Ymateb cychwynnol gan Cytûn (Eglwysi ynghyd yng Nghymru)

Ar Ebrill 30 fe gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru gwricwlwm drafft newydd ar gyfer holl ysgolion Cymru a gynhelir gan awdurdodau lleol – cynradd ac uwchradd, Cymraeg a Saesneg, ysgolion eglwysig ac ysgolion cymunedol. Mae paratoi’r gwaith hwn yn dilyn cyhoeddi adroddiad yr Athro Graham Donaldson, Dyfodol Llwyddiannus, yn 2015, ac yn ganlyniad i bedair blynedd o waith gan y Llywodraeth, gan ysgolion arloesi a thimau o athrawon ac arbenigwyr. Gallwch weld crynodeb o’r hanes a’r hyn sydd eto i’w ddisgwyl yma.

Fe fu cymunedau ffydd Cymru yn rhan o’r drafodaeth am y cwricwlwm newydd, ac o’r cyfarfod cyntaf fe fu gan y Fforwm Cymunedau Ffydd ddau aelod o’r Grŵp rhanddeiliaid ar gyfer diwygio addysg, gyda llu o fudiadau eraill sydd â diddordeb yn y maes. Buom yn cymryd diddordeb arbennig yn natblygu’r cwricwlwm Addysg Grefyddol, ond hefyd yn cyfrannu at drafod yr holl gwricwlwm a’r meysydd atodol – megis hyfforddiant athrawon, meithrin arweinyddiaeth mewn ysgolion, ac yn y blaen. Fe fu gan yr Eglwys Gatholig a’r Eglwys yng Nghymru hefyd un cynrychiolydd ar y cyd ar y Bwrdd Newid, yn rhinwedd eu rôl fel darparwyr addysg trwy eu hysgolion enwadol.

Beth yw hanfod y cwricwlwm newydd?

Fe dderbyniodd Llywodraeth Cymru y cyfan o argymhellion Dyfodol Llwyddiannus, ac fe barhaodd yr Athro Donaldson i gymryd rhan yn y trafodaethau. O ganlyniad, y ddogfen honno fu sail y gwaith ac fe seilir y cwricwlwm newydd ar bedwar diben a nodwyd gan yr Athro Donaldson, sef y dylai plant a phobl ifanc ddatblygu

  • yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes
  • yn gyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith
  • yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd
  • yn unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas

Cyrraedd y dibenion hyn yw nod y cwricwlwm. Bydd addysg ysgol i ddisgyblion o 3 hyd at 16 mlwydd oed yn cael ei dysgu ar draws chwe maes dysgu a phrofiad, sef:

  • Celfyddydau mynegiannol
  • Iechyd a lles
  • Dyniaethau
  • Ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu
  • Mathemateg a rhifedd
  • Gwyddoniaeth a thechnoleg

Aethpwyd ati gydag athrawon, ysgolion ac arbenigwyr addysg i lunio yn y chwe maes hyn trosolwg o ‘Beth sy’n bwysig’ – hynny yw y pethau hynny ymhob maes y bydd eu hangen i ddisgyblion eu gwybod, eu profi neu eu meithrin er mwyn cyrraedd y pedwar diben.

Beth yw cynnwys y cwricwlwm?

Yn wahanol iawn i’r cwricwlwm cenedlaethol a gyflwynwyd ym 1988, ac a ddiweddarwyd yn dameidiog ers hynny, mae’r cwricwlwm newydd yn cynnig fframwaith yn unig i ysgolion ac athrawon unigol ei llenwi gyda chynnwys priodol i’w disgyblion a’u hardal eu hunain. Ond bod ysgolion yn datblygu cwricwlwm lleol sy’n talu sylw dyladwy i’r fframwaith cenedlaethol, yn rhychwantu’r chwe maes dysgu a phrofiad, ac yn anelu at gyrraedd y pedwar diben, fe fydd ganddynt ryddid eang i ddatblygu eu dulliau eu hunain o weithredu.

Yn ôl un pennaeth a siaradodd â’r Grŵp rhanddeiliaid ar gyfer diwygio addysg am sut y mae ei ysgol yn datblygu’r cwricwlwm newydd, Mae pob disgybl newydd sy’n dod i’r ysgol yn newid y cwricwlwm, gan fod pob disgybl yn dod â phrofiadau, cefndir a doniau newydd a fydd yn cyfrannu ato. Ond mae’r cwricwlwm o hyd dan arweiniad athrawon proffesiynol – nid yw’n fwriad cyflwyno dulliau addysgol sy’n gadael i blant benderfynu drostynt eu hunain pob dim y maent am ei ddysgu.

Beth am Addysg Grefyddol?

Fe fydd Addysg Grefyddol wedi’i chynnwys ym maes dysgu a phrofiad Y Dyniaethau – er y gall agweddau ar grefydd godi ymhob maes (e.e. gall straeon crefyddol fod yn rhan o’r celfyddydau mynegiannol a ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu; gellir trafod agweddau crefyddol tuag at iechyd a lles; ac yn y blaen).

Mae pob rhan o’r cwricwlwm yn anelu at ddeilliannau cyflawniad sydd yn disgrifio beth all disgyblion ei wneud o fod wedi dilyn eu hastudiaethau. Er enghraifft, yng ngham cynnydd 3 y Dyniaethau (sy’n cyfateb yn fras â deilliannau plentyn 11 mlwydd oed) fe anelir at ddisgyblion sy’n gallu dweud (ymysg pethau eraill):

  • Gallaf egluro amseroedd, digwyddiadau a thraddodiadau arbennig yn fy nghymuned a’r byd ehangach a chyfleu fy nheimladau amdanynt.
  • Gallaf ddeall fod gwahanol brofiadau, crefyddau, bydolygon, credoau ac arferion yn cyfrannu at gymdeithasau amrywiol yng Nghymru a’r byd ehangach.
  • Gallaf ddeall yr amrywiaeth o ddiwylliannau a chymdeithasau sy’n bodoli y tu hwnt i’m profiad personol, a gwerthfawrogi pwysigrwydd iaith, credoau a gwerthoedd yn y broses o ffurfio hunaniaethau diwylliannol.

O ran yr elfen Addysg Grefyddol o fewn cwricwlwm y Dyniaethau, y bwriad yw y bydd Cynghorau Ymgynghorol Statudol Addysg Grefyddol (CYSAGau) sirol – sydd yn cynnwys cynrychiolwyr o gymunedau ffydd lleol – yn parhau i lunio maes llafur i bob sir, ac y bydd esgobaethau’r Eglwys yng Nghymru a’r Eglwys Gatholig yn llunio meysydd llafur i’w hysgolion nhw. Fe fydd rhaid i’r meysydd llafur hyn dalu sylw dyladwy i gynnwys y cwricwlwm cenedlaethol newydd, a bydd rhaid i ysgolion ddysgu Addysg Grefyddol yn unol â’r maes llafur priodol.

Yn Ionawr 2019 fe gyhoeddodd y Llywodraeth bapur gwyn Cwricwlwm Gweddnewidiol, ac mae hwn yn cynnwys ymgynghori ar a ddylid cadw’r hawl i rieni dynnu eu plant allan o’r cyfan neu rannau o’r cwricwlwm Addysg Grefyddol, a hefyd y cwricwlwm Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb (rhan o faes dysgu a phrofiad Iechyd a Lles). Fe ymatebodd rhai aelod enwadau Cytûn a nifer o aelodau eglwysig unigol i’r ymgynghoriad hwn. Cawsom addewid gan Lywodraeth Cymru y bydd ymgynghori â chymunedau ffydd am y materion hyn yn parhau.

A oes yna gyfleoedd i eglwysi a chapeli?

Oes. Mae’r cwricwlwm yn dweud ar gyfer plant o bob oed y dylent gael cyfleoedd i

dysgu yn yr awyr agored a chyfleoedd i ymweld ag amgueddfeydd; safleoedd hanesyddol; mannau o arwyddocâd gwleidyddol, crefyddol neu ysbrydol; nodweddion neu safleoedd daearyddol; a busnesau neu fanwerthwyr.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y byddant yn annog ysgolion i gysylltu â mudiadau a sefydliadau lleol er mwyn cyfoethogi’r cwricwlwm, a’i wreiddio yn eu cynefin – y gair mai’r cwricwlwm yn ei ddefnyddio yn y ddwy iaith i ddisgrifio perthynas ddofn rhwng disgybl, ysgol a chymuned. Mae llawer o ysgolion yn gwneud hyn eisoes, ond fe fydd hyn yn hwb newydd i feithrin cysylltiadau o’r fath.

Fe fydd gan addoldai o bob traddodiad, felly, gyfle i groesawu eu hysgolion lleol i ymweld â nhw ac adrodd eu hanes. Yr ysgol fydd yn penderfynu sut i fynd ati i drefnu hyn, a dylai eglwysi barchu hawl yr ysgol i wneud hynny. Ond fe all hyn fod yn gyfle i ddyfnhau cysylltiadau ag ysgolion eich cylch.

Mae ymweliad ag eglwys neu gapel yn gallu cynnig cyfleoedd i ddysgu nid yn unig am grefydd fel y cyfryw ond am hanes lleol (cofebau rhyfel ayb), iaith (defnydd y Gymraeg, y Saesneg neu ieithoedd eraill o fewn yr adeilad) a diwylliant. Mae yna gyfleoedd hefyd i astudio mathemateg a thechnoleg wrth edrych ar gynllun a phensaernïaeth yr adeilad a’r celfyddydau mynegiannol o ran sut y defnyddir cerddoriaeth, geiriau, drama ac ati o fewn y gwasanaethau a’r gweithgareddau a gynhelir yno. Mae’r posibiliadau yn ddibendraw!

Beth am addoli ar y cyd (gwasanaethau ysgol)?

Nid yw’r newidiadau yn y cwricwlwm yn newid dyletswydd ysgolion i ddarparu addoli dyddiol ar y cyd i’w disgyblion. Fe fydd Cytûn a’n haelod eglwysi yn parhau i drafod materion yn ymwneud ag addoli mewn ysgolion gyda Llywodraeth Cymru.

A fydd y cwricwlwm newydd yn cael ei gyflwyno yn syth?

Mae nifer o ysgolion wedi dechrau cyflwyno elfennau o’r cwricwlwm newydd eisoes, ond ni ddaw yn statudol tan Fedi 2022, a hynny ar gyfer disgyblion hyd at Flwyddyn 7 yn unig. Fe fydd disgyblion 7 y flwyddyn honno yn dilyn y cwricwlwm newydd trwy’r ysgol, ac felly nhw fydd y disgyblion cyntaf i sefyll arholiadau TGAU ar sail y cwricwlwm newydd. Fe fydd y meysydd llafur ar gyfer yr arholiadau hynny yn cael eu diwygio yn unol â’r cwricwlwm newydd, ac fe fydd modd i ddisgyblion ddewis y pynciau y maent am eu hastudio, ond eu bod o hyd yn derbyn addysg sy’n cwmpasu’r holl feysydd dysgu a phrofiad. Tan haf 2026 fe fydd y cymwysterau TGAU presennol yn cael eu harholi.

Dros y tair blynedd nesaf, felly, fe fydd cyfnod o baratoi, gyda chyfle i athrawon dderbyn hyfforddiant mewn swydd ychwanegol er mwyn sicrhau eu bod yn deall y gofynion newydd.

Sut allwn ni ymateb?

Mae yna gyfnod ymgynghori ffurfiol ar y drafft tan 19 Gorffennaf 2019. Fe fydd Llywodraeth Cymru yn trefnu cyfarfodydd cyhoeddus i’w drafod mewn gwahanol fannau yng Nghymru, a byddem yn annog eglwysi lleol i fanteisio ar y cyfleoedd hyn.

Gall unrhyw un ymateb arlein fan hyn: https://hwb.gov.wales/cwricwlwm-drafft-i-gymru-2022/dweud-eich-dweud/  Fe fydd Cytûn yn casglu ymatebion gan ein haelod enwadau a mudiadau ac yn cyfrannu i’r drafodaeth ar sail yr ymatebion hynny. Croesewir pob sylw, felly, trwy ebostio gethin@cytun.cymru – ond ymatebwch yn uniongyrchol i’r Llywodraeth hefyd!

Fe gyhoeddir y cwricwlwm terfynol yn Ionawr 2020.

Parch./Revd Gethin Rhys
Swyddog Polisi’r Cynulliad Cenedlaethol / National Assembly Policy Officer

30 Ebrill 2019.