Trefn gwasanaeth ar gyfer Sul yr Hinsawdd

Awgrymir yma deunydd y gellir ei gynnwys mewn Gwasanaeth y Gair.

Paratoad

Cyfarchiad:

O Dduw, brysia i’n gwaredu.
Pawb    O Arglwydd, prysura i’n cynorthwyo.
Anfon dy Ysbryd, O Arglwydd
Pawb     ac adnewydda wyneb y ddaear.

Gweddi mewn edifeirwch:

Dduw’r creawdwr, a wnaethost y nefoedd a’r ddaear,
cydnabyddwn i ni fethu â byw mewn modd cyfrifol
fel rhan o’th greadigaeth.
Rydym wedi cymryd yr hyn oeddem ei eisiau,
heb ystyried y canlyniadau;
rydym wedi gwastraffu a thaflu ymaith,
heb hidio am y dyfodol.
Agor ein calonnau a’n meddyliau i weld arwyddion ein hamserau,
i glywed ochneidio’r greadigaeth,
fel y bydd i ni gefnu ar ein trachwant a’n diffyg gweledigaeth
a gweld byd sydd yn cael ei greu o’r newydd drwy Iesu Grist ein Harglwydd.
Pawb     Amen.

Colect:
Dduw’r gogoniant,
mae’r greadigaeth gyfan yn cyhoeddi rhyfeddod dy waith:
atgyfnertha ynom y gallu i ryfeddu ac ymhyfrydu ynddi,
fel y bydd moliant y nefoedd yn adleisio yn ein calonnau
ac y treuliwn ein bywydau fel stiwardiaid effeithiol ar y ddaear,
drwy Iesu Grist ein Harglwydd,
Pawb     Amen.

Litwrgi’r Gair

Pregeth:
Ar gyfer pregethau ar themâu yn ymwneud â’r greadigaeth yn seiliedig ar y llithiadur, gallwch edrych ar yr adran ‘Pregethau’ ar dudalen adnoddau Sul yr Hinsawdd.

Ymrwymo i ofalu am y greadigaeth

‘Tra bo’r holl greaduriaid yn sefyll yn ddisgwylgar, beth fydd canlyniad ein rhyddid?’ (Thomas Traherne)

Wrth i’r greadigaeth gyfan ddisgwyl mewn hiraeth eiddgar am waredigaeth y ddynoliaeth, ymrwymwn o’r newydd i‘r Duw a’n creodd, y Tad, ffynhonnell popeth sy’n bod, y Mab y gwneir popeth drwyddo, a’r Ysbryd Glân, rhoddwr bywyd, sydd yn adnewyddu wyneb y ddaear.
Safwn i gadarnhau ein hymrwymiad i ofalu’n ymarferol am greadigaeth Duw.

Pawb     Arglwydd bywyd a’r un sy’n rhoi gobaith,
                ymrwymwn i ofalu am y greadigaeth,
                i leihau ein gwastraff,
                i fyw’n gynaliadwy,
                ac i werthfawrogi amrywiaeth gyfoethog bywyd.
                Bydded i’th ddoethineb ein tywys,
fel y bydd i fywyd o bob math ffynnu
a lleisio’n ffyddlon foliant y cread.
Bydded i ni fyw yn gyson â’r ymrwymiad a wnaethom heddiw.
Pawb     Amen. Amen. Amen.

Gweddïau

Ymbiliau:

Efallai y byddwch yn dymuno cynnwys y weddi hon dros gynhadledd COP26 ymhlith eich ymbiliau:

Dduw’r Creawdwr, rhoddwr bywyd,
ti sy’n cynnal y ddaear ac yn cyfarwyddo’r cenhedloedd.
Yn nyddiau argyfwng yr hinsawdd                                                                                                                          
rho i ni glywed yn eglur
ochneidio’r greadigaeth a llefain y tlodion;
heria ni i newid ein ffordd o fyw;
tywys ein harweinwyr i weithredu’n eofn;
gwna dy Eglwys yn goelcerth gobaith;
a meithrin ynom weledigaeth newydd
o’th fwriadau di ar gyfer dy fyd;
trwy Iesu Grist ein Harglwydd,
gan yr hwn ac er mwyn yr hwn y gwnaed popeth sydd yn bod,
Amen.

Diweddglo

Y Fendith:

Bydded i Dduw’r Ysbryd Glân,
a fu’n ymsymud uwchlaw dyfroedd y creu
ac a greodd y byd o’r gwacter,
eich ffurfio ar ddelw Crist ac adnewyddu wyneb y ddaear.
Pawb     Amen.

Mae’r holl ddeunydd uchod dan hawlfraint ⓗ Cyngor Archesgobion Eglwys Loegr 2006, 2015, 2020. Cyhoeddwyd gyntaf 2020.
Cyfieithwyd dan nawdd Cytûn – Eglwysi ynghyd yng Nghymru ar gyfer Sul yr Hinsawdd.

Gweddïau a brawddegau priod ar gyfer yr Ewcharist
yn ystod Tymor y Cread a Sul yr Hinsawdd

Awgrymir y rhain i’w defnyddio pan yn addas, yn unol ag arferion enwadol neu leol.

Brawddegau ar gyfer y Gyffes

Naill ai:

Am yr adegau hynny pan fu i ni esgeuluso’r rhai di-lais, 
Arglwydd Trugarha.
Am yr adegau hynny pan mae ein perthynas â’r greadigaeth yn dadfeilio,
Crist Trugarha.
Am yr adegau hynny pan fuom yn amharod i wynebu problemau yn y byd hwn,
Arglwydd Trugarha.

Neu:

Am yr adegau hynny pan fu i ni esgeuluso trugaredd,
Arglwydd Trugarha.
Am yr adegau hynny pan gymerasom fwy na’n cyfran deg,
Crist Trugarha.
Am yr adegau hynny pan fu i ni anghofio ein dyled i’r ddaear,
Arglwydd Trugarha.

Rhaglithiau priod (i’w cynnwys yn y Weddi Diolch Ewcharistaidd)

1.

Yr hwn a ddewisodd roi rhoddion gorau’r deyrnas i’r olaf a’r lleiaf
fel y gall y ddaear gyfan ganu ag un llais.

2.

Yr hwn y mae ei deyrnas wedi’i hadeiladu ar drugaredd a maddeuant,
Yr hwn a safodd gyda’r rhai di-lais ac a glywodd lefain y ddaear,
Yr un sy’n llawenhau am y rhai sy’n edifarhau.

3.

Yr un sy’n ein gwahodd i gyd-greu ag yntau a gosod sylfeini teyrnas nefoedd ar y ddaear,
fel y gallwn gydlawenhau mewn byd a iachâwyd.

Stuart Elliott