Gweddi Byw’n Syml
Dduw trugarog a chariadus,

creaist y byd i ni oll ei rannu, byd o harddwch a digonedd.

Crea ynom ddyhead i fyw’n syml,

fel y gall ein bywydau adlewyrchu dy haelioni.

Dduw’r Creawdwr, rhoddaist i ni gyfrifoldeb dros y ddaear, byd llawn cyfoeth a hyfrydwch.

Crea ynom ni ddyhead i fyw mewn modd cynaliadwy, fel y gall y rhai a fydd yn ein dilyn fwynhau ffrwythau dy gread.

Dduw heddwch a chyfiawnder, rwyt yn rhoi i ni’r gallu i newid, i sefydlu byd sy’n adlewyrchu dy ddoethineb dithau. Crea ynom ni’r awydd i weithredu ynghyd, fel y dymchwelir colofnau anghyfiawnder ac y rhyddheir y rhai y mae gormes yn eu llethu heddiw.

Amen.

Troedia’n dyner

 Mae pob deilen, pob petal,

pob gronyn, pob bod dynol,

yn dy glodfori,

Dduw’r Creawdwr.

Mae pob creadur yn y byd,

yr holl fynyddoedd a’r moroedd mawrion,

yn cyhoeddi dy ogoniant,

ysbryd cariad.

Ac eto

mae crafanc trachwant

wedi atafaelu ac anrheithio

dy ysblander,

wedi meddiannu dy roddion

a heb eu rhannu,

wedi ymhonni’n berchennog ar y ddaear,

yn lle byw fel gwestai yma.

Ac felly,

mae’r rhew yn teneuo,
mae afonydd yn sychu,

mae llifogydd yn llyncu’r dyffrynnoedd,

a’r eira’n diflannu o’r copaon.

Dduw ein Tad, dangos inni

sut i droedio’n dyner,

sut i fyw’n syml,

gan barchu a charu

popeth a wnaethost.

Amen

Cydnabyddiaeth: Linda Jones, CAFOD
Cyfieithwyd i’r Gymraeg gan Siôn Aled Owen.

Mae Byw’n Syml yn ymgyrch gan CAFOD i hybu byw cynaliadwy mewn cymunedau eglwysig. Gellir gweld manylion pellach yma.