Mae Cyngor Eglwysi Rhyddion Cymru yn cynnwys cynrychiolwyr o Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, Undeb Bedyddwyr Cymru, Undeb Bedyddwyr Prydain, Eglwys Bresbyteraidd Cymru, yr Eglwys Ddiwygiedig Unedig yng Nghymru, y Gynghrair Gynulleidfaol yng Nghymru, yr Eglwys Fethodistaidd yng Nghymru, Byddin yr Iachawdwriaeth yng Nghymru a Y Cynulleidfaoedd Lutheraidd,Diwygiedig ac Unedig Almaeneg eu hiaith yng Nghymru. Rhyngddynt, mae gan yr enwadau hyn rhyw 65,000 o aelodau mewn 1,600 o eglwysi ledled Cymru, yn addoli trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.

Yn ei gyfarfod ar Mehefin 23ain 2021 sefydlwyd Y Parchedig Simon Walkling yn Lywydd newydd Y Cyngor am y dair blynedd nesaf. Arweiniwyd y seremoni gan y Llywydd presennol,Mr Rheinallt Thomas. Dechreuodd y gwasanaeth drwy air o weddi gan y Llywydd. Darllenwyd rhan o’r ysgrythur o Rhufeiniaid 12: 3 – 13 gan yr Ysgrifennydd ac offrymwyd gweddi gan y Cyn Lywydd Parchg. Peter Dewi Richards.

Gwnaeth y Llywydd Ymadawol ddatganiad o bwrpas y gwasanaeth, sef i sefydlu Parchg. Simon Walkling yn Lywydd y Cyngor am y dair mlynedd nesaf. Gofynnodd y Llywydd i’r Ysgrifennydd i dystio i reoleidd-dra’r penodiad. Atebodd hithau fod y penodiad wedi ei gadarnhau yng nghyfarfod y Cyngor ar 14 Tachwedd 2019. Gofynnwyd cwestiynau i’r Llywydd Etholedig ac wedi cadarnhau eu gweithredu arwisgwyd ef â gŵn a medal ei Swydd. Trosglwyddwyd y Llywyddiaeth i’r Llywydd Etholedig. Gorffennodd y ddefod gyda gweddi’r sefydlu.

Ar ôl y weddi sefydlu, ychwanegodd Simon ei ddiolch i’r rhai a fynegwyd gan aelodau eraill am bopeth yr oedd Rheinallt wedi’i ddwyn i rôl y Llywydd. Dywedodd fod Rheinallt wedi dod â phrofiad ym myd addysg a bywyd capel gyda chyfaredd, argyhoeddiad a gwên. Diolchodd yn arbennig iddo am wasanaethu blwyddyn ychwanegol trwy cyfyngiadau pandemig, pan oedd cyfarfodydd eciwmenaidd wedi lleihau ond roedd yr ymgysylltiad â Llywodraeth Cymru wedi cynyddu.

Nododd Simon fod y darlleniad o Rhufeiniaid 12 yn defnyddio delwedd Corff Crist, a dywedodd fod delwedd Iesu fel y winwydden a ninnau fel y canghennau hefyd yn mynegi ein hundod hanfodol yng Nghrist ac yn dwyn ffrwyth i eraill. Soniodd am waith pwysig y Cyngor wrth fynegi llais anghydffurfiol hynod, yn enwedig ym meysydd caplaniaeth, addysg a datblygiad ysbrydol.

Diolchodd i’r aelodau am roi eu hymddiriedaeth ynddo i fod yn gynrychiolydd effeithiol a gofynnodd am eu harweiniad wrth weithio allan sut mae’r Cyngor yn ffitio o fewn grwpiau eciwmenaidd eraill a sut mae capeli lleol yn cysylltu â gwaith y Cyngor. Roedd yn gobeithio y byddai cyfarfodydd y Cyngor yn datblygu perthnasoedd eciwmenaidd yn ogystal â monitro’r gwaith a wneir rhwng cyfarfodydd. Awgrymodd y gallem ddysgu oddi wrth ein gilydd am addoliad a disgyblaeth ‘Zoom’, ac archwilio posibiliadau o weithio’n eciwmenaidd ar-lein.

Eglwysi-Rhyddion-2021

Mrs Helen Jones (Ysgrifennydd); Parchedig Simon Walkling a Mr Rheinallt Thomas