Ers dyfodiad y Cynulliad Cenedlaethol ym Mai 1999 fe gynhyrchodd Cytûn lu o bapurau ar ddatganoli.

Ym Mehefin 2020, cyhoeddwyd papur gwyntyllu gan Cytûn ar y cyd â Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru yn archwilio agweddau ar ddyfodol Cymru yn dilyn argyfyngau Brexit a Covid-19, a chyda’r argyfwng hinsawdd yn parhau. Mae’r papur yn rhan o gyfres o bapurau a phodlediadau i brocio’r meddwl ac ysgogi ymateb dan yr enw #DyfodolGwellCymru. Gellir cyrchu’r holl bapurau a phodlediadau yma – https://wcva.cymru/cy/dylanwadu/brexit/  Gellir lawrlwytho papur Cytûn o’r dudalen yma, a gellir gwrando ar y podlediad cyfatebol yma: https://soundcloud.com/wcvacymru/newid-yr-hinsawdd-climate-change