Parch. Siôn Brynach | Prif-Weithredwr

Sion@cytun.cymru

Siôn Brynach yw Prif Weithredwr Cytûn ers Ebrill 2023. Roedd gynt yn Bennaeth Cyfathrebu a Materion Cyhoeddus Cyngor Celfyddydau Cymru, ar ôl bod yn Brif Weithredwr Hanfod Cymru (2017-18), yn Ymgynghorydd Atebolrwydd dros Ymddiriedolaeth y BBC am ddeng mlynedd (2006-2017) ac yn aelod o dîm BBC Cymru Fyw, arweinydd tîm y wasg a chyfathrebu’r Archesgob ar gyfer yr Eglwys yng Nghymru (2000 a diwedd 2006) a British Gas (1996-2000). Cafodd ei ordeinio’n ddiacon yn yr Eglwys yng Nghymru yn 2020 ac yn offeiriad yn 2022 ac bu’n gwasanaethu fel curad cynorthwyol hunangynhaliol yn Eglwys Crist, Parc y Rhath, Caerdydd rhwng 2020 a 2023. Bellach mae’n offeiriad hunan-gynhaliol yn Eglwys Crist. Cafodd ei eni ym Mangor a’i fagu yn Nyffryn Nantlle a Gorseinon, ac mae ganddo gysylltiadau teuluol cryf gyda gogledd Sir Benfro a Cheredigion hefyd.

Addysgwyd ef yn Adran y Gymreg, Prifysgol Bangor a Choleg yr Iesu, Rhydychen. Mae’n byw yng Nghaerdydd ers 1993, yn briod â Cathrin ac mae ganddynt bedwar o blant. Mae’n siaradwr Cymraeg rhugl.