ARGYFWNG NEWID HINSAWDD AC ARGYFWNG/CYFLE BREXIT YN DOD YNGHYD

Ar Ebrill 29 eleni, fe gyhoeddodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, fod Llywodraeth Cymru bellach yn datgan ei bod yn argyfwng hinsawdd. Fe ddywedodd y Llywodraeth “Mae’r datganiad yn neges glir gan Lywodraeth Cymru na chaiff y broses o adael yr UE ein dallu i her y newid yn yr hinsawdd, sy’n bygwth ein hiechyd, ein heconomi, ein seilwaith a’n hamgylchedd naturiol.”

Llun:Wales Online

Mae’r cyplysu yn y datganiad rhwng dau o faterion mwyaf ein cyfnod – Prymadael (Brexit) a newid hinsawdd – yn gyswllt sydd wedi parhau dros y misoedd dilynol. Wrth i brotestwyr Gwrthryfel Difodiant gau strydoedd yng nghanol Caerdydd fis Gorffennaf er mwyn tynnu sylw cymudwyr at yr angen i ymateb i’r argyfwng hinsawdd trwy newid ein ffyrdd o deithio, roedd Llywodraeth Cymru yn cychwyn ymgynghori ar ei strategaeth newydd ar gyfer amaethyddiaeth yng Nghymru dan yr enw Ffermio Cynaliadwy a’n Tir. Dadl sylfaenol y ddogfen hon yw bod angen newid ein ffordd o amaethu am yr un rheswm.

Mae’r ymgynghoriad hwn yn dilyn yr ymgynghoriad llynedd dan yr enw Brexit a’n Tir. Yn gynharach eleni, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei hymateb i’r ymatebion lu a dderbyniwyd, gan gynnwys ymateb Cytûn. Mae’r ymgynghoriad newydd yn cadarnhau y daw’r Cynllun Taliad Sylfaenol (BPS) i ben wrth i’r DU adael yr Undeb Ewropeaidd. Yn ei le, y bwriad yw cyflwyno taliadau seiliedig ar yr egwyddor o reoli tir yn gynaliadwy. Mae hyn yn cynnwys lleihau allyriadau sy’n newid yr hinsawdd a hefyd cymryd camau i liniaru effeithiau’r newidiadau sydd eisoes ar droed, megis plannu rhagor o goed, cynyddu’r carbon yn pridd a gwella cyflwr mawnogydd. Lle nad yw’r farchnad yn rhoi pris teg ar weithgarwch felly, bydd modd dod i gytundeb â Llywodraeth Cymru er mwyn derbyn tâl am y gwaith. Mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi hefyd pecyn cynhwysfawr o dystiolaeth am gyflwr presennol amaethyddiaeth yng Nghymru.

Bydd dogfen ymgynghori arall yn cael ei chyhoeddi gan y Llywodraeth erbyn Sioe Frenhinol Cymru ynghylch Strategaeth Bwyd a Diod newydd i Gymru. Disgwylir mai’r diwydiannau bwyd a diod fydd ymhlith y rhai a effeithir fwyaf gan ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, ac felly bydd angen i’r strategaeth newydd fod yn dra gwahanol i’r strategaeth ddiwethaf a gyhoeddwyd yn 2010.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi hefyd ei bod bellach yn cefnogi datrys yr anghydfod am ymadael â’r Undeb Ewropeaidd trwy gael refferendwm arall, ac y byddai’r Llywodraeth yn ymgyrchu o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd.

Ar yr un pryd, mae paratoadau ar gyfer ymadael yn parhau. Mae Gweithgor Cymru ac Ewrop Cytûn wedi croesawu yn arbennig y pecyn cymorth ychwanegol mae Llywodraeth Cymru wedi ei gyhoeddi ar gyfer dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd, Parth Economaidd Ewrop a’r Swisdir sy’n byw yng Nghymru. Mae’r pecyn hwn yn mynd i’r afael â rhai o’r materion fu’n blino’r Gweithgor o ran diffyg cefnogaeth ymarferol i ddinasyddion wrth iddynt wneud cais am statws Preswylio’n Sefydlog yn y Deyrnas Unedig. Mae Cytûn wedi ymrwymo i barhau i gydweithio â Llywodraeth Cymru i roi cyhoeddusrwydd i’r hyn sydd ar gael, ac annog ein heglwysi i gynnig cymorth bugeiliol i ddinasyddion Ewropeaidd wrth iddynt geisio sicrhau eu dyfodol yn ein plith. Mae’r Gweithgor hefyd yn parhau i ohebu â’r Swyddfa Gartref am sefyllfa dinasyddion y Deyrnas Unedig yng ngwledydd Ewrop, yn enwedig os ymadewir â’r Undeb Ewropeaidd heb gytundeb.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi arweiniad pellach ynghylch ymadawiad di-gytundeb ar gyfer busnesau yng Nghymru, prosiectau a ariennir gan arian yr Undeb Ewropeaidd, a’r sector iechyd a gofal cymdeithasol. Gellir gweld holl gyhoeddiadau Llywodraeth Cymru yn y maes ar wefan Paratoi Cymru, sydd hefyd yn cynnwys dolenni i ddeunydd perthnasol ar wefan Llywodraeth y Deyrnas Unedig a gwefan yr Undeb Ewropeaidd.

Wrth fynd i’r wasg, nid oes sicrwydd pryd nac o dan ba amodau y bydd yr ymadael yn digwydd – os o gwbl. Mae Gwasanaeth Ymchwil y Cynulliad yn cyhoeddi gwybodaeth am y broses a’r datblygiadau sy’n wleidyddol ddi-duedd ar wefan Y Cynulliad a Brexit.

Llun: Wales Online

Ansicrwydd sy’n ein hwynebu hefyd wrth feddwl am effeithiau newid hinsawdd. Dyma efallai un o’r rhesymau fod protestwyr amgylcheddol yn creu ansicrwydd i deithwyr ac eraill wrth dynnu sylw at yr angen am fwy o weithredu. Ar Orffennaf 14, y noswaith cyn i brotestiadau ddechrau yng Nghaerdydd, fe gynhaliwyd gwylnos rhyng-grefyddol ym Mharc Cathays. Ymhlith y siaradwyr oedd y Barch. Sarah Jones, Eglwys Sant Ioan, Caerdydd, a ddywedodd “Mae angen i ni fyw ein galwedigaeth Gristnogol, ac mae’r rhai sy’n cymryd rhan yng Ngwrthryfel Difodiant yn ein helpu ar y ffordd.” Meddai Esgob Llandaf yr Eglwys yng Nghymru, y Gwir Barchedig June Osborne, “Mae Duw yn galw pob un ohonom i ofalu am y tlodion, gofalu am ein cymdogion, ac ymddwyn yn stiwardiaid yn hytrach nag yn ddefnyddwyr ein hamgylchedd naturiol. Rydym yn cefnogi protestiadau heddychlon sy’n codi’r angen i weithredu nawr i ddod o hyd i’r ewyllys wleidyddol i warchod buddiannau cenedlaethau’r dyfodol.”

Bu’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn cyfeirio at yr argyfwng hinsawdd – ymhlith ffactorau eraill – wrth gyhoeddi ar 4 Mehefin na fydd traffordd osgoi newydd i’r M4 yn cael ei adeiladau trwy Wastadeddau Gwent. Ymateb cymysg gafwyd i’r cyhoeddiad, gyda rhai yn gofidio am yr effaith economaidd a’r effaith andwyol barhaus ar ansawdd aer trigolion Casnewydd, tra bod eraill – gan gynnwys Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol – yn croesawu gweld bod yr “argyfwng” a gyhoeddwyd yn golygu newid polisi ar fater mor bwysig.

Mae Comisiynydd Cenedlaethau’r dyfodol yn annog grwpiau ffydd ac eraill i helpu cyfrannu at ei hadroddiad yn 2020 dan yr enw Cymru Ein Dyfodol trwy uwchlwytho storïau, ystadegau ac awgrymiadau i Lwyfan y Bobl. Bydd cyrff cyhoeddus ac eraill yn medru cyrchu’r set ddata a hidlo’r storïau yn ôl lleoliad, thema a nod llesiant. Golyga hyn bydd modd creu archif o brofiadau bywyd a banc o syniadau cenedlaethol, i helpu’r Comisiynydd i ddeall yn well beth mae cymunedau’n meddwl ac yn profi ac amlygu cyfleoedd a heriau sydd ag angen i swyddfa’r Comisiynydd a chyrff cyhoeddus ledled Cymru wrando arnynt. Yn y cyfamser, ar Orffennaf 16 cyhoeddwyd crynodeb defnyddiol o’r gwaith hyd yma yn Adroddiad Atodol Cymru i gyflwyniad y Deyrnas Unedig i’r Cenhedloedd Unedig am waith gwledydd Prydain ym maes datblygu cynaliadwy.

Mae Cytûn, ar gais ein haelod eglwysi a mudiadau, wedi trefnu cynhadledd undydd arbennig yn Nhŷ’r Gymuned, Casnewydd ar Ddydd Llun Hydref 14 i drafod newid hinsawdd ymhellach. Bydd Dr Hefin Jones, Prifysgol Caerdydd, yn annerch y gynhadledd am ffeithiau newid hinsawdd, a bydd llu o fudiadau sy’n cynnig ffyrdd ymarferol i eglwysi ac unigolion fynd i’r afael â’r mater yn arddangos ac yn sôn am eu gwaith. Ceir manylion llawn am y gynhadledd a sut i drefnu’ch lle ar gefn y Bwletin hwn ac ar dudalen flaen www.cytun.cymru .Mae lleoedd yn gyfyng, felly argymhellir trefnu’ch lle ar fyrder.

Y TRYDYDD SECTOR A LLYWODRAETH CYMRU

Ugain mlynedd ar ôl cadeirio cyfarfod cyntaf Cyngor Partneriaeth y Sector Gwirfoddol, ar 15 Mai 2019, cynhaliodd Jane Hutt AC, yn ei rôl newydd sef y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, ei chyfarfod cyntaf â 12 o gynrychiolwyr Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector.

Cynrychiolir crefydd ar y Cyngor gan Gyngor Rhyng-ffydd Cymru, gyda’r Parch. Gethin Rhys (Cytûn), yn gynrychiolydd arweiniol – y Parch. Aled Edwards, erbyn hyn yn Brif Weithredwr Cytûn, oedd yn y cyfarfod cyntaf. Hefyd yn y cyfarfod ym mis Mai oedd Uzo Iwobi, cyn-gynrychiolydd y categori Cymunedau BME yn y Cyngor Partneriaeth, a gafodd ei llongyfarch ar gael ei phenodi’n Gynghorydd Arbenigol ar Gydraddoldebau ar gyfer y Gweinidog.

Cyflwynodd y Cyngor Partneriaeth bapur o’r enw ‘Sicrhau ffyniant i bawb, gyda’n gilydd’, a oedd yn ymdrin â thri mater strategol: adnoddau cynaliadwy i’r trydydd sector; Brexit; a rhoi egwyddorion cynnwys a chydgynhyrchu ar waith, sy’n elfennau craidd o ddwy ddeddfwriaeth arloesol Llywodraeth Cymru, sef Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru). Pwysleisiodd y Dirprwy Weinidog fod y Cyngor Partneriaeth wedi hen ennill ei blwyf fel fforwm i drafod a gweithio gyda’r llywodraeth i weithredu.

Nododd cynrychiolwyr y Cyngor Partneriaeth fod y llywodraeth a chyrff cyhoeddus eraill, yn sgil y deddfwriaethau newydd ac effaith cyni, yn disgwyl mwy nag erioed gan y sector – ac felly fod y trefniadau ar gyfer cydweithio a chyllido yn hanfodol bwysig a bod angen edrych arnynt o’r newydd.

Mae’r Cod Ymarfer ar gyfer Ariannu’r Trydydd Sector yn berthnasol i bob cyllid y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu a chyllid neilltuedig, ac mae’n fecanwaith pwysig i hyrwyddo arferion cyllido da yn y sector cyhoeddus drwyddo draw. Cyhoeddodd y Gweinidog ail-lansiad yr Is-bwyllgor Ariannu a Chydymffurfiaeth ym mis Mehefin. Mae’r Is-bwyllgor hwn yn sicrhau bod y llywodraeth yn cadw at y Cod Ariannu ac mae hefyd yn hyrwyddo arfer da.

Cafodd y Gweinidog wybod am waith Fforwm Cymdeithas Sifil Cymru ar Brexit, partneriaeth rhwng WCVA a Chanolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd. Cafodd wybod hefyd am brosiect a ariennir gan Gronfa Bontio’r UE, ac a arweinir gan WCVA, i ymchwilio i effaith Brexit ar wasanaethau cymunedol. Soniodd aelodau o’r Cyngor Partneriaeth am eu safbwyntiau ar sefyllfa ansefydlog mewnfudwyr o’r UE; rôl flaengar Llywodraeth Cymru yn codi safonau ymysg y cenhedloedd datganoledig o ran cydraddoldeb a hawliau dynol; gwaith ar ddyfodol buddsoddi rhanbarthol yng Nghymru a’r Gronfa Ffyniant Gyffredin arfaethedig; a rôl y sector yn yr economi sylfaenol. Cytunodd y Gweinidog i ystyried ffyrdd o gynnwys y sector yn fwy fel y gall gyfrannu at Bwyllgor y Cabinet ar Drefniadau Pontio’r UE a siaradodd am y gwahanol ffyrdd y mae Llywodraeth Cymru yn ymateb i gefnogi gwaith gyda chymunedau BAME.

Soniodd cynrychiolwyr y Cyngor Partneriaeth am eu profiadau o’r ffordd y mae egwyddorion cynnwys a chydgynhyrchu Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yn cael eu rhoi ar waith. Dywedodd y Gweinidog fod y Deddfau yn gofyn am newid diwylliant yn y sector cyhoeddus a bod gwybodaeth ac arbenigedd y trydydd sector ynglŷn â chydgynhyrchu a chynnwys yn hynod o werthfawr. Cytunwyd i’r sector weithio gyda’r llywodraeth i sefydlu fforwm, i ddarparu cyswllt â’r trydydd sector, undebau llafur a’r sector preifat, i graffu ac i gynghori’r llywodraeth ar weithredu Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol.

Soniodd y Gweinidog hefyd am yr hawl i Absenoldeb Arbennig sydd gan y rheini sydd wedi dioddef Cam-drin Domestig, gan annog cyflogwyr yn y trydydd sector i ystyried sut i’w gynnwys yn eu gwaith. Mae Cymorth i Ferched Cymru a’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi datblygu canllawiau i weithleoedd.

Chwith: Parch. Gethin Rhys yn gwrando’n astud yng nghyfarfod y Bartneriaeth. Llun: Llywodraeth Cymru

PORTIWGAL YN HERIO ISAFBRIS ALCOHOL I GYMRU

Yn 2018, ar ôl blynyddoedd o drafod a chyda chefnogaeth nifer o aelod eglwysi Cytûn, fe bleidleisiodd y Cynulliad o blaid Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am alcohol) (Cymru). Yn dilyn ymgynghori pellach, fe gyhoeddodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething AC, yn Chwefror mai 50c yr uned fyddai’r isafbris. Dyma’r un isafbris a gyflwynwyd yn yr Alban, a dichon mai dyma sydd wedi arwain at y gwerthiant isaf o alcohol ers 25 mlynedd yn y wlad honno.

Ond ar Fai 29, cyhoeddodd Mr Gething fod Portiwgal wedi herio’r isafbris o dan drefniadau masnach agored yr Undeb Ewropeaidd, gan honni y byddai hyn yn gwneud rhai o’u diodydd nhw yn llai cystadleuol. Mae Cymru o hyd yn ddarostyngedig i’r trefniadau hynny gan nad ydyw eto wedi ymadael â’r Undeb. Mae hyn yn golygu y bydd raid gohirio cyflwyno’r isafbris tan yn gynnar yn 2020 ar y cynharaf.

Meddai Mr Gething, “Rwy’n dal yn gwbl ymrwymedig i gyflwyno isafbris ar gyfer alcohol yng Nghymru. Mae alcohol yn achosi llawer o farwolaethau ac afiechydon, a bydd cyflwyno’r isafbris yn gyfraniad pwysig at leihau’r difrod a achosir yng Nghymru gan niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol. Gan ystyried nifer o ffactorau, rydym yn parhau’n argyhoeddedig fod isafbris o 50c am uned yn ymateb cymesur i daclo’r risgiau iechyd a achosir gan yfed gormod o alcohol. Rydym o’r farn y bydd isafbris o 50c yn taro cydbwysedd rhesymol rhwng y manteision a ragwelir i iechyd y cyhoedd a’r manteision cymdeithasol, ar un llaw, ac ymyrryd yn y farchnad ar y llall. Yn y cyfamser, bydd ein paratoadau ar gyfer rhoi’r drefn ar waith yn parhau.”

BANCIO A SWYDDFEYDD POST YNG NGHYMRU

Mae llawer o eglwysi a’u haelodau yn rhwystredig am gau canghennau banciau ledled Cymru. Ar gais Cyngor Eglwysi Rhyddion Cymru, Cymdeithas y cyfeillion yng Nghymru a’r Eglwys yng Nghymru, ysgrifennodd Cytûn at bob un o’r prif fanciau yn ceisio gwybodaeth am eu polisïau yn hyn o beth, ac am ddiffyg gwasanaethau Cymraeg ar y ffôn symudol ac arlein. Ymatebodd pob banc ond un, ond un yn unig gynigiodd unrhyw obaith o atal cau canghennau neu gwella’r gwasanaeth Cymraeg. Caeodd nifer o’r banciau ganghennau yng Nghymru yn ystod yr ohebiaeth.

Swyddfa’r Post Cyffordd Llandudno

Buom yn gohebu hefyd â Swyddfa’r Post, a chyfarfu cynrychiolwyr o Cytûn a rhai o’n haelod eglwysi ym Mai â Stuart Taylor, Rheolwr Materion Allanol Swyddfa’r Post yng Nghymru a De-Orllewin Lloegr. Dysgom fod pob un o’r 930 lleoliad sydd gan Swyddfa’r Post yng Nghymru yn darparu gwasanaethau trafod arian ar ran y banciau. Mae 99% o ddeiliaid cerdyn debyd personol a 95% o ddeiliaid cyfrifon banc busnesau bach neu elusennol (gan gynnwys cyfrifon Cymdeithasau Adeiladu a banciau arlein) defnyddio Swyddfa’r Post i dalu sieciau ac arian parod i mewn a thynnu arian parod. Mae banciau yn raddol yn cyhoeddi cardiau ar gyfer cyfrifon busnes/elusennol er mwyn lleihau’r amser cyn i’r arian gyrraedd y cyfrif, a gall cwsmeriaid drafod hynny gyda’u banc. Dylai hyn fod o gymorth i drysoryddion eglwysi. Fe nodwyd rhai pryderon am wasanaeth Swyddfeydd Post symudol, ac rydym yn dilyn y materion hynny gyda Mr Taylor.

Mae Swyddfa’r Post yn talu is-bostfeistri fesul trafodyn, a hefyd yn talu ffi sefydlog i “ganghennau cymunedol”, sef y rhai sydd o leiaf 0.5 milltir o’r siop nesaf. Nid oes raid cael aelod o staff ar gyfer y Post yn unig; gall unrhyw aelod o staff sydd wedi derbyn hyfforddiant weithredu fel y bo angen. Mae Swyddfa’r Post yn barod mewn egwyddor i ystyried cais gan eglwys leol i gynnal cangen, ond bod y gangen yn hyfyw a bod rhywun sy’n fodlon gweithredu fel Is-Bostfeistr.

Mae Pwyllgor Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol Tŷ’r Cyffredin wrthi yn cynnal ymchwiliad i Swyddfa’r Post. Mae Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau y Cynulliad Cenedlaethol yn ymchwilio i fynediad at fancio, a mae Cytûn a’r Eglwys yng Nghymru wedi cyflwyno tystiolaeth.

MWYAFRIF POBL CYMRU O HYD YN ‘GREFYDDOL’

Mae ystadegau newydd a gyhoeddwyd gan Ystadegau Cymru fis Mehefin, yn seiliedig ar yr Arolwg Poblogaeth Blynyddol 2015-17, yn rhoi darlun diddorol a dadlennol o ymlyniad crefyddol yng Nghymru heddiw. Mae’r niferoedd yn dangos nad gwir pob datganiad a wneir yn y cyfryngau ar y materion hyn.

Yn benodol, nododd dros hanner y boblogaeth yng Nghymru eu bod yn Gristnogol (52.8%). Tra dywedodd 42.7% o’r boblogaeth nid oedd ganddynt unrhyw grefydd. Fodd bynnag, mae’r ffigurau hyn yn amrywio fesul rhanbarth. Yng Ngogledd Cymru, nododd 60.0% o’r boblogaeth eu bod yn Cristnogol a 36.9% nad oedd ganddynt unrhyw grefydd. Mae hyn yn cymharu â 48.6% a 46.1% o bobl yn Ne Ddwyrain Cymru yn y drefn honno.

Mae bron 50,000 o bobl (1.6% o’r boblogaeth) yn uniaethu fel Fwslimaidd. Mae dros ddwy ran o dair (69%) o’r boblogaeth Fwslimaidd yng Nghymru yn byw yn Ne Ddwyrain Cymru.

Mae cyfran uwch o fenywod na dynion y uniaethu bod ganddynt grefydd (61% o gymharu â 53%) a mae’r chyfran o bobl sy’n uniaethu bod ganddynt grefydd yn cynyddu yn ôl grŵp oedran. Mae hyn mewn gwrthgyferbyniad â cyfran y bobl sy’n uniaethu bod nad oedd ganddynt unrhyw grefydd sydd nodedig yn gostwng wrth fynd yn hŷn.

‘Eich Hawliau, Taliadau Uniongyrchol a’r Ddeddf’

Mae nifer o gyfarfodydd diweddar am ofal cymdeithasol y bu Cytûn yn bresennol ynddynt wedi dangos fod diffyg dealltwriaeth go eang ynghylch darpariaethau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Nod y Ddeddf yw sicrhau fod pob un sydd angen gofal a’u gofalwyr yn derbyn asesiad o’u hanghenion a bod yr anghenion hynny yn cael eu diwallu.

Mae Fforwm Cymru Gyfan ar gyfer Rhieni a Gofalwyr Pobl ag Anableddau Dysgu wedi cynhyrchu ffilm fer yn Saesneg yn esbonio’r sefyllfa. Gellir ei gweld trwy fynd i http://bit.ly/CarersRightsAWF

Dywed y Fforwm, “Y Ddeddf yw’r darn cyntaf o ddeddfwriaeth sydd wir yn gosod gofalwyr yn y canol. Mae’r Ddeddf hon wedi rhoi mwy o hawliau a chyfrifoldebau i deuluoedd ond hefyd wedi gosod dyletswyddau newydd ar awdurdodau lleol.” Yn y ffilm, a wnaed yn dilyn cyfres o gyfarfodydd a drefnwyd gan y Fforwm, mae dwy sy’n gofalu yn trafod eu profiad o’r Ddeddf, sut mae dod yn ymwybodol o’u hawliau wedi effeithio arnynt a’r newidiadau a wnaed o ganlyniad.

Mae Cytûn yn argymell y ffilm hon i bawb sydd angen gofal (am ba reswm bynnag) a’u gofalwyr.

A beth am dderbyn gofal yn eich henaint?

Nid yw dros hanner (58%) o boblogaeth Cymru yn gwneud unrhyw baratoadau ar gyfer eu henaint. Dyna sy’n cael ei awgrymu gan ymchwil newydd a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 17 Gorffennaf. Ond, dywedodd 70% o’r rhai hynny a holwyd eu bod yn bryderus am y gefnogaeth gofal cymdeithasol y gallai fod ei hangen arnynt yn y dyfodol.

Nododd y canlyniadau hefyd mai dim ond 27% o’r genedl sy’n debygol o fod yn cynilo arian ar gyfer unrhyw ofal cymdeithasol y gallai fod ei angen arnynt yn y dyfodol. Ond, roedd dros saith o bob deg o’r ymatebwyr (72%) yn credu y dylai pawb wneud darpariaeth ar gyfer eu henaint pan maen nhw’n ifanc ac mewn gwaith.

Er nad yw pobl yn paratoi, maent yn bryderus ynghylch y gefnogaeth gofal cymdeithasol y gallai fod ei hangen arnynt. Roedd y pryderon yn cynnwys cost, ansawdd ac argaeledd gofal cymdeithasol. Roedd yr ymchwil, lle holwyd 1000 o bobl ledled Cymru, yn dangos bod llai na thri o bob deg o bobl (27%) yn teimlo bod ganddynt lawer o wybodaeth, neu wybodaeth weddol ynglŷn â sut y mae’r system gofal cymdeithasol yn gweithio yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Grŵp Rhyngweinidogol ar Dalu am Ofal Cymdeithasol, wedi’i gadeirio gan y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Vaughan Gething. Dros y chwe mis nesaf, bydd y grwp yn cyhoeddi ymchwil pellach ac yn mireinio’r opsiynau ar gyfer ardoll neu ddull ariannu arall i dalu am ofal cymdeithasol.

Ai llyfrau yw’r feddyginiaeth orau?

Mae gweithwyr iechyd proffesiynol yng Nghymru bellach yn gallu rhoi llyfrau am ddim ar bresgripsiwn i gynorthwyo pobl i reoli eu hiechyd meddwl neu ddelio â theimladau a phrofiadau anodd yn yr hyn a elwir yn ‘bibliotherapi’ gan arbenigwyr sydd y tu cefn i’r cynllun.

Mae’r cynllun Llyfrau Darllen yn Well ar Bresgripsiwn ar gyfer iechyd meddwl wedi cael ei ddatblygu gan y Reading Agency a llyfrgelloedd cyhoeddus, sefydliadau iechyd blaenllaw gan gynnwys Coleg Brenhinol y Seicatryddion, Mind, Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu, Cymdeithas Seicoleg Prydain a’r Coleg Nyrsio Brenhinol, ynghyd ag unigolion sydd â phrofiad personol o anghenion iechyd meddwl a’u perthnasau a’u gofalwyr. Lansiwyd y cynllun yng Nghymru (gweler y llun ar y chwith) yn dilyn ei lwyddiant yn Lloegr sydd wedi gweld 931,000 o bobl yn benthyca dros 2 filiwn o lyfrau Darllen yn Well o lyfrgelloedd cyhoeddus.

Mae copïau am ddim o’r llyfrau ar gael i aelodau’r cyhoedd eu benthyca o lyfrgelloedd cyhoeddus yng Nghymru, ynghyd â deunyddiau hyrwyddo ategol gan gynnwys taflenni sy’n cynnwys y rhestr lyfrau. Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn trefnu cyfieithu rhai o’r llyfrau i’r Gymraeg ac mae holl ddeunyddiau’r rhaglen yn ddwyieithog. Mae’r casgliad o 37 llyfr yn cynnwys gwybodaeth ar iechyd, hunangymorth a storïau personol ysbrydoledig, megis Reasons to Stay Alive, gan Matt Haig, sy’n archwilio ei brofiadau personol megis dod yn agos at gyflawni hunanladdiad yn 24 mlwydd oed, a’r Recovery Letters, sef detholiad o lythyrau teimladwy o’r galon a ysgrifennwyd gan bobl sydd wedi cael adferiad neu’n gwella o iselder.

Dywedodd yr awdures, Malan Wilkinson o Gricieth, “Mae wedi bod yn flwyddyn ers i mi ysgrifennu fy llyfr am fyw gyda chyflwr iechyd meddwl ac mae’n wir dweud fod darllen ac ysgrifennu am fy mhrofiadau wedi bod yn amhrisiadwy i’m hiechyd fy hunan. Wedi chwe blynedd o fyw ag anawsterau iechyd meddwl, mae’n wych gweld y cynllun hwn yn cael ei lansio yng Nghymru. Bydd cael y casgliad hwn o 37 o lyfrau hunangymorth o help mawr i bobl ar draws y wlad.”

Am ragor o wybodaeth ar Lyfrau Darllen yn Well ar Bresgripsiwn ar gyfer iechyd meddwl, edrychwch ar: https://reading-well.org.uk/wales

CYSYLLTU Â SWYDDOG POLISI CYTÛN
neu tanysgrifio i’r Bwletin drwy ebost

Parch./Revd Gethin Rhys – Swyddog Polisi/Policy Officer
Cytûn – Eglwysi Ynghyd yng Nghymru/Churches Together in Wales

58 Richmond Road, Caerdydd/Cardiff, CF24 3AT
Tel:  029 2046 4378  Mudol/mobile: 07889 858062
E-bost/E-mail: gethin@cytun.cymru           @CytunNew

Hapus i gyfathrebu yn Gymraeg ac yn Saesneg. Happy to communicate in Welsh and English

Dyddiad cyhoeddi: 20 Gorffennaf 2019.  Cyhoeddir y Bwletin nesaf ar 20 Medi 2019.