Etholiadau Ewropeaidd – Sesiwn Holi ac Ateb

Bu Cytûn yn cydweithio â WCIA (Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru) a PLANED (Rhwydwaith Gweithredu Lleol Sir Benfro ar gyfer Menter a Datblygu) i drefnu sesiwn holi ac ateb i ymgeiswyr ar nos Iau 9fed Mai 2019 am 7 yng Ngholeg Sir Benfro, Hwlffordd. Fe ddarlledwyd y noswaith yn fyw ar Facebook Live. Dyma fideo o’r digwyddiad.

Gwahoddwyd yr holl bleidiau hynny sydd wedi cyhoeddi rhestr ymgeiswyr ar gyfer Cymru. Dewisodd chwe phlaid fynychu; dewisodd y ddwy blaid arall beidio â dod. Buom yn canolbwyntio ar y materion byd-eang y bydd ASEau Cymru yn gyfrifol am gyfrannu at benderfyniadau yn eu cylch cyhyd ag y byddant yn Senedd Ewrop – megis newid hinsawdd, mudo, datblygiad economaidd ac amaethyddiaeth. Yn naturiol, fe drafodwyd Brexit hefyd! Cadeiriwyd y cyfarfod gan y Tra Pharchedig Ddr Sarah Rowland-Jones, Deon Cadeirlan Tyddewi, sydd yn gyn ddiplomydd ar ran y DU ac yn glerig profiadol o fewn yr Eglwys yng Nghymru.