.
  • Gallaf ddeall yr amrywiaeth o ddiwylliannau a chymdeithasau sy’n bodoli y tu hwnt i’m profiad personol, a gwerthfawrogi pwysigrwydd iaith, credoau a gwerthoedd yn y broses o ffurfio hunaniaethau diwylliannol.

O ran yr elfen Addysg Grefyddol o fewn cwricwlwm y Dyniaethau, y bwriad yw y bydd Cynghorau Ymgynghorol Statudol Addysg Grefyddol (CYSAGau) sirol – sydd yn cynnwys cynrychiolwyr o gymunedau ffydd lleol – yn parhau i lunio maes llafur i bob sir, ac y bydd esgobaethau’r Eglwys yng Nghymru a’r Eglwys Gatholig yn llunio meysydd llafur i’w hysgolion nhw. Fe fydd rhaid i’r meysydd llafur hyn dalu sylw dyladwy i gynnwys y cwricwlwm cenedlaethol newydd, a bydd rhaid i ysgolion ddysgu Addysg Grefyddol yn unol â’r maes llafur priodol.

Yn Ionawr 2019 fe gyhoeddodd y Llywodraeth bapur gwyn Cwricwlwm Gweddnewidiol, ac mae hwn yn cynnwys ymgynghori ar a ddylid cadw’r hawl i rieni dynnu eu plant allan o’r cyfan neu rannau o’r cwricwlwm Addysg Grefyddol, a hefyd y cwricwlwm Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb (rhan o faes dysgu a phrofiad Iechyd a Lles). Fe ymatebodd rhai aelod enwadau Cytûn a nifer o aelodau eglwysig unigol i’r ymgynghoriad hwn. Cawsom addewid gan Lywodraeth Cymru y bydd ymgynghori â chymunedau ffydd am y materion hyn yn parhau.

A oes yna gyfleoedd i eglwysi a chapeli?

Oes. Mae’r cwricwlwm yn dweud ar gyfer plant o bob oed y dylent gael cyfleoedd i

dysgu yn yr awyr agored a chyfleoedd i ymweld ag amgueddfeydd; safleoedd hanesyddol; mannau o arwyddocâd gwleidyddol, crefyddol neu ysbrydol; nodweddion neu safleoedd daearyddol; a busnesau neu fanwerthwyr.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y byddant yn annog ysgolion i gysylltu â mudiadau a sefydliadau lleol er mwyn cyfoethogi’r cwricwlwm, a’i wreiddio yn eu cynefin – y gair mai’r cwricwlwm yn ei ddefnyddio yn y ddwy iaith i ddisgrifio perthynas ddofn rhwng disgybl, ysgol a chymuned. Mae llawer o ysgolion yn gwneud hyn eisoes, ond fe fydd hyn yn hwb newydd i feithrin cysylltiadau o’r fath.

Fe fydd gan addoldai o bob traddodiad, felly, gyfle i groesawu eu hysgolion lleol i ymweld â nhw ac adrodd eu hanes. Yr ysgol fydd yn penderfynu sut i fynd ati i drefnu hyn, a dylai eglwysi barchu hawl yr ysgol i wneud hynny. Ond fe all hyn fod yn gyfle i ddyfnhau cysylltiadau ag ysgolion eich cylch.

Mae ymweliad ag eglwys neu gapel yn gallu cynnig cyfleoedd i ddysgu nid yn unig am grefydd fel y cyfryw ond am hanes lleol (cofebau rhyfel ayb), iaith (defnydd y Gymraeg, y Saesneg neu ieithoedd eraill o fewn yr adeilad) a diwylliant. Mae yna gyfleoedd hefyd i astudio mathemateg a thechnoleg wrth edrych ar gynllun a phensaernïaeth yr adeilad a’r celfyddydau mynegiannol o ran sut y defnyddir cerddoriaeth, geiriau, drama ac ati o fewn y gwasanaethau a’r gweithgareddau a gynhelir yno. Mae’r posibiliadau yn ddibendraw!

Beth am addoli ar y cyd (gwasanaethau ysgol)?

Nid yw’r newidiadau yn y cwricwlwm yn newid dyletswydd ysgolion i ddarparu addoli dyddiol ar y cyd i’w disgyblion. Fe fydd Cytûn a’n haelod eglwysi yn parhau i drafod materion yn ymwneud ag addoli mewn ysgolion gyda Llywodraeth Cymru.

A fydd y cwricwlwm newydd yn cael ei gyflwyno yn syth?

Mae nifer o ysgolion wedi dechrau cyflwyno elfennau o’r cwricwlwm newydd eisoes, ond ni ddaw yn statudol tan Fedi 2022, a hynny ar gyfer disgyblion hyd at Flwyddyn 7 yn unig. Fe fydd disgyblion 7 y flwyddyn honno yn dilyn y cwricwlwm newydd trwy’r ysgol, ac felly nhw fydd y disgyblion cyntaf i sefyll arholiadau TGAU ar sail y cwricwlwm newydd. Fe fydd y meysydd llafur ar gyfer yr arholiadau hynny yn cael eu diwygio yn unol â’r cwricwlwm newydd, ac fe fydd modd i ddisgyblion ddewis y pynciau y maent am eu hastudio, ond eu bod o hyd yn derbyn addysg sy’n cwmpasu’r holl feysydd dysgu a phrofiad. Tan haf 2026 fe fydd y cymwysterau TGAU presennol yn cael eu harholi.

Bydd y tair blynedd nesaf, felly, yn gyfnod o baratoi, gyda chyfle i athrawon dderbyn hyfforddiant mewn swydd ychwanegol er sicrhau eu bod yn deall y gofynion newydd.

Sut allwn ni ymateb?

Mae yna gyfnod ymgynghori ffurfiol ar y drafft tan 19 Gorffennaf 2019. Fe fydd Llywodraeth Cymru yn trefnu cyfarfodydd cyhoeddus i’w drafod mewn gwahanol fannau yng Nghymru, gan gynnwys gweithdy ar gyfer eglwysi a chymunedau crefyddol lleol eraill yn Jurys Hotel, 1 Park Place, Caerdydd, CF10 3UD ar ddydd Gwener Mehefin 28 rhwng 10yb a 3yp. Cofrestrwch ar-lein trwy fynd i Y Cwricwlwm Newydd / New Curriculum.

Gallwch ymateb i’r ymgynghoriad arlein: https://hwb.gov.wales/cwricwlwm-drafft-i-gymru-2022/dweud-eich-dweud/  Bydd Cytûn yn casglu ymatebion gan ein haelod enwadau a mudiadau ac yn cyfrannu i’r drafodaeth ar sail hynny. Croesewir pob sylw, felly, trwy ebostio gethin@cytun.cymru – ond ymatebwch yn uniongyrchol i’r Llywodraeth hefyd!

Fe gyhoeddir y cwricwlwm terfynol yn Ionawr 2020.

Achubwch fywydau ffoaduriaid mewn cychod ar “ffin fwyaf peryglus y byd”, medd eglwysi

Mae’r Eglwys Brotestannaidd yn yr Almaen (EKD) a maer Palermo (Yr Eidal) Leoluca Orlando wedi cyhoeddi datganiad ar y cyd yn gofyn am drefniadau dosbarthu ffoaduriaid a ddaw mewn cychod ar draws Ewrop.

Llun: Evangelische Kirche in Deutschland

Ar hyn o bryd nid oes yna drefn o’r fath i letya ffoaduriaid a achubir ym Môr y Canoldir o fewn yr Undeb Ewropeaidd. Mae’r datganiad yn galw am ddatrysiad gwleidyddol brys yr haf hwn, ac yn galw ar grŵp o aelod wledydd yr Undeb Ewropeaidd i weithredu fel “clymblaid wirfoddol” a datblygu polisi mudo cynaliadwy.

Dywed y datganiad fod pobl o hyd yn ceisio croesi Môr y Canoldir, a mae mudo yn ffenomen hanesyddol a wreiddir yn hawl sylfaenol pobl i symud. “Mae pobl yn symud i chwilio am well amodau byw, neu yn ffoi rhag rhyfel, tlodi a thrychinebau’r hinsawdd,” medd y datganiad. “Yn wyneb y cynnydd tebygol yn y llif o ffoaduriaid dros yr haf mae’n hanfodol i’r Undeb Ewropeaidd gofio ei werthoedd sylfaenol a cheisio atebion i’r gwledydd unigol fel y gellir atal mwy o farwolaethau ym Môr y Canoldir.” Dylai datrysiadau o’r fath alluogi creu llwybrau dyngarol a blaenoriaethu achub dioddefwyr llong-ddrylliadau ac achub bywydau dynol, medd y datganiad.

“Môr y Canoldir yw ffin fwyaf peryglus y byd o hyd,” medd y datganiad. “Gwyddom am gannoedd o farwolaethau hyd yma yn 2019.”

Mae’r datganiad yn herio: Ydym ni am helpu yn ystod 2019 neu fynd o’r tu arall heibio? “Rhaid peidio criminaleiddio gweithrediadau chwilio ac achub,” medd y datganiad “Nawr!” Dywed y datganiad hefyd fod rhaid i achub bywydau yn y môr aros yn gyfrifoldeb cyhoeddus. “Yr haf yma mae angen arnom datrysiad argyfwng Ewropeaidd, dull dros dro o ddosbarthu pobl y cychod,” medd y datganiad. “Gadewch i ni wneud i hyn ddigwydd!”

Cyngor Eglwysi’r Byd

Grŵp Trawsbleidiol ar Ffydd

Croeso yn y bryniau: Grwpiau ffydd a mewnfudo

Siaradwr Gwadd: Y Parch Aled Edwards OBE, Prif Weithredwr Cytûn

Dydd Mercher 26 Mehefin 2019

12.00 – 13.15

Ystafell y Cyfryngau, Y Senedd

I gadw sedd, anfonwch neges e-bost at Jim Stewart at jimstewartwales@gmail.com

CEFNOGI FFERMWYR CYMRU I’R DYFODOL

Yn dilyn yr ymgynghoriad llynedd dan yr enw Brexit a’n Tir, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei hymateb i’r ymatebion lu a dderbyniwyd, gan gynnwys ymateb Cytûn.

Mae’r Llywodraeth, a Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths wrth siarad yn y Senedd ar Fehefin 5, wedi cadarnhau y daw’r Cynllun Taliad Sylfaenol (BPS) i ben wrth i’r DU adael yr Undeb Ewropeaidd. Fodd bynnag,  mae’r Llywodraeth yn credu bod yr achos dros gefnogi ffermwyr yn para’n gryf.

Yn wyneb yr ymarferiad ymgynghori, mae’r Llywodraeth yn bwriadu gwneud nifer o newidiadau i’n cynigion polisi. Y bwriad bellach yw dilyn amcan cyffredinol o reoli tir yn gynaliadwy. Yr huchelgais yw cael ffermydd cynaliadwy i gynhyrchu bwyd a nwyddau cyhoeddus mewn system sy’n gwella llesiant ffermwyr, cymunedau a phobl Cymru gyfan. Dywed y Llywodraeth y byddant yn cynnig “cynllun cynaliadwyedd fferm i ddarparu ffrwd incwm i ffermwyr yn gyfnewid am gyflawni canlyniadau rheoli tir cynaliadwy, fel ansawdd dŵr, bioamrywiaeth ac iechyd anifeiliaid. Gellir cyflawni llawer o’r canlyniadau hyn trwy gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy.”

Mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi pecyn cynhwysfawr o dystiolaeth am gyflwr presennol amaethyddiaeth yng Nghymru. Bydd dogfen ymgynghori arall yn cael ei chyhoeddi gan y Llywodraeth ddechrau mis Gorffennaf eleni (erbyn Sioe Frenhinol Cymru). Bydd wedyn yn gweithio gyda ffermwyr ac eraill mewn proses o gydgynllunio i helpu i bennu’r manylion.

Mae ansicrwydd parhaus Brexit yn golygu nad oes modd penderfynu ar yr amserlen ar gyfer diwygio ar hyn o bryd. Ni wneir newidiadau nes bod y Llywodraeth wedi ystyried ymatebion i ymgynghoriad pellach a’r asesiadau effaith perthnasol, nac ychwaith nes y gellir ddangos bod system newydd wedi’i chynllunio’n ddigonol.

Bydd Gweithgor Cymru ac Ewrop Cytûn yn parhau i fonitro’r broses hon ar ran eglwysi Cymru.

Eisteddfod yn cadarnhau safle 2019 yn Llanrwst

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi manylion safle diwygiedig y Brifwyl yn 2019 – gan gadarnhau y bydd hi’n cael ei chynnal yn Llanrwst ar Awst 3-10. Yn sgil newidiadau dros yr wythnosau diwethaf, fe fydd y safle yn cynnwys rhai o’r tiroedd oedd yn rhan o’r cynlluniau gwreiddiol a nifer o diroedd cyfagos ychwanegol.

Fel yr adroddwyd yn y Bwletin Polisi diwethaf, cyhoeddodd yr Eisteddfod ym mis Mawrth y byddai’n rhaid addasu cynlluniau ar gyfer y brifwyl ar ôl iddi ddod i’r amlwg na fyddai modd ei hyswirio ar sail y cynlluniau gwreiddiol yn sgil pryderon iechyd a diogelwch. Yn dilyn hynny, fe fu’n rhaid i dîm yr Eisteddfod archwilio i amryw o opsiynau amgen ar gyfer y safle, gyda’r nod o gadw’r digwyddiad mor agos â phosib i dref Llanrwst.

Bellach, gyda chynllun newydd yn ei le, mae modd rhoi cynlluniau cyffrous y bobl leol ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019 ar waith. Yn ôl yr arfer, fe fydd Cytûn yn trefnu pabell yr eglwysi, gyda lluniaeth ar gael a rhaglen lawn o ddigwyddiadau, yn cynnwys addoli dyddiol. Cynhelir oedfa bore Sul ar lwyfan y Maes. Cyhoeddir manylion pellach ar www.cytun.cymru wrth i’r cynlluniau gael eu cwblhau.

Mae modd prynu tocynnau drwy ymweld â www.eisteddfod.cymru neu ffonio 0845 4090 800.

Mae union leoliadau Maes Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019, a safleoedd cysylltiedig wedi’u nodi ar y map sydd ar gael yma.

YMCHWILIO I GAM-DRIN PLANT MEWN SEFYDLIADAU CREFYDDOL

Mae’r Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Rhywiol ar Blant (IICSA) wedi cyhoeddi ymchwiliad newydd i warchod plant mewn sefydliadau a lleoliadau crefyddol. Fe fydd yr ymchwiliad yn thematig, a bydd yn adolygu polisïau, arferion a gweithdrefnau cyfredol sefydliadau crefyddol sydd â phresenoldeb sylweddol yng Nghymru a Lloegr. Fe fydd hyn yn cynnwys enwadau Cristnogol anghydffurfiol, Tystion Jehofa, Bedyddwyr, Methodistiaid, Islam, Iddewiaeth, Siciaeth, Hindŵaeth a Bwdhaeth yng Nghymru a Lloegr. Mae’r ymchwiliad hwn yn annibynnol ar ymchwiliad IICSA i’r eglwysi Catholig Rhufeinig ac Anglicanaidd, sy’n parhau.

Fe fydd lleoliadau crefyddol megis mosgiau, synagogau, eglwysi at themlau o fwn cwmpas yr ymchwiliad. Fe fydd lleoliadau lle dysgir y ffydd megis madrassahs Mwslimaidd ac ysgolion Sul Cristionogol, a hefyd mannau lle mae pobl ifainc a phlant ym ymgasglu mewn cysylltiad â’u credoau crefyddol, megis grwpiau a gwersylloedd ieuenctid yn rhan o faes llafur yr Ymchwiliad.

Cynhelir gwrandawiad cychwynnol ar 23 Gorffennaf 2019 a chynhelir gwrandawiadau cyhoeddus yn ystod 2020.

YMATEB TEULUOEDD I’R GYFRAITH RHOI ORGANAU

Yn 2015, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i newid y drefn rhoi organau o drefn ‘optio mewn’ i drefn ‘optio allan’. Mae aelodau teuluoedd y sawl sydd mewn sefyllfa i roi organau yn chwarae rhan bwysig yn y drefn newydd. Felly comisiynwyd Prifysgol Bangor i astudio dwy flynedd gyntaf y drefn newydd a chyfweld â chymaint ag yn bosibl o aelodau’r teuluoedd hyn am eu profiadau – p’un ai roddwyd yr organau ai peidio.

Derbyniodd Swyddog Polisi Cytûn, Gethin Rhys wahoddiad i ymuno â thîm yr astudiaeth er mwyn cynnig cyngor ar faterion parthed crefydd allai effeithio ar sut yr ymatebai aelodau’r teuluoedd i roi organau neu i’r astudiaeth. O ganlyniad bu’n gyd-awdur ar bapur academaidd sy’n adrodd am heriau’r ymchwil hwn mewn maes sensitif a gyhoeddwyd yn ddiweddar arlein. Enw’r papur yw Designing a coproductive study to overcome known methodological challenges in organ donation research with bereaved family members.

BWLETIN POLISI DI-BREXIT (BRON Â BOD)

Mae’r rhifyn hwn o’r Bwletin Polisi yn canolbwyntio ar faterion ar wahân i broses Prymadael (Brexit). Ond mae gwaith Gweithgor Cymru ac Ewrop Cytûn yn parhau ac fe ddiweddarir y wefan yn gyson. Mae deunydd yr eglwysi at etholiad Senedd Ewrop ym Mai 2019 hefyd ar gael o hyd. Bydd Bwletin Gorffennaf 2019 yn cynnwys mwy am Brexit.

CYSYLLTU Â SWYDDOG POLISI CYTÛN
neu tanysgrifio i’r Bwletin drwy ebost

Parch./Revd Gethin Rhys – Swyddog Polisi/Policy Officer
Cytûn – Eglwysi Ynghyd yng Nghymru/Churches Together in Wales

58 Richmond Road, Caerdydd/Cardiff, CF24 3AT
Tel:  029 2046 4378  Mudol/mobile: 07889 858062
E-bost/E-mail: gethin@cytun.cymru           @CytunNew

Hapus i gyfathrebu yn Gymraeg ac yn Saesneg. Happy to communicate in Welsh and English

Dyddiad cyhoeddi: 10 Mehefin 2019.  Cyhoeddir y Bwletin nesaf ar 20 Gorffennaf 2019.