PLANT YN ARWAIN Y FFORDD AR NEWID HINSAWDD

Ar ddydd Gwener Medi 20 fe ddaeth miloedd o bobl ynghyd i fynegi’n groyw eu pryder fod amser yn prinhau i liniaru newid hinsawdd, a bod llywodraethau ar draws y byd yn rhy araf i fynd i’r afael â’r argyfwng sydd ar ein gwarthaf. Roedd y digwyddiadau hyn yn rhan o fudiad Streic Hinsawdd y Byd, a gysylltir yn arbennig â Greta Thunberg, ond a arweinir gan blant a phobl ifainc ymhob gwlad. Er i Gyngres Undebau Llafur Cymru drefnu rhan o’r gweithgarwch yng Nghaerdydd, plant a phobl ifainc oedd y prif siaradwyr ymhob cyfarfod, yn llefaru’n huawdl ac angerddol yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Yng Nghaerdydd, cafwyd diwrnod cyfan o weithgareddau yn dechrau yn Eglwys Ddiwygiedig Unedig y Ddinas gyda Chwrdd Gweddi a drefnwyd gan Gymorth Cristnogol, ac yna areithiau a phrotestiadau dwys ond hwyliog o flaen y Castell, ar risiau’r Amgueddfa Genedlaethol a thu allan i’r Senedd. Roedd staff Cymorth Cristnogol a Cytûn, a nifer helaeth o weinidogion ac aelodau eglwysig yn bresennol. Roedd Cymorth Cristnogol hefyd yn weladwy iawn ym Mangor, a chafwyd digwyddiadau tebyg yn Abertawe, Caerfyrddin, Aberystwyth, Aberhonddu a threfi eraill ar draws Cymru.

Ar yr un diwrnod cyhoeddwyd cyfres o adroddiadau gan Grŵp Ymgynghorol Gwyddonol Uwchgynhadledd Gweithredu ar yr Hinsawdd 2019 y Cenhedloedd Unedig. Mae’r adroddiadau swmpus hyn yn tanlinellu difrifoldeb y sefyllfa, yn enwedig efallai adroddiad y Sefydliad Metereolegol Byd-eang, sy’n dweud fod allyriadau a’u heffeithiau yn cyflymu tu hwnt i’r disgwyl.

Mae cyfle i aelodau Cytûn a phawb sydd â diddordeb drafod ymhellach sut i ymateb yng nghynhadledd arbennig yng Nghasnewydd ar Hydref 14 gyda Chymorth Cristnogol, Wythnos un Byd, A Rocha UK a nifer o fudiadau eraill. Gweler tudalennau 7 ac 8 y Bwletin hwn neu wefan Cytûn am fanylion llawn a sut i drefnu’ch lle.

DWY SENEDD YN AIL-YMGYNNULL I DRAFOD BREXIT

Ar ddydd Llun Medi 9, fe geisiwyd atal gweithgareddau Senedd San Steffan trwy ei haddoedi gan y Frenhines ar gais Prif Weinidog y DU, Boris Johnson. Bu nifer o Aelodau Seneddol yn chwyrn eu gwrthwynebiad i’r cam hwn (llun, chwith). Ar Fedi 24, fe ddyfarnodd y Goruchaf Lys fod y cam a gymerwyd gan y Llywodraeth yn anghyfreithlon, ac nad oedd y Senedd wedi ei haddoedi. Trefnwyd i Senedd San Steffan ail-ymgynnull ar ddydd Mercher Medi 25.

Fe feirniadwyd y penderfyniad gwreiddiol i addoedi gan esgobion yr Eglwys yng Nghymru wrth ysgrifennu at Brif Weinidog y DU am eu pryderon am ymadael â’r Undeb Ewropeaidd heb gytundeb, gan fod llawer yn amau mai hyrwyddo ymadawiad o’r fath oedd bwriad y Prif Weinidog wrth gynghori’r Frenhines fel y gwnaeth. (Ni wnaeth y Goruchaf Lys unrhyw ddyfarniad ynghylch bwriadau Mr Johnson). Fe lwyddodd y Senedd i gytuno ar Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) rhif 2 cyn i’r addoedi ddigwydd, gan obeithio y byddai’r ddeddf honno yn rhwystro’r fath ymadawiad ar Hydref 31 ac o leiaf yn ei ohirio tan Ionawr 31 – er y byddai angen cytundeb gweddill aelodau’r Undeb Ewropeaidd i sicrhau hynny.

Roedd Gweithgor Cymru ac Ewrop Cytûn, cyn clywed am yr addoedi, eisoes wedi arwyddo llythyr at y Prif Weinidog gyda nifer o enwadau Cytûn ac 84 o fudiadau eglwysig a thrydydd sector eraill ar draws ynysoedd Prydain, yn mynegi’r un pryderon am effaith ymadawiad di-gytundeb. Mae’r llythyr yn mynegi gofid am ddiffyg paratoadau ar gyfer yr ymadawiad hwn ac at yr effeithiau posibl ar bobl dlawd a bregus yn ein cymdeithas.

Cafodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ei alw’n ôl i drafod y sefyllfa ar Fedi 5. Cafwyd tair awr o drafodaeth a oedd yn danllyd ar adegau, er bod ambell AC yn gwrthwynebu’r galw’n ôl ar y sail and oedd unrhyw gyfrifoldeb gan y Cynulliad am y materion hyn, ac wedi cadw draw.

Fe gyflwynwyd y drafodaeth gan Mark Drakeford AC (Llafur Cymru, llun ar y dde), Prif Weinidog Cymru, ac fe gafwyd sawl cyfraniad nodedig. Ymysg y ddau fwyaf trawiadol oedd galwad Delyth Jewell AC (Plaid Cymru, isod chwith) am refferendwm arall neu aros yn yr Undeb Ewropeaidd ac ystyried annibyniaeth i Gymru, ac araith David Melding AC (Ceidwadwyr Cymreig, isod dde) yn syth ar ei hôl yn galw am weithredu ar frys i gytuno Cytundeb ymadael â’r Undeb Ewropeaidd a fyddai’n gyfaddawd, ond yr unig ffordd meddai i gadw’r Deyrnas Unedig yn unol ac i gadw gwerthoedd rhyddfrydol y Blaid Geidwadol yn fyw. Gellir gweld y drafodaeth gyfan ar Senedd TV Gwelir y ddwy araith hynod hyn yn dechrau tua 0:57:20, a mae Golygydd y Bwletin yn argymell eu gwylio – maent ymhlith yr areithiau gorau erioed yn hanes 20 mlynedd y Cynulliad.

Cafwyd trafodaeth fer a phwrpasol yn y Cynulliad hefyd ar ddiwrnod dyfarniad y Goruchaf Lys, a gellir gwylio’r drafodaeth honno yma. Yn y drafodaeth honno, dechreuwyd holi a ddylid cynnal Confensiwn Cyfansoddiadol neu drafodaeth o fath arall i drafod rôl holl seneddau’r Deyrnas Unedig yn ein cyfansoddiad.

RHAGLEN DEDDFU LLYWODRAETH CYMRU 2019-21

Ar ddiwedd tymor yr haf, fe gyhoeddodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, raglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer gweddill y pumed Cynulliad, a ddaw i ben yn Ebrill 2021. Y mesurau a gyhoeddwyd oedd:

Mae Llywodraeth Cymru o hyd yn ystyried sut i fwrw ymlaen gyda deddfwriaeth Brexit. Roedd biliau o flaen Senedd San Steffan pan gafodd ei haddoedi yn anghyfreithlon (gweler tud. 2), megis y Bil Amaeth a’r Bil Pysgodfeydd, yn cynnwys pwerau i Lywodraeth a Chynulliad Cymru weithredu yn y meysydd hyn ar ôl Brexit. Bu dyfarniad y Goruchaf Lys nad oedd y Senedd wedi ei haddoedi yn fodd i sicrhau y gellir o hyd eu trafod. Os nad ydynt yn cael eu cymeradwyo yn San Steffan, nid yw’r holl bwerau datganoledig ar gael i wneud trefniadau priodol yn y meysydd hyn.

Mae’r Cynulliad o hyd yn trafod mesurau a ddechreuodd eu taith yn ystod y sesiwn flaenorol, sef:

  • Y Bil Plant (Amddiffyniad Cosb Resymol) Cymru, a basiodd Cyfnod 1 (derbyn mewn egwyddor) ar Fedi 17. Mae nifer o fudiadau Cristnogol o blaid y newid hwn yn y gyfraith, ac eraill yn erbyn. Mae Cytûn yn cadw golwg ar hynt y mesur ac yn hapus i roi cyngor a gwybodaeth i’n haelodau am y drefn ddeddfu wrth iddi fynd yn ei blaen.
  • Y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru). Fe fydd hwn yn cyflwyno ambell newid i drefn Byrddau Iechyd, yn cyflwyno dyletswydd gonestrwydd newydd ar y Byrddau, ac yn dileu’r Cynghorau Iechyd Cymuned presennol a gosod yn eu lle Corff Llais Dinasyddion cenedlaethol newydd. Mae’r Bil o hyd yn cael ei ystyried gan bwyllgorau’r Cynulliad cyn ei drafod am y tro cyntaf mewn cyfarfod llawn. Mae Cytûn a nifer o eglwysi lleol wedi mynegi gofid am effaith colli’r Cynghorau Iechyd Cymuned ac a fydd dull gweithredu a phwerau’r Corff Llais Dinasyddion yn ddigon effeithiol.
  • Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru), a fydd yn atal defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol yn y dyfodol.
  • Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru), a gyflwynwyd gan Gomisiwn traws-bleidiol y Cynulliad (yn hytrach na’r Llywodraeth). Fe fydd yn gostwng yr oedran pleidleisio yn etholiadau’r Cynulliad i 16 blwydd oed, yn newid enw’r Cynulliad i Senedd Cymru, a gwneud rhai diwygiadau eraill i drefn etholiadol y Cynulliad. Fe drafodwyd gwelliannau i’r Bil ar Fedi 18, ac fe geir trafodaeth Cyfnod 2 y Bil yn y cyfarfod llawn ar Hydref 9.

 Cymru Ein Dyfodol:
Sgwrs Genedlaethol Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol

I helpu i drwytho ei Hadroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol 2020 lansiwyd Sgwrs Genedlaethol gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru ym mis Mai 2019 a chynhaliwyd gweithdai ym Mangor, Wrecsam, Caerfyrddin a Glynebwy. Siaradodd y Comisiynydd am ei gwaith ar gyflawni’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Cafodd y cynrychiolwyr hefyd y cyfle i rannu i ddweud wrthom pa Gymru hoffech ei gweld yn y dyfodol.

1) Gweithdy Cymru Ein Dyfodol – Dydd Iau 3 Hydref, Llandrindod: Cynhelir y gweithdy yn Orsaf Dân Llandrindod, 13:30-16:30 ddydd Iau 3 Hydref, pan fydd cyfle i chi rannu eich straeon, profiadau a syniadau. Os hoffech chi fynychu’r gweithdy hwn a wnewch chi gofrestru ar SurveyMonkey.

2) Trefnwch eich digwyddiadau eich hun: Byddem wrth ein bodd pe baech yn cynnal eich digwyddiadau eich hun, ac i helpu chi i wneud hyn mae’r Comisiynydd wedi paratoi pecyn offer ac adnoddau y gallwch eu defnyddio ar gyfer eich digwyddiadau eich hun neu mewn cyfarfodydd a thrafodaethau arferol ac wedyn rhoi adborth i ni ar gyfer Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol 2020.

3) Llwyfan y Bobl – arolwg ar-lein: Byddwn hefyd yn casglu eich straeon, profiadau ac awgrymiadau (cymaint o weithiau ag yr hoffech chi) trwy feddalwedd Llwyfan y Bobl a gallwch gwblhau’r arolwg ar-lein nawr. Os hoffech chi chwarae rhan fwy yn y brosiect hon a wnewch chi gwblhau’r ffurflen Mynegiant o Ddiddordeb neu atebwch drwy ebost. Hoffem gynnwys cymaint o sefydliadau ac unigolion ag yn bosib sy’n gallu ein helpu ni i ehangu ein cefnogi, yn arbennig i’r rhai yn ein cymunedau y maent yn cael eu chlywed yn anaml.

4) Ymgyrch Syniadau Arloesol: Lansiwyd yn ddiweddar ymgyrch Syniadau Arloesol sy’n rhoi cyfle i chi rannu syniadau mawr. Efallai eich bod wedi gweld enghreifftiau o arfer da mewn gwledydd eraill neu rhywbeth rydych wedi ei dyfeisio eich hunan neu rhywbeth arloesol sy’n digwydd yn eich cymuned. Hoffem sicrhau bod Cymru yn parhau i ddysgu ac yn dal y Syniadau Mawr.

MAE 5 WYTHNOS YN RHY HIR I AROS

Mae’r mudiad Cristnogol, Trussell Trust, sy’n cynnal y mwyafrif o fanciau bwyd lleol a gefnogir gan y rhan helaethaf o eglwysi a mudiadau ffydd yng Nghymru, yn cynnal ymgyrch #5WeeksTooLong yn galw ar Lywodraeth y DU i fyrhau’r cyfnod sydd raid ei aros i dderbyn y tâl cyntaf o’r Credyd Cynhwysol. Ar hyn o bryd mae angen i’r sawl sy’n hawlio’r tâl aros pump wythnos i dderbyn unrhyw arian. Mae modd i rai cael arian yn gynt, ond mae angen wedyn ei ad-dalu. Profiad Trussell Trust yw bod llawer o bobl yn cael eu gorfodi i fynd i fanciau bwyd yn ystod y cyfnod hwn, a bod rhai hefyd yn benthyg arian ar log uchel ac wedyn yn ei chael hi’n anodd ad-dalu’r ddyled.

Mae ystadegau’r Trussell Trust yng Nghymru yn dangos cynnydd o 15% yn y defnydd o fanciau bwyd yn 2018-19, gyda thraean o’r bwyd yn mynd i blant. Meddai Susan Lloyd-Selby, Rheolwraig yr Ymddiriedolaeth yng Nghymru, “Cymru sydd â’r lefelau tlodi plant uchaf yn y DU ac os ydym am roi diwedd ar newyn yng Nghymru, mae angen arnom sicrhau fod pawb wedi’u hangori rhag cael eu hysgubo i dlodi. Mae angen i’r Llywodraeth sicrhau fod budd-daliadau yn adlewyrchu gwir gost byw a bod gwaith yn sefydlog, yn talu’r Cyflog Byw go iawn, a fyddai’n helpu osgoi’n gyfangwbl yr angen am becyn banc bwyd. Tra’i bod yn wych gweld Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i fynd i’r afael â newyn gwyliau trwy ei Rhaglen Gwella Gwyliau’r Haf, ni all – ac ni ddylai – darparu bwyd fod yn ateb hirdymor i dlodi.”

FFYDD MEWN CARTREFI FFORDDIADWY

Mae Jonathan Hughes yn arwain cynllun Ffydd mewn Tai Fforddiadwy Housing Justice Cymru, sy’n aelod o Cytûn. Mae Jonathan yn gweithredu fel brocer rhwng eglwysi, cymdeithasau tai, awdurdodau lleol a mudiadau trydydd sector mewn trafodaethau i ddatgloi ac annog gwerthu tir eglwysig di-angen ar gyfer datblygu cartrefi newydd sy’n wirioneddol fforddiadwy.  

“Mae gweithio yn y byd tai yn fath o alwedigaeth i mi,” meddai. “Roedd yno pan oeddwn yn gweithio i gymdeithasau tai a nawr rwy’n ceisio gwneud rhywbeth mwy ystyrlon.”

“Pan gododd y swydd, roeddwn i’n holi sut y gallwn gymryd fy arbenigedd proffesiynol, fy ymrwymiadau personol a’i lapio o gylch ffydd mewn gweithred.? Mae’r cyfan yn cyd-blethu, y peth iawn ar yr adeg iawn.”

Cyn dod i Housing Justice Cymru, bu Jonathan yn gweithio ym maes adfywoio gyda chymdeithasau tai ac awdurdodau lleol am 25 mlynedd. Yn fwyaf diweddar, ef oedd Cyfarwyddwr Datblygu’r ar gyfer Grŵp Pobl, un o gymdeithasau tai mwyaf Cymru.  

“Hyd yn oed pan yn blentyn yn y 70au a’r 80au fe fyddwn yn mynd i Lerpwl i weld perthnasau ac yn gweld maint y difreintedd corfforol a chymdeithasol yno. Roedd hynny’n sbardun i mi – roedd rhaid i mi wneud rhywbeth.”

Ar Sul Digartrefedd ar 13 Hydref mae Housing Justice Cymru yn annog eglwysi i greu gofod yn eu hoedfaon am brofiad digartrefedd ac ystyried yr effaith mai gwirfoddoli yn y maes yn ei gael ar y sawl sy’n gwirfoddoli. Mae gan wirfoddolwyr o bob math ddylanwad mawr ar ddarparu ar gyfer pobl sy’n profi bod yn ddigartref. Mae hyn yn gyfle gwych i dynnu sylw at werth y gwirfoddolwyr yn eich cynulleidfa. Mae’r rhan helaethaf yn cael daioni mawr o helpu pobl eraill, ac yn dod i ddeall profiadau pobl eraill yn well.

Gellir dod o hyd i weddïau, trefn oedfa, hanesion a phapur briffio am ddigartrefedd yng Nghymru ar wefan Sul Digartrefedd. Er mai yn Saesneg y cynhyrchwyd yr adnoddau hyn eleni, mae Cytûn wedi cyfieithu Gweddi Sul Digartrefedd ac yn annog ein heglwysi i’w defnyddio ar Sul Hydref 13.

Pwysigrwydd penderfynu am roi organau

Mae Llywodraeth Cymru newydd lansio cam nesaf ei hymgyrch rhoi organau – gan ddechrau â hyrddiad cychwynnol o hysbysebion teledu a radio yn ystod mis Medi, gyda hysbysebion digidol parhaus a sylw ar y cyfryngau cymdeithasol. Y briff oedd edrych ar agweddau mwy cadarnhaol o roi organau, gan alw ar bobl i wneud penderfyniad, cofrestru’r penderfyniad hwnnw a dweud wrth eu teuluoedd. Y cysyniad yw na ddylai pobl orfod dyfalu os ydych chi am roi organau – mae’n bwysig trafod eich dewisiadau gyda’ch anwyliaid a chofrestru eich penderfyniad ar-lein fel nad oes unrhyw ddryswch yn ddiweddarach.

Bydd yr hysbysebion teledu yn dangos gwahanol olygfeydd o deuluoedd/ffrindiau yn chwarae gemau dyfalu (charades ac ati) ac mae’r hysbysebion ar y cyfryngau cymdeithasol (ynghlwm) hefyd yn chwarae ar y syniad hwn. Gallwch wylio’r hysbysebion yma: https://youtu.be/57kalPseb9I (Cymraeg) / https://youtu.be/8qEn1LanVpA (Saesneg)

Gwahoddiad i oroeswyr gyfrannu i’r Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol

Mae dros 4,000 o ddioddefwyr a goroeswyr cam-drin rhywiol pan yn blant yng Nghymru a Lloegr wedi rhannu eu profiadau gyda’r Prosiect Gwirionedd, sy’n rhan o’r Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol. Bydd gwybodaeth a geir o sesiynau’r Prosiect Gwirionedd yn galluogi’r Ymchwiliad i gael gwell darlun o’r gorffennol er mwyn creu gofod mwy diogel i blant y dyfodol.

Mae ystadegau newydd gan yr Ymchwiliad wedi darganfod fod dros dri chwarter o ddioddefwyr a goroeswyr yn credu iddyn nhw gael eu stereoteipio ar ôl codi llais am gael eu cam-drin. Mae arolwg o 116 o oroeswyr o Fforwm Dioddefwyr a Goroeswyr yr Ymchwiliad wedi datgelu nad oedd mwy na hanner wedi adrodd am y cam-drin am eu bod yn pryderu am sut y byddai’r bobl o’u hamgylch yn eu gweld. Mae’r Fforwm yn rhoi’r cyfle i oroeswyr cam-drin rhywiol pan yn blant y cyfle i gyfarfod, trafod a chyfrannu at waith yr Ymchwiliad.

  • Meddai 95 y cant y byddai annog sgwrs fwy agored am gam-drin plant yn rhywiol yn helpu atal stereoteipio dioddefwyr a goroeswyr.
  • Meddai 81 y cant iddyn nhw gael eu stereoteipio o ran bod yn ddioddefwr neu oroeswr wedi cael eu cam-drin yn rhywiol yn blentyn.
  • Meddai 69 y cant na fuon nhw’n llafar am y cam-drin oherwydd ofni cael eu stereoteipio.

Mae’r Ymchwiliad yn galw am sgwrs fwy agored am gam-drin plant yn rhywiol a gofyn i oroeswyr ddod gerbron i gyfrannu at ei waith. Gall goroeswyr cam-drin rhywiol pan yn blentyn sydd am rannu eu profiadau yn ysgrifenedig, dros y ffôn neu yn bersonol gysylltu â Phrosiect Gwirionedd yr Ymchwiliad yn https://www.iicsa.org.uk/cy/dioddefwyr-goroeswyr/sut-i-rannu-eich-profiad neu trwy ebostio share@iicsa.org.uk .

CYSYLLTU Â SWYDDOG POLISI CYTÛN
neu tanysgrifio i’r Bwletin drwy ebost

Parch./Revd Gethin Rhys – Swyddog Polisi/Policy Officer
Cytûn – Eglwysi Ynghyd yng Nghymru/Churches Together in Wales

58 Richmond Road, Caerdydd/Cardiff, CF24 3AT
Tel:  029 2046 4378  Mudol/mobile: 07889 858062
E-bost/E-mail: gethin@cytun.cymru           @CytunNew

Hapus i gyfathrebu yn Gymraeg ac yn Saesneg. Happy to communicate in Welsh and English

Dyddiad cyhoeddi: 24 Medi 2019. Cyhoeddir y Bwletin nesaf ar 20 Tachwedd 2019.