CYTÛN YN MYNEGI PRYDER AM DDYSGU’R DYNIAETHAU YNG NGHYMRU

Yn dilyn cyhoeddiadau am newidiadau sylfaenol i ddysgu’r Dyniaethau ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, a chychwyn ymgynghoriad am ddileu dysgu nifer o bynciau’r Dyniaethau yn gyfangwbl ym Mhrifysgol Caerdydd, fe benderfynodd ymddiriedolwyr Cytûn ysgrifennu at y ddau Is-Ganghellor, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol (sy’n cydlynu dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg mewn addysg trydyddol), Medr (corff arolygu addysg trydyddol Cymru) ac at aelodau Senedd Cymru.

Mae’r llythyr yn ategu sylwadau a wnaed yn gyhoeddus gyda dau aelod o eglwysi Cytûn gyda phrofiad helaeth yn y maes ar raglen Bwrw Golwg (Radio Cymru). Dywedodd yr Athro D. Densil Morgan, ‘Mae’n ymddangos na fydd yr un adran ddiwinyddol mewn prifysgol yng Nghymru o gwbl – mae’r peth yn drasiedi. Lle roedd gyda chi Gaerdydd, Llanbed a Bangor yn cynnig holl rychwant diwinyddiaeth, astudiaethau Beiblaidd, astudiaethau athrawiaethol, hanes yr Eglwys, athroniaeth crefydd – mae’r adrannau i bob pwrpas wedi cau.’ Meddai Dr Rosa Hunt, ‘Mae’r datblygiad hyn yn ofnadwy i bwnc academaidd Astudiaethau Crefyddol yng Nghymru. O ystyried rôl crefydd wrth lunio Cymru a’n byd amrywiol heddiw, byddai’n “drychineb” colli’r maes astudio pwysig hwn i fyfyrwyr ac academyddion fel ei gilydd.’

 llythyr Cytûn ymlaen i ddweud: Credwn yn gryf fod dealltwriaeth dda am grefydd yn hynod bwysig o ran meithrin cyd-ddealltwriaeth o’r lefel leol i’r lefel fyd-eang, a mae astudiaethau academaidd o holl feysydd diwinyddiaeth ac astudiaethau crefyddol yn hanfodol i greu’r fath ddealltwriaeth.

Ond mae ein gofid yn lledu y tu hwnt i faes diwinyddiaeth a chrefydd, oherwydd y toriadau yn y Dyniaethau eraill. Mae dysgu’r pynciau hyn – Hanes, Hanes a Ieithoedd yr Henfyd, Ieithoedd Modern a Cherddoriaeth – yn greiddiol i alluogi i Gymru gymryd ei lle o fewn diwylliant Ewrop. Byddai colli dysgu’r pynciau hyn trwy gyfrwng y Gymraeg yn andwyo ein hunaniaeth ac yn gwanhau gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddefnyddio’r iaith ym meysydd dysg, yn ogystal â cholli’r llif angenrheidiol o fyfyrwyr cymwysedig allai ddysgu’r Dyniaethau a Ieithoedd mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg. Gofynnwn, felly, i chi ail-ystyried gweithredu toriadau o’r fath.

Mae llythyr Cytûn wedi denu sylw gan y cyfryngau yng Nghymru ac ar draws y DU, gan gynnwys Golwg360, Cenn@d, Church Times, Nation.Cymru a Premier Radio.

Yn wyneb yr ymateb gafwyd trwy’r cyfryngau ac yn uniongyrchol, bydd Cytûn yn parhau i geisio eglurder ar rai materion penodol, yn enwedig am ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, a dyfodol y llyfrgelloedd ac adnoddau eang sydd wedi eu casglu yn y prifysgolion. Bydd hefyd yn gweithio gyda’i aelod eglwysi a mudiadau i agor trafodaeth ehangach am addysgu yn y Dyniaethau ar bob lefel addysgol yng Nghymru.

Grŵp Trawsbleidiol ar Ffydd

Ffydd mewn Prifysgolion: Effaith toriadau addysg uwch ar astudiaethau crefyddol yng Nghymru

 Siaradwyr gwadd: Dr Abdul-Azim Ahmed a chydweithwyr i’w cadarnhau o Adran Astudiaethau Crefyddol a Diwinyddol Prifysgol Caerdydd

Dydd Mercher 2 Ebrill 2025, 12.00 – 13.15
Ystafelloedd Cynadledda C a D, Tŷ Hywel

Cyfarfod personol fydd hwn, gyda chyfleusterau hybrid ar gael. Manylion isod:
Cliciwch yma i ymuno â’r cyfarfod
Rhif y Cyfarfod: 355 673 247 009      Cod: EkeCTA

Am ragor o wybodaeth neu er mwyn archebu lle, anfonwch e-bost at Jim Stewart drwy jimstewartwales@gmail.com

LANSIO AROLWG NEWYDD AR GYFER ECO EGLWYSI

Bellach yn ei nawfed flwyddyn, mae Eco Church yn parhau i gefnogi eglwysi ledled Cymru a Lloegr i gymryd camau ystyrlon dros hinsawdd a natur. Yn ei hanfod, mae Eco Church yn ymwneud â phobl ac arolwg ymarferol sy’n arwain eglwysi, gam wrth gam, ar eu taith tuag at newid.

Mae’r arolwg newydd yn cynnig mwy o hyblygrwydd, gan sicrhau bod pob eglwys, waeth beth fo’i maint, ei lleoliad neu ei hadnoddau, yn gallu gweithredu a chael effaith wirioneddol. Un o nodweddion allweddol yr arolwg newydd yw ei lwybrau cynhwysol, a gynlluniwyd i gefnogi ystod ehangach o gapeli ac eglwysi. P’un a ydych yn rhan o eglwys gadeiriol, capel heb fawr o dir, neu gynulleidfa heb adeilad, mae’r arolwg diweddaraf yn sicrhau bod pawb yn gallu cymryd rhan.

Ehangwyd categorïau yr arolwg, gan gryfhau yn enwedig Addoli ac Addysgu. Mae’r categori hwn bellach yn cynnwys pynciau hollbwysig megis eco-bryder, galaru am natur a gofal bugeiliol, gan roi adnoddau i eglwysi ystyried y materion dybryd hyn o fewn eu cymunedau. Mae’r arolwg wedi’i ddiweddaru yn adlewyrchu brys a chymhlethdod yr argyfyngau hinsawdd a bioamrywiaeth, ac mae wedi’i gynllunio i gyd-fynd â’r raddfa o weithredu sydd ei angen. Mae’n gofyn am fwy gan eglwysi na’r hen arolwg, ond eto’n darparu fframwaith sy’n uchelgeisiol ac yn gyraeddadwy.

Agorwch arolwg ar y platfform Eco Church i ddechrau (cliciwch yma i fewngofnodi neu greu eich cyfrif newydd) i gael crynodeb o’r arolwg, gweler tudalen trosolwg arolwg EcoChurch ac adnodd: Cipolwg ar arolwg EcoChurch. Mae’r arolwg ar gael yn Saesneg yn unig ar hyn o bryd, ond mae fideo cyflwyniadol Cymraeg yma, a chyfres o adnoddau EcoChurch eraill ar gael yn Gymraeg yma. Gallwch weld enghreifftiau diweddar o eglwysi yng Nghymru yn ennill gwobr EcoChurch yma.

WYTHNOS CARU EICH MYNWENT 7-15 MEHEFIN 2025

Mae mynwentydd, yn ogystal â bod yn fannau cysegredig pwysig ar gyfer coffáu pobl, yn aml hefyd yn hafanau i fywyd gwyllt, yn rhydd rhag gwrtaith artiffisial ac yn gyforiog o natur. Fel rhan o Wythnos Caru Eich Mynwentydd, mae Eglwysi’n Cyfrif Natur yn canolbwyntio ar y bywyd gwyllt gwych sydd i’w gael mewn mynwentydd a mynwentydd capeli. Mae’n fenter ar y cyd a hyrwyddir gan Caring for God’s Acre, Eglwys Loegr, yr Eglwys yng Nghymru ac A Rocha UK. Gall fod yn rhan o weithio tuag at wobr EcoChurch, neu weithgaredd ar ei ben ei hun.

Gall eglwysi o bob enwad sydd â mynwent gymryd rhan, ac anogir cofrestru holl ddigwyddiadau’r wythnos trwy’r ddolen uchod i godi proffil y mannau hyfryd hyn.

Housing Justice Cymru a Sefydliad Bevan yn annog creu cartrefi ar dir eglwysig segur.

Mae’r niferoedd uchaf erioed o aelwydydd yng Nghymru yn byw mewn llety dros dro – 1 ym mhob 215 o aelwydydd. Bydd llawer ohonynt yn byw mewn llety sy’n anaddas i’w hanghenion am gyfnodau hir. Yr hyn sydd ei angen arnynt yw cartref diogel, fforddiadwy. Fodd bynnag, mae prinder cartrefi cymdeithasol a chymunedol ac mae darparu cartrefi newydd yn broses araf.

Un o nifer o rwystrau i’w cyflenwi yw diffyg safleoedd ar gael yn y mannau lle mae’r mwyaf o angen cartrefi. Mae llawer o’r tir a nodir mewn Cynlluniau Datblygu Lleol yn anaddas, nid yw mewn ardaloedd o angen mawr, neu nid yw’r perchennog am ei ryddhau i’w ddatblygu. Cost tir yw’r ffactor mwyaf sy’n pennu a yw cynlluniau datblygu yn hyfyw ai peidio.

Mae adroddiad newydd gan Sefydliad Bevan, Cwmpas a Housing Justice Cymru, sy’n aelod o Cytûn, yn ystyried ffyrdd amgen o ddod o hyd i fwy o safleoedd ar gyfer cartrefi cymdeithasol a chymunedol. Mae’n archwilio’r potensial o ran cartrefi mewn safleoedd sy’n eiddo i gymunedau ffydd nad ydynt efallai bellach yn addas i’w diben presennol neu, mewn llawer o achosion, sydd eisoes yn segur – rhywbeth y mae Housing Justice Cymru wedi eirioli drosto ac wedi’i alluogi trwy eu Prosiect Ffydd mewn Tai Fforddiadwy.

Mae’r awdur, Wendy Dearden, yn amcangyfrif bod gan dir ac adeiladau sy’n eiddo i gymunedau ffydd yng Nghymru y potensial i ddarparu mwy na 1,300 o gartrefi drwy ailddatblygu addoldai segur ac adeiladau cysylltiedig a chreu bron i 5,500 o gartrefi drwy ryddhau tiroedd sy’n perthyn i gymunedau ffydd.

Mae’r adroddiad yn canolbwyntio ar botensial y mannau hyn i ddarparu cartrefi, ond mae manteision ehangach hefyd o ganfod defnydd newydd. Unwaith y byddant yn colli eu diben, gall adeilad yn fuan ddadfeilio neu mynd yn ddiffaith. Gall hyn yn ei dro arwain at ganfyddiadau negyddol gan y gymuned a sbarduno cylch o ddirywiad.

Mae’r adroddiad yn archwilio’r anawsterau ymarferol sydd yn rhwystro gwireddu gweledigaeth o’r fath, ac yn gwneud argymhellion ar sut i wneud mwy o ddefnydd o’r mannau hyn drwy newidiadau mewn polisi, cyllido ac arferion y sector cyhoeddus. Mae’r argymhellion yn cynnwys:

  • creu sefydliad i weithredu fel asiant trydydd parti strategol i berchnogi dros dro mannau sydd â’r potensial i gael eu hailddatblygu ar gyfer darparu cartrefi
  • tîm ymgynghorol i Gymru gyfan i sefydlu dichonoldeb dechreuol y cyfleoedd hyn a rhoi arweiniad i reolwyr eiddo a thimau datblygu
  • contractio strategol i ledaenu’r risg ynghlwm wrth ailddatblygu safleoedd mwy cymhleth.
  • hyblygrwydd yn y caniatâd i ailddatblygu gofodau sydd ochr yn ochr ag adeiladau hŷn, sy’n aml yn arwyddocaol yn hanesyddol, ac o ran safonau Llywodraeth Cymru ar gyfer cartrefi cymdeithasol pan fo cynlluniau’n cynnwys ailddatblygu safleoedd sy’n bodoli eisoes
  • dylai Llywodraeth Cymru ddarparu mwy o gyllid cyfalaf ar gyfer cynlluniau tai fforddiadwy sy’n rhoi diben newydd i leoedd presennol
  • ymagwedd gydgysylltiedig gan y sector cyhoeddus i gefnogi potensial safleoedd segur.

Llun: Clawr yr adroddiad yn dangos ailddatblygu ysgoldy Eglwys Bedyddwyr Heol Albany, Caerdydd.

EGLWYSI AR WAITH YN TYNNU CYMUNEDAU YNGHYD

Mae Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol Senedd Cymru ar hyn o bryd yn cynnal ymchwiliad i Gydlyniant cymdeithasol yng Nghymru – hynny yw sut mae grwpiau amrywiol o fewn y gymuned yn ymwneud â’i gilydd, a sut mae mudiadau cyhoeddus ac eraill yn helpu i hynny ddigwydd.

Mae eglwysi ar flaen y gad yn y gwaith yma, ac fe gyflwynwyd tystiolaeth ar ran Cytûn, Cynhadledd Esgobion Catholic Cymru a Lloegr, partneriaeth Good Faith, a thair clymblaid sy’n cynnwys eglwysi a mudiadau eraill sef Dyma Ni, Gwynedd, Llanelli Unites, a Sanctuary Coalition Cymru. Mae’n bleser gennym allu cyhoeddi detholiad o’r rhain yn nodi gwaith dwy yn unig o’r dwsinau o eglwysi a gyfeiriwyd atynt yn y dystiolaeth hon.

Ffurfiwyd Eglwys Undebol Treganna, Caerdydd trwy gyfuno un o eglwysi’r Bedyddwyr a dwy eglwys Ddiwygiedig Unedig. Mae ei chynulleidfa yn cynnwys pobl â chefndir o wledydd gan gynnwys UDA; yr Iseldiroedd; Japan; Hwngari; Canada a Nigeria, a mae rhai ohonynt bellach mewn swyddi arweinyddol yn yr eglwys. Mae’r gymdogaeth o amgylch yr eglwys yn amrywiol iawn o ran diwylliant, oedran, addysg a lefelau incwm. Mae’r eglwys ar hyn o bryd yn edrych i sefydlu gardd newydd ar agor i’r gymdogaeth ei mwynhau, trwy dyfu planhigion bwytadwy, a darparu man tawel i orffwys ac ymlacio. Eisoes mae gardd fechan wrth ochr yr eglwys (llun ar y chwith) ac mae’r eglwys wedi ennill gwobr efydd Eco Church, sy’n dangos ei gofal a’i chonsyrn am yr amgylchedd.

Yn ogystal ag addoli ar y Sul, mae’r eglwys yn darparu lleoliad ar gyfer gweithgareddau cymunedol gan gorau cymunedol; cyngherddau; grwpiau a gynhelir gan y Cyngor a’r GIG; a changen o Alcoholics Anonymous. Dywed yr eglwys, “Rydym yn eglwys sy’n croesawu ac yn mwynhau’r gwahaniaethau rhwng ein haelodau a’r rhai sy’n defnyddio’n cyfleusterau. Credwn fod parhad ein bodolaeth fel eglwys yn dibynnu’n rhannol ar arfer a hyrwyddo amrywiaeth, fel y gallwn fod yn barod ar gyfer Teyrnas Dduw.”

Mae Dyma Ni, prosiect ar y cyd rhwng Croeso Menai a Chrynwyr Bangor, yn cefnogi ceiswyr lloches a ffoaduriaid yng ngogledd Cymru ac yn helpu gyda’u hadsefydlu. Fe’i sefydlwyd yn wreiddiol i groesawu ffoaduriaid o Wcráin, ond wedi i’r Swyddfa Gartref ddechrau dnfon ceiswyr lloches eraill i Wynedd yn 2023, fe ledodd ei waith. Maent yn cefnogi’r dynion, sydd bron i gyd ar eu pen eu hunain, ynghyd ag ychydig o deuluoedd a merched unigol, gyda bwyd, dillad (rhoddedig neu o siopau elusen), offer cartref, tocynnau teithio, cardiau SIM, gliniaduron (wedi’u hadnewyddu) ac angenrheidiau eraill ar gyfer astudio, a mynediad i gyfleusterau chwaraeon, cyfleoedd hamdden a sesiynau coleg annfurfiol.

Mae’r gwaith hwn yn adlewyrchu cefnogaeth gyson eglwysi Cytûn i’r nod o weld Cymru yn Genedl Noddfa, syniad yr ymgyrchwyd drosto o’r cychwyn cyntaf gan grwpiau ffydd yng Nghymru, ac sy’n allweddol i hybu cydlyniant cymdeithasol pan fo pwnc lloches mor ddadleuol yn gyhoeddus.

EGLWYSI YN GWRTHWYNEBU TORRI CYMORTH TRAMOR

Mae aelod eglwysi a mudiadau Cytûn wedi ymateb gyda siom a dicter i gyhoeddiad disymwth Llywodraeth y DU ei bod am dorri ar wariant ar gymorth i wledydd tlotaf y byd o 0.5% i 0.3% o gynnyrch y wlad – colled o ryw £5.5bn y flwyddyn i’r gwledydd hynny. Bydd yr arian a arbedir yn cael eu dargyfeirio i wariant ar amddiffyn.

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru, dywedodd Mari McNeill, Pennaeth Cymorth Cristnogol yng Nghymru, mai “ein pryder mwyaf wrth gwrs yw’r gost dynol,….Mae’r newyddion yn siomedig,” meddai. Pan o’dd Llafur ‘di dod i rym yn San Steffan o’dd addewid i ail-osod safle y DU yn fyd eang i fod yn bartner parchus i wledydd sy’n datblygu, ac mae’r newyddion yna’n gwrth-wneud hynny.” Mae Cymorth Cristnogol wedi lansio ymgyrch o’r enw Restore, gyda deiseb y gellir ei harwyddo i bwyso ar y Llywodraeth i adfer y gyllideb ar unwaith.

Yn rhifyn Mawrth 13 wythnosolyn Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, Y Tyst, ceir patrwm o lythyr y gall eglwysi lleol ddanfon at eu Haelod Seneddol yn San Steffan am y mater. Dywed y llythyr, Credwn fod y gyllideb Cymorth Ryngwladol yn elfen hanfodol o gyfrifoldeb unrhyw genedl wâr i ofalu am y rhai hynny yn ein byd sy’n brin o fwyd a gofal iechyd digonol. Mae hefyd yn rhan annatod o’r frwydr yn erbyn canlyniadau newid yn yr hinsawdd ac yn bwysicach na dim yn ymdrech i sicrhau heddwch yn ein byd. … Mae cymorth rhyngwladol gan y DU yn cryfhau iechyd pobl a diogelwch byd-eang. Dyma’r ffordd orau i wneud y byd yn lle mwy diogel i fyw ynddo….

Cafwyd datganiadau grymus i berwyl tebyg gan arweinyddion yr Eglwys Fethodistaidd, yr Eglwys Ddiwygiedig Unedig ac Undeb Bedyddwyr Prydain Fawr, cadeirydd CAFOD, asiantaeth cymorth a datblygiad tramor yr Eglwys Gatholig, yr Esgob Stephen Wright; a chlerc y Crynwyr ym Mhrydain, Paul Parker, a ddywedodd “mae’r penderfyniad hwn yn llythrennol yn cymryd arian o bethau sy’n arbed bywydau a’u sianelu i arfau sy’n eu dinistrio.” Mae nifer o ddatganiadau, megis hwnnw gan Brif Weithredwr CAFOD, yn tynnu sylw at y ffaith fod y toriadau hyn yn dilyn dileu y rhan fwyaf o gymorth rhyngwladol yr UDA, a bod y toriadau yn effeithio ar lawer o’r un gwledydd. Mae Llywodraeth Cymru wedi pwysleisio nad yw’r cyhoeddiad yn effeithio ar raglen Cymru ac Affrica.

PYTIAU POLISI

Michael Sheen yn tanio galwadau am Ddeddf Bancio Teg

Mae rhaglen ddogfen ddiweddar ar Channel 4 (10 Mawrth), wedi ei lleoli yng Nghymru, Michael Sheen’s Secret Million Pound Giveaway, wedi tynnu sylw at yr effaith y mae credyd anfforddiadwy a dyled broblemus yn ei chael ar unigolion, teuluoedd a chymunedau. Yn y rhaglen, mae Sheen yn sôn am yr angen am Ddeddf Bancio Teg.

Mae’r elusen Gristnogol JustMoney Movement ac aelodau eraill o’r Ymgyrch Bancio Teg i Bawb yn galw ar Lywodraeth y DU i gyflwyno Deddf Bancio Teg a fyddai’n ei gwneud yn ofynnol i fanciau rannu gwybodaeth yn dryloyw am eu perfformiad wrth fynd i’r afael â mynediad at gredyd. Gallai hyn fod drwy ddarparu credyd fforddiadwy i bobl ar incwm isel, neu drwy gefnogi darparwyr credyd yn y gymuned fel undebau credyd a Sefydliadau Cyllid Datblygu Cymunedol i wneud hynny. Byddai’n creu system raddio i ddangos pa fanciau sy’n gwneud yn dda ac yn rhoi’r arfau a’r cymhellion i’r FCA (Awdurdod Ymddygiad Ariannol) ysgogi newid.

Darllenwch fwy a darganfyddwch sut y gallwch chi weithredu yma: https://justmoney.org.uk/blog/lets-make-banking-fair

Open Doors yn cyhoeddi rhestr o wledydd lle mae Cristnogion dan warchae

Mae Rhestr Gwylio’r Byd 2025 gan yr elusen Gristnogol Open Doors yn barod i’w archebu yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae’n llawlyfr cynhwysfawr sy’n cyflwyno’r 50 gwlad lle mae’n costio’n fwyaf i ddilyn Iesu. Mae’r llawlyfr hwn yn llawn gwybodaeth ac anogaeth i’ch helpu i gysylltu gyda’r eglwys sy’n cael ei herlid ac i weddïo dros ein teulu sy’n wynebu erledigaeth.

Gallwch archebu hyd at 30 o gopïau yn Gymraeg yma, neu yn Saesneg yma. Am fwy na 30 copi, ffoniwch Open Doors ar 01993 460 015 neu e-bostiwch Jim Stewart ar jims@opendoorsuk.org

CROESO I IESTYN DAVIES

Mae’n bleser gan Cytûn gyhoeddi fod Iestyn Davies wedi’i benodi i olynu’r Parch. Gethin Rhys fel Swyddog Polisi Cytûn. Bydd Gethin ac Iestyn yn cydweithio hyd ddiwedd mis Ebrill, pryd y bydd Gethin yn ymddeol wedi cyfnod o ddeng mlynedd fel Swyddog Polisi a dwy flynedd cyn hynny, rhwng 2003 a 2005, yn gweithio i’r mudiad.

Mae Iestyn yn arweinydd profiadol gyda chefndir cyfoethog mewn polisi a materion cyhoeddus, yn fwyaf arbennig ym myd addysg a busnes, ond hefyd ym maes iechyd. Gwasanaethodd fel Prif Swyddog Gweithredol Colegau Cymru, gan eiriol dros golegau addysg bellach yng Nghymru, ac arweiniodd Ffederasiwn Busnesau Bach (FSB) Cymru, gan gefnogi mentrau bach. Fel Dirprwy Is-ganghellor ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), datblygodd fentrau academaidd ac ymgysylltiad cymunedol.

Yn wreiddiol o Ferthyr Tudful ac wedi’i eni a’i fagu yn rhengoedd Byddin yr Iachawdwriaeth, mae Iestyn yn hyrwyddwr brwd dros eciwmeniaeth ac adeiladu a chryfhau perthnasoedd rhwng cymunedau ffydd amrywiol Cymru, ac yn arbennig, yn eu cyfraniad yn y byd cyhoeddus.

Dywedodd Dr Cynan Llwyd, Ysgrifennydd Cyffredinol Cytûn: “Mae’n bleser gallu croesawu Iestyn i’r tîm. Dyma gyfnod chwerw felys wrth gwrs wrth i ni ffarwelio ag aelod gwerthfawr o’r tîm yn Gethin. Mae Iestyn yn unigolyn profiadol ym maes polisi a chysylltiadau cyhoeddus a chanddo egni heintus a gweledigaeth gyffrous ar gyfer y rôl. Edrychaf ymlaen at gydweithio gydag ef i ddatblygu gwaith Cytûn wrth i ni bartneru â’n haelodau yn eu cenhadaeth a chydweithio â phartneriaid allanol er mwyn cyfoethogi bywyd cyhoeddus Cymru.”

Wrth ymuno â Cytûn, dywedodd Iestyn, “Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ymuno â’r tîm a pharhau â’r gwaith a wnaed gan Gethin i hysbysu a chynrychioli ein haelodau yng Nghymru. Rwy’n ddiolchgar iawn i’r staff ac i’r ymddiriedolwyr am eu croeso cynnes.”

Meddai Gethin, “Rwy wedi mwynhau’r deng mlynedd diwethaf i’r eithaf. Fe fu’n fraint enfawr i gael cynrychioli eglwysi a chymunedau ffydd Cymru yn y sector cyhoeddus, a cheisio sicrhau fod eu llais yn cael ei chlywed gan y Senedd, Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill. Rwy’n hynod falch fod Iestyn yn barod i ymgymryd â’r cyfrifoldeb hwn, ac yntau eisoes â phrofiad helaeth yn y maes, a dymunaf bob rhwyddineb iddo yn y gwaith.”

CYSYLLTU Â SWYDDOG POLISI CYTÛN

Iestyn Davies – Swyddog Polisi/Policy Officer
Cytûn – Eglwysi ynghyd yng Nghymru/Churches together in Wales

Swyddfa gofrestredig: Tŷ Hastings, Llys Fitzalan, Caerdydd CF24 0BL

E-bost: iestyn@cytun.cymru         
www.cytun.co.uk        @CytunNew      www.facebook.com/CytunNew

Hapus i gyfathrebu yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Happy to communicate in Welsh and English

Mae Cytûn yn gwmni cofrestredig yng Nghymru a Lloegr | Rhif: 05853982 | Enw cofrestredig: “Cytûn: Eglwysi Ynghyd yng Nghymru/Churches Together in Wales Limited” |
Mae Cytûn yn elusen gofrestredig | Rhif: 1117071 |

Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 18 2025.