Gweddïau ar gyfer Sul y Cyfamod, 11 Mehefin 2023

Gweddi o fawl ac addoliad

Yr ydym yma yn y lle hwn, i’th foli a’th addoli
I gynnig ein cariad, ein gobaith a’n llawenydd
I osod gerbron ein Brenin a’n Crist
Y cyfan yr ydym, a’r cyfan a’n tywysodd yma.

Canwn gân newydd, a bydded i’n bywydau fod yn alaw
Codwn lef, er mwyn peidio â theimlo cywilydd mwyach
Rydym yn cynnig ein geiriau, ein gweithredoedd a’n hanfod
Y cyfan yr ydym, a’r cyfan a’n tywysodd yma.

Fel y gwnaeth Abram a Sarai gynt
Bydded i ni adeiladu ein bwrdd, a chynnig ein bara
Fel Mathew a Paul, gadewch i ni godi a dilyn
Y cyfan yr ydym, a’r cyfan a’n tywysodd yma.

Caneuon y cyfamod, a ysgrifennwyd yn yr Ysgrythurau,
A wireddir yn y lle hwn, mewn gobaith ac mewn llawenydd
Cerddwn o’r lle hwn gyda’n Brenin a’n Crist
Y cyfan yr ydym, a’r cyfan a’n tywysodd yma.

Cyffes:

Am y pethau hynny rydyn ni wedi’u gwneud, na ddylem ni fod wedi eu gwneud,
A’r hyn na wnaethom, ond y dylem ni fod wedi eu gwneud,
Yr hyn oll yr ydym yn ymdrechu â nhw, er nad oes bai arnom am hynny
Cyffeswn i ti

Cyffeswn yn y Ffydd y gall pethau newid
Cyffeswn yn y Gobaith y gallwn gael ein newid
Cyffeswn mewn cariad tuag at y Duw sy’n gwireddu gwyrthiau o’n mewn.

Gofynnwn am dy faddeuant, gofynnwn am dy gymorth, gofynnwn am dy iachâd.

Yn enw Iesu, Amen

Y Colect:

Dduw sy’n cadw ei addewidion, sy’n gwireddu yr hyn y mae’n ei addo,
Cerdda gyda ni wrth i ni barhau â’n taith a dod o hyd i ffyrdd newydd o fod yn hen eglwys.
Estyn dy law tuag atom, a’n harwain i ddod o hyd i’n lle yn dy deyrnas. Amen

Ymbiliau a Gweddïau o Ddiolchgarwch:

Ar Sul y cyfamod hwn, cofiwn am yr addewidion a wnaed gan bump enwad Cristnogol yng Nghymru i gyd-gerdded gyda’i gilydd, ochr yn ochr, er mwyn dod o hyd i ffyrdd newydd o gyd-gerdded fel cyfeillion ac o fod yn eglwys. Rhown ddiolch am weledigaeth y rhai hirben a fu’n teithio o’n blaenau, yn ogystal â’r rhai sy’n parhau ar hyd y daith hon heddiw.

Deled dy Deyrnas
Gwneler dy ewyllys

Diolchwn am esiampl Abram a Sarai, Mathew a Paul, a ddilynodd y llwybrau yr oeddet ti wedi eu harwain atynt, heb wybod i ble y oeddent yn ei arwain, na’r heriau a fyddai yn eu hwynebu ar hyd y daith. Rhown ddiolch i ti am ddilynwyr Iesu heddiw, y mae eu hesiampl yn ein herio ni i fod yn well pobl Dduw.

Deled dy Deyrnas
Gwneler dy ewyllys

Gweddïwn dros y byd o’n cwmpas – i’r rhai sy’n eistedd mewn swyddfeydd, gweinyddwyr a chlercod, sy’n ceisio dy ddilyn. Gweddïwn am yr anhrefn a achosir gan newid hinsawdd, dros y gwledydd rheini sy’n wynebu dinistr a rhyfel, a’r rhai sy’n wynebu newyn a thrallod. Cynorthwya ni i fod yn ateb i weddi rhywun arall

Deled dy Deyrnas
Gwneler dy ewyllys

Gweddïwn dros y rhai agosaf atom, y rhai yr ydym yn eu caru a’r rhai nad ydym mor hoff ohonynt, am bob un sydd angen ein gweddïau ni a’th iachawdwriaeth di. [ychwanegwch weddïau addas i’ch cyd-destun lleol yma]

Deled dy Deyrnas
Gwneler dy ewyllys

Gweddïwn dros y rhai a fu farw. Cynorthwya ni i fyw ein bywydau mewn ffordd sy’n goffadwriaeth deilwng iddynt hwy.

Dduw trugarog, rhoi dy ras i ni, cryfha ein calonnau a’n heneidiau i fedru wynebu pa beth bynnag a ddaw ar hyd y daith.
Amen

Cylchlythyr Gwanwyn 2023

CEFNDIR

Sefydlwyd y Comisiwn yn dilyn penderfyniad yr Eglwysi a’r Enwadau canlynol ym 1975 i ‘geisio undeb gweledig’ rhyngddynt: Eglwysi Cyfamodol y Bedyddwyr, Eglwys Bresbyteraidd Cymru, Yr Eglwys Ddiwygiedig Unedig, Yr Eglwys Fethodistaidd a’r Eglwys yng Nghymru. Am bron 50 mlynedd bellach, bu’r Comisiwn yn hyrwyddo trafodaethau am faterion megis gweinidogaeth a’r sacramentau, am ffyrdd o feithrin partneriaeth a chydweithio lleol ymhlith cynulleidfaoedd o draddodiadau gwahanol a chymell cynulleidfaoedd i addoli, gweddïo a gweithio gyda’i gilydd.

SUL Y CYFAMOD

Fe’ch gwahoddwn i nodi Sul Cyfamod y Comisiwn sy’n disgyn eleni ar 11 Mehefin. Unwaith eto, mae partneriaid yn y Comisiwn wedi ysgrifennu gweddïau newydd i’w defnyddio ar y Sul hwnnw. Gadewch inni atgoffa’n hunain eto o alwad Crist am ‘…iddynt oll fod yn un, ie, fel yr wyt ti, O Dad, ynof fi a minnau ynot ti.’ (Ioan 17 ad 21). Nid yw’n hawdd nac yn amlwg bob amser i rannu’n bywydau a’n gwaith â’n gilydd fel eglwysi ond gadewch i ni barhau i gydnabod ein galwad i’r weinidogaeth a’r undod a rannwn â’n gilydd.

Gellir lawr lwytho’r gweddïau drwy wefan y Comisiwn, sef, https://www.cytun.co.uk/hafan/comisiwn-yr-eglwysi-cyfamodol-yng-nghymru/ neu drwy’ch Eglwys neu’ch Enwad. Cânt eu dosbarthu hefyd gyda’r cylchlythyr hwn.

Gweddi Eiriol a Diolch

Ar y Sul Cyfamod hwn, cofiwn addewidion y pump enwad Cristnogol yng Nghymru i gerdded gyda’i gilydd, ochr yn ochr â’n cyfeillion, i ddod o hyd i ffordd newydd i fod yn eglwys. Diolchwn am weledigaeth y rhai a deithiodd y ffordd hon o’n blaen, ac am y rhai sy’n teithio gyda ni o hyd. Amen. 

Hyfforddiant ecwmenaidd i arweinwyr eglwysi yng Nghymru

Bwriada’r Comisiwn gyflwyno agwedd fwy cyfannol at helpu arweinwyr enwadol sy’n dod i weithio yng Nghymru i ddeall ein hanes, ein gwaith a’n hamcanion.  Mae’n amlwg i ni fod nifer o arweinwyr yn cael eu galw i wasanaethu yng Nghymru nad oes ganddynt ddealltwriaeth benodol o’n hanes. 

Ar hyn o bryd rydym yn ystyried pa fath o hyfforddiant y dylid ei gynnig ac i bwy. Eisoes cynigir y cwrs preswyl blynyddol Croeso i Gymru’ i bawb sy’n dod yn newydd i weithio yng Nghymru ond bwriedir yr hyfforddiant ychwanegol hwn yn benodol ar gyfer y sawl yn ein partner-eglwysi sydd angen gwybod mwy ac a fyddant yn gyson yn ymwneud â gweithgarwch a phrosiectau ecwmenaidd.

Rhannu gweinidogaeth

Yn ein cylchlythyr llynedd, fe gyflwynwyd ein hadroddiad sy’n cymell eglwysi i gydnabod y cytundebau sydd eisoes yn bodoli parthed rhannu gweinidogaeth yn ein hardaloedd. Gellir dod o hyd i’r adroddiad drwy wefan Cytûn (gweler uchod).

Rydym yn awr yn cynnal math ar ymgyrch gyhoeddus-rwydd i gadarnhau’r cytundebau hyn a sicrhau nad yw’r gwahaniaethau diwinyddol all fod rhyngom yn rhwystr i eglwysi fedru croesawu gweinidogion ordeiniedig o bartner enwadau eraill rannu â nhw, heb fod cwestiynau’n codi, yng ngweinidogaeth y gair a’r sacramentau. 

Rydym yn ymwybodol o lawer enghraifft yng Nghymru lle mae’r math hwn o rannu’n digwydd eisoes, oherwydd prinder gweinidogion o wythnos i wythnos, pan mae eglwysi’n croesawu ei gilydd ac yn ymuno â’i gilydd, yn ôl y gofyn. Cymhellir eglwysi i ystyried yn weddigar sut mae ymwneud yn greadigol ag eraill o’u cwmpas, yn arbennig pan mae gweinidogaeth oddi fewn i’w henwad eu hunain naill ai’n rhy gostus neu ddim ar gael o gwbwl.

Y COMISIWN YN CROESAWU PRIF WEITHREDWR NEWYDD CYTÛN

08/06/2017 Pics (C) HUW JOHN Cardiff Hanfod Cymru, Sion Brynach mail@huwjohn.com www.huwjohn.com M: 07860 256991

Rhown groeso cynnes i’r Parchg. Sion Brynach i’w swydd newydd fel Prif Weithredwr Cytûn, y bydd yn cychwyn arni ar 1af Ebrill. Bydd yn olynu’r Parchg Aled Edwards, sydd wedi cynnig arweiniad ysbrydoledig i Cytûn dros flynyddoedd lawer, tan ei ymddeoliad yn ddiweddar. 

Daw Sion i Cytûn wedi nifer o flynyddoedd yn gweithio gyda Chyngor Celfyddydau Cymru. Mae hefyd yn offeiriad ordeiniedig gyda’r Eglwys yng Nghymru. Bydd llawer yn cofio’r cyfraniadau nodedig a wnaeth ei rieni, Esgob Saunders a Cynthia Davies, i fywyd ecwmenaidd Eglwysi Cymru dros nifer o flynyddoedd. Roeddem yn falch i nodi iddo dynnu sylw, yn ei gyfarchiad cyntaf, at ‘heriau a pheryglon y llwytholiaeth newydd’ fel mater o bwys gwirioneddol yn ein cymdeithas heddiw. Dyma rywbeth y buom yn ymdrechu ag e’ am rai blynyddoedd yn ein heglwysi!  Edrychwn ymlaen at barhau i gydweithio ag arweinyddiaeth Cytûn a gyda Sion ei hun.

Comisiwn yr Eglwysi Cyfamodol, Ystafell 3.3, Tŷ Hastings, Llys Fitzalan, Caerdydd CF24 0BL

Trwy’r fwydlen uchod, cewch wybodaeth am yr Eglwysi Cyfamodol ac am Gomisiwn yr Eglwysi Cyfamodol; cewch wybodaeth am aelodaeth y Comisiwn, ei amcanion a’i weithgareddau. Hefyd cewch y wybodaeth ddiweddaraf am gyfarfodydd y Comisiwn a cewch gofnodion y cyfarfodydd ac adroddiadau’r pwyllgorau a’r paneli o fewn y Comisiwn.

Dyma’r Eglwysi Cyfamodol:

Y Bedyddwyr Cyfamodedig yng Nghymru (gwefan answyddogol)

Eglwys Bresbyteraidd Cymru (ebcpcw.org.uk)

Yr Eglwys Ddiwygiedig Unedig (URC Wales)

Yr Eglwys Fethodistaidd (methodistwales.org.uk)

Yr Eglwys yng Nghymru (eglwysyngnghymru.org.uk)