DAW DYDD O BRYSUR BWYSO CYN BO HIR….

Pan gynlluniwyd cyhoeddi’r Bwletin Polisi hwn ar 28 Mawrth 2019, y gred oedd y byddai’n cynnwys manylion am natur a dull ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd ar 29 Mawrth. Bellach, fe wyddom mai ar 12 Ebrill, neu 22 Mai, neu ryw ddyddiad eto i’w bennu, y digwydd hynny. Ond am y tro mae baner Jac yr Undeb yn parhau i gyhwfan (neu, fel yn y llun hwn, hongian yn llipa) y tu allan i’r sefydliadau Ewropeaidd ym Mrwsel.

Mae Gweithgor Cymru ac Ewrop Cytûn yn cyd-weithio gyda Llywodraeth Cymru a chyda chynrychiolwyr crefyddau eraill i geisio paratoi orau gallwn am yr ymadawiad, pryd bynnag y daw, yn enwedig os yw’r ymadawiad yn ddi-gytundeb (gweler papur briffio Cytûn am esboniad am ystyr hynny). Mae’r Gweithgor yn arbennig o bryderus am y posibilrwydd y gwelir cynnydd mewn troseddau casineb o amgylch amser yr ymadawiad – fel y gwelwyd, yn drist iawn, yn dilyn yr ymosodiadau ar fosgiau yn Christchurch, Seland Newydd, ar Fawrth 15 (gweler tud. 2). Byddwn felly yn ceisio sicrhau y bydd yna ymateb cyfeillgar a chymodlon gan bob crefydd i unrhyw ddigwyddiad yng Nghymru. Fe fydd rhwydweithiau cyfathrebu Fforwm Cymunedau Ffydd Cymru, a noddir gan Lywodraeth Cymru, yn hanfodol yn hyn o beth.

Bu cyfarfod Gweithgor Cymru ac Ewrop ar Fawrth 20 yn trafod hefyd:

  • cynllun Preswylio’n Sefydlog y Swyddfa Gartref er mwyn cadarnhau eu hawl i fyw yn y DU. Yn dilyn nifer o gyfnodau peilot, mae’r cynllun yn agor i bawb sy’n gymwys ar Fawrth 30, a hynny yn rhad ac am ddim.  
  • https://www.gov.uk/uk-nationals-living-eu Rydym yn ddiolchgar i COMECE (Cynhadledd yr Esgobion Catholig yn yr UE) am eu cymorth i helpu Cytûn i ddeall y sefyllfa, ac am gadw’r mater gerbron Comisiwn yr Undeb Ewropeaidd.

Fe gyhoeddir gwybodaeth bellach ar adran Cymru/Ewrop gwefan Cytûn wrth iddi ddod i law. Mae Fforwm Cymdeithas Sifil Cymru ar Brexit yn cynnal gwefan gynhwysfawr, gan gynnwys canllaw wedi’i ddiweddaru ar gyfer mudiadau sy’n paratoi at Brexit.

SAFWN GYDA’N GILYDD

Daeth 21ain Mawrth 1960 yn ffocws i asesiad y byd o lywodraeth apartheid De Affrica, gan mai dyna ddiwrnod cyflafan Sharpeville (llun ar y chwith), a ddaeth ar ddiwedd diwrnod o brotestiadau yn erbyn y cyfreithiau pass. Chwe blynedd wedyn, dewisodd y Cenhedloedd Unedig 21ain Mawrth yn Ddiwrnod Rhyngwladol er Dioleu Gwahaniaethu yn ôl Hil. I nodi’r achlysur ac, yn arswydus, chwe diwrnod yn unig ar ôl i 50 o ddynion, gwragedd a phlant Mwslimaidd gael eu saethu’n farw gan derfysgwr a gredai yng ngoruchafiaeth pobl wyn yn Christchurch, Seland Newydd, cynhaliwyd cynhadledd undydd yn archwilio undod a chyd-sefyll ymhlith amrywiol gymunedau Cymru yng nghyd-destun Brexit a’r amgylchedd gelyniaethus.

Roedd nifer dda yn bresennol yn y gynhadledd a drefnwyd gan EYST, elusen â’i chanolfan yn Abertawe sy’n cefnogi pobl Dduon a Lleiafrifol Ethnig (DLlE) ar draws Cymru, a Race Alliance Wales. Ymhlith y rhaglen o siaradwyr amrywiol oedd Dirprwy Weinidog a Phrif Chwip Llywodraeth Cymru Jane Hutt. Daeth Ms Hutt â chyfarchion a chefnogaeth Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford. Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i egwyddor amrywiaeth. Cyhoeddodd y Gweinidog hefyd beth arian a fyddai ar gael i weithio ym meysydd llafur y sefydliadau a gynrychiolwyd. Er i’r arian hyn gael eu croesawu, mynegwyd peth pryder yn ystod y gynhadledd y byddai angen i’r mudiadau sy’n gweithio yn y maes hwn gystadlu amdanynt.

Mae yna nifer o welliannau ym mywydau teuluoedd DLlE yng Nghymru ond, yn enwedig ers galw refferendwm Brexit, mae troseddau a chamdrin ar sail casineb wedi cynyddu yng Nghymru, fel mewn gwledydd Gorllewinol eraill. Mae’r gyflafan erchyll yn Seland Newydd yn enghraifft ofnadwy o’r duedd hon, ond yma hefyd gwelwyd cynnydd o 593% yn yr wythnos wedyn. Dywedodd grŵp monitro annibynnol, yr elusen Tell Mama, fod y cyfan bron o’r cynnydd o ganlyniad i ddigwyddiadau cysylltiedig ag ymosodiadau Christchurch.

Nid oedd amheuaeth ymhlith y cynadleddwyr nad oedd proses Brexit, ynghyd â’r amgylchedd gelyniaethus a grëwyd gan y Swyddfa Gartref, gan gychwyn pan oedd Mrs May yn Ysgrifennydd Cartref, ill dau wedi cyfrannu at yr ymosodiadau ar bobl DLlE yn gyffredinol. Mae’r ymosodiadau hyn yn dangos casineb penodol tuag at Fwslimiaid a, thrwy wneud cysylltiadau anwybodus, Siciaid a Hindŵiaid. Awgrymwyd nad dinasyddion sydd “wedi’u eu gadael ar ôl” sy’n dangos casineb o’r fath ond pobl ag incwm gymhedrol.

Mae angen i Gymru adeiladu bas data o dystiolaeth am y gweithredoedd casineb hyn er mwyn siarad yn gredadwy a chyda hygrededd. Fe seilir rhai arolygon ar samplau sy’n rhy fach ac anghynrychioliadol, ond mae arolygon a gynhelir yn dda yn goleuo’r sefyllfa. Er enghraifft: ymhlith y bobl ifainc 16 ac 17 mlwydd oed sy’n dechrau prentisiaethau: 0.6% sy’n ystyried eu hunain yn ddu, 0.7% yn hil cymysg, 1.1% yn Indiaidd, 1.5% yn anabl a 97.3% yn wyn. Asedau cyfartalog pobl wyn yw £221,000, pobl ddu’r Caribî: £76,000, o dras Bangladesh: £21,000 a Du Affricanaidd:£15,000.

Cynlluniwyd y Gynhadledd i ddwyn ynghyd yr holl elusennau ac asiantaethau sy’n gweithio gyda phobl DLlE Cymreig i helpu creu safbwynt unedig ac i raddau bu’r diwrnod yn ddathliad o’r undod hwnnw. Ond roedd unrhyw ddathlu dan gysgod erchylltra ymosodiadau Christchurch a hanes hir anghydraddoldeb a chamfanteisio ar bobl DLlE.

Peter Hussey (Cymdeithas y Cyfeillion)

Arian ychwanegol ar gyfer diogelwch wrth addoli

Mae’r Ysgrifennydd Cartref wedi cynyddu cyllido ar gyfer diogelwch gwarchodol addoldai y flwyddyn nesaf i £1.6 miliwn er mwyn tawelu meddyliau cymunedau a diogelu mosgiau ac addoldai eraill. Mae hyn yn ddwbl y swm a glustnodwyd llynedd. Yn ogystal fe agorir cronfa £5 miliwn ychwanegol i ddarparu hyfforddiant diogelwch.

Cyhoeddwyd y cynnydd mewn ariannu mewn datganiad ysgrifenedig yn dilyn yr ymosodiad terfysgol yn Christchurch a laddodd 50 o bobl ac anafu 40 arall. Yn dilyn y digwyddiad hwnnw, cynyddwyd presenoldeb yr heddlu o amgylch mosgiau yn y DU i dawelu meddyliau cymunedau sy’n ofni ymosodiadau tebyg.

Mae’r gronfa addoldai, a sefydlwyd yn 2016 yn rhan o gynllun gweithredu Llywodraeth y DU ar droseddau casineb, yn darparu cefnogaeth ariannol am ddiogelwch gwarchodol ffisegol, megis ffensiau, goleuo a theledu cylch cyfyng. Hyd yma, dyfarnwyd traean o’r grantiau dan y cynllun hwn i fosgiau.

Yn ogystal, fe fydd y llywodraeth yn agor ymgynghoriad â chynrychiolwyr a mudiadau ffydd gan gynnwys yr Anti-Muslim Hatred Working Group, Tell MAMA, y Grŵp Cynghori Annibynnol ac eraill, am sut i wella’r polisi presennol am warchod cymunedau ffydd.

Er mwyn cynyddu’r defnydd o’r gronfa a sicrhau ei bod yn cyrraedd y rhai swydd fwyaf dan fygythiad gan droseddau casineb, bydd y broses ymgeisio yn cael ei symleiddio fel na fydd angen i sefydliadau brofi iddynt eisoes ddioddef trosedd casineb yn uniongyrchol. Yn ogystal, fe fydd y llywodraeth yn symleiddio’r trefniadau ar gyfer cyflenwyr, ac wedyn fe agorir y cynllun ar gyfer ceisiadau.

Bydd addoldai, gan gynnwys mosgiau, hefyd yn elwa o gronfa newydd £5 miliwn dros 3 blynedd i ddarparu hyfforddiant diogelwch gwarchodol er mwyn adeiladu ar y gwaith cadarnhaol sydd eisoes yn digwydd o fewn cymunedau. Mae hyn yn gydnabyddiaeth mai rhan o’r ateb yn unig yw diogelwch gwarchodol ffisegol, a bod angen dealltwriaeth diogelwch ar sefydliadau, eu staff a’u gwirfoddolwyr i sicrhau fod mesurau diogelwch yn gweithio’n effeithiol. Dywed y Swyddfa Gartref y byddant yn trafod yn drwyadl gyda chymunedau er mwyn sicrhau y bydd y cynllun newydd hwn yn cwrdd ag anghenion pob addoldy o ran diogelwch. Byddant wedyn yn cyflwyno proses gystadleuol i benodi darparwyr yr hyfforddiant a chynllunio dechrau ei gyflwyno yn 2019 i 2020.

Senedd Ieuenctid Cymru yn pennu ei blaenoriaethau

Cynhaliodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru bleidlais ymhlith pobl ifanc o bob rhan o Gymru er mwyn darganfod beth roeddent yn dymuno i Senedd Ieuenctid Cymru roi blaenoriaeth iddo.

Gofynnwyd i 3000 o bobl ifanc rhwng 11 a 18 oed ddethol eu tri phwnc pennaf o grwpiau o ddwy fil o faterion. Cafodd cefnogaeth emosiynol a meddyliol ei dewis fel y flaenoriaeth uchaf, a gafodd ei dewis gan 36%, wedi’i dilyn gan ddigartrefedd (27%), bwlio a seiberfwlio (21%) a chyfleoedd gwaith i bobl ifanc (19%).

Ddiwedd Chwefror, cyfarfu’r Senedd Ieuenctid yn y Senedd yng Nghaerdydd a phennu’r tri phwnc byddant yn canolbwyntio arnynt yn ystod eu dwy flynedd fel aelodau – cefnogaeth emosiynol a meddyliol; sbwriel a gwastraff plastig; a sgiliau bywyd yn y cwricwlwm.

Gellir cyrchu gwefan Senedd Ieuenctid Cymru – sydd werth ei gweld beth bynnag fo’ch oedran – yn www.seneddieuenctid.cymru Mae nifer o aelodau’r Senedd Ieuenctid yn Gristnogion neu’n arddel ffydd arall, a mae Cytûn yn edrych ymlaen at gydweithio â nhw yn ystod eu tymor.

 ACTING TO TACKLE CLIMATE CHANGE IN WALES

Mae tywydd digynsail ac eithafol Chwefror 2019 wedi pwysleisio eto y pwysigrwydd i Gymru addasu i newid yn yr hinsawdd (a drafodwyd ym Mwletin Polisi Chwefror 2019) a hefyd cyfrannu at fynd i’r afael â’r newid hwnnw. Fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chynllun i weithio tuag at Gymru Carbon Isel ar 21 Mawrth. Mae’n cynnwys y ffeithloun trawiadol isod yn darlunio gweledigaeth ar gyfer Cymru ynni isel (© Hawlfraint y Goron) – gellir cyrchu copi i’w lawrlwytho yma.

Mae’r Cynllun yn dwyn ynghyd 76 o ddarnau presennol o bolisi o bob rhan o Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a’r UE lle y mae datgarboneiddio wedi’i integreiddio un ai fel canlyniad uniongyrchol neu fel mantais ehangach. Mae rhai o’r rhain yn bolisïau diweddar gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys y Cynllun Gweithredu ar yr Economi a’r Targedau Ynni Adnewyddadwy, a rhai’n bolisïau sydd wedi’u diwygio gan gynnwys Polisi Cynllunio Cymru lle y mae rhan ganolog i ddatgarboneiddio erbyn hyn.

Meddai Lesley Griffiths, Gweinidog Ynni, yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn Llywodraeth Cymru, mewn datganiad ysgrifenedig, “Mae llawer o’r polisïau yn canolbwyntio ar hwyluso’r trosglwyddiad i economi carbon isel, gan sicrhau trosglwyddiad deg a chyfiawn a sicrhau’r cyfleoedd llesiant gorau posibl i bawb. Byddaf yn sefydlu grŵp Cyfiawnder Hinsawdd i gynghori Gweinidogion Cymru ynghylch y gwaith o drosglwyddo i economi carbon isel.

“Er bod y cynllun yn canolbwyntio llawer iawn ar gamau gweithredu gan sectorau mae’n bwysig pwysleisio y bydd angen sicrhau trawsnewid ar draws pob sector a phob lefel o gymdeithas. Rwyf felly’n falch iawn mai Prifysgol Caerdydd fydd corff arweiniol y DU a fydd yn gyfrifol am sefydlu canolfan newydd ar gyfer Newid Hinsawdd a Thrawsnewidiadau Cymdeithasol (CAST). Dyma fuddsoddiad sylweddol gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, a fydd yn darparu £5 miliwn ar gyfer y Ganolfan hon am o leiaf 5 mlynedd.

“Mae nifer o’r camau gweithredu pwysig yn berthnasol i bob rhan o’r Llywodraeth. Mae gan fusnesau swyddogaeth allweddol o ran datgarboneiddio. Mae’n Contract Economaidd newydd yn seiliedig ar yr egwyddor o fuddsoddiad cyhoeddus at ddiben cymdeithasol. Golyga hyn fod cymorth yn cael ei gynnig ar gyfer ehangu busnesau yn gyfnewid am gymorth gan fusnesau ar gyfer mynd i’r afael â rhai o heriau ein gwlad. Rwyf hefyd yn cydnabod pwysigrwydd arweinyddiaeth gymunedol ac mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo £4 miliwn yn ychwanegol heddiw i Gronfa Ynni Lleol Llywodraeth Cymru. Bydd yr arian ychwanegol yma’n sicrhau bod modd i fwy o brosiectau cymunedol gael eu cynnal. Rydym yn ehangu’r dystiolaeth sydd ar gael er mwyn sicrhau bod ein cartrefi presennol a’n cartrefi newydd yn fwy effeithlon o ran ynni. Mae’n rhaglenni ôl-osod hefyd yn helpu i leihau allyriadau a mynd i’r afael â thlodi tanwydd a gwella iechyd a sgiliau lleol. Rydym yn datgarboneiddio ein system drafnidiaeth drwy ganolbwyntio ar annog newid tuag at deithio mwy cynaliadwy a chefnogi’r cynnydd yn y defnydd o gerbydau allyriadau isel. Rydym yn cynyddu ein storfa o garbon drwy creu coetiroedd ac rydym wedi cynnig rhagor o gyllid a chyfarwyddyd. Rydym hefyd yn diwygio ein polisi rheoli tir ar sail ein polisïau gwastraff llwyddiannus er mwyn symud tuag at economi gylchol.

“Mae anelu at greu economi carbon isel yn cynnig cyfleoedd anferthol i greu economi fyrlymus a chymdeithasol-gyfiawn. Er bod Brexit yn creu ansicrwydd, mae Llywodraeth Cymru’n glir yn ei meddwl ei bod trwy ddatgarboneiddio yn rhoi’r lle amlycaf a blaenaf i les ein pobl, iechyd ein heconomi ac i ddiogelu a chyfoethogi’n hamgylchedd naturiol. Mae’n gyfnod tyngedfennol i Gymru. Rydym bellach yn edrych ymlaen at weithio gyda’n holl bartneriaid, yma ac ar y llwyfan rhyngwladol, i wynebu her hinsawdd sy’n newid.”

Arweinyddion ffydd yn galw am weithredu ar yr hinsawdd ynghanol dinistr Seiclon Idai

Effeithiwyd ar 3 miliwn o bobl gan y llifogydd anferthol a achoswyd gan seiclon a glaw trwm ym Mozambique a gwledydd cyfagos yn ne-ddwyrain Affrica. Mae eglwysi yn y rhanbarth yn galw ar bawb i weddïo am les a diogelwch y sawl sydd wedi eu effeithio. Mae Cymorth Cristnogol yn rhan o apêl Argyfwng DEC Cymru.

Ychydig cyn i’r seiclon daro, wrth i 4ydd Cynhadledd y Cenhedloedd Unedig am yr Amgylchedd ddod i ben yn Nairobi, Kenya ar 15 Mawrth, fe rybuddiodd arweinyddion ffydd yno y gallai’r argyfwng ecolegol presennol, o beidio â’i ddatrys ar unwaith, droi yn drychineb. Fe fu’r arweinyddion o bob rhan o’r byd yn mynychu’r gynhadledd fel rhan o “Ddeialog Ffydd dros y Ddaear”. Daeth bron i 5,000 o gynrychiolwyr i Ddwyrain Affrica i drafod yr argyfwng ecolegol.

“Fy ngreddf i yw nad ydym wedi llawn ddeall yr angen am frys yn y sefyllfa hon. Mae’r penderfyniadau …. yn y gynhadledd hon gan y Cenhedloedd Unedig yn bwysig, ond rwy’n credu y gallent fynd ymhellach i helpu’r ddynoliaeth i gyfeiriad cynaliadwy. Rwy’n credu ei bod hi’n bwysig gorfodi’r penderfyniadau hyn, ac nid yw hynny yn digwydd bob tro,” meddai Rabbi Yonatan Neril, sylfaenydd a chyfarwyddwr gweithredol y Ganolfan Rhyng-ffydd ar gyfer Datblygu Cynaliadwy yn Jerusalem.

Dyma’r tro cyntaf i arweinyddion ffydd gyd-eistedd yn un o gynadleddau’r Cenhedloedd Unedig i wrando ar ymrwymiadau ecolegol ac arferion gorau ei gilydd. “Mae gennym gynulleidfa eang ar lawr gwlad. Mae’n bwysig iawn fod neges stiwardiaeth y ddaear yn cael ei chyfleu yno,” meddai Temple.

Diolchir i Gyngor Eglwysi’r Byd am ddarparu deunydd gan Fredrick Nzwili, newyddiadurwr llawrydd a fu’n adrodd o Gynhadledd Amgylcheddol y Cenhedloedd Unedig yn Nairobi.

Diweddariad am safle Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019

Fe fydd Cytûn fel arfer yn cydlynu presenoldeb ein haelod eglwysi a mudiadau yn ein tair prif ŵyl genedlaethol yn ystod 2019 – Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ym Mae Caerdydd (Mai 27 – Mehefin 1); Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd (Gorffennaf 21 – 25) ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn Sir Conwy (Awst 2 – 10). Edrychwn ymlaen at eich croesawu. Cyhoeddir rhaglen lawn o ddigwyddiadau maes o law.

Mae awdurdodau’r Eisteddfod wedi ein hysbysu eu bod yn cynllunio newidiadau i safle arfaethedig y brifwyl yn Llanrwst, Sir Conwy, ar ôl derbyn adroddiadau technegol sy’n codi pryderon iechyd a diogelwch am rannau o’r safle hwnnw. Mae’r adroddiadau yn manylu ar risgiau llifogydd a daeth hi’n amlwg na ellir yswirio’r Eisteddfod ar sail y cynlluniau presennol. O ganlyniad, fe benderfynodd Bwrdd Rheoli’r Eisteddfod y bydd y cynlluniau yn cael eu haddasu – gan ategu bod iechyd a diogelwch yn flaenoriaeth bennaf wrth gynllunio’r safle a’i adnoddau.

Felly mae camau nawr yn cael eu cymryd i geisio sicrhau datrysiad wrth ail-lunio cynlluniau ar gyfer y safle a thir cyfagos. Fe fydd y gwaith yma’n ddibynnol ar drafodaethau gyda pherchnogion tir a rhanddeiliaid arbenigol. Mae hi’n bosib, os na fydd y cynlluniau uchod yn dwyn ffrwyth y bydd angen edrych y tu hwnt i’r safle presennol o fewn y dalgylch, a symud y maes yn gyfangwbl.

Fe fydd Cytûn yn cadw cysylltiad agos â’r Eisteddfod yn ystod y cyfnod nesaf a byddwn yn hysbysu ein haelodau unwaith y gwyddwn beth yw’r trefniadau newydd. Gall unrhyw un sydd â chwestiynau gysylltu â Peredur Owen Griffiths peredur@cytun.cymru

CYHOEDDI CWRICWLWM NEWYDD I YSGOLION AR EBRILL 30

Fe fu Cytûn a’i Aelod eglwysi, ynghyd â chynrychiolwyr crefyddau eraill, yn rhan o ymgynghori sylweddol trwy gydol proses paratoi cwricwlwm newydd i ysgolion Cymru. Rydym wedi adlewyrchu amrywiol safbwyntiau’r cymunedau ffydd am Addysg Grefyddol, Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb ac am y cwricwlwm cyfan. Gwneir ymatebion swyddogol gan eglwysi a grwpiau ffydd unigol; rôl Cytûn’s fu sicrhau fod gan bawb gyfle i gymryd rhan.

Fe gyhoeddir drafft y cwricwlwm newydd yn gyfan ar Ebrill 30. Bydd Cytûn yn cyhoeddi papur briffio ar ein gwefan mor fuan ag y bo modd wedi hynny, ac fe geir crynodeb ohono ym Mwletin Polisi Mai 2019.

CYSYLLTU Â SWYDDOG POLISI CYTÛN
neu tanysgrifio i’r Bwletin drwy ebost

Parch./Revd Gethin Rhys – Swyddog Polisi/Policy Officer
Cytûn – Eglwysi Ynghyd yng Nghymru/Churches Together in Wales

58 Richmond Road, Caerdydd/Cardiff, CF24 3AT
Tel:  029 2046 4378  Mudol/mobile: 07889 858062
E-bost/E-mail: gethin@cytun.cymru           @CytunNew

Hapus i gyfathrebu yn Gymraeg ac yn Saesneg. Happy to communicate in Welsh and English

Dyddiad cyhoeddi: 28 Mawrth 2019.  Cyhoeddir y Bwletin nesaf yn gynnar ym Mai 2019.