BLAENORIAETHAU NEWYDD A CHABINET NEWYDD I LYWODRAETH CYMRU

Llun: Senedd.tv (h) Comisiwn Senedd Cymru

Yn dilyn cyfnod helbulus yn Llywodraeth Cymru, fe ddaeth y Prif Weinidog newydd, Eluned Morgan AS, gerbron Senedd Cymru ar Fedi 17 i gyflwyno ei blaenoriaethau ar gyfer llywodraethu ac i gyflwyno ei Chabinet newydd fydd yn gweithredu’r blaenoriaethau hynny.

Fe ddywedodd i’r blaenoriaethau hynny gael eu siapio gan sgyrsiau a gafodd gyda’r cyhoedd ledled Cymru dros yr haf. Nid oedd hi’n syndod clywed fod pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd, safonau addysgol mewn ysgolion a thrafnidiaeth ar y rheilffyrdd a’r heolydd yn flaenoriaethau amlwg. Pwysleisiodd hefyd yr angen am dwf economaidd trwy gyfrwng creu “swyddi gwyrdd”. Dywedodd Ms Morgan y byddai’r Cabinet yn cyfarfod yn fisol i ganolbwyntio ar drafod gweithredu ar y blaenoriaethau hynny, ac fe ddynodwyd Julie James AS yn ‘Weinidog Cyflawni’ i arwain ar y gwaith o sicrhau cynnydd yn y meysydd hyn. Er i’r Prif Weinidog awgrymu sawl gwaith fod blaenoriaethu’r materion hyn yn golygu dad-flaenoriaethu rhai materion eraill, ni chafwyd arwydd hyd yma beth fyddai’n cael ei hepgor o waith y llywodraeth. Disgwylir datganiad pellach yn ystod yr hydref.

Wrth ymateb i gwestiynau gan aelodau, fe ddywedodd y Prif Weinidog y byddai’r rhaglen ddeddfwriaethol a gyhoeddwyd fis Gorffennaf gan ei rhagflaenydd (gweler Bwletin Polisi Haf 2024) yn cael ei gweithredu, gyda dau newid. Yn gyntaf, ar Fedi 24 fe bleidleisiodd y Senedd o blaid peidio â thrafod ymhellach Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol), a fyddai wedi sicrhau fod o leiaf hanner y rhai a etholwyd i’r Senedd nesaf ym Mai 2026 yn ferched. Mae hyn yn dilyn barn y Llywydd a’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol nad oedd y mesur o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru.

Yn ail, fe ddywedodd y Prif Weinidog y byddai yna “fân newidiadau” i’r Bil arfaethedig i gofrestru llety gwyliau yng Nghymru. Mae hyn yn fater o gryn bwysigrwydd i’r eglwysi, gan y byddai’r Bil yn effeithio ar ganolfannau encil, eglwysi pererindod a chymunedau crefyddol sy’n cynnig llety i ymwelwyr, a’r llety hwnnw yn aml yn llety syml diaddurn a fforddiadwy. Gallai hefyd effeithio ar ddarparu llety gwyliau yn elusennol i deuluoedd tlawd. Roedd effaith y rheoleiddio cynyddol gan Lywodraeth Cymru ar fywyd eglwysi yng Nghymru a fater godwyd gan Cytûn wrth ysgrifennu i longyfarch y Prif Weinidog – sydd ei hun o gefndir eglwysig – adeg ei phenodi.

Roedd y Prif Weinidog eisoes wedi cyhoeddi pwy fyddai’r Ysgrifenyddion Cabinet a Gweinidogion newydd yn y Llywodraeth. Yn dilyn yr holl newidiadau diweddar, dyma’r rhestr gyflawn fel y mae’n sefyll erbyn hyn:

  • Eluned Morgan AS – Prif Weinidog, gyda chyfrifoldeb penodol dros gysylltiadau rhyngwladol, yn cynnwys gydag Ewrop, a thros argyfyngau sifil posibl.
  • Huw Irranca-Davies AS – Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
  • Jeremy Miles AS – Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
    • Sarah Murphy AS – Y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant
    • Dawn Bowden AS – Y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol
  • Mark Drakeford AS – Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg
  • Rebecca Evans AS – Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
  • Jayne Bryant AS – Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai
  • Lynne Neagle AS – Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
    • Vikki Howells AS – Y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch
  • Ken Skates AS – Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru
  • Jane Hutt AS – Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip (sy’n cynnwys cyfrifoldeb dros y sector gwirfoddol, gan gynnwys cymunedau ffydd)
    • Jack Sargeant AS – Y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol
  • Julie James AS – Y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni

Gellir gweld cyfrifoldebau llawn pob Ysgrifennydd Cabinet a Gweinidog, a sut i gysylltu â nhw, ar wefan Llywodraeth Cymru.

Sul Digartrefedd – 6ed Hydref 2024

Mae Housing Justice, sy’n aelod o Cytûn, yn trefnu Sul Digartrefedd ar y Sul cyn Diwrnod Digartrefedd y Byd bob blwyddyn, ac mae Sul Digartrefedd eleni yn digwydd ar 6 Hydref. Y thema yw ‘Cymunedau sy’n terfynu Digartrefedd’ gan fod y rôl y mae eglwysi a chymunedau yn ei chwarae wrth ddileu digartrefedd lleol yn hollbwysig.

Cewch amrywiaeth o adnoddau (Saesneg yn unig) i’w defnyddio yma os ydych yn cynllunio oedfa Sul Digartrefedd naill ai ar 6 Hydref neu ar ddyddiad arall o’ch dewis. Mae’r adnoddau hyn yn cynnwys gweddïau wedi’u recordio ymlaen llaw, emynau, homilïau, adnoddau’r Ysgol Sul, gwybodaeth am ddigartrefedd yng Nghymru, a llawer mwy. Rhowch wybod i Housing Justice beth rydych chi’n ei gynllunio trwy e-bostio Joanna Whitney yma.

Yn galw pob rhiant – cystadleuaeth ffotograffau Wythnos Rhianta

Cynhelir Wythnos Rhianta rhwng dydd Llun 21ain Hydref – dydd Gwener 25ain Hydref 2024. Y thema ar gyfer eleni yw Ar Gyfer Pob Teulu ac mae hyn yn dathlu ac yn cydnabod yr holl wahanol fathau o deuluoedd a rhieni.

Mae Cyswllt Rhieni Cymru, y mae Cytûn yn ymwneud ag ef ar ran ein haelod eglwysi, yn cynnal cystadleuaeth tynnu lluniau i ddathlu Wythnos Rhianta. Gallwch ddod o hyd i holl fanylion y gystadleuaeth yn y poster ar y chwith.

Rydym yn awyddus i gael ceisiadau gan ystod amrywiol o rieni ar draws Cymru gyfan, a byddai Cytûn yn annog rhieni o ffydd i gystadlu ac efallai anfon llun sy’n dangos agwedd o rianta a ffydd.

Bydd y lluniau’n cael eu cyflwyno mewn gweminar ddydd Mercher 23 Hydref am 10.00-11.30am dan yr enw Llais Rhieni ar draws y Pedair Gwlad, mewn cydweithrediad â phrosiectau rhianta o’r Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Cytûn yn cefnogi Partneriaeth Hapus

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi lansio Sgwrs Genedlaethol ar Les Meddyliol, ac mae Cytûn wedi ymuno fel cefnogwr Hapus. Mae Hapus ar Facebook, Instagram ac X. Mae gwefan Hapus yn cynnwys blogiau byr gan lawer o wahanol bobl yng Nghymru am yr hyn sy’n helpu eu lles meddyliol. Rydym yn awyddus i annog blogbyst gan bobl o ffydd am eu profiadau cadarnhaol. Os oes gennych ddiddordeb mewn cyfrannu blog, e-bostiwch: HI-Programme.Support@wales.nhs.uk gan nodi eich bod yn rhan o gymuned Cytûn.

Safe Families a Home for Good yn uno

Mae Safe Families a Home for Good, dau fudiad sy’n aelodau gyda Cytûn, wedi cyhoeddi eu bod yn uno, ar sail gweledigaeth uchelgeisiol o weld teuluoedd yn ffynnu. Mae Home for Good wedi gweithio gyda’r eglwys i ddod o hyd i gartrefi all feithrin plant na allant aros gyda’u teuluoedd genedigol. Ar yr un pryd, mae Safe Families wedi helpu teuluoedd ynysig i berthyn, trwy roi cymuned a chefnogaeth iddynt. Gyda’i gilydd, mae’r ddwy elusen yn credu y byddant, trwy uno, yn gweld mwy o eglwysi wedi’u harfogi, mwy o wirfoddolwyr yn cael eu grymuso a’u hyfforddi, mwy o awdurdodau lleol yn cael eu gwasanaethu, mwy o deuluoedd yn cael eu cefnogi, llai o blant yn mynd i mewn i ofal ac i’r rhai sy’n profi hynny, bydd mwy yn dod o hyd i gartrefi sy’n gyfaddas ar eu cyfer.

Ym mis Awst, bu i Home for Good a Safe Families ymbresenoli am yr wythnos gyfan fel rhan o gyfraniad Cytûn i’r Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd. Siaradodd Arfon Jones yn ysbrydoledig am stori fabwysiadu wych a heriol ei deulu ei hun yn y gwasanaeth amser cinio dydd Gwener. Lansiodd Home for Good ei gronfa gynyddol o adnoddau Cymraeg. Gallwch ddod o hyd i dair stori o Gymru ar-lein, yn Gymraeg ac yn Saesneg: stori Heulwen (‘Etifeddion’), stori Catherine a stori Dan. Mae fideo 38,000 Home for Good ar gael mewn fersiwn Gymraeg a fersiwn acen Gymreig (Saesneg).

Llun: Neil Davies o Home for Good yn Eglwys y Santes Catrin, Pontypridd yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol.

A allai Cymru gyrraedd Sero Net erbyn 2035?

Yn 2022, sefydlodd Llywodraeth Cymru a (o dan y cytundeb cydweithredu ar y pryd) Plaid Cymru Grŵp Herio Cymru Sero Net 2035, i weld a ellid dwyn y targed presennol i Gymru gyrraedd allyriadau carbon sero net erbyn 2050 ymlaen i 2035, mewn ffordd fyddai’n gyfiawn a theg i bawb. Ar 16 Medi, cyhoeddodd y Grŵp gyfres o adroddiadau yn cwmpasu Addysg, Swyddi a Gwaith; Bwyd; Gwresogi ac adeiladu cartrefi a gweithleoedd; Egni; a Chysylltu pobl (yn ddigidol ac o ran trafnidiaeth).

Casgliad yr adroddiadau yw y byddai trawsnewid mor gyflym yn heriol, ond yn bosibl o ystyried yr ewyllys gwleidyddol, a gallai ddarparu llawer o fanteision i gymdeithas y tu hwnt i’r rheidrwydd amgylcheddol o arafu newid yn yr hinsawdd. Mae Cytûn wedi cyfrannu at drafodaethau gyda’r Grŵp Her fel rhan o’i aelodaeth o Climate Cymru, ac yn gobeithio y bydd yr adroddiadau hyn yn helpu i lywio gweithredoedd Llywodraeth bresennol Cymru a maniffestos etholiad y Senedd yn 2026, yn ogystal â herio’r gymdeithas gyfan – gan gynnwys eglwysi – i weithredu yn yr adeiladau a’r cymunedau lle maent wedi eu lleoli.

Paratoi’r ymgyrch Croeso Cynnes ar gyfer y gaeaf hwn

Bu llawer o eglwysi Cymru yn cynnal Hybiau Cynnes (dan amrywiol enwau) dros y gaeafau diweddar. Gyda phrisiau tanwydd yn codi eto, a lwfans tanwydd gaeaf llawer o bensiynwyr wedi’i ddileu, bydd llawer o aelod eglwysi yn dymuno cynnal gofodau o’r fath eto. Mae Cytûn yn annog eglwysi sy’n dymuno gwneud hynny i gofrestru gyda’r ymgyrch Croeso Cynnes, sy’n ceisio cydlynu hybiau ymhob cymuned. Bydd lansiad ar-lein yr ymgyrch ar gyfer 2024-25 yn cael ei gynnal am 6.30-7.30yh ddydd Iau 3 Hydref – cofrestrwch gan ddefnyddio’r ddolen uchod. Bydd y gweminar yn cynnwys lansiad yr Addewid 100%, gyda’r nod o sicrhau bod gan bawb fynediad i Fan Croeso Cynnes o fewn taith gerdded 30 munud o’u cartref.

Cymorth Cristnogol yn annog torri bara gyda’ch AS

Wrth i ASau newydd-etholedig ymgartrefu yn eu seddi, mae Cymorth Cristnogol, sy’n aelod o Cytûn, yn galw ar bobl i feithrin cysylltiadau a dechrau sgyrsiau gyda’u cynrychiolwyr yn Senedd y DU. Trwy wahodd AS newydd-etholedig i dorri bara gallech feithrin cysylltiad a allai bara am flynyddoedd.

Roedd Iesu’n rhannu bara’n aml â’r rhai y daeth ar eu traws ac y bu’n gyfaill iddynt – ac fel gweithred ganolog y Swper Olaf, mae torri bara yn llawn arwyddocâd arbennig i Gristnogion. Mae’n symbol o groeso, lletygarwch, gofal, bod yn agored, a heddwch. Gall hyd yn oed y prydau mwyaf diymhongar – neu baned o de a bisgedi – helpu i greu a meithrin perthnasoedd.

I helpu eglwysi, mae Cymorth Cristnogol wedi llunio canllaw Torri Bara gydag AS (a lansiwyd yn Gymraeg yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddechrau mis Awst). Yn ogystal, mae yna adnoddau sy’n egluro beth mae Cymorth Cristnogol yn ei ofyn gan Lywodraeth y DU – o roi heddwch yn gyntaf, ac ariannu cyfiawnder hinsawdd, i ganslo dyledion gwledydd incwm isel. Gweler y taflenni hyn (ar gael yn Saesneg hefyd). Mae yna hefyd y cwrs Taclo Tlodi, sydd ar gael yn Gymraeg a Saesneg, a grëwyd gyda phartneriaid yn y DU i helpu Cristnogion i gael dealltwriaeth ddyfnach o dlodi a chael eu harfogi i siarad â chynrychiolwyr gwleidyddol amdano.

Ewch i https://www.caid.org.uk/torribara i arwyddo i fyny a chael yr adnodd Cymraeg neu Saesneg.

Galwad Agored i Artistiaid: cystadleuaeth ac arddangosfa

Mae Cynhadledd Esgobion Catholig Cymru a Lloegr yn gwahodd artistiaid i gyflwyno gweithiau celf sy’n archwilio ffydd a diwinyddiaeth tra’n ysgogi’r gwyliwr i feddwl yn wahanol am sut mae’r rhain wedi’u portreadu’n draddodiadol.

O dan yr enw Cwmwl Tystion, a chan weithio’n eciwmenaidd ac ar draws y crefyddau, mae St John’s Waterloo a Chynhadledd yr Esgobion Catholig, gyda chyngor Art + Christianity, yn ceisio codi ymwybyddiaeth, dealltwriaeth a pharch at ein cyd-dystiolaeth yn y DU. Maent yn anelu at greu deialog cyfoethocach am sut rydym yn gweld ac yn deall ffydd a diwinyddiaeth a gwerth creadigrwydd yn seiliedig ar wahanol grefyddau, diwylliannau a phrofiadau.

Rhaid i weithiau celf fod yn ddau ddimensiwn a naill ai’n gynrychioliadol o, neu’n cyfeirio at, bersonau neu dduwiau o unrhyw grefydd ac unrhyw gyfnod. Bydd panel o feirniaid, a gadeirir gan Esgob Wrecsam, Peter Brignall, a’i gynghori gan arbenigwyr ym meysydd aml-ffydd ac arlunio, yn dyfarnu ac yn dethol gweithiau celf ar gyfer arddangosfa yn St John’s Waterloo o 4 Mawrth – 27 Ebrill 2025. Bydd yr holl waith yn cael ei feirniadu ar sail addasrwydd at thema’r arddangosfa, arloesedd arddull a thechneg yn ogystal â’r sgil creadigol wrth ymateb i naratif rhyng-ffydd neu gyfiawnder hiliol.

Dylid cyflwyno lluniau o waith celf erbyn 11:59pm dydd Llun 11 Tachwedd 2024. Bydd tair gwobr ariannol fach yn cael eu dyfarnu: gwobr 1af o £1,000, 2il wobr o £750 a 3edd wobr o £500. Am ragor o wybodaeth a meini prawf, cliciwch yma.

Ariennir Cwmwl Tystion a’i gefnogi gan Art + Christianity; Duw sy’n Llefaru; Eglwys Sant Ioan, Waterloo; Cynhadledd yr Esgobion Catholig; ac Ymddiriedolaeth Culham St Gabriel. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Fleur Dorrell – fleur.dorrell@cbcew.org.uk

Colofn gwadd: Cymru sy’n gyfrifol yn fyd-eang mewn byd toredig

Am y tro cyntaf ers 25 mlynedd, mae tlodi ac anghydraddoldeb eithafol ar gynnydd. Mae caledi a newyn yn realiti dyddiol i lawer o bobl ledled y byd, gan gynnwys yma yng Nghymru, lle mae dros un rhan o bump o’r boblogaeth yn byw mewn tlodi. Ar y raddfa bresennol, byddai’n cymryd 230 o flynyddoedd i ddod â thlodi byd-eang i ben, ond gallem gael ein triliwnydd cyntaf ymhen dim ond degawd. Yn y cyfamser mae tymereddau byd-eang yn codi, gyda newid hinsawdd yn creu anhrefn o gwmpas y byd, gan ddinistrio bywydau a bywoliaethau.

Ac eto, mae adroddiad newydd Oxfam Cymru a’r Sefydliad Materion Cymreig, Cymru Sy’n Gofalu am Bobl a’r Blaned, yn edrych ar sut mae byd mwy gwyrdd, mwy cyfartal, heddychlon yn bosibl. Byd lle mae’r aer yn lân, oherwydd mae ynni adnewyddadwy yn pweru ein cymunedau. Byd lle nad yw bywydau bellach yn cael eu llethu’n rheolaidd gan drais, methiant cnydau neu lifogydd, oherwydd pan fydd trychinebau’n taro bydd pawb yn cael eu gwarchod a hawl i’w diogelu. Byd lle mae cyfreithiau rhyngwladol nid yn unig yn eiriau ar lyfrau statud, ond yn amddiffyn pawb rhag gormes. A lle nad oes neb yn cael ei orfodi i ddewis rhwng gwresogi neu fwyta, oherwydd mae gan bawb hawl i fyw heb dlodi.

Yng Nghymru, mae heriau byd-eang i’w gweld yn lleol mewn ffyrdd gwahanol. Mae erydu arfordirol yn peryglu ein tirweddau a’n cymunedau hardd. Mae swyddi ansicr a chyflogau isel yn effeithio ar ein heconomi, yn enwedig mewn ardaloedd ôl-ddiwydiannol. Mae gwasanaethau cyhoeddus yn brin, yn methu â rhoi cymorth digonol i’r sawl sydd mewn angen. Ar yr un pryd, mae tanbrisio gwaith gofal â thâl a gwaith di-dâl, gwaith a wneir yn aml gan fenywod, yn rhoi cymhorthdal enfawr anweledig i economi Cymru tra bod gofalwyr eu hunain yn cael eu gwthio i’r dibyn, yn ariannol ac yn emosiynol.

Nid yw’r heriau hyn yn bethau ar wahân; maent wedi’u cydblethu’n ddwys, ac yn hawlio ymateb cynhwysfawr a chydlynol. Mae’r adroddiad yn dadlau bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru gydnabod nad mater o arian yn unig yw llwyddiant cenedlaethol, ond hefyd bod â chymunedau ffyniannus ac amgylchedd iach. Mae’n dadlau ei fod yn gyfle perffaith i’n Prif Weinidog newydd fynd ar drywydd ffyrdd newydd o dyfu ein heconomi sy’n gwerthfawrogi gofalu am ein gilydd, amddiffyn ein hinsawdd, a gwneud yn siŵr bod pawb yn cael yr un cyfle i fyw yn dda.

Mae’r adroddiad yn dadlau, gan mai bod yn genedl sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang yw un o nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru), fod gan Gymru’r cyfle i fod ar flaen y gad yn yr ymgyrch hon i ail-lunio ein cymdeithasau a’n heconomïau, gan fod yn llusern gobaith i eraill ei ddilyn tra’n dangos sut y gall cenedl fach fynd i’r afael â heriau mawr.

Rebecca Lozza | Cynghorydd Cyfryngau a Chyfathrebu Oxfam, yr Alban a Chymru

Eglwysi yn gweithredu ar fancio a thanwydd ffosil

Mae chwaer sefydliad Cytûn, Eglwysi Ynghyd ym Mhrydain ac Iwerddon (CTBI), fel rhan o’i eiriolaeth ar gyfer Tymor y Cread, yn cefnogi a helpu i hyrwyddo apêl i fanciau mawr y DU sy’n ymwneud ag ariannu tanwydd ffosil. Gwneir hyn ar y cyd â Just Money Movement, Make My Money Matter, Christian Climate Action a Bank Better. Mae hyn yn adeiladu ar waith Rhwydwaith Materion Amgylcheddol CTBI (y mae Cytûn a nifer o’n haelod eglwysi yn rhan ohono) a gweminar i eglwysi ar Fancio a’r Argyfwng Hinsawdd, a gynhaliwyd yn gynharach eleni. Fe’i cefnogir gan Gyngor Eglwysi’r Byd fel rhan o’u hymwneud byd-eang â materion cyfiawnder hinsawdd.

Gallwch weld y wybodaeth am y datganiad a sut i gofrestru ar ran sefydliad yma: https://justmoney.org.uk/church-action-on-banking/. Derbynnir llofnodion tan Hydref 11.

PWYSIG: Arolwg o weithgareddau i blant yng Nghymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio arolwg ar gyfer darparwyr gofal plant, chwarae a gweithgareddau i blant dan 12 oed nad ydynt wedi’u cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru fel Gwarchodwr Plant neu ddarparwr Gofal Dydd o dan Reoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010. Byddai hyn yn cynnwys Ysgolion Sul, clybiau ar ôl ysgol, clybiau gwyliau a bron y cyfan o weithgareddau plant pob enwad crefyddol yng Nghymru.

Mae Cytûn yn aelod o Grŵp Ymgynghorol Llywodraeth Cymru am y mater, ac mae cryn bwysau ar y Llywodraeth i gofrestru a rheoleiddio’n dynnach gweithgareddau o’r fath, gan gynnwys gweithgarwch eglwysi. Mae’n bwysig felly fod eglwysi yn ymateb i ddangos rhychwant, pwysigrwydd a diogelwch ein gweithgareddau ar gyfer plant dan 12 oed.

Os ydych yn gyfrifol am weithgarwch Cristnogol lleol i blant, byddem yn eich annog i gymryd rhan yn yr arolwg: https://www.smartsurvey.co.uk/s/EANZAY/ ac i dynnu sylw eraill o fewn eich eglwys leol sydd hefyd yn gyfrifol. Bydd yr arolwg yn dod i ben ar 8 Tachwedd 2024.

Llun: Llywodraeth Cymru

Rhyfel yn Israel a Gaza – flwyddyn yn ddiweddarach

Wrth i’r Dwyrain Canol agosáu at garreg filltir enbyd blwyddyn ers dechrau’r gwrthdaro diweddaraf, mae Cymorth Cristnogol – sy’n aelod o Cytûn – yn gofyn i gefnogwyr roi, gweithredu a gweddïo – gydag ail-lansio ei apêl frys, gwylnos ar-lein a chyfarfodydd gweddi misol.

Mae Cymorth Cristnogol yn gwahodd llofnodion ar ei ddeiseb i Lywodraeth y DU yn galw am heddwch cyfiawn, a hefyd yn cysylltu ag ASau yn San Steffan, yn eu hannog i gefnogi cadoediad. Ar ben-blwydd cyntaf y gwrthdaro presennol, fe gynhelir Gwylnos Ymgynulledig ar-lein am 8am ddydd Llun, Hydref 7. Cofrestrwch drwy’r wefan.

Eglurodd Pennaeth Cymorth Cristnogol Cymru Mari McNeill: “Mae ein cefnogwyr wedi bod yn anhygoel fel bob amser, gan godi mwy na £2.2 miliwn hyd yn hyn sydd wedi ein helpu i gyrraedd dros 800,000 o bobl yn Gaza trwy ein partneriaid lleol gydag arian parod i deuluoedd sydd wedi’u dadleoli; cymorth meddygol drwy glinigau iechyd symudol; anghenion sylfaenol fel bwyd, dŵr, blancedi a matresi a lloches, gan gynnwys sefydlu gwersyll Person sydd wedi’i Ddall yn Fewnol hygyrch i bobl ag anableddau.

“Mae Cymorth Cristnogol hefyd wedi bod yn gweithio gyda sefydliad cymdeithas sifil Israelaidd yn Tel Aviv, gan eu cefnogi i ddarparu mannau diogel i ymgynnull yn dilyn trawma Hydref 7 y llynedd. Ond mae’r angen yn enfawr ac mae mwy y gallwn ei wneud a dyna pam ein bod yn ail-lansio ein apêl Gaza. Gyda chefnogaeth a gweddïau ein cefnogwyr, gall a bydd Cymorth Cristnogol yn cyrraedd mwy o bobl gyda’r cymorth sydd ei angen arnynt.”

CYSYLLTU Â SWYDDOG POLISI CYTÛN

Parch./Revd Gethin Rhys – Swyddog Polisi/Policy Officer
Cytûn – Eglwysi ynghyd yng Nghymru/Churches together in Wales

Swyddfa gofrestredig: Yst. 3.3, Tŷ Hastings, Llys Fitzalan, Caerdydd CF24 0BL

Mudol/mobile: 07889 858062       E-bost: gethin@cytun.cymru         
www.cytun.co.uk        @CytunNew      www.facebook.com/CytunNew

Hapus i gyfathrebu yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Happy to communicate in Welsh and English

Mae Cytûn yn gwmni cofrestredig yng Nghymru a Lloegr | Rhif: 05853982 | Enw cofrestredig: “Cytûn: Eglwysi Ynghyd yng Nghymru/Churches Together in Wales Limited” |
Mae Cytûn yn elusen gofrestredig | Rhif: 1117071 |

Dyddiad cyhoeddi: Medi 26 2024. Cyhoeddir y Bwletin nesaf ar Dachwedd 28 2024.