Eleni cafwyd blwyddyn o brofiadau gwahanol, fodd bynnag, mae ein gwaith tystiolaeth yn y tair prif ŵyl genedlaethol yn cael ei wreiddio mewn addoli a chymrodoriaeth. Y gwahaniaeth cyntaf oedd bod gennym Hwylusydd Ffydd, Trefn a Thystiolaeth newydd, Peredur Owen Griffiths, yn cydlynu ein presenoldeb yn y tair prif ŵyl. Yr ail wahaniaeth oedd bod Eisteddfod yr Urdd yn cael ei gynnal ar faes Sioe Amaethyddol Frenhinol. Roedd yn wythnos brysur a bûm yn gallu darparu llwyfan ar gyfer gwaith partneriaid megis Cyngor Ysgol Sul Cymru ac Agor y Llyfr. Y bonws eleni oedd fod ein ffrindiau, Caplaniaid y Sioe, yn gweithio ochr yn ochr â ni am yr wythnos. Daeth llawer o blant i’r babell a chafwyd adrodd llawer iawn o’u hoff straeon o’r Beibl.

Gweithiodd Cytûn yn agos gyda’r caplaniaid gwledig ac eraill i sicrhau bod gan yr eglwysi bresenoldeb cryf yn y Sioe Amaethyddol Frenhinol. Llofnodwyd Cytundeb Partneriaeth newydd eleni i hybu a datblygu ymhellach waith y Caplaniaid ar Faes y Sioe. Roedd gan lawer o’n heglwysi a’n grwpiau  bresenoldeb amlwg yn y babell ac rydym yn ddiolchgar iddynt oll am eu cefnogaeth. Unwaith eto, helpodd Cytûn i broffilio gwaith yr eglwysi yng nghyd-destun bywyd gwledig.

Y gwahaniaeth olaf eleni oedd yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd. Er bod y “Maes” yn wahanol, roedd pabell Cytûn yn lle cyfarfod i bawb. Gyda’n cymdogion Cymorth Cristnogol, fe wnaethon ni fwynhau wythnos wych yn siarad, dysgu, gwrando ac addoli gyda’i gilydd. Cynhaliwyd yr addoliad boreol bob dydd gan nifer o’r grwpiau ecwmenaidd a’n heglwysi sy’n aelodau o Cytûn. Heb eu hymroddiad ni fyddai’r Eisteddfod wedi bod mor llwyddiannus.

Gyda blwyddyn o wahaniaethau y tu ôl i ni, rydym yn symud ymlaen i flwyddyn a fydd yn fwy traddodiadol ond rhaid cofio dysgu o’r profiadau o wneud pethau’n wahanol.