Ar Sul y Mamau yma, Mawrth 22ain, rydym yn galw ar bob eglwys i ddynodi Diwrnod Cenedlaethol o Weddi a Gweithredu. Ar adeg fel hon, pan fydd cynifer yn ofnus a cheir ansicrwydd mawr, cawn ein hatgoffa o’n dibyniaeth ar ein Tad Nefol cariadus a’r dyfodol y mae ef yn ei gynnal.

P’un a ydych yn parhau i addoli fel cynulleidfaoedd ai peidio, mae gennym y fraint a’r rhyddid mawr i allu galw ar Dduw, lle bynnag yr ydym, yn unigol ac yn gorfforaethol, am iachawdwriaeth yn ein cenedl. Rydym yn gweddïo dros bawb mewn arweinyddiaeth ar hyn o bryd, gan wneud penderfyniadau ynglŷn â chyfyngu’r firws COVID-19, i’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd a gofal cymdeithasol, ac yn enwedig i’r rhai mwyaf agored i niwed, boed yn henoed neu’r rhai â chyflyrau iechyd sylfaenol.

Mae straeon yn cael eu hadrodd yn barod am weithredoedd gwych o garedigrwydd ar draws cymdogaethau. Ynghyd â’ch gweddïau, cymerwch y cyfle i ffonio neu e-bostio rhywun sy’n ynysig, prynnwch fwyd ychwanegol ar gyfer eich banc bwyd lleol, cynigiwch ddarparu siopa i gymydogion oedrannus. Efallai na fyddwn yn gallu cyffwrdd yn gorfforol, ond gallwn wneud cysylltiadau mewn cymaint o ffyrdd eraill.

Am 7pm y Sul hwn, goleuwch gannwyll yn ffenestri eich cartrefi fel symbol gweladwy o oleuni bywyd, Iesu Grist, ein ffynhonnell a’n gobaith mewn gweddi.

Yn y cyfamser, a wnewch chi roi sylw i holl gyngor iechyd ein Llywodraethau a gaiff ei gyhoeddi, a chwiliwch am adnoddau gan gyrff llywodraethu penodol eich eglwysi. O leiaf i’r rhai ohonom yn y Gogledd Global, mae’n ymddangos ein bod mewn cyfnod anarferol. Mae doethineb a hyblygrwydd ynghylch gwanahol fathau o ddod at ein gilydd i addoli yn rhan allweddol o’n disgyblaeth Gristnogol ar hyn o bryd.

Nodwn fod yr alwad hon i weddïo a gweithredu yn dod ar Sul y Fam: adeg o gynnig diolch, gan gofio yn enwedig am famau sydd wedi ein gwasanaethu, yn aml mewn ffyrdd costus iawn. Mae hefyd yn ddiwrnod o emosiynau cymysg iawn i lawer. I rai mae’r cofio yn boenus, ac i eraill mae Sul y Fam yn ein hatgoffa o siom neu golled. Mewn sawl ffordd, bydd y cyfnod hwn dan gysgod y coronafeirws yn procio adweithiau mor amrywiol ac felly mae’n ymddangos yn arbennig o briodol fod yr alwad i weddïo yn cael ei wneud y Sul hwn.

“Rhowch y pethau dych chi’n poeni amdanyn nhw iddo fe, achos mae e’n gofalu amdanoch chi.” 1 Pedr 5:7 (Beibl.net)

Gellir gweld cyngor diweddaraf Llywodraeth Cymru am COVID-19 yma: https://llyw.cymru/coronafeirws-covid19