SAN STEFFAN YN CEFNOGI CYMORTH I FARW OND SENEDD CYMRU YN GWRTHWYNEBU
Ar Dachwedd 29, cafwyd trafodaeth ddwys a theimladwy yn Nhŷ’r Cyffredin am gyfreithloni cymorth feddygol i farw yng Nghymru a Lloegr. Ar ddiwedd y drafodaeth, fe bleidleisiodd ASau o blaid y Bil Oedolion Terfynol Sâl (Diwedd Bywyd) o 330 pleidlais i 275. O ddod yn gyfraith ar ei ffurf bresennol, byddai hawl i ofyn am gymorth i farw gan y sawl sydd â thystysgrif dau feddyg eu bod o fewn 6 mis i ddiwedd eu hoes. Byddai hefyd angen i’r claf gymryd y cyffuriau i’w ladd ei hun, er y gallai dderbyn cymorth meddyg i gyflawni’r weithred honno, a byddai angen i feddyg fod yn bresennol. Ni fyddai gorfodaeth ar unrhyw feddyg i gymryd rhan yn y math hwn o drefniant.
Gwahanol fu canlyniad y bleidlais yn dilyn trafodaeth ddwys a boneddigaidd yn Senedd Cymru ar Hydref 23 am y pwnc. Canlyniad y bleidlais honno oedd 19 o blaid y cynnig, 26 yn erbyn, 9 yn ymatal a’r gweddill heb bleidleisio. Roedd y cynnig a wrthodwyd yn wahanol ei fanylion i’r Bil yn San Steffan. Yn benodol, roedd yn cynnig y dylai oedolyn yn ei lawn bwyll, y mae ganddo gyflwr corfforol annioddefadwy na ellir ei wella ac y mae wedi nodi ei ddymuniad clir a phendant i farw, gael yr opsiwn o gymorth i farw, yn ddarostyngedig i fesurau diogelu cadarn. Wrth i Fil San Steffan barhau ar ei daith, bydd angen cytuno ar gynnig cydsyniad deddfwriaethol am y Bil hwnnw yn Senedd Cymru, gan mai gwasanaeth iechyd datganoledig Cymru fyddai yn ei weithredu.
Roedd ASau sy’n Gristnogion i’w canfod ar ddwy ochr y drafodaeth a’r bleidlais yn y ddwy Senedd. Cyfeiriwyd at ddaliadau crefyddol gan ddau siaradwr yn erbyn y cynnig yn Senedd Cymru, ond yn San Steffan roedd y cyfeiriadau at grefydd yn pwysleisio grym cydwybod bersonol.
Cyn y drafodaeth yn San Steffan, cyhoeddwyd llythyr yn yr Observer gan arweinyddion nifer o grefyddau, gan gynnwys yr Eglwys Gatholig, yr Eglwys yng Nghymru, Byddin yr Iachawdwriaeth, yr Eglwys Fethodistaidd a Chynulliadau Duw, sydd oll yn aelodau o Cytûn, a Llywydd Grŵp Eglwysi Rhyddion Cymru a Lloegr, sy’n cynnwys nifer o aelodau Cytûn. Mae’n mynegi gofid dwys am beryglon rhoi pwysau annheg ar bobl i ddewis y llwybr hwn, am ledu cymorth i farw i grwpiau eraill maes o law, ac am ddiffyg adnoddau ar gyfer gofal diwedd oes. Lleisiwyd y dadleuon hyn droeon yn y ddwy Senedd. Cyhoeddwyd llythyr tebyg gan esgobion yr Eglwys Gatholig a’r Eglwys yng Nghymru ac arweinyddion nifer o grefyddau eraill cyn y drafodaeth yn Senedd Cymru.
Mae nifer o aelod eglwysi Cytûn wedi cyhoeddi datganiadau yn erbyn cymorth i farw, yn cynnwys:
Roedd Eglwys Bresbyteraidd Cymru wedi dosbarthu deunydd i helpu ei haelodau i ysgrifennu at ASau cyn y drafodaeth yn San Steffan, yn gwrthwynebu’r Bil, a chymerwyd camau tebyg gan nifer o fudiadau Cristnogol eraill, megis y Gynghrair Efengylaidd a CARE.
Mae rhai enwadau yn teimlo mai mater o gydwybod personol yw hyn ac felly heb gyhoeddi safbwynt pendant. Ymhob achos, maent yn tynnu sylw at ddatganiadau Cristnogion yn gwrthwynebu cymorth i farw, ac at ddaliadau diwinyddol, ond hefyd yn nodi rhai adnoddau sy’n arddel safbwynt gwahanol, ac yn galw am drafodaeth ofalus ac ystyrlon. Yn eu plith mae:
Gyda’r drafodaeth yn San Steffan nawr yn symud i Bwyllgor, a fydd yn gofyn am dystiolaeth gan amrywiol fudiadau a’r cyhoedd, gallwn ddisgwyl i’r drafodaeth barhau ac i gyfraniadau Cristnogol amlhau yn y misoedd i ddod. Rhoddir sylw i’r rheiny mewn rhifynnau pellach o’r Bwletin Polisi.
Ymchwiliad Covid-19 y DU i ystyried crefydd ym Modiwl 10
Mae’r Farwnes Hallett wedi cyhoeddi agor modiwl olaf yr ymchwiliad, Modiwl 10, yn archwilio maes hynod eang ‘Effaith ar gymdeithas’. Ymhlith y pynciau a gynhwysir mae “cyfyngiadau ar addoli” a “galarwyr, gan gynnwys cyfyngiadau ar drefniadau angladd a chladdedigaethau a chymorth ar ôl profedigaeth” yn ogystal ag effeithiau lletach ar gymdeithas a fyddai hefyd o ddiddordeb i’r eglwysi. Mae’r Farwnes wedi dweud y bydd statws ‘Cyfranogwyr Craidd’ yn y modiwl hwn i fudiadau sy’n rhychwantu’r DU cyfan (er y gall y bydd hynny yn cael ei herio). Yn wyneb hyn, mae Gwasanaeth Ymgynghorol Deddfwriaethol yr Eglwysi (CLAS, y mae nifer o aelodau Cytûn yn aelodau ohono), wedi gwneud cais i fod yn gyfranogwr craidd yn y modiwl hwn ar ran yr eglwysi. Disgwylir ymateb i’r cais cyn y Nadolig.
Nid oes cyfyngiad ar bwy all gyflwyno tystiolaeth i’r Modiwl, a mae’n fwriad gan Cytûn wneud hynny, yn ogystal â chefnogi gwaith CLAS. Gall enwadau unigol, henaduriaethau, eglwysi lleol ac ati gyfrannu hefyd os y dymunant. Gall unigolion gyfrannu trwy gynllun Mae Pob Stori o Bwys. Cyhoeddir dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno tystiolaeth (tua hydref 2025, mae’n debyg) a dyddiadau’r gwrandawiadau llafar (gwanwyn 2026) maes o law.
CYFREITHIAU CLADDU AC AMLOSGI NEWYDD I GYMRU?
Mae Comisiwn y Gyfraith wedi cyhoeddi argymhellion am ddiwygio’r gyfraith am gladdu ac amlosgi, a fyddai yn effeithio ar bob angladd ac ar bob mynwent. Gellir gweld yr adroddiad llawn, crynodebau Cymraeg a Saesneg a’r ffurflen ymateb yma – https://lawcom.gov.uk/project/burial-and-cremation/ Cynhaliwyd seminar am y cynigion yng Nghaerdydd ar Dachwedd 12, lle pwysleisiwyd bod rhan fwyaf y materion hyn wedi eu datganoli i Senedd Cymru, sy’n golygu y gallai fod cyfreithiau gwahanol yn Lloegr a Chymru yn y dyfodol.
Y dyddiad cau ar gyfer ymateb yw 9 Ionawr 2025. Bydd Cytûn yn paratoi ymateb ynghylch materion sy’n gyffredin i holl eglwysi Cymru, tra bydd nifer o aelodau Cytûn yn ymateb yn uniongyrchol i’r ymgynghoriad. Dylid danfon unrhyw gyfraniadau at ymateb Cytûn i gethin@cytun.cymru ar fyrder.
Dim ond y cam cyntaf tuag at ddiwygio’r gyfraith yw hyn – bydd y Comisiwn yn cyhoeddi argymhellion terfynol tua diwedd 2025, a byddai angen i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru benderfynu a ydynt am dderbyn y cyfan neu rai ohonynt a wedyn llunio deddfwriaeth bwrpasol.
Llywodraeth Cymru am gofrestru a threthu llety ymwelwyr
Yn dilyn cyfnod hir o ymgynghori, y chwaraeodd Cytûn ran lawn ynddo, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru). Bydd hyn yn sicrhau cofrestru pawb sy’n darparu llety dros nos i ymwelwyr yng Nghymru “yng nghwrs masnach neu fusnes”. Daw’r geiriad hwn o’r ddeddfwriaeth gyfatebol yn yr Alban. Gofynnwyd amdano gan Cytûn yn ystod y broses ymgynghori, er mwyn eithrio o gofrestriad ddarparu llety dros nos ar sail elusennol neu roddedig yn unig, er enghraifft yn achos “eglwysi pererinion” (y defnydd o adeilad eglwys i ‘wersylla’), neu ffermwr yn caniatáu i grŵp ieuenctid eglwysig aros dros nos mewn cae. Yn ystod y broses graffu, byddwn yn parhau i geisio eglurder ar wyneb y Bil mai dyma’r bwriad.
Bydd gan bob awdurdod lleol ddisgresiwn i benderfynu a ddylid ei gwneud yn ofynnol i lety cofrestredig godi ardoll o £1.25 y pen y noson ar bob ymwelydd (oedolion a phlant) neu 75c y pen y noson ar gyfer hosteli a meysydd gwersylla. Bydd gweithredu hyn yn gofyn am broses bellach o ymgynghori a phenderfynu yn lleol, a’r dyddiad cynharaf posibl ar gyfer codi tâl yw 2027. Bydd yn rhaid gwario’r elw o’r ardoll ar “reoli a gwella cyrchfannau” yn yr ardal leol, gan gynnwys seilwaith, cyfleusterau, lliniaru effaith ymwelwyr a chefnogi’r Gymraeg.
Mae rhagor o wybodaeth am y Bil ar gael yma, gan gynnwys asesiad effaith sydd (ar dudalen 20) yn cyfeirio at yr ymgynghori a gynhaliwyd gyda Cytûn a Chyngor Rhyng-ffydd Cymru.
HOUSING JUSTICE YN DWEUD NA FYDD CYMRU’N DOD YN GENEDL NODDFA HEB FYND I’R AFAEL Â DIFFYG TAI
Mae adroddiad a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd gan un o aelodau Cytûn, Housing Justice Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag elusennau, llywodraeth leol a chymdeithasau tai i atal digartrefedd ymhlith pobl sy’n ceisio noddfa yng Nghymru. Mae’n awgrymu y gallai’r argyfwng tai presennol negydu nod Llywodraeth Cymru o fod yn Genedl Noddfa gyntaf y byd, oni bai i’r sector dai gael ei chynnwys yn llawnach. Bu Cytûn yn greiddiol i’r ymgyrch dros osod y nod o Gymru fel Cenedl Noddfa.
Canfu’r adroddiad, Ni Allwn Fod yn Genedl Noddfa Heb Dai, fod 86% o gymdeithasau tai yng Nghymru wedi cefnogi cynghorau drwy Gynlluniau Ailsefydlu Llywodraeth y DU i ddod o hyd i atebion tai i bobl yr effeithiwyd arnynt gan y rhyfeloedd yn yr Wcrain, Syria, Irac ac Affganistan. Fodd bynnag, ychydig iawn sydd wedi ymwneud â chanfod tai i bobl o wledydd eraill.
Dywedodd Nicola Evans, Cyfarwyddwr Housing Justice Cymru, “Dywedodd llawer o’r rhai a gyfwelwyd wrthym fod cynghorau yn gyffredinol yn edrych i’r sector rhentu preifat i ddarparu llety i’r rhan fwyaf o bobl sy’n ceisio noddfa yng Nghymru. Ar yr un pryd, fe wnaethant adrodd am ostyngiad enfawr yn nifer yr eiddo rhent preifat sydd ar gael. Gwyddom hefyd o’n gwaith ni a gwaith sefydliadau partner, nad oes gan bobl sy’n ceisio noddfa yn gyffredinol y tystlythyrau na’r blaendaliadau sydd eu hangen i gael llety yn y sector preifat. Yn ein barn ni, mae angen i ddarparwyr tai cymdeithasol fod yn rhan o’r ateb. Heb eu cynnwys, rydym yn rhagweld y bydd mwy o bobl sydd wedi ffoi rhag rhyfel ac erledigaeth yn wynebu digartrefedd ac mae’n anodd iawn gweld sut y byddwn yn gallu galw ein hunain yn Genedl Noddfa go iawn.”
Mae canfyddiadau ac argymhellion yr adroddiad yn seiliedig ar gyfweliadau â 35 o gymdeithasau tai sydd wedi’u cofrestru ac yn gweithredu ledled Cymru. Roedd pob un ohonynt yn barod i gyfrannu at nod Llywodraeth Cymru o ddod yn Genedl Noddfa gyntaf tra ar yr un pryd, yn mynegi eu pryder mawr am lefel y digartrefedd yn gyffredinol sydd bellach yn bodoli ledled Cymru.
Pan ofynnwyd iddo beth sy’n eu rhwystro rhag gwneud mwy i helpu, dyfynnir un cyfwelai yn dweud: “Rhwystrau? Yn syml, dim digon o dai…mae pobl yn dal mewn gwestai yn dilyn y pandemig. Nid oes modd iddynt symud ymlaen. Mae’r mwyafrif yn bobl sengl, ond mae rhai yn deuluoedd. Rydyn ni’n cefnogi un teulu lle mae 3 o bobl mewn un ystafell.”
Mae’r adroddiad yn cyfrannu at brosiect cydweithredol a ariennir gan Comic Relief rhwng Housing Justice Cymru, Cyngor Ffoaduriaid Cymru a Tai Pawb. Dywedodd Alicja Zalesinska, Prif Weithredwr Tai Pawb: “Yn gynharach y mis hwn, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddiweddariad o’i Chynllun Gweithredu Cymru Gwrth-hiliol. Mae’r cynllun yn ailategu’r ymrwymiad i wrth-hiliaeth wrth gyrchu’r nod uchelgeisiol i wneud digartrefedd yn brin, yn fyr ac yn ddi-ail. Ni allwn gyflawni’r uchelgais hwn heb gamau pendant gan y llywodraeth i fynd i’r afael â’r cynnydd mewn digartrefedd ymhlith pobl sy’n ceisio noddfa. Mae cynyddu ymgysylltiad y sector tai yn hanfodol i wireddu’r weledigaeth hon.”
Eglwysi yn hybu iechyd da
Mae’r Ymddiriedolaeth Cenedlaethol yr Eglwysi (NCT) wedi cyhoeddi adroddiad newydd yn tafoli cyfraniad eglwysi i iechyd eu hardaloedd. Dan yr enw, The House of Good: Health, mae’n ganlyniad i ymchwil manwl i’r holl weithgareddau sy’n digwydd mewn addoldai Cristnogol o bob enwad sy’n cyfrannu at iechyd corfforol a meddyliol, megis banciau bwyd, gwasanaethau iechyd meddwl, grwpiau ieuenctid a chefnogaeth gyda chyffuriau ac alcohol. Mae’n amcanu bod y gweithgareddau hyn at ei gilydd yn arbed £8.4 biliwn i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ledled y DU, yn ogystal â helpu degau o filoedd o bobl bob blwyddyn.
Ar dudalen we yr adroddiad gellir gwylio fideo sy’n cynnwys hanes difyr a dirdynnol am waith eglwys St Martin yn y Rhath, Caerdydd, mewn partneriaeth ag Alcoholics Anonymous.
Mudiadau gwirfoddol yn mynegi pryder am Yswiriant Gwladol
Yn dilyn cyhoeddi cyllideb Llywodraeth y DU ar Hydref 30, mynegwyd pryderon dwys gan fudiadau gwirfoddol, gan gynnwys eglwysi, am y cynnydd yng nghyfraniadau Yswiriant Gwladol i gyflogwyr.
Arwyddodd Cynrychiolydd Arweiniol Crefydd ar Gyngor Partneriaeth y Trydydd Sector yng Nghymru, Gethin Rhys, lythyr gan nifer o fudiadau dan arweiniad Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg, Mark Drakeford AS.
Dywed y llythyr, “Mae llawer o fudiadau gwirfoddol yng Nghymru yn gweithredu o dan gyfyngiadau ariannol tynn ac yn chwarae rhan hanfodol mewn darparu gwasanaethau hanfodol ochr yn ochr â’r sector cyhoeddus, ond dim ond cyflogwyr y sector cyhoeddus sy’n mynd i gael eu had-dalu am y costau cynyddol hyn.
“Mae’r cynnydd hwn mewn cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn gost newydd sylweddol na fydd llawer o fudiadau yn gallu ei thalu heb iddi gael effaith gyfatebol ar y gwasanaethau a ddarperir ganddynt. Felly, pwyswn ar Lywodraeth Cymru i:
- Ystyried yr effeithiau hyn yn ofalus wrth lunio ei chyllideb ddrafft
- Codi grantiau a chontractau yn unol â’r pwysau hyn a phwysau eraill sy’n seiliedig ar chwyddiant.
“Mae’r newid hwn yn fwy na rhwystr ariannol; mae’n her sylfaenol i sector sydd eisoes o dan bwysau aruthrol yn sgil y cynnydd cyflym yn y galw am wasanaethau a’r cynnydd mewn costau byw a yrrir gan chwyddiant a chyllid cyfyngedig. Nid ffigurau’n unig mo’r rhain – maen nhw’n wasanaethau tyngedfennol a allai wynebu toriadau os na fydd y cyllid yn addasu i fodloni’r costau annisgwyl hyn.
Rydym yn barod i weithio gyda Llywodraeth Cymru fel partneriaid i fynd i’r afael â’r pryderon hyn.”
LLYWODRAETH CYMRU YN ARIANNU CROESO CYNNES
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi £1.5m i gefnogi ac ehangu lleoedd diogel a chynnes i bobl o bob oed gael mynediad iddynt yn eu cymunedau
Mae’r canolfannau, sydd ym mhob cwr o Gymru, llawer ohonynt mewn adeiladau crefyddol, yn darparu lleoedd i bobl allu cymdeithasu a chael mynediad at wasanaethau a chyngor dros y misoedd nesaf. Cyfeirir atynt gan amrywiol enwau, megis Canolfannau Clyd, Canolfannau Croeso Cynnes, Mannau Cynnes a Chroeso Cynnes / Cosy Corners.
Mae’r cyllid yn adeiladu ar yr hyn sydd eisoes ar gael yn lleol a bydd yn helpu i gefnogi canolfannau mewn sawl ffordd, yn amrywio o gynnig lluniaeth a bwyd i ariannu oriau agor ychwanegol, ar gyfer gweithgareddau fel ymarfer corff a chelf neu i ddysgu sgiliau newydd.
Bydd y £1.5m yn cael ei ddosbarthu i awdurdodau lleol, drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ac mae’n rhan o becyn cymorth ehangach Llywodraeth Cymru i bobl ledled y wlad gan gynnwys y Cronfa Cymorth Dewisol, y Gronfa Gynghori Sengl, a’r Cynllun Talebau Tanwydd.
Sefydlwyd dros 850 o leoedd ledled Cymru yn ystod diwedd 2022 a dechrau 2023, gan ddarparu cefnogaeth i dros 117,000 o bobl. Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt: “Rwy’n falch ein bod yn darparu cyllid a fydd yn helpu i adeiladu ar yr hyn yr ydym wedi’i ddarparu o’r blaen, ac a fydd yn galluogi’r canolfannau i barhau i gynnig eu gwasanaethau pwysig er budd y bobl y maent yn eu gwasanaethu.”
Dywedodd David Barclay, Cyfarwyddwr Ymgyrchu Croeso Cynnes – a noddir gan y Good Faith Foundation – “Rydym yn gwybod y bydd y galw am y canolfannau hyn yn uchel ac rydym yn edrych ymlaen at gydweithio â Llywodraeth Cymru i godi ymwybyddiaeth o’r mannau hanfodol hyn.”
Mae Cytûn yn annog pob eglwys leol sy’n ystyried agor neu barhau â chanolfan croeso cynnes (dan unrhyw enw) i gofrestru ar wefan Croeso Cynnes a chyrchu’r adnoddau sydd ar gael yno. I gael gwybod mwy am ganolfannau yn eich ardal chi, cysylltwch â’ch awdurdod lleol perthnasol.
EGLWYSI PORTHCAWL YN CANFOD BOD GWLEIDYDDIAETH O BWYS!
Cyn yr Etholiad Cyffredinol cyhoeddodd CAFOD (yr Asiantaeth Gatholig dros Ddatblygu Tramor), sy’n aelod o Cytûn, ganllaw i Bleidleisio dros Lesiant Pawb, fel rhan o baratoadau yr Eglwys Gatholig ar gyfer yr etholiad cyffredinol. Oherwydd galw’r etholiad yn gynnar penderfynodd grŵp Eglwysi Ynghyd ym Mhorthcawl ohirio ei sgwrs ar y pwnc, a threfnu digwyddiad tebyg ym mis Hydref i gynnwys mudiadau lleol â diddordeb. Y nod oedd creu cyfle i annog pobl ifanc i ymddiddori mewn gwleidyddiaeth.
Gwahoddodd y grŵp Therese Warwick o CAFOD i siarad am y penderfyniadau moesol y dylem eu hystyried (gan gynnwys tlodi, dyled dramor, yr argyfwng hinsawdd) dros hunan-les er mwyn sicrhau’r gorau i’n cymunedau a’n byd. Fe’i dilynwyd gan Debbie Cooper (Plaid Werdd) a siaradodd am bolisïau ei phlaid a sut yr oeddent yn ymwneud â lles cyffredin ond a gafodd drafferth, oherwydd diffyg sylw yn y cyfryngau, i ennill digon o bleidleisiau.
O’r drafodaeth gyffredinol a ddilynodd fe gasglom nid yn unig syniadau niferus, ond gwirfoddolwyr hefyd, i gynllunio gweithgareddau ar gyfer pobl ifanc yn y gymuned yn y dyfodol; gweithgareddau i rymuso a rhoi perchnogaeth iddynt am eu dyfodol. Efallai y bydd llawer yn amgyffred na fydd eu pleidlais yn gwneud gwahaniaeth. Ond un o’n rolau ni, fel Cristnogion, yw rhoi gobaith a dealltwriaeth iddyn nhw eu bod nhw, trwy bleidleisio er lles pawb, yn helpu i greu byd tecach, lle gall pawb gyflawni eu potensial.
Jenny Worthington, Eglwysi ynghyd ym Mhorthcawl
MYND ATI I WEITHREDU:
YMGYSYLLTU Â CHYNHADLEDD PLAID WLEIDYDDOL
Yn ddiweddar, cafodd Mark Worrall, Cyd-ysgrifennydd Eglwysi Ynghyd ym Mhorthcawl, gyfle i fynychu’r Gynhadledd Lafur yn Lerpwl i eiriol dros Parkinson’s UK. Dyma’r hanes.
Roeddwn yn mynychu fel gwirfoddolwr, yn rhannu fy mhrofiad byw o ofalu am fy nhad, a oedd â chlefyd Parkinson gyda dementia Corff Lewy, a fu farw fis Gorffennaf diwethaf.
Ynghyd â gwirfoddolwyr eraill ac uwch aelodau o staff Parkinson’s UK, buom yn trafod 3 phrif faes, sef: argyfwng gweithlu’r GIG, yr angen am fwy o ymchwil i glefyd Parkinson, a gwell hawliau cyflogaeth i bobl anabl, gan gynnwys ychwanegiadau at y Bil Hawliau Cyflogaeth sydd yn mynd drwy Senedd San Steffan ar hyn o bryd. Rhyngom, llwyddwyd i drafod y materion pwysig hyn ag 1 Ysgrifennydd Gwladol, 6 Gweinidog, sawl Aelod Seneddol sy’n bwrw ati i weithredu, ynghyd â llawer o Undebau Llafur.
Roedd yn wych gweithio gyda’r tîm, ac roedd Mark Mardell (o’r grŵp Movers and Shakers) yn gadeirydd arbennig i gyfarfod ymylol Parkinson’s UK: ‘Sut y gallai Siarter Parky wella bywydau miliynau sy’n byw gyda chyflyrau niwrolegol’. Ymunodd Stephen Kinnock, AS Aberafan a Maesteg ag aelodau’r panel (yn y llun), a oedd ef yn llwyr ddeall y materion uchod a’r angen i wneud mwy. Rydym yn gobeithio gweld newid yn fuan!
Os ydych chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod angen cymorth gan Parkinson’s UK, ffoniwch eu llinell gymorth: 0808 800 0303, ac os gallwch gyfrannu ewch i: https://www.parkinsons.org.uk/donate
Mark Worrall, Porthcawl
HAWLIO HEDDWCH – GANRIF YN ÔL A HEDDIW
Ym 1924, cyflwynwyd deiseb ryfeddol, a lofnodwyd gan bron i 400,000 o fenywod yng Nghymru, i fenywod yr UDA, i annog Llywodraeth yr UDA i ymuno â Chynghrair y Cenhedloedd. Dathlwyd y canmlwyddiant trwy ddychwelyd y ddeiseb o’r Unol Daleithiau i Gymru, a digideiddio’r llofnodion – gan alluogi disgynyddion heddiw i ddatgelu ‘hanes cudd’ o weithredu dros heddwch gan y genhedlaeth hon o hen neiniau a mamau-cu. Dathlwyd y gweithgarwch hwn i gyd yng Nghynhadledd Flynyddol gyntaf Academi Heddwch yn y Deml Heddwch yng Nghaerdydd, gyda Llywydd yr Academi, yr Esgob Rowan Williams (yn y llun). Ceir mwy am yr hanes yr apêl yn www.DeisebHeddwch.Cymru
Nodwyd yr achlysur hefyd trwy gyhoeddi adroddiad yr Academi Heddwch, Cymru fel Cenedl Heddwch, yn galw ar Lywodraeth Cymru heddiw i wneud popeth o fewn ei gallu i hybu heddwch fel rhan o’i nod (dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r dyfodol) i wneud Cymru yn “genedl sy’n gyfrifol yn fyd-eang”. Gobeithir y bydd yr adroddiad yn esgor ar gryn drafod am y pynciau hyn.
Roedd Deiseb Heddwch y Merched yn gamp ryfeddol, ond ni chyflawnodd ei phrif nod ar unwaith. Yn ôl yng Nghymru, bu Undeb Cynghrair y Cenhedloedd Cymru (WLNU) yn ystyried beth i’w wneud nesaf. Penderfynasant wahodd arweinwyr cymunedau ffydd Cymru – yr eglwysi Cristnogol i bob pwrpas – i arwyddo apêl goffa debyg, Deiseb Heddwch yr Eglwysi, i Gyngor Ffederal Eglwysi Crist yn America. Mae llawer o’r dogfennau wedi’u digideiddio a gellir eu gweld, ynghyd â ffilm nodwedd esboniadol fer, yn: https://www.wcia.org.uk/1925-churches-peace_appeal/ Roedd y ddogfen i’w gweld yn y dathliad ar Dachwedd16 (llun ar y dde). Gellir gweld cyflwyniad gweminar i’r hanes gan Gethin Rhys (Cytûn) a Craig Owen (Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru) yma (Saesneg yn unig) neu ar wefan Cytûn.
Cyflëwyd yr apêl yn bersonol i’r Cyngor Ffederal yn eu cyngres flynyddol yn Detroit yn Nhachwedd-Rhagfyr 1925 y Parchg Gwilym Davies, Ysgrifennydd yr WLNU. Bwriedir cofnodi’r hanes hwn – enghraifft gynnar o eciwmeniaeth yng Nghymru – yn ystod 2025, mewn partneriaeth rhwng Cytûn, yr Academi Heddwch, Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru, haneswyr ac arweinwyr ffydd a charedigion heddwch yng Nghymru a’r UDA.
Yr achlysur cyntaf fydd cyfarfod i gofnodi 70 mlwyddiant marw’r Parch. Gwilym Davies – gweinidog gyda’r Bedyddwyr, sylfaenydd Neges Heddwch ac Ewyllys Da ieuenctid Cymru, ac un o brif ysgogwyr y mudiad heddwch rhwng y ddau Ryfel Byd. Cynhelir y cyfarfod yng Nghapel Bedyddwyr Tonyfelin, 36 Heol Ton-y-Felin, Caerffili CF83 1PA am 2-3.30yp ddydd Sul Ionawr 26 2025. Cynhelir y cyfarfod gyda chefnogaeth Cymdeithasau Hanes Gelligaer a Merthyr Tudful ar y cyd â’r capel. Y siaradwyr fydd Siân Rhiannon, Aled Eurig, Sian Lewis (Urdd Gobaith Cymru) a Gethin Rhys. Darperir cyfieithu ar y pryd. Croeso i bawb – mynediad am ddim.
CYSYLLTU Â SWYDDOG POLISI CYTÛN
Parch./Revd Gethin Rhys – Swyddog Polisi/Policy Officer
Cytûn – Eglwysi ynghyd yng Nghymru/Churches together in Wales
Swyddfa gofrestredig: Yst. 3.3, Tŷ Hastings, Llys Fitzalan, Caerdydd CF24 0BL
Mudol/mobile: 07889 858062 E-bost: gethin@cytun.cymru
www.cytun.co.uk @CytunNew www.facebook.com/CytunNew
Hapus i gyfathrebu yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Happy to communicate in Welsh and English
Mae Cytûn yn gwmni cofrestredig yng Nghymru a Lloegr | Rhif: 05853982 | Enw cofrestredig: “Cytûn: Eglwysi Ynghyd yng Nghymru/Churches Together in Wales Limited” |
Mae Cytûn yn elusen gofrestredig | Rhif: 1117071 |
Dyddiad cyhoeddi: Rhagfyr 2 2024. Cyhoeddir y Bwletin nesaf ar Ionawr 29 2025.