Rhif 1 (Mai 2017 – Awst 2017)

Pan gefais fy sefydlu yn y swydd ym mis Mai dywedais y buaswn yn ceisio codi proffil Y Cyngor drwy roi gwybodaeth am y digwyddiadau y bum yn gysylltiedig â nhw, yn fy rôl fel Llywydd i’r 4 Tudalen, Y Gwyliedydd, Treasury a’r URC fesul chwatrter a’u crynhoi i “Ddigwyddiadur”. Dyma felly y cyntaf, a’r bwriad yw crynhoi mewn brawddeg neu ddwy yr hyn sydd wedi digwydd fel cronicl byr yn hytrach na manylion llawn.

Mai 16eg

Oedfa Sefydlu’r Llywydd dan arweiniad Y Parch Peter Dewi Richards (Y Llywydd oedd yn ymddeol)

Mai 17eg

Gyrru datganiad i’r wasg a’r cyfryngau gan gynnwys amlinelliad o’r Anerchiad

Mai 17eg

Mynychu’r cyfarfod cyntaf yn cynrychioli CERhC. Cyfarfod o Grŵp Traws Pleidiol ar Ffydd yn y Cynulliad. Cadeirydd oedd Darren Millar,A.C. a thema’r cyfarfod oedd Curo’r Bwci: Cymunedau ffydd yn taclo dibyniaeth gamblo gyda Wynford Ellis Owen, Cyfarwyddwr yr Ystafell Fyw yn arwain. Cafwyd trafodaeth gynhwysfawr a nodwyd nifer o bwyntiau gweithredu ar gyfer Y Cynulliad a byddai Darren Miller yn symud materion yn eu blaen

Mai 21ain

Cyfweliad gyda John Roberts ar Bwrw Golwg am y Llywyddiaeth a’r feirniadaeth a wnaed o’r wasg a’r cyfryngau.

Mai 21

Cael trafodaeth gychwynnol gydag Ynyr Roberts i weld sut y gellir gwella dulliau cyfathrebu’r Cyngor.

Mai 24

Gyrru neges i’r wasg yn apelio ar aelodau’r Eglwysi Rhyddion i arwyddo’r ddeiseb ac yn nodi ein cyfrifoldeb, oherwydd gwaith diflino yr eglwysi rhyddion dros y ddwy ganrif ddiwethaf yn sicrhau trefniant o’r fath.

Mai 24

Paul Gutteridge, Swyddog Polisi Grŵp Eglwysi Rhyddion Prydain yn cysylltu i gynnig ei gymorth ar faterion cyfathrebu. Rhoi ef ac Ynyr mewn cyswllt a’i gilydd.

Mai 24

Gyrru e byst at nifer sylweddol o unigolion ar draws Cymru yn apelio arnynt i arwyddo e ddeiseb a gychwynwyd gan ferch ifanc 13 oed o Gaerdydd yn apelio ar Lywodraeth Cymru i gadw at y trefniadau presennol parthed addoli ar y cyd yn yr ysgolion.

Mehefin 10

Mynychu Cynhadledd Flynyddol y Congregational Federation a oedd eleni yn cael ei chynnal yn Abertawe. Rhyfeddu bod enwad gyda nifer cymharol fechan o eglwysi yn gallu rhwydd lenwi Neuadd y Brangwyn. Trueni na fyddai’r un brwdfrydedd yn cael ei ddangos gan yr eglwysi Cymraeg, Roedd y cyflwyniadau yn goeth a’r trafodaethau yn frwd ac o safon arbennig o uchel.Y penllanw oedd sefydlu Y Parch Martin Spain yn Lywydd am y flwyddyn sy i ddod – ef wrth gwrs yn gyn lywydd ein Cyngor ni.

Mehefin 20

  • Gyrru neges o gydymdeimlad at gymuned Mwslemaidd Caerdydd yn dilyn trychineb Finsbury Park.
  • (ii) Mynychu lansiad Arddangosfa yn y Senedd Cristnogion ar draws y Byd yng Nghymru a’u cyfraniad i’r gymuned. Roedd yn agoriad llygad gweld bod cymaint o grwpaiu Cristnogol o wahanol wledydd y byd o’r tu allan i Ewrop yn bodoli yn Ne Cymru. Roedd yr arddangosfa yn hynod i ddangos a dehongli amrywiaeth eu haddoliad a’u gweithgarwch o fewn eu cymunedau.

Mehefin 23

Cyfweliad gyda John Roberts ar Bwrw Golwg am y trychinebau yn erbyn Mwslemiaid

Gorff 3-5

Mynychu Cymanfa Gyffredinol Eglwys Bresbyteraidd Cymru o dan wahoddiad fel Llywydd Cyngor Eglwysi Rhyddion. Codwyd mater y ddwy e ddeiseb am wasanaethau yn yr ysgolion. Roedd yn braf gallu dweud bod bron i fil yn fwy wedi pleidleisio o blaid gwasanaethau nag oedd wedi pleidleisio yn erbyn. Cefais gyfweliad ar gyfer Bwrw Golwg ble y datblygwyd y mater ymhellach.

Gorff 13

Cyfarfod o Gyngor Rhyng Ffydd Cymru. Trawsdoriad da o gynrychiolwyr y gwahanol grefyddau a phawb yn cyfrannu yn agored. Cyflwyniad diddorol gan ddwy o gaplaniaid carchar y Parc – mae cael caplaniaid yn broblem. Roedd nifer sylweddol o amryfal adroddiadau ar gyfarfodydd yr oedd cynrychiolwyr y Cyngor wedi eu mynychu.

Rhif 2 (Medi-Rhagfyr 2017)

Medi 6

Gyrru neges at Y Parchedicaf John Davies yn ei longyfarch ar ei ddyrchafu yn Archesgob yr Eglwys yng Nghymru ac yn mynegi y gobaith o gyd weithio hapus yn y dyfodol.

Medi 24

Mynychu Diwrnod Coffa Cenedlaethol yr Heddlu. Yn cael ei gynnal ym mhedair gwlad y DU yn eu tro. Cynhaliwyd eleni yn Neuadd Dewi Sant a oedd yn llawn. Gwasanaeth hyfryd a theimladwy gyda’r Parch Tom Evans (Caplan Heddlu Dyfed Powys) yn cyflwyno pregeth amserol iawn. Roeddwn yn cymryd rhan gyfartal â’r Archesgobion!

Medi 28

Annerch Cyfarfod Adran y Gogledd (Cyngor Eglwysi Rhyddion). Cyfarfod am 1.00 i drafod dyfodol yr Adran ac yna am 2.30 Cyfarfod i gyflwyno Medalau Gee i 33 o ffyddloniaid ysgolion Sul y Rhanbarth. Penderfynwyd trosglwyddo cyfrifoldeb Medalau Gee i’r Cyngor Ysgolion Sul a diddymu yr Adran.

Hyd. 2

Mynychu, drwy wahoddiad Cyngor Hindŵ Cymru, Seremoni Dadorchuddio Cofeb o Mohandas Karamchand Gandhi gan Prif Weinidog Cymru ac Uchel Gomisinydd India ym Mae Caerdydd. Cafwyd anerchiad hefyd gan or ŵyr Ghandi – Mr Satish Dhupelia, a ddaeth o Dde Affica ar gyfer y seremoni.

Hyd. 12

 Methu mynychu,lansiad Reconciling Leaders Network, ym Mhalas Lambeth ond fe’n cynrychiolwyd gan Y Parch Richard Brunt a fynegodd fod y cyfarfod yn werthfawr iawn. Un o’r uchafbwyntiau oedd cyfweliad gyda Justin Welby. Siaradodd am ei brofiadau ei hun o gymodi. Gwelsom fideo fer hefyd ar safbwyntiau rhyngwladol yn y maes. Yr oedd yn gyfle da i gwrdd a phobl o eglwysi gwahanol hefyd.

Hyd. 18

 Mynychu digwyddiad yn Y Senedd i “Gofio Pantycelyn”. Cyfraniadau gan Y Llywydd, Y Prif Weinidog a’r Athro Wyn James. Arddangoswyd gwaith celf o’r Per Ganiedydd gan Ivor Davies ac ef ei hun esboniodd y cefndir i’r gwaith. Bydd yn cael ei arddangos yn sefydlog yn y Llyfrgell Genedlaethol oedd wedi refnu y digwyddiad. Roedd paentiad Wynne Melville Jones yn cael ei arddangos hefyd.

Hyd. 31

Gwasnaeth Coffau 500 mlwyddiant dechrau’r Diwygiad Protestanaidd yng Nghadeirlan Metropolitan Dewi Sant, Caerdydd. Cymryd rhan yn y Gwsanaeth yn gyfochrog â’r ddau Archesgob. Gwasanaeth tairieithog hynod iawn. Yn y pnawn cyflwynwyd darlith afaelgar gan yr Athro D Densil Morgan ar “Catholigrwydd Protestaniaeth:etifeddiaeth y diwygiad yn yr unfed ganrif ar hugain”

Tach. 13

Cyfarfod o Cyngor Eglwysi Rhyddion Cymru. Derbyn gwybodaeth fod Cangen y De yn ogystal â’r Gogledd ddim yn bodoli bellach. Cyngor Ysgolion Sul fydd yn gyfrifol am Fedalau Gee i’r dyfodol. Gellir cael copi o Gofnodion y cyfarfod gan Helen Jones(Ysgrifennydd) neu’r Llywydd drwy e bost: Rhys John.helen.jones@btinternet.com NEU rheinallt@talktalk.net Rhag.2 Mynychu a chyflwyno gweddi yn Gymraeg yng Ngwasanaeth Gorseddu Y Parchedicaf Davies yn Archesgob yng Nghadeirlan Aberhonddu. Rhag. 6 Mynychu Cinio Rhyngffydd, yn Neuadd Dinas Caerdydd, wedi ei drefnu gan Gyngor Mwslemaidd Cymru. Dau siaradwr gwâdd Y Parchedicaf John Davies (Archesgob) a Dr Mustafa Ceric (Mufti Aruchaf Emeritus Bosnia). Tua 400 yn bresennol a phob cyflwyniad yn gwbl ddwyieithog (Cymraeg a Saesneg) ac yn esiampl godidog i rai cyrff crefyddol a chyhoeddus eraill yn ein gwlad.

Rhag.7

Mynychu cyfarfod blynyddol Cyngor Rhyng Ffydd Cymru. Tri chyflwyniad diddorol ac effeithiol ar: Gynhadledd Rhyng ffydd i’w chynnal mis Mai nesaf; Cynllun Argyfwng Dinas Caerdydd; Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth.

Rhag.13

Mynychu cyfarfod Grŵp Trawsbleidiol ar Ffydd yn y Cynulliad. Y pwnc oedd Caplaniaeth yn seiliedig ffydd: A yw’n werth chweil? Cyfraniadau arbennig o oleuedig gan Gaplaniaid yn gweithio mewn ysbytai, carchardai ac adloniant – dangos yn glir gwerth gwaith fel hyn ac nad oedd bwys pa gred nac enwad oeddech.

Rhag.19

Mynychu cyfarfod yn Y Plasty, ar wahoddiad Y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Dinas Caerdydd, i drafod gydag Arweinwyr Ffydd eraill sut y gall Y Cyngor a’r Cymunedau Ffydd gyd weithio i gyfarfod ag anghenion dinas sydd mor amrywiol. Cyfarfod diddorol a buddiol gyda Chynghorwyr, Prif Weithredwr a 10 ohonom yn cynrychioli amrywiaeth o gredoau.

Rhif 3 – (Ionawr-Mawrth 2018)

Fel y gwelwch mae misoedd y gwanwyn wedi bod dipyn distawach na’r wyth mis cynt– ond eto profiadau amrywiol a diddorol dros ben ac mae’n fraint cael chwifio baner Cyngor Eglwysi Rhyddion Cymru yn yr amrywiol gyrchfannau.

Ion 9

Mynychu Dathliad Deucanmlwyddiant – Geni Bahá’u’lláh – sylfaenydd y ffydd Bahá’i yn Y Senedd. Cyflwyniadau diddorol ac addysgiadol. Hefyd cafodd bawb gopiau Cymraeg a Saesneg o “Y Geiriau Cudd” sy’n arweinlyfr yn cynnwys 82 o ddatganiadau gan Y Sylfaenydd sy’n arwain i fydoedd ysbrydol Duw.

Maw 5

Mynychu cyfarfod rhyng enwadol yn swyddfeydd yr Eglwys yng Nghymru i glywed am a thrafod oblygiadau y “Rheolau Gwarchod Data Newydd” sy’n dod i rym ar y 25ain o Fai eleni. Mae yna oblygiadau pell gyrhaeddol i bob sefydliad bydded grefyddol neu seciwlar sy’n cysylltu ag aelodau ayyb.

Maw 20

Mynychu cyfarfod Cyngor Rhyng Ffydd Cymru. – nifer o Adroddiadau yn deillio o gyfarfodydd a fynychwyd gan gynrychiolwyr ond treuliwyd amser sylweddol yn cytuno ar Gyfansoddiad i’r Cyngor.

Rheinallt A Thomas, Llywydd, Cyngor Eglwysi Rhyddion Cymru Gwelfor, 65 Lacuna Windsor Esplanade, CAERDYDD, CF10 5BG e bost: rheinallt@talktalk.net