DECHRAU AIL-AGOR ADDOLDAI YNG NGHYMRU

Yn unol â chamau a gymerwyd eisoes yng ngwledydd eraill y Deyrnas Unedig, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru ar Fehefin 19 y gall eglwysi ac addoldai eraill sydd am ail-agor ar gyfer gweddi gan unigolion ac aelwydydd ar eu pennau eu hunain, wneud hynny o Fehefin 22, ond iddynt asesu’r risg, gwneud trefniadau ar gyfer glanhau’r adeilad a phenderfynu yn sgîl hynny fod ail-agor yn ddiogel. Mater i awdurdodau pob enwad neu addoldy unigol yw penderfynu sut (os o gwbl) i weithredu’r cyfle hwn.

Mae hyn yn rhan o gamu’n ofalus o’r Cyfnod Clo yng Nghymru i’r Cyfnod Coch yn rhaglen Llywodraeth Cymru, Llacio’r cyfyngiadau ar ein cymdeithas a’n heconomi: dal i drafod. Yn ystod y Cyfnod Coch, bydd addoldai o hyd yn gallu cynnal angladdau gyda chynulleidfaoedd cyfyngedig (er bod rhan fwyaf enwadau Cristnogol Cymru wedi dewis hyd yma peidio â chymryd y cyfle hwn), cynnal priodasau gyda chynulleidfaoedd cyfyngedig (ond hyd nes ceir caniatâd gan y Cofrestrydd Cyffredinol, ni fydd modd cofrestru priodasau ag eithrio yn yr Eglwys yng Nghymru, a hynny mewn amgylchiadau eithriadol), ac i arweinydd ddefnyddio’r addoldy i recordio neu darlledu oedfa.

Gall mynwentydd a gerddi o gwmpas addoldai fod ar agor a gellir cynnal banciau bwyd a sesiynau rhoi gwaed, ond bod pellter corfforol priodol yn cael ei gadw. Mae darparwyr gofal plant 0-12 oed wedi cael gwybod y gallant ail-agor i fwy na phlant gweithwyr allweddol yn unig o Fehefin 22, a bydd hynny yn cynnwys rhai darparwyr sy’n defnyddio adeiladau eglwysig. Nid oes rheidrwydd ar addoldai i fanteisio ar hyn, ac ni ddylid ail-agor oni bai eu bod yn fodlon fod hynny yn ddiogel.

Bydd modd hefyd i awdurdodau eglwysig a chymunedau ffydd ddefnyddio’r Cyfnod Coch i baratoi at fwy o lacio yn y Cyfnod Oren, a fydd yn dechrau cael ei weithredu ar Orffennaf 6, a mae’n bosibl y caniateir rhai gweithgareddau ar y cyd o fewn addoldai cyn diwedd Gorffennaf. Ceir dolenni at arweiniad Llywodraeth Cymru a (lle bo’n briodol) Llywodraeth y Deyrnas Unedig a chyrff swyddogol eraill all fod o gymorth i awdurdodau addoldai gynllunio ar wefan Cytûn – https://www.cytun.co.uk/hafan/covid-19-papur-briffio/, a bydd hon yn cael ei diweddaru’n gyson.

MAE BYWYDAU DU O BWYS

Gwahoddwyd Cytûn i gymryd rhan ym Mhrotest Ar-lein Ryngwladol Cymru Gyfan ar gyfer Gwrth-hiliaeth yng Nghymru ar ddydd Sadwrn 13eg Mehefin a ddenodd bron 6,000 o gyfranogwyr.

Yn y Gymraeg, Saesneg ac ieithoedd eraill trafododd siaradwyr o wahanol oedrannau a chefndiroedd am eu hanesion dwys eu hunain o ddod ar draws hiliaeth.

O ran datblygu polisi, cafwyd areithiau allweddol gan y Barnwr Ray Singh a’r Arglwydd Simon Woolley, ac maent ill dau wedi bod yn rhan o’r broses o alluogi’r prosesau sydd wedi’u sefydlu gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i’r nifer anghymesur o farwolaethau COVID-19. Rhagwelir y bydd yr is-grŵp, sy’n cynnwys Aled Edwards o Cytûn, yn anfon argymhellion ymlaen i Brif Weinidog Cymru. Siaradodd y Dirprwy Brif Weinidog a’r Prif Chwip, Jane Hutt AS, yn y brotest a chynigiwyd ymatebion cychwynnol i’r siaradwyr.

EGLWYSI YN GWEITHREDU’N GYMUNEDOL YN Y CYFNOD CLO

Mae Sasha Perriam, Cytûn, wedi bod yn cadw golwg ar weithgareddau eglwysi a grwpiau cydenwadol lleol. Mae rhai eglwysi yn gweithredu ar eu liwt eu hunain, eraill mewn partneriaeth â grwpiau ffydd a gwirfoddol eraill. Dyma ambell uchafbwynt o’r dwsinau o esiamplau y daeth Sasha ar eu traws.

Mae eglwysi Caerfyrddin wedi parhau i weithredu a chefnogi eu banc bwyd. Maent hefyd wedi cefnogi cleifion ysbyty Glangwili sydd heb nwyddau hylendid personol (gan nad oes ymwelwyr); menter gymunedol sy’n talu am wneud feisorau yn Ysgol Bro Myrddin ar gyfer gweithwyr iechyd; ac ehangu eu cefnogaeth i’r lloches merched lleol.  

Yn Abertawe, sefydlwyd Adnodd Bwyd Argyfwng yn Eglwys Ddiwygiedig Unedig Christ Well, Trefansel. Mae hwn wedi galluogi cynnig cefnogaeth i, ymysg eraill, ceiswyr lloches sy’n rhan o’r grŵp ceiswyr lloches a ffoaduriaid, Unity & Diversity (UiD). Maent hefyd am sefydlu Banc Dillad.

Mae Canolfan ASK, a leolir yn Eglwys Crist, Y Rhyl, gyda chymorth llwyth o fara gan Bopty Henllan (uchod), wedi parhau i weithredu ei fanc bwyd ar gyfer pobl anghenus, ac mae Cyngor ar Bopeth a leolir yn y ganolfan wedi parhau (fel CABau eraill) i gynnig gwasanaeth ffôn ac ebost.

Yng Nghasnewydd, mae Tŷ’r Gymuned, Eton Road (CHER; Eglwys Bresbyteraidd Cymru), wedi trefnu cyfarfodydd rheolaidd trwy Zoom i gysylltu arweinyddion cymunedol â phobl sydd angen parseli bwyd, cyfrifiaduron a mynediad i’r rhyngrwyd ar gyfer plant, mewn partneriaeth ag EYST (Tîm Cefnogi Ieuenctid Lleiafrifol Ethnig), ‘Me in Mind’, a Chysylltydd Cymunedol. Mae eu gweithwyr ieuenctid, a ariennir gan BBC Plant Mewn Angen, wedi parhau i gysylltu â phobl ifainc o bell. Mae pedair eglwys Gristnogol arall wedi eu cartrefi yn Nhŷ’r Gymuned – eglwys Caribî, eglwys Ethiopiaidd/Eritreaidd, eglwys Slofaciaidd ac eglwys arall o ddwyrain Ewrop. Mae CHER wedi trefnu iddynt rannu gwybodaeth am ba gymorth sydd ar gael a beth a ganiateir (neu na chaniateir) ar hyn o bryd. Mae’r rhan fwyaf sy’n mynychu Tŷ’r Gymuned o gymunedau Du a Lleiafrifol Ethnig neu o ddwyrain Ewrop, cymunedau a drawyd yn arbennig o galed gan Covid-19.

Yng Nghastell nedd, mae grŵp o bobl o’r eglwysi yn cysylltu â’r sawl sy’n byw ar eu pennau eu hunain ac a fyddai fel arall yn derbyn ymweliad cartref, i weld a ydynt yn ymdopi neu a oes angen cymorth arnynt. Mae eglwys yn cynllunio llythrennau i sillafu Ffydd, Gobaith, Carid i’w gosod yn yr adeilad pan allant gyfarfod eto. Mae’r banc bwyd ar agor o hyd a chyn y cloi fe agorodd un eglwys er mwyn darparu bwyd i bobl anghenus. Bu’r grŵp gwnïo mewn un eglwys yn gwneud masgiau wyneb i’w gwerthu er mwyn codi arian i elusennau lleol gan gynnwys staff y GIG.

Gellir gweld dolenni i addoli arlein ad drefnir gan aelod eglwysi Cytûn yn Gymraeg ac yn Saesneg yma: https://www.facebook.com/CytunNew/ I gynnwys oedfa, ebostiwch peredur@cytun.cymru. Mae Cyngor Ysgolion Sul Cymru, sy’n aelod o Cytûn, yn darparu porthol cynhwysfawr ar gyfer deunydd addoli, defosiwn ac addysgiadol Cymraeg yn http://cristnogaeth.cymru/

DARPARU LLETY I’R DIGARTREF WEDI COVID-19

Ar Fai 28, cynhaliodd Llywodraeth Cymru Uwchgynhadledd arlein dan arweiniad Julie James AS, Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol. Nod y gynhadledd oedd cyfleu i arweinyddion llywodraeth leol a’r sector tai eu cynlluniau ar gyfer trawsffurfio gwasanaethau digartrefedd.

Mynychwyd y gynhadledd gan bron 200 o bobl, ac ymhlith y siaradwyr oedd Katie Dalton, Prif Swyddog Gweithredol Cymorth Cymru, Jon Sparkes, Prif Swyddog Gweithredol Crisis a Clare Budden, Prif Swyddog Gweithredol Tai ClwydAlyn.

Esboniwyd yr arweiniad newydd Cam 2 – Canllawiau Cynllunio i Wasanaethau Digartrefedd a Chymorth sy’n Gysylltiedig â Thai sy’n gosod y disgwyliadau ar awdurdodau lleol. Y pedair prif thema yw:

  • – parhau i gefnogi pobl sy’n dal i gysgu allan, pawb mewn darpariuaeth argyfwng, a’r rhai sydd newydd ddod yn ddigartref.
  • –paratoi cynlluniau pontio clir ar gyfer gwasanaethau a darpariaeth sy’n nodi sut y byddant yn symud ymlaen tuag at ddarparu modelau mwy cynaliadwy o lety a chymorth.
  • –arloesi, ailfodelu, caffael ac adeiladu llety i wella ansawdd darpariaeth argyfwng.
  • i symud yn gyflym i ffwrdd o ddefnyddio llochesau nos ac ‘arwynebedd llawr’.

Esboniwyd hefyd fod angen i’r sector ymgysylltu a chyd-weithio â grwpiau gwirfoddol a grwpiau ffydd lleol er mwyn harneisio eu gwybodaeth gymunedol leol a’r gefnogaeth y gallant ei chynnig.

Siaradodd Bonnie Navarra, Cyfarwyddydd Housing Justice Cymru, fel cynrychiolydd y grwpiau gwirfoddol a grwpiau ffydd i amlinellu sut y gall awdurdodau lleol gynnwys y grwpiau hyn yn effeithiol wrth gynllunio, newid a chyflwyno’r dull newydd hwn o weithio. Achubodd Bonnie ar y cyfle i amlinellu’r gwerth sylweddol a ddaw gan fudiadau a arweinir gan wirfoddolwyr a’r canlyniadau cadarnhaol gan fodelau darparu presennol, megis Llochesi Nos. Aeth ymlaen i ddweud ei bod hi’n bwysig i grwpiau ffydd a’r sector gwirfoddol fod yn rhan o’r patrymau gwasanaeth newydd, o gofio’r cryfderau unigryw o’u heiddo. Yn olaf, dywedodd y gallant newid a bod yn rhan o’r cynllun newydd hwn, trwy ganolbwyntio eu hadnoddau ar atal digartrefedd, a bod Housing Justice Cymru yn awyddus i helpu lle bynnag fo eu hangen.

DIM ESTYNIAD I DRAFODAETHAU BREXIT

Mewn cyfarfod gyda chynrychiolwyr yr Undeb Ewropeaidd ar Fehefin 12, cadarnhaodd Michael Gove AS, Canghellor Dugaeth Caerhirfryn, na fyddai yna estyniad i’r cyfnod pontio cyn i’r Deyrnas Unedig ymadael â Marchnad Sengl ac Undeb Tollau’r UE ar 31 Rhagfyr 2020, er gwaethaf galwadau i’r gwrthwyneb gan Lywodraeth Cymru a dros 50 o fudiadau cymdeithas sifil ar draws y Deyrnas Unedig, a alwodd am estyniad mewn llythyr agored at Brif Weinidog y DU.

Galwai’r llythyr, a arwyddwyd gan y Parch. Ddr Dr Noel Davies ar ran Gweithgor Cymru ac Ewrop Cytûn, ar i’r Prif Weinidog estyn y cyfnod pontio oherwydd effaith Covid-19 ar y sector, gan bwysleisio fod “capasiti’r DU a gwledydd yr UE i wneud y trefniadau domestig sydd eu hangen i adael y cyfnod pontio a gweithredu’r Cytundeb Ymadael eisoes wedi ei gyfyngu’n sylweddol.” Mae’r llythyr yn tynnu sylw at allu “dealladwy” gyfyngedig y Llywodraeth i drafod cytundeb masnach, ac i San Steffan wedyn craffu ar y cytundeb hwnnw, o gofio’r pwyslais presennol ar gefnogi’r unigolion, cymunedau a mudiadau sydd wedi eu taro galetaf gan Covid-19.

DYSGU CREFYDD, GWERTHOEDD A MOESEG YN EIN HYSGOLION

Cyhoeddwyd y cam diweddaraf yn rhaglen ymgysylltu Llywodraeth Cymru wrth lunio’r cwricwlwm newydd ar gyfer ysgolion Cymru o Fedi 2022.

Mae Cynigion deddfwriaethol ynghylch crefydd, gwerthoedd a moeseg yn cynnig fframwaith newydd ar gyfer sail gyfreithiol dysgu yr hyn a elwid gynt yn Addysg Grefyddol yn ein hysgolion. NID yw’r ddogfen yn amlinellu cynnwys y cwricwlwm newydd ar gyfer y pwnc – fe ddaw hwnnw yn yr hydref.

Mae’r ddogfen yn argymell:

Canlyniad (paradocsaidd) hyn yw y bydd y maes llafur cytunedig yn cael ei ddysgu’n llawn dim ond mewn ysgolion eglwysig a reolir ac, ar gais rhieni, ysgolion eglwysig a gynorthwyir, ond yn yr ysgolion eraill maes llafur lleol a ddysgir.

Mae’r wefan Law and Religion wedi cyhoeddi erthygl diddorol am y newidiadau gan Russell Sandberg, sydd wedi esgor ar drafodaeth fywiog ar y we.

Gellir darllen yr ymgynghoriad llawn ar wefan Llywodraeth Cymru, a gall unigolion, teuluoedd, eglwysi ac ysgolion ymateb hyd at 28 Gorffennaf 2020. Oherwydd safbwyntiau amrywiol ein haelodau, ni fydd Cytûn yn llunio ymateb cyfansawdd o blaid neu yn erbyn, ond fe anogir ein haelod eglwysi a phawb sydd â diddordeb i ymateb yn uniongyrchol.

Sul yr Hinsawdd: eglwysi yn lansio ymgyrch amgylcheddol blwyddyn o hyd

Mae eglwysi yn cael eu hannog i ffocysu ar newid hinsawdd. Boed yn drefnu oedfa yn canolbwyntio ar yr hinsawdd neu galw am weithredu mwy mentrus gan lywodraethau, gofynnir i eglwysi gymryd rhan yn ymgyrch Sul yr Hinsawdd cyn cyfarfod hinsawdd byd-eang COP26 yn Nhachwedd 2021.

Mae’n dechrau ar Fedi 6 eleni, y Sul cyntaf yn nhymor blynyddol y Cread, ac fe’i trefnir gan Eglwysi ynghyd ym Mhrydain ac Iwerddon a Cytûn, gyda chefnogaeth nifer o aelod eglwysi ac elusennau megis CAFOD, Cymorth Cristnogol, Tearfund, A Rocha UK, ac Operation Noah. Anogir eglwysi lleol i gynnal Sul yr Hinsawdd yn lleol ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn, a darperir adnoddau rhad ac am ddim sy’n addas i bob traddodiad a dull addoli. Fe wahoddir pob eglwys i wneud un neu fwy o’r tri pheth canlynol:

· Cynnal oedfa’r hinsawdd, er mwyn archwilio sail ddiwinyddol a gwyddonol gofalu am y cread a gweithredu am yr hinsawdd, gweddïo ac ymrwymo i weithredu.

· Ymrwymo fel cymuned eglwysig leol i gymryd camau gweithredol hirdymor i leihau ei hallyriadau nwyon tŷ gwydr.

· Ymuno ag eglwysi eraill a’r gymdeithas ehangach trwy ychwanegu ei henw i alwad ar y cyd i lywodraeth y Deyrnas Unedig gymryd camau mwy mentrus o lawer am newid hinsawdd yn y wlad hon cyn COP26, a chryfhau ei hygrededd i arwain y gymuned ryngwladol i fabwysiadu camau sylweddol iawn yn COP26.

Uchafbwynt yr ymgyrch fydd Sul yr Hinsawdd cenedlaethol ar Sul 5ed Medi 2021 i rannu ymrwymiadau’r eglwysi a gweddïo dros weithredu mentrus ac arweiniad dewr yn COP26.

Meddai’r Barch. Judith Morris, Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb Bedyddwyr Cymru: “Mae Sul yr Hinsawdd yn gyfle hanfodol i bob eglwys weithredu mewn ffyrdd sydd fawr eu hangen i fynd i’r afael ag un o’r materion pwysicaf, a mwyaf brys, sy’n wynebu ein planed. A ninnau’n stiwardiaid ar gread Duw, mae’n hollbwysig ein bod yn mynd i’r afael â newid hinsawdd ac yn ymdynghedu i ddiogelu’r dyfodol ar gyfer cenedlaethau i ddod. Mae angen i ni wneud newidiadau cyn ei bod hi’n rhy hwyr a gobeithiwn y bydd y fenter hon yn ysgogi pob Cristion yng Nghymru i weithredu.”

Meddai’r Canon Carol Wardman, llefarydd dros grŵp amgylcheddol yr Eglwys yng Nghymru,  CHASE (Church Action for Sustaining the Environment), “Dros yr wythnosau diwethaf rydym wedi gwerthfawrogi natur o’r newydd a mae hyn wedi ein hatgoffa pa mor werthfawr yw’r amgylchedd naturiol o’n cwmpas. Rydym oll wedi mwynhau aer glanach, heolydd tawelach, awyr cliriach, a chlywed cân yr adar. Ond mae’r tywydd eithafol eleni, gyda llifogydd dinistriol y gaeaf a wedyn y gwanwyn sychaf erioed, wedi tynnu’n sylw at effaith newid hinsawdd.

“Mae Sul yr Hinsawdd yn gyfle i ni gyd ganolbwyntio ar sut y gallwn ofalu’n well am gread Duw, ac atgoffa’n hunain nad moethusrwydd yw gofalu am yr amgylchedd, ond rhywbeth ddylai wrth gallon ein cynlluniau i ymadfer yn dilyn argyfwng y pandemig. Rydym yn annog pob un o’n heglwysi i gymryd rhan ym mha bynnag ffordd y gallant.”

I gofrestru ar gyfer Sul yr Hinsawdd ewch i’r wefan: www.climatesunday.org. Gallwch ddarllen mwy am y fenter gan Andy Atkins, Prif Weithredwr A Rocha UK a Chadeirydd Pwyllgor Llywio Sul yr Hinsawdd yma.

Os nad ydych am aros tan fis Medi, mae nifer o bartneriaid Sul yr Hinsawdd – yn cynnwys ARochaUK, CAFOD, Cymorth Cristnogol, Tearfund, yr Eglwys Ddiwygiedig Unedig, Cymdeithas y Cyfeillion a Byddin yr Iachawdwriaeth yn rhan o drefnu lobi rhithiol o San Steffan dros adferiad cyfiawn wedi Covid-19, Nawr yw’r Amser, ar 30 Mehefin 2020 dan nawdd Clymblaid yr Hinsawdd.

Yn y llun uchod gwelir Eglwys St Joseph, Cwmaman, yr eglwys gyntaf o fewn yr Eglwys yng Nghymru i gael ei phweru gan ynni solar.

GWRTHWYNEBU DILEU’R ADRAN DATBLYGU TRAMOR

Ar Fehefin 16, cyhoeddodd Prif Weinidog y DU, Boris Johnson, y byddai’n dileu’r Adran Datblygu rhyngwladol (DfID) a’i gyfuno â’r Swyddfa Dramor. Mae Cymorth Cristnogol, CAFOD, Tearfund ac elusennau ffydd eraill wedi ysgrifennu at Mr Johnson yn gofyn iddo ail-ystyried y penderfyniad. Dyna hefyd wnaeth Grŵp Rhyngwladol yr Eglwys yng Nghymru. Yn eu llythyr nhw, dywed y Grŵp Rhyngwladol, Cawsom ein harswydo gan eich honiad fod tlodion y byd yn ystyried cymorth rhyngwladol yn ‘a giant cashpoint in the sky’. Mae graddfa frawychus yr osgoi ar drethi gan gwmnïau rhyngwladol, yn osgoi eu cyfrifoldebau i wledydd lle maent yn caffael eu deunyddiau crai, yn cyflogi llafur rhad, neu yn manteisio ar reoleiddio gwantan, yn awgrymu fod y ‘cashpoint in the sky’ yn cyflwyno arian o’r gwledydd tlawd i’r rhai cyfoethog, yn hytrach nag fel arall.

A ddylai eglwysi fuddsoddi mewn cwmnïau olew?

Mae’r elusen Gristnogol, Operation Noah, wedi cyhoeddi adroddiad newydd: Church investments in major oil companies: Paris compliant or Paris defiant?Mae’r adroddiad yn dangos y bwlch rhwng arferion y prif gwmnïau olew a thargedau Cytundeb Paris, ac yn galw ar yr eglwysi yng ngwledydd Prydain i ddadfuddsoddi ar frys o danwydd ffosil er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. Mae’n pwysleisio fod Shell a BP yn bwriadu gwario symiau mawr o arian ar chwilio am ac echdynnu o gronfeydd newydd dros y degawd nesaf. Mae Shell a BP yn bwriadu codi cynhyrchiant olew a nwy o 38% ac 20% yr un rhwng 2018 a 2030, pan fo angen i allyriadau carbon byd-eang syrthio o 55% erbyn 2030 er mwyn cyfyngu’r cynnydd cyfartalog yn nhymeredd y byd i 1.5°C, yn ôl adroddiad Bwlch Allyriadau’r Cenhedloedd Unedig 2019.

Wrth ymateb i’r adroddiad, meddai’r Gwir Barch. Ddr Rowan Williams, cyn Archesgob Cymru ac Archesgob Caergaint: ‘Mae’r argyfwng iechyd presennol wedi dangos fel dim byd o’r blaen yr angen am weithredu rhyngwladol cydlynus yn wyneb bygythiad byd-eang. Allwn ni ddysgu’r wers a’i chymhwyso i fygythiad byd-eang newid hinsawdd? Mae gwneud hynny yn golygu cymryd camau ymarferol ac effeithiol i leihau ein dibyniaeth farwol ar danwydd ffosil, a mae’r adroddiad hwn yn herio’r Eglwysi i gymryd y camau hynny ar frys.’’

CYSYLLTU Â SWYDDOG POLISI CYTÛN

Mae Bwrdd Ymddiriedolwyr Cytûn wedi dyfarnu cyfnod astudio sabothol i Gethin Rhys, Swyddog Polisi Cytûn, i’w gymryd mewn tair rhan. Yn ystod y cyfnod Gorffennaf 13 – Awst 10 2020, bydd Gethin yn ymgymryd â’r ail gyfnod, wrth ddilyn cyrsiau prifysgol arlein am newid hinsawdd er mwyn gwella ei ddealltwriaeth o agweddau gwyddonol yr argyfwng hwnnw.

Yn ystod y cyfnod hwn, ni fydd Gethin yn cyflawni ei waith arferol i Cytûn. Gofynnir i’r sawl sydd angen ymateb brys cysylltu â’r Parch. Aled Edwards, Prif Weithredwr Cytûn (aled@cytun.cymru) ond noder na fydd Aled yn gallu ymateb i bob ymholiad yn ystod y cyfnod hwn. Gwnaed trefniadau i aelodau eraill staff Cytûn a’r enwadau i ddirprwyo dros Gethin mewn cyfarfodydd lle bo’n bosibl. Bydd Cadeirydd Gweithgor Cymru ac Ewrop Cytûn, y Parch. Ddr Noel Davies, yn dirprwyo ar gyfer yr agwedd yna ar waith Gethin, a bydd gwirfoddolwyr o Gyngor Rhyng-ffydd Cymru yn dirprwyo dros Gethin yng nghyfarfodydd Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector.

CYSYLLTU Â SWYDDOG POLISI CYTÛN:
Noder cyfeiriad a rhif ffôn ein swyddfa newydd

Parch./Revd Gethin Rhys – Swyddog Polisi/Policy Officer
Cytûn – Eglwysi ynghyd yng Nghymru/Churches together in Wales

Yst 3.3, Tŷ Hastings, Llys Fitzalan (gyferbyn â Tŷ Brunel), Caerdydd CF24 0BL Ffôn y swyddfa: 03300 169860  Gethin: 03300 169857

Mudol/mobile: 07889 858062 E-bost: gethin@cytun.cymru  ww.cytun.co.uk @CytunNew

Hapus i gyfathrebu yn Gymraeg ac yn Saesneg. Happy to communicate in Welsh and English

Dyddiad cyhoeddi: 19 Mehefin 2020. Cyhoeddir y Bwletin nesaf 24 Awst 2020.