Papur briffio byr am ddeddfwriaeth Brexit a datganoli yng Nghymru

Ar 17 Hydref 2019, fe gyhoeddwyd Cytundeb Ymadael diwygiedig i’r Deyrnas Unedig ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, ynghyd â datganiad gwleidyddol am fwriadau negodi perthynas y DU a’r UE i’r dyfodol, a threfniadau ar gyfer derbyn cydsyniad y Cynulliad yng Ngogledd Iwerddon ar gyfer trefniadau arbennig ar gyfer y dalaith honno. Ar 19 Hydref, penderfynodd Tŷ’r Cyffredin ohirio cymeradwyo’r Cytundeb hyd nes y byddai Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael) wedi ei chymeradwyo. Cyflwynwyd y Bil hwnnw i’r Tŷ ar 21 Hydref ac fe dderbyniodd Ail Ddarlleniad (cytundeb mewn egwyddor) ar 22 Hydref. Fe gollir y Bil pan ddiddymir y Senedd ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol, ond os yw’r Blaid Geidwadol yn ennill yr etholiad hwnnw disgwylir iddo gael ei ail-gyflwyno gyda’r bwriad o’i basio cyn ymadael â’r Undeb Ewropeaidd ar 31 Ionawr 2020. Gellir darllen esboniad llawnach o’r broses ddeddfu fan hyn.

Mae’r Cytundeb newydd hwn yn debyg mewn llawer ffordd i’r Cytundeb blaenorol na lwyddodd San Steffan i’w dderbyn pan oedd Theresa May yn Brif Weinidog, ond mae wedi’i lunio y tro hwn gan ragweld perthynas rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol ar sail Cytundeb Masnach Rydd a chyfres o gytundebau eraill mewn meysydd megis diogelwch a phlismona, addysg uwch ac ymchwil, cydweithredu ar atomfeydd, ayb, yn hytrach nag ar sail un bartneriaeth “ddofn ac arbennig” fel y rhagwelwyd gan lywodraeth Mrs May.

Y gwahaniaeth ddenodd fwyaf o sylw yw trin yr Iwerddon gyfan (y Gogledd a’r Weriniaeth) fel parth rheoleiddiol ar gyfer bwyd, diod, anifeiliaid a nwyddau, ac i greu ffin tollau gweinyddol rhwng yr ynys a gweddill y Deyrnas Unedig. Fe fydd gan hyn oblygiadau ymarferol sylweddol i borthladdoedd Caergybi, Doc Penfro, Abergwaun ac Abertawe o ran llongau sy’n teithio rhyngddynt â’r Iwerddon. Mae’r porthladdoedd hyn wedi eu datganoli i Lywodraeth Cymru, ac fe ddywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford ar Sunday Politics Wales ar 20 Hydref, fod y Llywodraeth yn gweithio ar hyn, ond bod hynny’n anodd gan fod hwn yn newid polisi sydyn gan Lywodraeth y DU. Bydd gohirio ymadael tan 31 Ionawr 2020 yn rhoi rhywfaint mwy o gyfle i osod trefniadau yn eu lle.

Mae’r Bil yn cynnwys pwerau i Lywodraeth Cymru weithredu’r Cytundeb Ymadael mewn meysydd datganoledig, a bydd angen Cydsyniad Deddfwriaethol y Cynulliad ar gyfer nifer o’i gymalau. (Gellir gweld rhestr gyflawn o’r cymalau hyn ar dudalennau 118-119 o Nodiadau Eglurhaol Llywodraeth y DU am y Bil). Ni chafwyd amser i gynnig Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ffurfiol i’r Cynulliad hyd yma, ond fe bleidleisiodd y Cynulliad ar Hydref 22 o 37-16 pleidlais i beidio â rhoi cydsyniad i’r Bil ar ei ffurf bresennol. Hyd yn oed pe na cheid cydsyniad, fe allai Senedd San Steffan weithredu’r Bil – fel y gwnaed gyda Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 wedi iddo fethu â derbyn cydsyniad Senedd yr Alban.

Gydag addoedi Senedd San Steffan ar 8 Hydref, fe gollwyd nifer o ddeddfau angenrheidiol eraill ar gyfer sicrhau trefniadau cyfreithiol llawn i’r Deyrnas Unedig ar ôl ymadael â’r Undeb Ewropeaidd. Ymhlith y rhain oedd y Bil Amaeth a’r Bil Pysgodfeydd, a oedd yn cynnwys rhoi pwerau angenrheidiol i Weinidogion Cymru i weinyddu yn y meysydd hyn hyd nes y gall Cynulliad Cenedlaethol Cymru gytuno deddfau Cymreig. Os cadarnheir y Cytundeb Ymadael maes o law gan San Steffan, fe fydd yna Gyfnod Gweithredu (neu Gyfnod Trosiannol) tan Ragfyr 2020 a fyddai’n rhoi cyfle i basio’r ddeddfwriaeth hon, er y byddai’r amser yn dynn iawn ar gyfer craffu effeithiol ar ddeddfwriaeth fanwl a chymhleth. Mae’n bosibl y gellid ymestyn y Cyfnod hwn tan Ragfyr 2021 neu Ragfyr 2022 trwy gytundeb o’r ddeutu rhwng y DU a’r UE erbyn diwedd Gorffennaf 2020.

Pe na byddai’r ddeddfwriaeth hon yn cael ei phasio’n gyflawn cyn y dyddiad ymadael, nid yw’n eglur sut y byddai Llywodraeth Cymru yn gweithredu heb y pwerau angenrheidiol yn y meysydd hyn. Mae yna berygl sylweddol y byddai raid i Lywodraeth Cymru a/neu Lywodraeth y DU weithredu ar frys trwy is-ddeddfwriaeth dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018. Prin yw’r cyfle i’r seneddau graffu ar is-ddeddfwriaeth frys, ac nid oes posibl ei gwella yn seneddol. Os gwneir is-ddeddfwriaeth o ran materion datganoledig yn San Steffan, yna ni bydd cyfle gan y Cynulliad graffu arni o gwbl.

Collwyd hefyd y Bil Masnach, a oedd ar ei gyfnod trafod olaf yn San Steffan, a oedd yn rhoi pwerau craffu i San Steffan ac yn gwarantu ymgynghori â Llywodraeth Cymru, am faterion – gan gynnwys materion datganoledig – allai gael eu heffeithio gan gytundebau masnach yr Undeb Ewropeaidd fyddai’n cael eu cymhwyso hefyd i’r Deyrnas Unedig ar ôl ymadael. Deëllir nad yw’n fwriad ail-gyflwyno’r Bil hwn ac y bydd y cytundebau hyn yn cael eu cadarnhau bellach trwy bwerau Llywodraeth y DU dan y Rhagorfraint Frenhinol. Prin yw gallu San Steffan, ac nid oes unrhyw allu gan y Cynulliad, i graffu ar y defnydd o’r pwerau hyn. Fe ymddengys hefyd y gall fod yna fwriad i negodi a chadarnhau cytundebau masnach cwbl newydd, a fyddai bron yn sicr yn effeithio ar faterion datganoledig, gan ddefnyddio pwerau rhagorfreiniol.

Yn y sesiwn fer o Senedd San Steffan a gychwynnwyd ar Hydref 14, fe gyflwynwyd am y tro cyntaf Bil yr Amgylchedd. Mae hwn hefyd yn cynnwys trefniadau newydd ar reolaeth amgylcheddol yn y DU, gan gynnwys yng Nghymru. Mae’r Bil yn gymhleth, gyda chlytwaith o gymalau sy’n ymwneud â materion datganoledig a rhai nad ydynt. Bydd angen i’r Cynulliad gydsynio â’r Bil hwn, ond yn San Steffan y bydd y prif drafod. Fe gollir y Bil hwn hefyd gyda difodi’r Senedd erbyn yr Etholiad Cyffredinol. Disgwylir i Lywodraeth Cymru gyflwyno deddfwriaeth benodol Gymreig maes o law. Heb honno, bydd y Bil hwn hefyd yn angenrheidiol i Lywodraeth Cymru weithredu ar ôl ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.

Gethin Rhys, Swyddog Polisi   31.10.2019