Addoli

Cynhaliwch wasanaeth sy’n canolbwyntio ar yr hinsawdd, i archwilio sail ddiwinyddol a gwyddonol gofal am y cread a gweithredu ar yr hinsawdd, gweddïo, ac ymrwymo i weithredu.

Archwiliwch isod ac ar dudalen adnoddau gwefan Sul yr Hinsawdd i gael adnoddau ysbrydoliaeth ac addoli i weddu i bob traddodiad eglwysig a pheidiwch ag anghofio cofrestru’ch gwasanaeth fel y gallwn eich cyfrif chi !

Ymrwymo

Gwnewch ymrwymiad fel cymuned eglwysig leol i gymryd camau tymor hir i leihau ei hallyriadau nwyon tŷ gwydr eich hun.

Ymunwch ag un o’r rhaglenni presennol fel Eco Church neu LiveSimply
Paratowyd y canllaw isod i EcoChurch gan Esgobaeth Bangor yr Eglwys yng Nghymru

Codi llais

Codwch eich llais i ddweud wrth wleidyddion eich bod chi eisiau dyfodol glanach, gwyrddach a thecach wrth galon cynlluniau i ailadeiladu economi gref.

Darllenwch a llofnodwch Ddatganiad ‘Dyma’r Amser’ Clymblaid yr Hinsawdd fel unigolyn ac fel eglwys.

Defnyddiwch y fwydlen ar ben y dudalen i gyrchu llu o adnoddau ychwanegol ar gyfer Sul yr Hinsawdd

Beth yw Sul yr Hinsawdd?

Mae menter Sul yr Hinsawdd yn galw ar bob eglwys leol, enwad, ffrwd a rhwydwaith Cristnogol i gynnal oedfa yn canolbwyntio ar yr hinsawdd ar unrhyw ddyddiad cyfleus o 6 Medi 2020. Yn yr oedfa hon bydd cynulleidfaoedd yn cael eu hannog i wneud ymrwymiad byr a syml i fwy o weithredu i fynd i’r afael â newid hinsawdd yn eu haddoldy a’u cymuned eu hunain, ac i godi llais i alw am weithredu mwy cadarn gan lywodraethau. Fe fydd amrywiaeth o ddeunydd addoli ac adnoddau eraill yn cael eu darparu ymlaen llaw fel y gall eglwysi ddewis yr hyn sydd fwyaf addas i’w traddodiad a’u hanghenion. Ein gweledigaeth yw gadael etifeddiaeth barhaol o filoedd o eglwysi ar draws y Deyrnas Unedig fydd wedi’u harfogi’n well i fynd i’r afael â’r mater tyngedfennol hwn fel rhan o’u disgyblaeth a’u cenhadaeth arferol; a gwneud cyfraniad sylweddol iawn i ymdrechion cymdeithas ddinesig i sicrhau gweithredu cenedlaethol a rhyngwladol yng nghynhadledd COP26 a gynhelir yn Glasgow yn ystod 2021.

Pwy sy’n trefnu Sul yr Hinsawdd?

Mae Sul yr Hinsawdd yn cael ei drefnu gan Rwydwaith Materion Amgylcheddol Eglwysi ynghyd ym Mhrydain ac Iwerddon. Mae hwn yn dwyn ynghyd arweinyddion amgylcheddol y prif enwadau, rhai urddau Cristnogol, a’r asiantaethau Cristnogol sy’n ymwneud â’r amgylchedd, argyfyngau a datblygu. Ymhlith y mudiadau sy’n aelodau sydd eisoes wedi cefnogi’r fenter yn ffurfiol mae CAFOD, Cymorth Cristnogol, Tearfund, A Rocha, Operation Noah, Green Christian, Eglwys Loegr, yr Eglwys Fethodistaidd,  Undeb Bedyddwyr Prydain Fawr, yr Eglwys Ddiwygiedig Unedig, Eglwys yr Alban, Cytûn (Eglwysi ynghyd yng Nghymru) a’r Eglwys yng Nghymru.