GALW AM DYSTIO I WAITH CYMUNEDAU FFYDD YN CYDLYNU CYMUNEDAU CYMRU
Mae dau gyfle ‘byw’ ar hyn o bryd i ddangos y rôl bwysig y mae cymunedau ffydd, gan gynnwys eglwysi Cristnogol, yn ei chwarae wrth wasanaethu holl gymunedau lleol Cymru.
Y cyntaf yw ymchwiliad gan Bwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol Senedd Cymru i gydlyniant cymdeithasol yng Nghymru. Fel yr eglura’r pwyllgor, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyfres o raglenni dros nifer o flynyddoedd wedi’u cynllunio i feithrin cydlyniant cymdeithasol – dod â sectorau amrywiol o’r gymuned ynghyd i gyd-fyw a chyd-weithio. Mae’r rhaglenni hyn wedi dwyn amryw o enwau gwahanol a ffrydiau ariannu (bach) ynghlwm wrthynt. Mae’r diweddaraf yn rhan o Gynllun Cydraddoldeb Strategol Llywodraeth Cymru 2024-28. Nid yw’r cynllun terfynol wedi’i gyhoeddi eto, er gwaethaf y bwriad gwreiddiol y dylid ei roi ar waith o 2024.
Cyfrannodd Cytûn at yr ymgynghoriad ar y Cynllun hwn, fel y gwnaeth gydag ymgynghoriadau blaenorol, gan bwysleisio’r rôl bwysig y mae cymunedau ffydd yn ei chwarae wrth feithrin cydlyniant cymdeithasol, a nodi bod y rôl hon yn aml yn cael ei thanbwysleisio mewn strategaethau ac ymgynghoriadau a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru. Mae’r ffordd y mae rhai cyfryngau a chyfryngau cymdeithasol yn dweud bod tensiynau cymunedol yn seiliedig ar grefydd wedi ychwanegu at bwysigrwydd dangos sut mai’r gwrthwyneb sydd yn aml yn wir.
Dangosodd yr aflonyddwch yng Nghaerdydd ac Abertawe yn haf 2023 ac mewn rhannau o Loegr a Gogledd Iwerddon yn haf 2024 ganlyniadau diffyg cydlyniant cymdeithasol, a sut y gall grwpiau penodol gael eu gwneud yn fychod dihangol a’u targedu. Mae llawer o’r gwaith o feithrin cydlyniant yn dawel a di-gyhoeddusrwydd, ond mae Cytûn yn awyddus i gyfrannu ambell enghraifft i’r ymchwiliad diweddaraf hwn. Byddem yn croesawu astudiaethau achos o waith mewn cymunedau lleol – i’w hychwanegu at y rhai yr ydym eisoes yn ymwybodol ohonynt. Gall hyn fod ar ffurf dolenni i waith sydd eisoes wedi’i gyhoeddi, gwefannau, postiadau ar gyfryngau cymdeithasol, ac ati. Gan fod yr alwad am dystiolaeth yn dod i ben ar Chwefror 14, mae angen i ni glywed gennych erbyn Chwefror 7, os gwelwch yn dda.

Mae Nathan Sadler, Swyddog Polisi Cyhoeddus Cymru ar gyfer y Gynghrair Efengylaidd yn cyflwyno’r ail gyfle i ddangos sut rydym yn gweithio mewn cymunedau. Mae Cytûn yn annog ei holl aelod eglwysi a mudiadau i gymryd rhan – ychydig funudau sydd ei angen!
Mae’n bleser gennym rannu carreg filltir bwysig gyda chi – lansiad ein harolwg Ffydd yng Nghymru! Dyma foment hollbwysig i eglwysi a chymunedau ffydd ar draws y genedl wrth inni ddod at ein gilydd i fyfyrio ar gyflwr ffydd yng Nghymru heddiw.
Mae’r arolwg yn rhan hanfodol o baratoi adroddiad Ffydd yng Nghymru wedi’i ddiweddaru, a fydd yn rhoi golwg newydd ar sut mae ffydd yn siapio bywydau, cymunedau a diwylliant ledled y wlad. Roedd cyhoeddiad gwreiddiol 2008 yn tynnu sylw at waith anhygoel eglwysi a mudiadau ffydd yng nghymunedau Cymru, a bydd diweddariad eleni yn nodi’r cynnydd, yr heriau a’r cyfleoedd a wynebwn wrth i ni edrych ymlaen.
Rydym angen eich llais! Os ydych yn arweinydd ffydd, mae eich cyfranogiad yn hanfodol i sicrhau bod yr adroddiad yn cynrychioli’n gywir brofiad bywyd Cristnogion a chymunedau ffydd eraill yng Nghymru. Drwy gymryd ychydig funudau i gwblhau’r arolwg, byddwch yn helpu i lunio sgyrsiau gyda Llywodraeth Cymru ac eraill am rôl ffydd yng Nghymru am flynyddoedd i ddod. Os nad ydych yn arweinydd ffydd, gallwch ymuno drwy annog eich arweinydd i gwblhau’r arolwg, yn Gymraeg neu’n Saesneg, yma: https://www.eauk.org/about-us/nations/wales/faith-in-wales-survey.
Dyddiad cau: 17 Chwefror 2025.
EGLWYSI A CHYMUNED YN ANELU AT BENARTH DOSTURIOL

Ffurfiwyd grŵp cymunedol Compassionate Penarth yn ystod y misoedd diwethaf yn gobeithio helpu trigolion Penarth a’r ardaloedd cyfagos i fod yn fwy cyfforddus a gwybodus wrth siarad am benderfyniadau diwedd oes, marw, marwolaeth a galar. Gall rhain ymddangos yn bynciau brawychus i’w trafod, ond pan fydd pobl yn teimlo’n fwy cyfforddus yn siarad am brofiadau o’r fath, gwyddom eu bod yn fwy abl i gael y cymorth sydd ei angen arnynt a’u bod wedi’u harfogi’n well i helpu eraill.
I’r sawl sy’n byw gyda salwch terfynol a’r bobl sy’n gofalu amdanynt, gall cael sgwrs agored am yr hyn sydd bwysicaf fod o help wrth gynllunio a dylanwadu ar ofal. Gall roi ffocws i sut mae rhywun am dreulio’i amser, dathlu ei fywyd, a siarad am yr hyn y mae marwolaeth dda yn ei olygu iddyn nhw.

Gall profedigaeth a galar deimlo’n llethol ac ynysig. Er nad yw’n cael gwared ar y boen, mae gwybod bod cefnogaeth yn y gymuned a sut i ddod o hyd iddo yn gall helpu i lywio un o brofiadau anoddaf ein bywydau. Mae Cyngor Tref Penarth, Marie Curie a Chymdeithas Tai’r Methodistiaid, ochr yn ochr â sefydliadau ac unigolion eraill, yn cydweithio i gael gwared ar y tabŵ o ran siarad am y penodau pwysig hyn.
Yn gynnar yn 2024 roedd Karen Jennings, caplan Cymdeithas Tai’r Methodistiaid ym Mhenarth ac Alison Fiander, meddyg wedi ymddeol sy’n gwirfoddoli eglwys y Bedyddwyr yn Heol Stanwell, eisoes yn hwyluso ‘Taith Profedigaeth’ ym Mhenarth i gefnogi pobl sy’n gweithio drwy a phrosesu galar. Fe wnaethon nhw gyfarfod â Luke Conlon, caplan Bwdhaidd. Hwylusodd Luke sgyrsiau gyda Chyngor Tref Penarth a Marie Curie i gynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o rywfaint o’r wybodaeth a’r cymorth lleol sydd ar gael.

Trwy ein profiadau unigol roeddem yn teimlo y gellid gwneud mwy i gefnogi pobl ar yr adeg anodd hon yn eu bywydau. Gyda’n gilydd trefnon ni weithgaredd ar gyfer wythnos ‘Byw Nawr’ (‘Dying Matters’) a oedd yn cynnwys amrywiaeth o ddarparwyr gwybodaeth yn siarad am ewyllysiau, gofal diwedd oes, sut i fod yn greadigol mewn angladd neu ar garreg goffa, prosesu galar, beth i’w wneud am anifeiliaid anwes ar ôl marwolaeth, a llawer mwy hefyd. O ganlyniad i’r diddordeb a fynegwyd, penderfynwyd sefydlu ein hunain yn ffurfiol fel grŵp cymunedol.
Mae’r grŵp wedi datblygu Siarter Tosturiol ar gyfer Penarth ac mae’n sicrhau bod adnoddau ar gael trwy gyfryngau cymdeithasol yma: https://linktr.ee/comppenarth
Mae cynlluniau ar gyfer 2025 yn cynnwys cynnig sgyrsiau cymunedol i grwpiau sydd â diddordeb, cynnal digwyddiad arall ar gyfer wythnos Byw Nawr, achlysur fydd yn galluogi rhwydweithio a chyfeirio pobl at wybodaeth a chymorth. Gyda digon o ddiddordeb cymunedol rydym yn gobeithio darparu ystod o weithgareddau mwy amrywiol megis arddangosfeydd celf neu ffotograffiaeth ar y themâu pwysig hyn a grwpiau trafod cymunedol.
Os hoffech fwy o wybodaeth, os hoffech ymuno â’r grŵp neu yr hoffech i ni fynychu gweithgaredd yr ydych chi yn ei drefnu, cysylltwch â Compassionatepenarth@gmail.com
Julie Skelton, Compassionate Penarth
Lluniau trwy garedigrwydd Compassionate Penarth.
Mae’r llun gwaelod yn dangos aelodau’r grŵp yn cyfarfod â Stephen Doughty, AS San Steffan dros Dde Caerdydd a Phenarth
Ymchwiliad yn edrych ar effaith Covid-19 ar addoldai a grwpiau ffydd

Yn dilyn agoriad swyddogol Modiwl 10 o Ymchwiliad Covid-19 y DU, mae tîm yr ymchwiliad wedi gwahodd cyrff Eglwysi Ynghyd ledled y DU i fynychu, gydag eraill, achlysur bord gron i drafod effaith pandemig Covid-19 a chyfyngiadau’r llywodraeth ar grwpiau ffydd ac addoldai, ar 20 Chwefror.
Er gwaethaf gwrthod cais Gwasanaeth Cynghori Deddfwriaethol yr Eglwysi (CLAS), yr ydym yn rhan ohono, am statws ‘cyfranogwr craidd’ yn y modiwl hwn, mae Cytûn yn croesawu’r cyfle i siarad yn uniongyrchol â thîm yr Ymchwiliad am ein profiadau, a cheisio cyngor ar gyflwyno tystiolaeth bellach.
Bydd y cyrff eciwmenaidd yn cyflwyno tri darn o ymchwil a gyhoeddwyd eisoes i gynorthwyo’r drafodaeth:
- Adroddiad Sgwrs Genedlaethol Cytûn (Mawrth 2021)
- Adapt and Be Flexible: The Mission Continues (Ionawr 2021), a baratowyd gan Brendan Research ar gyfer ACTS (Eglwysi Ynghyd yn yr Alban) a Fforwm Arweinwyr Eglwysi’r Alban
- People Still Need Us (Mai 2020) a Something Other than a Building (Ionawr 2021) gan Gladys Daniel ar gyfer Cyngor Eglwysi Iwerddon.
Er mai trwy wahoddiad yn unig y mae’r ford gron hon, nid oes cyfyngiad ar bwy all gyflwyno tystiolaeth i’r Modiwl, a bydd Cytûn a CLAS yn gwneud hynny ar ran ein haelod eglwysi a sefydliadau. Gall unigolion gyfrannu drwy’r cynllun Mae Pob Stori o Bwys. Bydd dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno tystiolaeth (tua hydref 2025 yn ôl pob tebyg) a dyddiadau’r gwrandawiadau llafar (dechrau 2026) yn cael eu cyhoeddi maes o law.
Yn y cyfamser, mae Ysgrifennydd Gwladol y DU dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, Lisa Nandy AS, wedi cadarnhau y bydd Diwrnod Myfyrio COVID-19 yn cael ei gynnal ddydd Sul 9 Mawrth 2025 i gofio’r pandemig a’i effaith ar gymunedau ledled y DU. I nodi pumed pen-blwydd y pandemig, gwahoddir pobl i ddod at ei gilydd i gofio a myfyrio ar y cyfnod unigryw hwn yn ein hanes yn ogystal â’u profiadau eu hunain.
Bydd y diwrnod yn gyfle i’r cyhoedd gofio a choffáu’r rhai a gollodd eu bywydau yn ystod y pandemig, myfyrio ar yr aberthau a wnaed a’r effaith ar ein bywydau bob dydd, a thalu teyrnged i waith staff iechyd a gofal cymdeithasol, gweithwyr rheng flaen, ymchwilwyr a phawb a wirfoddolodd ac a ddangosodd garedigrwydd yn ystod y cyfnod digynsail hwn. Gan ei fod ar ddydd Sul, efallai y bydd eglwysi am ystyried ymgorffori elfennau o’r Diwrnod Myfyrio yn eu hoedfaon y diwrnod hwnnw.
GWOBRAU CENEDL NODDFA
Mae Cyngor Ffoaduriaid Cymru wedi cyhoeddi bod enwebiadau bellach ar agor ar gyfer Gwobrau Cenedl Noddfa. Mae Gwobrau Cenedl Noddfa 2025 yn dathlu unigolion, sefydliadau, a chymunedau yn trawsnewid Cymru yn Genedl Noddfa gyntaf y byd, fel y bu Cytûn yn ymgyrchu drosto ac yn eih hybu ers blynyddoedd. Mae llawer o aelodau ein heglwysi yn helpu croesawu ffoaduriaid, a dyma gyfle i enwebu rhai ohonynt.
Eleni cyflwynir dau gategori newydd.
- Y Wobr Hyrwyddo Cydraddoldeb, sy’n cydnabod y rheini sy’n cefnogi ffoaduriaid a cheiswyr lloches o grwpiau a dan-gynrchiolir, gan gynnwys y cymunedau LHDTC+ ac anabl.
- Y Wobr Cyflawniad Academaidd – Anrhydeddu cyflawniadau addysgol rhagorol, gan adlewyrchu ymroddiad i ddysgu a goresgyn heriau i gyflawni rhagoriaeth.
Mae enwebiadau ar agor tan 28 Chwefror 2025. Mae’n cymryd 15–20 munud i enwebu drwy’r ffurflen arlein. Rhaid i enwebeion gydsynio i’w henwebiad.
Bydd y noson wobrwyo arbennig ar Fehefin 16 yng Ngwesty’r Gyfnewidfa Lo, Caerdydd, yn dathlu llwyddiannau rhyfeddol ceiswyr lloches yng Nghymru, yn ogystal â chyfraniadau eithriadol y rhai sy’n helpu i ddod â’r weledigaeth o Genedl Noddfa yn fyw.
NEWYDDION O SENEDD CYMRU
Cofrestru llety ymwelwyr yng Nghymru
Cyflwynwyd Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll Etc.) (Cymru) yn Nhachwedd 2024, a mae Pwyllgor Cyllid Senedd Cymru yn ei archwilio ar hyn o bryd. Mae’r cyfryngau wedi canolbwyntio ar y gallu a roddir i Awdurdodau Lleol i godi ardoll ar lety ymwelwyr dros nos, ond wrth gyflwyno ein tystiolaeth ni ar ran yr eglwysi, pwysleisiodd Cytûn mai ein prif ofid yw oblygiadau gorfod cofrestru llety dros nos er mwyn ei gynnal yn gyfreithlon, ac y byddai’r gofrestr yn gallu bod yn sail – trwy ddeddfu pellach – i osod isafswm safonau y byddai’n rhaid ymgyrraedd â nhw. Gallai hyn beryglu llety mewn rhai cymunedau crefyddol ac adeiladau eglwysig, a gynllunnir yn fwriadol i fod yn syml ac yn rhad, neu lety a ddarperir yn elusennol ar gyfer teuluoedd na allai fel arall gael gwyliau.
Rydym yn falch fod y Bil yn cyfyngu’r rheidrwydd i gofrestru i lety a ddarperir “yng nghwrs masnach neu fusnes”. Rydym wedi trafod gyda Chadeirydd y Pwyllgor Cyllid yr angen i sicrhau beth yw hyd a lled yr ymadrodd hwnnw o ran, er enghraifft, llety a ddarperir gan elusen pan fo’r ymwelydd yn cyfrannu rhodd wirfoddol. Gobeithiwn y ceir eglurder pellach yn ystod y broses graffu.
Cofrestru gofal plant yng Nghymru
Mae Cytûn yn ddiolchgar iawn i’n henwadau am ddarparu tystiolaeth fanwl o drefniadau diogelu eu gwaith gyda phlant dan 12 oed, wrth i Lywodraeth Cymru adolygu pa fathau o sesiynau addysgol, adloniadol a gofal ar gyfer plant dan 12 y byddai angen eu cofrestru yn y dyfodol. Ar hyn o bryd, mae’r rhan fwyaf o sesiynau sy’n parhau llai na 2 awr, neu sy’n darparu “hyfforddi neu ddysgu” mewn “astudiaethau crefyddol neu ddiwylliannol” (e.e. ysgolion Sul) wedi eu heithrio rhag yr angen i gofrestru. Fe fu Cytûn yn rhan o drafodaethau am hyn gyda Llywodraeth Cymru ers blwyddyn, a disgwylir y bydd ymgynghoriad cyhoeddus ar gynlluniau i newid hyd a lled yr eithriadau hyn yn cychwyn yn ystod y gwanwyn. Byddwn yn hysbysu ein haelodau pan ddigwydd hynny.
Argymhellion i alluogi ad-alw Aelodau Senedd Cymru sy’n troseddu
Yn etholiad Senedd Cymru yn Mai 2026, cyflwynir trefn bleidleisio newydd fydd yn rhoi i bob pleidleisiwr un bleidlais, a hynny ar gyfer rhestr o ymgeiswyr gan un blaid neu grŵp. Ni fydd modd i bleidleiswyr ddewis rhwng ymgeiswyr unigol. Mae hyn wedi peri pryder – gan gynnwys ar ran Esgob Llanelwy – ynghylch torri’r atebolrwydd gan ASau unigol i’w hetholwyr.
Un elfen o hynny yw pan fo AS unigol yn camymddwyn. Mae Pwyllgor Safonau Ymddygiad Senedd Cymru wedi ceisio mynd i’r afael â’r gofid yn ei adroddiad diweddar, sy’n argymell galluogi etholwyr i ad-alw eu AS. Yr argymhelliad yw, pe byddai AS yn cael ei gosbi –gan lys troseddol neu gan y Senedd ei hun – y tu hwnt i drothwy penodol (nad yw eto wedi ei bennu), y byddai angen cynnal ‘pleidlais diswyddo a disodli’. I bob pwrpas byddai hyn yn is-etholiad, i’w gynnal ar ddiwrnod penodol dan drefniadau pleidleisio arferol, gydag un cwestiwn ar y papur pleidleisio, sef a ddylai’r AS gael parhau neu a ddylai’r ymgeisydd cymwys nesaf ar restr ei blaid gael ei (h)ethol yn ei (l)le. Mae’r Pwyllgor hefyd yn argymell y gallai Senedd Cymru, trwy bleidlais, alw ‘pleidlais diswyddo a disodli’ fel sancsiwn penodol yn erbyn AS sydd wedi troseddu yn erbyn rheolau’r Senedd.
Byddai angen llunio deddfwriaeth benodol i weithredu hyn a’i cyflwyno trwy drefn arferol Senedd Cymru cyn diwedd y sesiwn bresennol ym Mawrth 2026. Yn y cyfamser, mae’r Pwyllgor yn parhau i ystyried argymhellion am gyflwyno trosedd o ddichell fwriadol, pan fo AS neu ymgeisydd yn fwriadol twyllo’r etholwyr. Ni ddisgwylir i’r gwaith hwnnw gael ei weithredu erbyn Mai 2026.
GWEDDÏO DROS YSGOLION CYMRU

Mae grŵp Gweddi dros Ysgolion Cymru, dan nawdd mudiad CARE, yn cyfarfod yn rheolaidd ar-lein i weddïo ac mae’n cyfarfod nesaf at ddydd Mercher, Chwefror 5ed am 12.30yp. Y bwriad yw cynnwys ystafell weddi ar wahân ar gyfer siaradwyr Cymraeg a bydd y sleidiau gweddi yn ddwyieithog. Gofynnir i chi gofrestru trwy wefan Eventbrite a byddwch yn derbyn y ddolen Zoom wythnos ymlaen llaw yn awtomatig.
NEWYDDION O SAN STEFFAN
Ymchwiliad yn cychwyn i’r Bil Cymorth i Farw
Mae’r Pwyllgor yn Nhŷ’r Cyffredin sy’n ystyried y Bil Oedolion Terfynol Wael (Diwedd Bywyd) am Gymorth i Farw yng Nghymru a Lloegr wedi cyhoeddi galwad am dystiolaeth. Dechreuodd trafodaethau’r Pwyllgor ar Ionawr 21, ac fe glywir tystiolaeth lafar ar 28, 29 a 30 Ionawr – gan gynnwys cynrychiolydd o Senedd Cymru ar Ionawr 30. Cafwyd peth o’r drafodaeth gyntaf y tu ôl i ddrysau caeëdig, er gwaethaf gwrthwynebiad rhai aelodau, a methodd ymdrech gan rai ASau i sicrhau mwy o dystiolaeth lafar gan arbenigwyr a fyddai’n wrthwynebus i’r Bil.
Mae’r alwad am dystiolaeth yn pwysleisio y bydd gan dystiolaeth ysgrifenedig well cyfle o ddylanwadu ar y Bil o’i chyflwyno ar y cyfle cyntaf. Fe fydd tystiolaeth a gyflwynir yn cael ei chyhoeddi ar wefan Senedd y DU, ond byddai’n ddefnyddiol i Cytûn, pe byddai eglwysi sy’n bwriadu cyflwyno tystiolaeth yn ei chopïo i ninnau hefyd. Mae’r Grŵp Radar (swyddogion eglwys a chymdeithas Cristnogol y DU) a’r Grŵp Laser (y grŵp cyfatebol i Gymru, a gynullir gan Cytûn) yn cadw’r mater hwn ar eu hagenda fel bod eglwysi a mudiadau Cristnogol yn gallu diweddaru ei gilydd am y camau maent yn eu cymryd.
Mae Llyfrgell Tŷ’r Cyffredin wedi cynhyrchu crynodeb defnyddiol o’r Bil. Mae Cymdeithas Hansard yn dilyn hynt y Bil, a newydd gyhoeddi adroddiad yn codi pryderon am oblygiadau rhai o’r pwerau ynddo a ddirprwyir i weinidogion, megis pennu meddyginiaethau gellid eu defnyddio i gynorthwyo marw, a defnyddio’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol i’r perwyl hwn.
Mesur Hinsawdd a Natur yn methu
Mae nifer o aelodau Cytûn, gan gynnwys Cymdeithas y Cyfeillion, yr Eglwys yng Nghymru ac ARocha UK (EcoChurch), wedi bod yn hyrwyddo’r Bil Hinsawdd a Natur. Byddai’r mesur hwn, a gyflwynwyd o’r meinciau cefn ar nifer o wahanol ffurfiau mewn sesiynau seneddol blaenorol, wedi dwyn i gyfraith ddomestig y targedau hinsawdd a natur y cytunwyd arnynt gan lywodraethau olynol y DU mewn cynadleddau rhyngwladol (COP); rhoi dyletswydd ar Lywodraeth y DU i roi strategaeth ar waith i gyrraedd y targedau hynny; sefydlu Cynulliad Hinsawdd a Natur i gynghori’r Llywodraeth wrth greu’r strategaeth honno; a rhoi dyletswyddau i’r Pwyllgor ar Newid Hinsawdd a’r Cydbwyllgor Cadwraeth Natur ynghylch y strategaeth a’r targedau. Byddai Senedd Cymru wedi gallu mabwysiadu’r targedau a’r strategaeth ar gyfer meysydd datganoledig yng Nghymru drwy bleidlais.
Mewn trafodaeth ddwys ar Ionawr 24, cytunodd noddwr y Bil – yr AS o blith y Democratiaid Rhyddfrydol, Roz Savage – i beidio â’i wthio i bleidlais, yn gyfnewid am addewidion o drafodaethau gyda’r Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiogelwch Ynni a Sero Net, Ed Miliband AS. Gan na fu pleidlais, nid yw’r Mesur wedi’i drechu, ond yn ymarferol mae’r diffyg pleidlais yn golygu na fydd yn symud ymlaen yn ystod sesiwn bresennol y Senedd. Ni fydd hyn yn effeithio ar allu Senedd Cymru i gyflwyno mesurau sy’n ymwneud â hinsawdd a natur yng Nghymru o fewn ei chymhwysedd deddfwriaethol ei hun.
Adnewyddu’r Cynllun Grantiau ar gyfer Addoldai Rhestredig
Yn dilyn pwysau gan Cytûn a llawer o eglwysi Cristnogol, mae Chris Bryant, AS Rhondda ac Ogwr a Gweinidog y Diwydiannau Creadigol, y Celfyddydau a Thwristiaeth yn Llywodraeth y DU, wedi gwneud datganiad ysgrifenedig ar barhad y Cynllun Grant Mannau Addoli Rhestredig, fel a ganlyn:
Mae’r Llywodraeth yn ymestyn y Cynllun Grant Mannau Addoli Rhestredig tan 31 Mawrth 2026, sef diwedd cyfnod yr Adolygiad Gwariant hwn. Bydd hyn yn parhau i alluogi sefydliadau crefyddol i hawlio grantiau ar gyfer costau TAW cymwys a delir tuag at atgyweiriadau ac adnewyddu.
… Yn erbyn cefndir ariannol anodd ac o gofio ystod eang o flaenoriaethau cystadleuol ar gyfer gwariant o fewn yr Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, rydym wedi gwneud y penderfyniad anodd i weithredu terfyn blynyddol o £25,000 ar y swm y gall addoldai unigol ei hawlio yn y flwyddyn i ddod, a chyfyngu’r gronfa i £23 miliwn. … Yn seiliedig ar ddata blaenorol y cynllun rydym yn disgwyl na fydd effaith ar 94% o geisiadau o ganlyniad i’r newid hwn.
Mae Cytûn wedi ysgrifennu at Mr Bryant yn diolch am y cyhoeddiad, ac yn gofyn i’r cynllun gael ei wneud yn un parhaol, fel y gall eglwysi gynllunio eu gwaith atgyweirio ac adnewyddu yn hyderus.
CYTÛN YN NIGWYDDIADAU’R HAF 2025
Cafwyd cefnogaeth arbennig gan eglwysi ac aelod fudiadau Cytûn wrth drefnu ein digwyddiadau tystiolaeth yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, y Sioe Frenhinol a’r Eisteddfod Genedlaethol yn ystod 2024. Daeth yn amser cynllunio ar gyfer 2025. Mae 3 cyfarfod wedi eu trefnu ar gyfer yr eglwysi lleol, sef:

Eisteddfod Dur a Môr yn Margam – Mai 26-31.
Cynhelir cyfarfod trefnu ar Nos Fawrth 4ydd o Fawrth am 7.00 yng Nghapel y Nant, Clydach.
Y Sioe Fawr yn Llanelwedd – 21-24 Gorffennaf.
Cynhelir cyfarfod trefnu ar bnawn Mawrth 4ydd o Fawrth am 1.00 yn y Ganolfan Eglwysig ar faes y Sioe.
Yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam – Awst 2-9.
Cynhelir cyfarfod trefnu ar nos Fercher 12fed o Fawrth am 7.00 yng Nghapel y Groes, Wrecsam.
Croeso cynnes i bawb sydd am fod yn rhan o’r gwaith paratoi a chynllunio. Apeliwn am gefnogaeth yn enwedig gan yr eglwysi lleol.
YMGYRCHU DROS HEDDWCH DDOE A HEDDIW

Trwy garedigrwydd Eglwys y Bedyddwyr, Tonyfelin, Caerffili cynhaliwyd y cyntaf o’r cyfarfodydd cyhoeddus i nodi canmlwyddiant Apêl Heddwch Eglwysi Cymru i eglwysi Unol Daleithiau’r America yno ar Sul Ionawr 26. Dyma union ganmlwyddiant marw un o gymwynaswyr mawr heddwch yr 20fed ganrif, y Parch. Gwilym Davies, gafodd ei eni ym Medlinog. Gyda chefnogaeth cymdeithasau hanes lleol Gelligaer a Merthyr Tudful a’n partneriaid yng Nghanolfan Materion Rhyngwladol Cymru (y Deml Heddwch), bu pedwar am siarad am gyfraniad arbennig Gwilym Davies o ran heddwch ac eciwmeniaeth, a sut all hynny fod yn sbardun i ninnau heddiw. Bu Aled Eirug yn esbonio Gwilym yng nghyd-destun y mudiad heddwch cyfoes ehangach; Angharad Wyn Jones o Urdd Gobaith Cymru yn cyflwyno testun baratowyd gan Siân Lewis am ei gyfraniad i’r Neges Ewyllys Da sy’n parhau hyd heddiw; Siân Rhiannon yn sôn am gyfraniad arbennig ei wraig, Mary Ellis; a Gethin Rhys yn cyflwyno hanes Apêl yr Eglwysi a thaith Gwilym Davies i’r UDA ym 1925. Mae fideo o’r sesiwn (a gynhaliwyd yn Gymraeg) ar gael yma a rhagor o wybodaeth ar wefan Cytûn.
CYSYLLTU Â SWYDDOG POLISI CYTÛN
Parch./Revd Gethin Rhys – Swyddog Polisi/Policy Officer
Cytûn – Eglwysi ynghyd yng Nghymru/Churches together in Wales
Swyddfa gofrestredig: Yst. 3.3, Tŷ Hastings, Llys Fitzalan, Caerdydd CF24 0BL
Mudol/mobile: 07889 858062 E-bost: gethin@cytun.cymru
www.cytun.co.uk @CytunNew www.facebook.com/CytunNew
Hapus i gyfathrebu yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Happy to communicate in Welsh and English
Mae Cytûn yn gwmni cofrestredig yng Nghymru a Lloegr | Rhif: 05853982 | Enw cofrestredig: “Cytûn: Eglwysi Ynghyd yng Nghymru/Churches Together in Wales Limited” |
Mae Cytûn yn elusen gofrestredig | Rhif: 1117071 |
Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 29 2025. Cyhoeddir y Bwletin nesaf ar Fawrth 26 2025.