Gan gyffesu ein ffydd yn Iesu Grist fel Arglwydd a Gwaredwr, a chan adnewyddu ein hewyllys i’w wasanaethu ef mewn cenhadaeth yn y byd, y mae ein gwahanol eglwysi wedi eu dwyn i berthynas newydd a’i gilydd.

Diolchwn am y cwbl sydd gennym yn gyffredin rhyngom.

Gyda’n gilydd yr ydym yn edifarhau am y pechod o barhau ein hymraniad.

Gyda’n gilydd gwnawn yn hysbys pa fodd yr ydym yn deall yr ufudd-dod y’n gelwir ni iddo.

I

a. Cydnabyddwn yn ein gilydd yr un ffydd yn efengyl Iesu Grist yr hon a geir yn yr Ysgrythur Lân, yr hon y bwriadwyd i gredoau’r Eglwys gynnar a chyffesiadau hanesyddol eraill ei gwarchod. Cydnabyddwn yn ein gilydd yr un awydd i gynnal y ffydd hon yn ei chyflawnder.

b. Bwriadwn weithredu, llefaru a gwasanaethu gyda’n gilydd mewn ufudd-dod i’r efengyl yn y fath fodd ag i ddysgu mwy o’i chyflawnder a’i gwneuthur yn hysbys i eraill mewn iaith gyfoes a thrwy dystiolaeth gredadwy.

II

a. Cydnabyddwn yn ein gilydd yr un ymwybyddiaeth o alwad Duw i wasanaethu ei bwrpas grasol ar gyfer dynoliaeth oll, gyda chyfrifoldeb arbennig am y wlad a’r bobl hyn.

b. Bwriadwn gydweithio er mwyn cyfiawnder a heddwch gartref ac oddi cartref ac er mwyn ffyniant ysbrydol a materol a rhyddid personol yr holl bobloedd.

III

a. Cydnabyddwn ein gilydd ein bod o fewn i un Eglwys Iesu Grist, wedi ymdynghedu i wasanaethu ei Deyrnas, ac yn cyfranogi o undeb yr Ysbryd.

b. Bwriadwn drwy gymorth yr un Ysbryd oresgyn yr ymraniadau sy’n niweidio ein tystiolaeth, yn llesteirio cenhadaeth Duw, ac yn cuddio efengyl iechydwriaeth dyn, a bwriadwn amlygu’r undeb hwnnw sy’n unol ag ewyllys Crist.

IV

a. Cydnabyddwn aelodau ein eglwysi yn aelodau o Grist yn rhinwedd eu bedydd cyffredin a’u galwad gyffredin i gyfranogi yng ngweinidogaeth yr holl Eglwys.

b. Bwriadwn geisio ffurf ar fywyd cyffredin a alluoga bob aelod i arfer y doniau a roddwyd iddo yng ngwasanaeth Teyrnas Crist.

V

a. Cydnabyddwn weinidogaethau ordeiniedig ein holl eglwysi yn weinidogaethau gwirioneddol y gair a’r sacramentau, trwy y rhai y cyhoeddir Cariad Duw, y cyfryngir ei ras, ac y gweinyddir ei ofal Tadol.

b. Bwriadwn geisio patrwm o weinidogaeth ordeiniedig y cytunir arno, yr hwn a wasanaetha’r efengyl mewn undeb, a arddengys ei pharhad drwy’r oesoedd, ac a dderbynnir cyn belled ag y gellir gan yr Eglwys drwy’r byd oll.

VI

a. Cydnabyddwn yn ein gilydd batrymau o addoliad a bywyd sacramentaidd, arwyddion sancteiddrwydd a sel, sydd yn amlwg yn rhoddion Crist.

b. Bwriadwn wrando ar ein gilydd a chydastudio tystiolaeth ac arfer ein gwahanol draddodiadau, fel y diogelir ar gyfer yr Eglwys unedig a geisiwn y trysorau a ymddiriedwyd inni pan oeddym ar wahan.

VII

a. Cydnabyddwn yn ein gilydd yr un gofal am iawn lywodraeth yn yr Eglwys er cyflawni ei chenhadaeth.

b. Bwriadwn geisio ffurf ar lywodraeth Eglwysig a fydd yn diogelu y gwerthoedd cadarnhaol y mae pob un wedi sefyll drostynt, fel y bydd i’r Eglwys ffurfio meddwl cytûn a gweithredu arno fel un corff ar bob lefel o gyfrifoldeb drwy offerynnau cyfansoddiadol.

Ni wyddom eto pa ffurf a gymer undeb.

Down at ein tasg yn agored i’r Ysbryd.

Credwn yr arwain Duw ei Eglwys i ffyrdd gwirionedd a thangnefedd, gan ei chywiro, ei chyfnerthu a’i hadnewyddu yn unol a meddwl Crist.

Am hynny yr ydym yn cymell ein holl aelodau i dderbyn ei gilydd yn yr Ysbryd Glan fel y mae Iesu Grist yn ein derbyn ni, ac i ddal ar bob cyfle i gyd-dyfu drwy gydweddïo a chydaddoli gyda dealltwriaeth a chariad o bob tu fel yr adnewydder hwy ym mhob lle ar gyfer cenhadu.

Gan hynny gwnawn y Cyfamod difrifol hwn yn awr gerbron Duw a gyda’n gilydd, i weithio a gweddïo mewn ufudd-dod unol i’n Harglwydd Iesu Grist, fel y caffom drwy’r Ysbryd Glân ein dwyn i un Eglwys weledig i wasanaethu gyda’n gilydd mewn cenhadaeth er gogoniant Duw Dad.

Y Bedyddwyr Cyfamodedig yng Nghymru

Eglwys Bresbyteraidd Cymru

Yr Eglwys Ddiwygiedig Unedig

Yr Eglwys Fethodistaidd

Yr Eglwys yng Nghymru