TAFLU GOLEUNI AR DLODI YNG NGHYMRU

Ymwelydd y Cenhedloedd Unedig yn beirniadu cefnogaeth y DU i bobl fregus

Llun: Cenhedloedd Unedig

Yn Llundain ar Dachwedd 16, fe gyhoeddodd yr Athro Philip Alston, Cynrychiolydd Arbennig y Cenhedloedd Unedig, ddatganiad am dlodi eithafol a hawliau dynol yn y Deyrnas Unedig. Daeth hyn yn dilyn taith o amgylch y wlad yn trafod y Materion hyn â’r cyhoedd ac â gwleidyddion, gan gynnwys yng Nghaerdydd, lle’r oedd Carol Wardman (Cynghorydd Esgobion yr Eglwys yng Nghymru am Eglwys a Chymdeithas) yn bresennol ar ran yr eglwysi. Bu’n beirniadu polisïau’r Llywodraeth (yn enwedig llymder) am wthio nifer cynyddol o ddinasyddion i dlodi, gan gyfeirio ato fel “gwarth”, “argyfwng cymdeithasol” a “thrychineb economaidd”. Bu hefyd yn canmol y sector gwirfoddol, gan gynnwys mudiadau ffydd, am gamu mewn i gynorthwyo’r gymuned pan fo gwasanaethau’r Llywodraeth yn aml wedi methu.

Er bod ganddi’r bumed economi fwyaf yn y byd, mae gan y DU erbyn hyn 14 miliwn o bobl yn byw mewn tlodi. Mae dros 4 miliwn dros 50% islaw’r llinell dlodi, ac 1.5 miliwn yn methu fforddio hanfodion bywyd, heb sôn am fod yn agos at 1 o bob 2 plentyn yn dlawd. Mae polisïau megis y Credyd Cynhwysol a sancsiynau budd-daliadau sy’n canolbwyntio ar annog pobl i weithio er mwyn dianc rhag eu tlodi yn cyflawni’r gwrthwyneb yn union, gan effeithio galetaf ar y mwyaf bregus mewn cymdeithas, yn enwedig merched, lleiafrifoedd ethnig a chartrefi lle bo gan rywun anabledd.

Gosodwyd hyn yng nghyd-destun Prymadael (Brexit), gydag ansicrwydd cyffredinol yn treiddio i bob agwedd ar fywyd ym Mhrydain, o gyllid i hawliau dinasyddion yr UE sy’n byw yma. Gan gyfeirio at adroddiadau gan fudiadau megis Sefydliad Joseph Rowntree, fe ddywedodd y gallai effeithiau economaidd negyddol osod straen bellach ar systemau cefnogi ac effeithio ar yr union bobl sydd eu hangen fwyaf.

Er mwyn atal argyfwng pellach, mae’n cynghori lleddfu ar y problemau cymdeithasol hyn drwy ail-gyflwyno “tosturi” a “chonsýrn y naill am y llall” i bolisi’r Llywodraeth. Byddai hyn yn cynnwys mesurau megis cefnogi’n well gwasanaethau cymdeithasol a danseiliwyd gan doriadau yn dilyn cyflwyno polisïau llymder yn 2010, yn ogystal â chyfyngu ar y sancsiynau ar hawlwyr budd-daliadau. Oni bai i gamau gael eu cymryd ar fyrder, ond gwaethygu wna’r sefyllfa.

George Watkins

Cynhadledd Undeb y Newyddiadurwyr: Adrodd ar Dlodi

Ar Dachwedd 8, fe fynychodd Gethin Rhys a George Watkins gynhadledd Adrodd ar Dlodi ar ran Cytûn. Trefnwyd y diwrnod gan Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr (NUJ) ar y cyd ag Oxfam yng nghampws canol Caerdydd Ysgol Newyddiaduraeth Prifysgol Caerdydd. Daeth amrywiaeth eang o bobl, o gynrychiolwyr eglwysig i newyddiadurwyr a myfyrwyr lleol.

Canolbwynt y diwrnod oedd cyhoeddi adroddiad gan Brifysgol Gaerdydd, a gomisiynwyd gan glymblaid o fudiadau trydydd sector, gan gynnwys aelod enwad Cytûn, yr Eglwys yng Nghymru. Dan yr enw Archwilio’r Naratif, mae’n archwilio sut mae cyfryngau newyddion Cymru yn cyflwyno tlodi. Mae’n canfod mai dim ond un rhan o dair o’r hanesion sy’n sôn am dlodi sy’n canolbwyntio ar hynny, a bod tlodi yn aml wedi’i osod yn y cefndir.

Y prif siaradwr oedd prif awdur colofn olygyddol The Guardian, Randeep Ramesh (yn y llun), a gyflwynodd araith gyfareddol am sefyllfa gyfredol y cyfryngau. Pwysleisiodd faint mwy y gallai cyhoeddiadau (gan gynnwys The Guardian) ei wneud i gyflwyno darlun cliriach o dlodi, a beth mwy allai newyddiadurwyr unigol ei wneud

Roedd yna bwyslais ar brofiad personol trwy’r cyfan, er gwaethaf pwyslais cyfryngol y gynhadledd. Cafwyd cyflwyniad grymus am ei magwraeth anodd gan Deanndra, menyw ifanc o Abertawe a fu’n rhan o raglen ddiweddar gan ITV Cymru am dlodi. Cafodd pawb oedd yno weld yr adroddiad, ac yna cyflwynodd Eurgain Haf o Achub y Plant yng Nghymru hanes tebyg am deulu y bu hi’n ei helpu i adrodd eu hanes ar y newyddion lleol. Roedd gwytnwch a dynoliaeth y sawl oedd ynghlwm â’r ddwy stori yn amlwg, a chafwyd ymateb cadarnhaol iawn i’r rhan hon o’r gynhadledd.

Ar ôl cyfle i rwydweithio dros ginio, cafwyd trafodaeth gan banel holi ac ateb, yn cynnwys golygydd WalesOnline, cyflwynydd newyddion ITV a gohebydd BBC. Trafodwyd nifer o faterion ynghylch tlodi gyda thrafodaeth fywiog gan y gynulleidfa. Roedd y diwrnod yn llwyddiant mawr i’r sawl oedd yn bresennol, a chafwyd canmoliaeth uchel i’r sawl fu’n cyflwyno eu gwaith ac i bawb a drefnodd y diwrnod.  

George Watkins

Yn galw ar bob person ifanc 14-25 oed sy’n credu’n angerddol mewn llesiant emosiynol ac iechyd meddwl!

Ydych chi eisiau helpu Llywodraeth Cymru i lunio dull gweithredu ysgol gyfan o ymdrin â llesiant emosiynol ac iechyd meddwl?

Ydych chi eisiau cyfle i roi barn ar y dull gorau o sicrhau bod y gefnogaeth mewn ysgolion yn wir yn gweithio i blant a phobl ifanc?

Os ydych chi, cyflwynwch gais i fod yn rhan o’n Bwrdd Ieuenctid. Gallwch lawrlwytho’r wybodaeth yma a’r ffurflen gais yma. Dyddiad cau: 10fed Ionawr 2019.

CYTUNDEB YMADAEL Â’R UNDEB EWROPEAIDD

Ar ddydd Mawrth Rhagfyr 11 fe fydd Tŷ’r Cyffredin yn pleidleisio am Gytundeb Ymadael y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd, a hefyd Datganiad Gwleidyddol a gyhoeddwyd ochr yn ochr ag ef am y math o berthynas rhyngddynt a fydd yn cael ei negodi i’r dyfodol. Mae’r Cytundeb Ymadael yn ddogfen a fyddai, o’i chymeradwyo gan San Steffan a Senedd Ewrop, yn gytundeb cyfreithiol rhyngwladol. Ni fyddai grym cyfreithiol i’r Datganiad Gwleidyddol – fe fyddai cytundeb cyfreithiol pellach yn cael ei negodi ar ôl i’r DU ymadael ar 29 Mawrth 2019.

Dyma ddadansoddiad Swyddog Polisi Cytûn, Gethin Rhys, o’r ddwy ddogfen, a chanlyniadau tebygol ymadael heb gytundeb, yn enwedig o safbwynt y materion hynny sydd wedi bod yn ganolog i waith Gweithgor Cytûn am Gymru ac Ewrop, sy’n cael ei gefnogi gan holl aelod enwadau Cytûn.

Mae’r Cytundeb Ymadael yn ymwneud â nifer cyfyngedig o bynciau, yn bennaf:

  1. Hawliau dinasyddion yr UE yn y DU a dinasyddion y DU yn yr UE (Rhan 2 y Cytundeb): Cyflwynir darpariaethau manwl ar gyfer hawliau’r sawl a fu’n byw y tu allan i wledydd eu dinasyddiaeth dan drefniadau’r Undeb Ewropeaidd. Mae hyn yn rhywbeth y bu Cytûn yn gofyn amdano ers y refferendwm, ac i lawer o bobl yn y sefyllfa hon fe fyddai cytuno ar hyn yn sicrhau eu sefyllfa. Ond mae’r Cytundeb, a hefyd y Rheolau Mewnfudo newydd a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU yn Awst 2018, yn cyfyngu’r sicrwydd cyfreithiol hwn i’r sawl a fu’n “gweithredu hawliau Cytundebau Ewropeaidd” wrth breswylio mewn gwlad arall. Nid pawb sydd yn y sefyllfa honno – nid yw “rhyddid symud” o fewn yr UE mor ddilyffethair ag y tybir yn aml. Un grŵp a effeithir yn drwm gan hyn yw’r sawl sy’n gofalu’n ddi-dâl. Mae’r Cyd-Gyngor am Les Mewnfudwyr wedi cyhoeddi manylion y problemau a erys, ac rydym yn awyddus i weld datrys y materion hyn yn fuan.     
    Os na weithredir y Cytundeb a mae’r DU yn ymadael â’r DU yn ddi-gytundeb, yna ni fydd unrhyw sicrwydd cyfreithiol o’r ddeutu i unrhyw ddinesydd y DU yn yr Undeb Ewropeaidd na dinasyddion yr UE yng ngwledydd Prydain. Mae Llywodraeth y DU wedi dweud y byddant yn parhau i weithredu’r drefn Preswylio Sefydlog, ond ni wyddys a fyddai unrhyw newid i’r amodau; ac fe fyddai’r drefn yn llwyr dan reolaeth y DU. Nid oes unrhyw gyhoeddiad wedi’i wneud beth fyddai’n digwydd i ddinasyddion y DU yng ngwledydd yr Undeb Ewropeaidd.
  2. Trefniadau trosiannol (Rhan 3 y Cytundeb). Mae’r trefniadau manwl hyn yn anelu at osgoi anhrefn gyfreithiol wrth ymadael. Mae’n cynnwys, er enghraifft, parhau i gydnabod dynodiadau daearyddol (megis Cig Oen Cymru) o fewn yr UE hyd nes y gwneir trefniadau amgen, rhywbeth y bu Cytûn yn gofyn amdano.       
    Os na weithredir y Cytundeb yna ni fydd sicrwydd o’r fath ar gyfer trafodiadau sydd ar y gweill wrth i’r DU ymadael â’r UE.
  3. Cyfnod Pontio (Rhan 4 y Cytundeb). Mae hyn yn sicrhau cyfnod pontio rhwng 30 Mawrth 2019 a 31 Rhagfyr 2020, pan fydd cyfraith yr UE yn parhau i weithredu yn y DU, gan roi amser i negodi trefniadau amgen i’r dyfodol. Mae Erthygl 132(2) yn darparu y gellir ymestyn y cyfnod pontio tan ‘Ragfyr 31 20xx’ trwy gytundeb o’r ddeutu. Byddai angen cyfraniad ariannol gan y DU, ond ni fyddai’r DU yn gallu cymryd rhan mewn rhaglenni Ewropeaidd (megis ariannu rhanbarthol) na’r Polisi Amaethyddol Cyffredinol yn ystod yr estyniad hwn.
    Os na weithredir y Cytundeb yna ni fydd cyfnod pontio ac fe fydd Llywodraeth y DU yn gyfrifol am bob trefniant ar ôl 29 Mawrth 2019. Nid oes sicrwydd y bydd cytundeb ar gyfer perthynas newydd yn cael ei negodi.
  4. Setliad ariannol (Rhan 5 y Cytundeb). Pennir manylion beth fydd y DU yn talu am ei hymrwymiadau ariannol a erys ers cyfnod ei haelodaeth yn yr Undeb (megis pensiynau staff ac ati) ac am y cyfnod pontio. Byddai hyn yn caniatáu i’r DU barhau i fod yn rhan o gynlluniau megis Cronfa Datblygu Ewrop (cronfa a fu’n cynnig arian cyfatebol i nifer o apeliadau Cymorth Cristnogol, er enghraifft) (Erthygl 152).   
    Os na weithredir y Cytundeb byddai rhan y DU yn y cronfeydd hyn yn peidio. Fel y nododd y Twrnai Cyffredinol, Geoffrey Cox AS, yn Nhŷ’r Cyffredin ar Ragfyr 3, mae’n debygol y byddai’r DU o hyd yn atebol yn gyfreithiol am beth o’r taliadau hyn, ac fe allai fod effaith negyddol ar allu’r DU i negodi cytundebau rhyngwladol eraill pe gwelid iddi fethu â chyflawni ymrwymiadau dan gytundebau’r Undeb Ewropeaidd.
  5. Trefniadau gweinyddol (Rhan 6 y Cytundeb). Fe fydd gweithredu’r Cytundeb dan ofal Cyd-Bwyllgor (Erthygl 164) a nifer o is-bwyllgorau, a Phanel i ddatrys unrhyw anghydfod. Fe fydd Llys Cyfiawnder Ewrop yn barnu am faterion cyfraith yr UE, ond y Panel fydd yn penderfynu sut i weithredu unrhyw ddyfarniad yn y DU.       
    Os na weithredir y Cytundeb ni fydd unrhyw cyd-drefniadau ffurfiol.
  6. Protocol am Ogledd Iwerddon. Mae’r Protocol yn gosod yn eu lle trefniadau i sicrhau parhad integreiddio traws-ffiniol yn Iwerddon a hawliau dynol yng Ngogledd Iwerddon ar ôl y cyfnod pontio – oni bai fod cytundeb amgen sy’n cyflawni’r un peth yn cael ei gwblhau cyn hynny. Mae’r Protocol yn cynnwys trefniadau manwl ar gyfer nwyddau ac ati o Ogledd Iwerddon, a fydd yn gallu cael eu masnachu’n rhydd yn yr UE a’r DU. Bydd hyn yn golygu trin y DU a’r UE fel un diriogaeth tollau, a bydd angen alinio’r DU â nifer o safonau’r farchnad sengl (ond nid y cyfan). Mae Atodlen 4 yn cynnwys gwarantau ar beidio â gostwng safonau amgylcheddol a chadw at egwyddorion cyfiawnder amgylcheddol (2.1 a 2.2), safonau gwaith a chymdeithasol (4 a 5) a nifer o faterion eraill y bu Cytûn yn gofyn am sicrwydd yn eu cylch. Bydd y trefniadau hyn yn gymwys i’r DU gyfan tra bo’r Protocol yn weithredol. Mae yna drefniadau penodol ar gyfer alinio Gogledd Iwerddon â rhai rheolau ychwanegol.    
    Os na weithredir y Cytundeb ni fydd unrhyw sicrwydd cyfreithiol am y materion hyn.

Mae’r Datganiad Gwleidyddol yn amlinellu’r meysydd lle y bwriedir negodi perthynas newydd rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd. Anelir at gwblhau’r trafod yn ystod y cyfnod pontio fel y bydd y berthynas newydd yn cychwyn ar 1af Ionawr 2021, ond fel y nodwyd uchod fe ellid ymestyn y cyfnod pontio pe bai raid.

Rydym yn croesawu’r datganiad y bydd y DU yn parhau ym ymrwymedig i’r Confensiwn Ewropeaidd am Hawliau Dynol (para 7), tra’n gresynu na fydd Siarter Hawliau Sylfaenol yr Undeb Ewropeaidd yn parhau yn weithredol yn y DU.

Mae para 11 yn sôn am y DU yn parhau i gymryd rhan mewn rhaglenni Ewropeaidd, ond heb fanylion pellach. Mae Cytûn wedi bod yn galw am barhad o fewn cynlluniau addysgol megis Erasmus a Horizon. Mae para 12 yn sôn yn fwy penodol am y DU yn parhau o fewn rhaglenni ymchwil Ewropeaidd.

Rydym yn falch o weld ymrwymiad penodol nid yn unig i Gytundeb Gwener y Groglith (para 139) ond hefyd i ariannu rhaglenni Peace Plus yn yr Iwerddon (para 13).

O ran safonau a rheoliadau, mae’r Datganiad yn reit annelwig. Mae para 24 yn rhagweld y gallai’r DU gymryd rhan yn yr asiantaethau meddygaeth, cemegau a hedfan Ewropeaidd, a phara 25 y bydd peth alinio rhwng rheolau’r DU a’r UE yn parhau er mwyn galluogi hynny. Mae para 35 yn sôn am gydweithredu gwirfoddol o ran rheoleiddio. Mae para 29 yn sôn am barhau i wneud masnach mewn gwasanaethau yn fwy rhydd, heb fanylu ymhellach. Ond mae para 79 yn sôn am sicrhau “cae gwastad” o ran rheoleiddio cymorth gwladol, cystadleuaeth, safonau cymdeithasol ac economaidd, safonau amgylcheddol, newid yn yr hinsawdd a materion trethiannol, “yn adeiladu ar … y Cytundeb Ymadael” – sy’n awgrymu trefnu reoleiddio go fanwl, ac yn yr un modd mae para 23 yn sôn am drefniadau masnach fyddai’n adeiladu a gwella ar y cyd-diriogaeth tollau a sefydlir dros dro gan y Cytundeb Ymadael. Mae’n anodd cysoni’r paragraffau hyn â’i gilydd.

Mae yna fwy o fanylion – yn adlewyrchu, mae’n debyg, mwy o gytundeb – ynghylch cydweithredu ar faterion cyfiawnder, diogelwch ac amddiffyn. Mae para 98 yn awgrymu y gallai’r DU a’r UE barhau i gydweithredu o ran cynrychiolaeth gonsiwlar mewn gwledydd eraill, rhywbeth a fyddai o fantais i deithwyr sydd angen cymorth dramor.

Mae para 18 yn cydnabod “datblygiad cynaliadwy” fel nod cyffredin, ond heb ei ddiffinio. Rydym yn croesawu, felly, ymrwymiadau ym mharagraff 93 i Amcanion Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig ac ym mharagraffau 108-9 ynghylch cydweithredu ar ddatblygu rhyngwladol, materion y bu’r eglwysi yn gryf o’u plaid.

Os na weithredir y Cytundeb Ymadael yna ni fydd unrhyw rym i’r Datganiad Gwleidyddol ychwaith, gan fod y ddau yn cael eu gweld fel un pecyn.

Beth nesaf?

Fel y gwyddys, mae’r hinsawdd gwleidyddol yn golygu bod rhagweld datblygiadau pellach yn anodd iawn. Ond wrth fynd i’r wasg, dyma yw’r amserlen Seneddol a chyfreithiol.

Ar Ragfyr 4,5,6, 10 ac 11 fe gynhelir trafodaeth yn Nhŷ’r Cyffredin, gyda phleidleisiau ar Ragfyr 11 ar hyd at 6 o welliannau i gynnig y Llywodraeth (ni ellir gwella’r Cytundeb ei hun). Os gwrthodir pob gwelliant, ceir un bleidlais ar y Cytundeb a’r Datganiad.

Os derbynnir y Cytundeb, yna fe gyflwynir Bil yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael) i wneud y newidiadau cyfreithiol fydd eu hangen i’w weithredu yn y DU. Bydd pleidlais hefyd yn Senedd Ewrop, sy’n gorfod cefnogi’r Cytundeb iddo gael ei weithredu gan yr UE.

Os nad yw Senedd y DU yn derbyn y Cytundeb, yna yn ôl Deddf Yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, o fewn 21 diwrnod bydd rhaid i’r Llywodraeth wneud datganiad Seneddol am y camau nesaf, ac erbyn Ionawr 21 2019 fe fydd raid naill ai cyflwyno a derbyn cytundeb, neu bydd angen i’r Prif Weinidog wneud datganiad i Dŷ’r Cyffredin. O fewn pythefnos i hynny bydd raid cynnal pleidlais i benderfynu beth i’w wneud nesaf.

Beth bynnag a ddigwydd, fe fydd y Deyrnas Unedig yn ymadael â’r Undeb Ewropeaidd am 11yh ar 29 Mawrth 2019, oni bai i’r adran briodol o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) gael ei newid neu ei dileu. Yn ymarferol, dim ond y Llywodraeth all gyflwyno newid o’r fath. Felly os na ellir dod o hyd i ffordd amgen, fe fydd ymadawiad di-gytundeb yn digwydd, gyda’r canlyniadau a nodwyd uchod. Mae cyfres o wrandawiadau gan Bwyllgorau San Steffan a’r Cynulliad yn dangos fod paratoadau’r ddwy lywodraeth ar gyfer canlyniad di-gytundeb ymhell o fod yn gyflawn.

FFARWELIO Â CARWYN JONES

Trwy gyd-ddigwyddiad, ar yr un diwrnod ag y cynhelir pleidlais fawr Brexit yn Nhŷ’r Cyffredin, fe fydd Carwyn Jones, AC Penybont-ar-Ogwr, yn ymddiswyddo o fod yn Brif Weinidog Cymru ar ôl naw mlynedd yn y swydd. Fe gyhoeddir pwy fydd ei olynydd fel arweinydd Plaid Lafur Cymru, yn dilyn pleidlais ymhlith aelodau’r Blaid Lafur yng Nghymru, ar Ragfyr 6. Bydd angen pleidlais yn y Cynulliad ar Ragfyr 12 i gadarnhau a fydd yr unigolyn hwnnw hefyd yn Brif Weinidog nesaf Cymru.

Mae Carwyn wedi meithrin perthynas dda gyda chymunedau ffydd Cymru, trwy fod yn gadeirydd gweithgar ar y Fforwm Cymunedau Ffydd, a thrwy fynychu nifer o weithgareddau crefyddol ledled Cymru. Ceir cyfle i ddiolch iddo am ei gyfraniad helaeth i fywyd Cymru yn y Senedd yng Nghaerdydd ar Ragfyr 11.

Cyngor Eco – Coed Nadolig
gyda diolch i fudiad ARocha UK, sy’n aelod o Cytûn

Ydych chi’n ystyried prynu coeden Nadolig newydd eleni? Y dewis cyntaf yw ai prynu coeden artiffisial ynteu goeden go iawn. Mae rhai yn awgrymu fod coeden artiffisial yn fwy gwyrdd, gan fod modd ei defnyddio drosodd a throsodd. Ond fel arfer mae ganddynt ôl traed carbon enfawr, gan nad oes modd eu hailgylchu, maent wedi’u gwneud o PVC, sbwng polywrethan a dur (fel arfer yn Tseina) a’r tebygrwydd yw y bydd yn cael ei adael mewn claddfa sbwriel am ganrifoedd i ddod.

Y dewis gorau o bell ffordd yw prynu coeden a dyfwyd yn lleol, gan gyflenwr sy’n gwerthu’r coed â’u gwreiddiau yn llawn. Gallwch wedyn osod y goeden tu allan a’i hail-ddefnyddio flwyddyn nesaf. Os nad yw hyn yn opsiwn addas i chi, yna mae o hyd yn well prynu coeden a dyfwyd yn lleol a’i hail-gylchu ar derfyn yr ŵyl.

Cofnodi Byd Natur

Mae Buddsoddi yn Natur Cymru wedi cyhoeddi adnodd newydd sef Pecyn Cymorth ‘Cofnodi Byr Natur’ – sydd ar gael ar wefan WCVA, yma – https://www.wcva.org.uk/what-we-do/invest-in-nature-cymru/ms4n/recording-the-natural-world?seq.lang=cy-GB Nod y pecyn cymorth hwn yw helpu pobl i ddechrau arolygu bywyd gwyllt, pobl sydd efallai heb ystyried gwneud hynny o’r blaen, ac mae e’ hefyd yn hyrwyddo’r cyfleoedd cyffrous sydd ar gael gan fudiadau lleol a chenedlaethol.

Tegwch i Ofalwyr

Lwfans Gofalwr yw’r budd-dâl isaf o’i fath, sef £ 64.60 yr wythnos. Dyma’r prif daliad a gynigir gan y wladwriaeth les i bobl sy’n gofalu am ddim am deulu neu ffrindiau. Mae Carers UK yn cynnal ymgyrch yn gofyn i’r Lwfans Gofalwr gynyddu’n sylweddol.

Yn yr Alban, mae’r Lwfans Gofalwr yn codi £8.50 yr wythnos, i’r un lefel â Lwfans Ceisio Gwaith. Yn y tymor byr, mae Carers UK am i Lwfans Gofalwr yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon godi o leiaf £ 8.50, i gyd-fynd â’r newidiadau a wneir yn yr Alban.

Mae Carers UK yn anfon llythyr ar ran y 6.5 miliwn o ofalwyr yn y DU i’r Ysgrifennydd Gwladol, Amber Rudd, yn galw am hyn. Gallwch ychwanegu eich llofnod i’r ddeiseb Tecach i Ofalwyr trwy ddilyn y ddolen. Nid oes raid i chi fod yn ofalwr i wneud hyn.

CYSYLLTU Â SWYDDOG POLISI CYTÛN
neu tanysgrifio i’r Bwletin drwy ebost

Parch./Revd Gethin Rhys – Swyddog Polisi/Policy Officer
Cytûn – Eglwysi Ynghyd yng Nghymru/Churches Together in Wales

58 Richmond Road, Caerdydd/Cardiff, CF24 3AT
Tel:  029 2046 4378  Mudol/mobile: 07889 858062
E-bost/E-mail: gethin@cytun.cymru           @CytunNew

Hapus i gyfathrebu yn Gymraeg ac yn Saesneg. Happy to communicate in Welsh and English

Dyddiad cyhoeddi: 3 Rhagfyr 2018.    Cyhoeddir y Bwletin nesaf 1 Chwefror 2019.