Newyddion – Eglwysi Ynghyd yng Nghymru | Churches Together in Wales
Un Corff, Llawer o Rannau
Gwahodd eglwysi i ddathlu Sul Ymwybyddiaeth Anabledd 2026
Mae eglwysi ledled y DU yn cael eu gwahodd i gymryd rhan yn Sul Ymwybyddiaeth Anabledd 2026, wrth ryddhau adnodd creadigol newydd, am ddim, sydd ar gael i’w lawrlwytho oddi wrth yr elusen Gristnogol, Through the Roof
Mae thema 2026, ‘Un Corff, Llawer o Rannau’, yn tynnu ar 1 Corinthiaid 12 ac yn dathlu’r gwirionedd nad yw’r Eglwys yn gyflawn heb bobl anabl. Y dyddiad swyddogol yw 27 Medi 2026, er bod eglwysi’n cael eu hannog i gymryd rhan ar unrhyw Sul sy’n addas iddyn nhw.
Gweld pethau’n wahanol
Wrth galon yr adnodd newydd mae gweledigaeth Triona Brading, Cristion ifanc awtistig, hyrwyddwr anabledd Roofbreaker gyda Through the Roof, a hyfforddai ar gyfer y weinidogaeth. Mae Triona yn dod â mewnwelediad, llawenydd a dychymyg i’r ddelwedd Feiblaidd o Gorff Crist. Mae hi’n rhannu ei safbwynt fel Cristion awtistig yn ei phrif fideo a ffilmiwyd i eglwysi ei dangos ar gyfer Sul Ymwybyddiaeth Anabledd:
“Ni all y llygad ddweud wrth y llaw, ‘Does arnaf ddim dy angen di.’ Ni all y pen ddweud wrth y traed, ‘Does arnaf ddim eich angen chi.’” Allwch chi ddychmygu ffasiwn beth?
Rhannau o’r corff yn mynd ar grwydr ac yn torri’n rhydd o’r corff, yn neidio i ffwrdd ac yn ceisio byw’n annibynnol ar ei gilydd!
Mae ei hiwmor tyner yn cyflwyno her bwerus: beth mae’n ei olygu, mewn gwirionedd, i’r Eglwys fyw fel un corff, lle mae croeso i bob person a lle mae eu hangen – anabl ai peidio, lle mae pawb yn gallu chwarae eu rhan?
Adnodd AM DDIM i eglwysi!
Mae’r Adnodd Sul Ymwybyddiaeth Anabledd 2026 am ddim yn cynnwys:
Dau fideo byr
Amlinelliad o wasanaeth ‘parod i’w ddefnyddio’
Syniadau ymarferol ar gyfer addoliad a gweithgareddau ieuenctid o bob oed.
Nod yr adnoddau yw helpu eglwysi i symud y tu hwnt i ymwybyddiaeth tuag at Fynediad, Perthyn a Chomisiwn: ABC Cynhwysiant Anabledd, ac i sbarduno sgyrsiau all arwain at newid parhaol.
Gall eglwysi ofyn am yr adnodd am ddim nawr ar:   throughtheroof.org/forchurches/disability-awareness-sunday
Dangoswch y fideo. Gweddïwch gyda’ch gilydd. Dathlwch bob aelod o Gorff Crist.
Wrth i eglwysi ledled y DU – a thu hwnt – ymuno, mae Through the Roof yn gobeithio y bydd Sul Ymwybyddiaeth Anabledd 2026 yn ysbrydoli llawer i ddweud yn hyderus: un corff ydyn ni, gyda llawer o rannau – ac mae pawb yn bwysig.
Llywodraeth newydd i Gymru
Sut mae etholiad 2026 wedi newid cyfansoddiad y Senedd? Beth yw’r heriau sy’n wynebu Llywodraeth nesaf Cymru?
Mae etholiad Senedd 2026 wedi arwain at y newid mwyaf yng nghyfansoddiad Senedd Cymru ers dechrau datganoli. Mae ehangu’r Senedd i 96 aelod, ynghyd â chyflwyno system etholiadol fwy cyfrannol, wedi creu Siambr fwy amrywiol yn wleidyddol, heb unrhyw blaid gyda mwyafrif.
Mae’r siart isod yn rhoi dadansoddiad manwl o gyfansoddiad newydd y Senedd.
Plaid Cymru yw blaid fwyaf y Senedd, a hynny am y tro cyntaf ers sefydlu’r blaid 100 mlynedd yn ôl. Mae arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, wedi datgan ei fwriad i gipio rôl y Prif Weinidog.
Mae Reform UK hefyd wedi ennill cynrychiolaeth sylweddol yn y Senedd am y tro cyntaf, digon i ffurfio’r wrthblaid, tra bod Llafur wedi gweld gostyngiad dramatig yn nifer ei seddi. Felly hefyd bu hanes y Ceidwadwyr Cymreig, ac mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn parhau gydag un aelod etholedig yn unig, tra bod y Gwyrddion wedi ennill dwy sedd am y tro cyntaf.
Disgwylir i’r Senedd weithredu mewn amgylchedd gwleidyddol cydweithredol. Ond, gyda gwahaniaethau mawr ar lefel polisi rhwng pleidiau’r chwith, y canol a Reform, ni fydd hynny yn hawdd i’w wneud.
Bydd adeiladu clymbleidiau a chydweithio ar sail materion penodol yn chwarae rhan bwysicach wrth ffurfio a chynnal Llywodraeth nesaf Cymru. Gall pleidiau llai a grwpiau unigol gael mwy o ddylanwad dros ddeddfwriaeth a blaenoriaethau polisi nag yn y Seneddau blaenorol.
Bwriad y trefniadau etholiadol newydd oedd gwneud y Senedd yn fwy cynrychioliadol o’r pleidleisiau a fwriwyd ledled Cymru. Mae’r canlyniadau’n awgrymu bod cydbwysedd y seddi yn adlewyrchu cyfran y bleidlais genedlaethol yn fwy agos nag o dan y system flaenorol.
Dywedodd Dr Cynan Llwyd, Ysgrifennydd Cyffredinol Cytûn: “Mae Cytûn: Eglwysi Ynghyd yng Nghymru, yn llongyfarch Plaid Cymru ar ei buddugoliaeth yn etholiad Senedd 2026, ac yn llongyfarch Rhun ap Iorwerth wrth iddo baratoi i wasanaethu fel Prif Weinidog Cymru.
Ar adeg o newid yn ein bywyd cenedlaethol, gweddïwn drosto ef, dros holl aelodau etholedig y Senedd, a thros bawb sy’n cario cyfrifoldebau gwasanaeth cyhoeddus. Gofynnwn i Dduw roi doethineb, gostyngeiddrwydd a dewrder iddynt, ac i gryfhau pob ymdrech a wneir er lles pawb.
Mae Cytûn yn barod i gydweithio’n adeiladol â Llywodraeth newydd Cymru a chyda phartneriaid ledled cymdeithas i feithrin undod, cydweithrediad a gobaith. Croesawn yn arbennig yr alwad am “dosturi di-ildio”, a gweddïwn y bydd yr ysbryd hwn yn siapio bywyd cyhoeddus yng Nghymru yn y blynyddoedd i ddod.”
Datganiad y Deml Heddwch
Ysgrifennydd Cyffredinol Cytûn yn pwysleisio undod wrth arweinwyr ffydd Cymru gyfarfod dros heddwch
Yn gynharach ym mis Ebrill, ac yng nghyd-destun etholiad y Senedd, ymgasglodd arweinwyr prif gymunedau ffydd Cymru yn y Deml Heddwch ym Mharc Cathays yng Nghaerdydd ddydd Llun i lofnodi datganiad cyhoeddus o undod wrth inni baratoi ar gyfer etholiadau’r Senedd. Gellir darllen y datganiad yn un o’r lluniau isod. Dyma’r hyn â rannodd Dr Cynan Llwyd yn y digwyddiad.
“Mae’n fraint sefyll yma heddiw, ac yn anrhydedd arbennig gwneud hynny ochr yn ochr ag arweinwyr Cristnogol, Mwslemaidd ac Iddewig wrth inni gadarnhau ein hymrwymiad cyffredin i heddwch a chyfeillgarwch. Mewn dyddiau a nodweddir gan ryfel, ofn, rhaniadau ac ansicrwydd, mae’r foment hon yn bwysig. Mae’n bwysig am ei bod yn dweud, yn gyhoeddus ac yn eglur, nad oes rhaid i ffydd arwain at amheuaeth na gelyniaeth, ond y gall fod yn rym ar gyfer iacháu, dewrder a gobaith.
“Fel Cristion, rwyf am ddweud yn glir pam fy mod i yma.
“Rwyf yma oherwydd Iesu Grist. Fe, yr hwn y mae Cristnogion yn ei ddilyn, yw Tywysog Tangnefedd. Ef yw’r un a’n dysgodd mai’r gorchmynion mwyaf yw caru Duw a charu ein cymydog. Ef yw’r un nad oedd ei gariad byth yn gul nac yn amodol, ond a roddwyd yn rhad i’r rhai a anwybyddwyd, yr estron, y tlawd, y clwyfedig, a’r dieithryn. Fe ddymchwelodd rwystrau gelyniaethus. Croesodd ffiniau yr oedd eraill yn ofni eu croesi. Galwodd ei ddilynwyr nid i dra-arglwyddiaethu, ond i wasanaethu; nid i ennyn casineb, ond i geisio heddwch. Darostyngodd ei hun hyd angau, ie, angau ar groes.
“Felly, i Gristnogion ac eglwysi, dylai’r diwrnod hwn ein hatgoffa o bwy yw ein Harglwydd, ac felly ein hatgoffa o beth y gelwir ni i fod. Tangnefeddwyr.
“Ac i’n ffrindiau Mwslemaidd ac Iddewig, rwyf am ddweud hyn gyda didwylledd a gostyngeiddrwydd: rydym yn sefyll gyda chi mewn ymrwymiad cyffredin i heddwch a chymod. Rydym yn anrhydeddu eich presenoldeb, eich cyfeillgarwch, a’ch tystiolaeth. Gwyddom fod ymddiriedaeth yn cael ei hadeiladu nid yn unig gan eiriau a leferir mewn seremonïau fel hyn, ond gan berthnasoedd, undod, a dewrder a ddangosir dros amser. Rydym wedi ymrwymo i’r gwaith hwnnw.
“Rwyf hefyd am ddweud, yn dyner ond yn ddiamwys, nad yw’r rhai sy’n lapio creulondeb mewn iaith Gristnogol, nac yn gwisgo gwaharddiad mewn symbolau crefyddol, yn siarad dros Cristnogaeth. Nid yw gwleidyddiaeth greulon, boed fel y’i gwelir yn Trump, yn MAGA, yn ralïau Unite the Kingdom, mewn rhai pleidiau gwleidyddol sy’n sefyll yn yr etholiad yma yng Nghymru ymhen tair wythnos, nac yn y rhai sy’n cario croesau fel bathodynnau rhaniadau yn hytrach nag arwyddion o gariad hunanaberthol, yn cynrychioli’r Efengyl a gyhoeddwn. Nid arf ofn yw croes Crist, ond arwydd o gariad sy’n cymodi.
“Felly boed i hyn fod yn fwy na llofnod. Boed iddo fod yn dystiolaeth. Tystiolaeth y gallwn ni yng Nghymru anghytuno’n ddwfn, ac eto barhau i gerdded gyda’n gilydd mewn haelioni a pharch. Tystiolaeth na chaiff casineb y gair olaf.
“A thystiolaeth fod heddwch yn dal yn bosibl, trwy ras Duw.”
Diweddariad maniffestos
Y chwe phrif blaid yn osod allan eu rhaglenni llawn
Gyda maniffesto pob prif blaid bellach wedi’i gyhoeddi, mae Cytûn wedi rhyddhau dadansoddiad wedi’i ddiweddaru o safbwyntiau’r pleidiau i helpu cymunedau ffydd i ymgysylltu ag etholiad y Senedd ar 7 Mai — gan atgoffa pleidleiswyr y bydd ymgeiswyr annibynnol a phleidiau llai hefyd ar y papur pleidleisio.
Wrth i’r chwe phrif blaid sy’n cystadlu yn etholiad y Senedd ar 7 Mai 2026 cyhoeddi eu maniffestos llawn, mae Cytûn – Eglwysi Ynghyd yng Nghymru wedi rhyddhau Diweddariad i Friff Maniffesto Etholiad y Senedd 2026 — atodiad manwl i’r ddogfen a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2026.
Roedd y briff gwreiddiol yn tynnu ar arwyddion polisi cyn-maniffesto ac ymrwymiadau’r pleidiau oedd ar gael ar y pryd. Mae’r diweddariad yn adolygu’r maniffestos gorffenedig yn llawn, ynghyd â dadansoddiad economaidd annibynnol — gan gynnwys asesiadau gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllidol — i gynnig cymhariaeth fwy manwl a chynhwysfawr o’r hyn y mae pob plaid yn ei addo mewn gwirionedd.
Beth sydd newydd yn y diweddariad?
Mae’r diweddariad yn archwilio’r chwe phlaid ar draws pum maes polisi blaenoriaeth Cytûn: Iechyd, Addysg, yr Economi, Materion Rhyngwladol a Newid Hinsawdd, a’r Eglwys a’r Dinesydd.
Ar iechyd, mae amseroedd aros y GIG yn dominyddu agenda pob plaid. Mae Llafur yn cynnig Cronfa Ysbytai’r Dyfodol o £4 biliwn; mae Plaid Cymru am osod targedau amser aros penodol; byddai’r Ceidwadwyr yn cyhoeddi argyfwng iechyd yn syth os down i rym; byddai’r Democratiaid Rhyddfrydol yn buddsoddi £300 miliwn mewn gofal cymdeithasol wedi’i ariannu gan godiad treth incwm o 1c; ac mae’r Gwyrddion yn gosod ataliad ac ymyrraeth gynnar wrth wraidd eu gweledigaeth iechyd. Mae Reform UK yn ymrwymo i leihau amseroedd aros drwy arbedion effeithlonrwydd.
Ar yr economi, y gwahaniaeth amlycaf yw ar drethiant. Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn cynnig toriad o 1c i’r gyfradd sylfaenol o dreth incwm a diddymu’r Dreth Trafodiadau Tir ar brynu cartrefi — ymrwymiadau y mae’r Sefydliad Astudiaethau Cyllidol wedi’u disgrifio fel rhai anodd eu cysoni â chynlluniau gwariant ehangach y blaid. Y Democratiaid Rhyddfrydol yw’r unig blaid sy’n cynnig codiad treth. Mae’r Gwyrddion yn cynnig disodli’r dreth gyngor yn gyfan gwbl â Threth Gwerth Tir.
Wrth ystyried Cenedl Noddfa — fframwaith cymorth Cymru i ffoaduriaid a cheiswyr lloches — mae Llafur, Plaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Gwyrddion i gyd yn cefnogi cynnal a datblygu’r polisi, tra bod y Ceidwadwyr a Reform UK ill dau wedi addo ei ddiddymu. Dylai aelodau fod yn ymwybodol na all y rhan fwyaf o addewidion mewnfudo yn yr etholiad hwn gael eu cyflawni gan y Senedd, gan fod mewnfudo yn fater a gedwir i San Steffan.
Cyfweliadau ag ymgeiswyr
Mae Cytûn wedi cyhoeddi cyfweliadau â chynrychiolwyr pump o’r chwe phrif blaid, yn archwilio eu safbwyntiau ar faterion o bwys i gymunedau ffydd yng Nghymru. Mae’r cyfweliadau ar gael nawr:
The interviews are available now:
Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru
Darren Millar Ceidwadwyr
Paul Rock Y Blaid Werdd
James Evans Reform UK
Huw Thomas Labour
Mae cyfweliad â chynrychiolydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig yn cael ei drefnu ar hyn o bryd a bydd yn cael ei gyhoeddi ar y wefan maes o law.
Mae Cytûn yn annog darllenwyr i ymgysylltu â’r holl gyfweliadau fel rhan o’u myfyrdod gweddigar cyn diwrnod y bleidlais ar 7 Mai.
Pwy fydd ar eich papur pleidleisio?
Er bod y chwe phrif blaid — Llafur Cymru, Plaid Cymru, y Ceidwadwyr Cymreig, Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Reform UK, a Phlaid Werdd Cymru — i gyd wedi cyhoeddi maniffestos llawn ac yn cystadlu am seddi ledled Cymru, efallai y bydd pleidleiswyr yn gweld ymgeiswyr o ystod ehangach o safbwyntiau gwleidyddol ar eu papurau pleidleisio. Bydd pleidiau llai ac ymgeiswyr annibynnol yn sefyll mewn etholaethau ar draws Cymru ac, o dan y system gyfrannol newydd, mae eu pleidleisiau yn cyfrif go iawn.
Dyma’r etholiad Senedd gyntaf a gynhelir dan system gyfrannol: etholir 96 Aelod ar draws 16 etholaeth chwe-aelod drwy ddull D’Hondt. Nid yw unrhyw blaid sengl yn disgwyl ennill mwyafrif cyffredinol, sy’n golygu y gallai blaenoriaethau pleidiau llai ac ymgeiswyr annibynnol fod yn allweddol wrth lunio Llywodraeth Cymru nesaf.
I ddarganfod pwy sy’n sefyll yn eich etholaeth — gan gynnwys pob ymgeisydd plaid lai ac annibynnol — ewch i whocanivotefor.wales, adnodd annibynnol a di-blaid sy’n rhestru pob ymgeisydd ar y papur pleidleisio yn eich ardal. Er bod y wefan hon yn adnodd defnyddiol, ni allwn gymryd cyfrifoldeb am y cynnwys, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio cyn mynd i’r orsaf bleidleisio!
Ymgysylltu mewn gweddi ac yn feddylgar
Nid yw Cytûn yn cefnogi unrhyw blaid nac ymgeisydd. Mae’r briffiau hyn yn bodoli i helpu arweinwyr enwadol, cymunedau eglwys lleol, ac aelodau unigol o’r ffydd i ymgysylltu â’r etholiad hwn yn feddylgar, mewn gweddi, a chydag ymwybyddiaeth dda. Anogir cymunedau ffydd i gynnal neu fynychu digwyddiadau dadleuon cyn 7 Mai, i ddefnyddio’r briff hwn fel sail ar gyfer trafodaeth grŵp, myfyrio neu weddi, ac i annog pob aelod cymwys i arfer eu hawl ddemocrataidd a phleidleisio ar 7 Mai 2026. Mae Diweddariad i Friff Maniffesto Etholiad y Senedd 2026 llawn ar gael ar www.cytun.co.uk.
Dathlu Gweinidogaeth y Parchedig Judith Morris
Mae pawb ohonom yn Cytûn: Eglwysi ynghyd yng Nghymru am gymryd eiliad i nodi carreg filltir arwyddocaol ym mywyd y gymuned eciwmenaidd yng Nghymru — ymddeoliad y Parchedig Judith Morris fel Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb Bedyddwyr Cymru.
Mae Judith wedi gwasanaethu’r Undeb Bedyddwyr Cymru gydag ymroddiad rhyfeddol am un ar ddeg o flynyddoedd, ac yn ystod y cyfnod hwnnw bu hefyd yn ymddiriedolwr gwerthfawr i Cytûn. Mae ei hymddeoliad yn rhoi cyfle ardderchog i ni ddweud diolch — nid yn unig am yr hyn y mae hi wedi ei wneud, ond am y ffordd y mae hi wedi ei wneud.
Mae’r rhai sydd wedi gweithio ochr yn ochr â Judith yn sôn yn gyson am ei chynhesrwydd, ei gras, a’i gofal diffuant am bobl. Boed yn cynorthwyo eglwysi a gweinidogion lleol, yn llywio newid o fewn strwythurau’r Undeb Bedyddwyr Cymru, neu’n cynrychioli bywyd Bedyddiedig Cymru mewn cyd-destunau eciwmenaidd ehangach, mae wedi dod â doethineb, amynedd a haelioni Cristnogol dwfn i bopeth y mae wedi ymgymryd ag ef.
Talodd Rob Nicholls, Llywydd Adran Gymraeg yr Undeb, deyrnged iddi am ei ‘harweinyddiaeth gadarn a’i dylanwad parhaol,’ tra nododd Maggie Rich, Llywydd yr Adran Saesneg, yr argraff a wnaeth Judith o’r cychwyn cyntaf — ei gwrando gofalus, ei barn gytbwys, a’i gallu cynhenid i gysylltu â phobl yn ogystal â’r cwestiynau o’i blaen.
Disgrifiodd Cyngor Unedig Undeb Bedyddwyr Cymru ei chyfraniad mewn ffordd syml a phwerus: byddant yn ei cholli’n fawr, ac maent yn diolch i Dduw am ei galw i’r gwaith hwn ar gyfer y fath amser â hwn.
Ychwanegodd Dr Cynan Llwyd, Ysgrifennydd Cyffredinol Cytûn, ei deyrnged gynnes ef ei hun:
‘Mae Judith wedi bod yn gydweithiwr ardderchog ac yn ffrind gwirioneddol i’r teulu eciwmenaidd yng Nghymru. Daeth â sefydlogrwydd a llawenydd i’w gwaith — rhinweddau sy’n brin ac yn werthfawrocach nag y mae pobl weithiau’n sylweddoli. Mae ei hymrwymiad i adeiladu a dyfnhau perthnasau rhwng ein heglwysi wedi gadael argraff wirioneddol, ac rydym yn ddiolchgar iawn am y blynyddoedd y rhoddodd i Gytûn fel ymddiriedolwr ochr yn ochr â’i rôl heriol gyda’r Undeb. Dymunwn bob bendith iddi wrth iddi ddechrau’r bennod newydd hon, a gweddïwn y bydd hi’n profi daioni a nerth Duw yn y dyddiau sydd i ddod.’
Ymunwn â’r teulu Bedyddiedig ehangach, ac yn wir â’r gymuned eciwmenaidd gyfan yng Nghymru, i ddiolch i Dduw am weinidogaeth Judith — ac i weddïo y bydd ei hymddeoliad yn gyfoethog, yn adnewyddol, ac yn llawn o’r un llawenydd a roddodd i gynifer o rai eraill.
Diolch o galon, Judith. Pob bendith.
Hawliau protest dan fygythiad
Arweinwyr ffydd yn uno mewn protest: Gall deddf newydd WAHARDD protestiadau heddychlon, rhybuddia pennaeth Cytûn
Mae arweinwyr ffydd wedi rhoi rhybudd llym y gall deddfau protest newydd gyfyngu’n sylweddol ar yr hawl i brotestio’n heddychlon, wrth i Cytûn, Dr Cynan Llwyd, ymuno â chlymblaid rhyngffydd uchel ei phroffil yn siarad yn erbyn Mesur Troseddu a Phlismona Llywodraeth y DU.
Mewn llythyr ar y cyd a anfonwyd at The Times ac at Aelodau Seneddol San Steffan cyn pleidlais hollbwysig yn Nhŷ’r Cyffredin ar 14 Ebrill, mae arweinwyr crefyddol a sifil yn dadlau bod y cymal “tarfu cronnus” arfaethedig yn peryglu tawelu protest gyfreithlon. Mae’r glymblaid—sy’n cynnwys sawl traddodiad ffydd ochr yn ochr â sefydliadau sifil ehangach—yn rhybuddio y gallai pobl gael eu hatal rhag protestio dim ond oherwydd bod protestiadau cynharach, anghysylltiedig, wedi digwydd yn yr un ardal.
Dywedodd Dr Cynan Llwyd:
“Mae protest heddychlon wedi bod yn rhan o’r ffordd y mae cymdeithas yn ceisio cyfiawnder a newid erioed. I lawer o Gristnogion, mae hyn yn cysylltu’n uniongyrchol â’n galwad fel dinasyddion—i weithredu, yn unigol ac trwy ein heglwysi, ar faterion o bwysigrwydd cyhoeddus. Mae’r cynnig hwn yn peryglu mynd yn rhy bell drwy gyfyngu ar brotest nid oherwydd yr hyn y mae pobl yn ei wneud, ond oherwydd yr hyn y gallai eraill fod wedi’i wneud o’u blaen. Dyna pam yr ydym yn sefyll ochr yn ochr â phartneriaid o ffyddau eraill a grwpiau sifil i annog ASau i ailystyried.”
Mae’r ddeddfwriaeth, sydd eisoes wedi mynd trwy Dŷ’r Arglwyddi, bellach yn dychwelyd i Dŷ’r Cyffredin i ystyried gwelliannau. Wrth wraidd y pryder mae’r ddarpariaeth newydd sy’n caniatáu i awdurdodau ystyried effaith gyfunol protestiadau dros amser. Dywed gwrthwynebwyr fod hyn yn ehangu pwerau presennol yn sylweddol ac y gallai gael effaith oeri ar gyfranogiad democrataidd, yn enwedig i symudiadau llawr gwlad ac i’r rhai sy’n gweithredu ar sail cydwybod.
I ddarllen mwy am y gwelliannau arfaethedig a chyd-destun y Mesur, darllenwch friff Cytûn isod. Eisiau gweithredu? Ysgrifennwch at eich AS yn San Steffan.
Newidiadau i Reolau Gofal Plant yng Nghymru
Newidiadau i Reolau Gofal Plant yng Nghymru: Beth Mae’n Ei Olygu i Eglwysi
Mae rheolau newydd yn pennu pwy sydd angen cofrestru fel gwarchodwr plant neu ddarparwr gofal dydd yng Nghymru yn dod i rym ym mis Ebrill 2027 — ac mae angen i eglwysi gymryd sylw. Mae Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Dirymu a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2026, a gyhoeddwyd ar 25 Mawrth gan y Gweinidog Dawn Bowden AS, yn diweddaru’r fframwaith eithrio am y tro cyntaf ers 2010 ac mae ganddo oblygiadau uniongyrchol ar gyfer crèches, grwpiau rhiant a phlentyni, ysgolion Sul, clybiau gwyliau, a darpariaeth ieuenctid ledled Cymru.
Y newidiadau pwysicaf i eglwysi fod yn ymwybodol ohonynt: mae’r eithriad gofal dwy-awr yn parhau, ond nid yw bellach yn gymwys lle mae plant dan 3 oed yn bresennol oni bai bod rhiant yn aros ar y safle drwy gydol y sesiwn; mae gofynion goruchwyliaeth ar gyfer plant 2 oed ac iau wedi’u cryfhau; ac — yn bositif — gall plant 10 oed bellach gael mynediad at wasanaethau ieuenctid trosiannol heb i ddarparwyr fod angen cofrestru, gan gynorthwyo eglwysi i gefnogi plant drwy’r cyfnod pontio o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd.
Chwaraeodd Cytûn ran weithredol yn llunio’r ddeddfwriaeth derfynol. Cododd ein hymateb ymgynghori ym mis Hydref 2025 bryderon difrifol am gynigion a fyddai wedi gosod beichiau anghynaliadwy ar ddarpariaeth eglwysig dan arweiniad gwirfoddolwyr — a chlywyd y dadleuon hynny. Yn fwyaf arwyddocaol, nid yw cynnig a fyddai wedi gofyn am gofrestriad lle bynnag yr oedd darparwr yn cynnig mwy nag un math o weithgaredd wedi’i gynnwys yn y Gorchymyn terfynol. Pe bai wedi’i gynnwys, byddai ysgolion Sul, clybiau gwyliau a dosbarthiadau ffydd ledled Cymru wedi wynebu dyfodol ansicr dros nos.
Deall y Newidiadau a Mesur eu Heffaith
Mae Cytûn wedi llunio briff polisi dwyieithog manwl i gynorthwyo enwadau aelod i weithio drwy oblygiadau’r Gorchymyn ar gyfer eu darpariaeth eu hunain. Rydym yn annog pob eglwys a swyddog denominasiynol i adolygu eu gweithgareddau cyfredol yn erbyn y fframwaith newydd — ac i geisio cyngor cyfreithiol neu broffesiynol annibynnol lle maent yn ansicr am eu sefyllfa, gan y bydd amgylchiadau’n amrywio.
Rydym hefyd yn gofyn i aelodau rannu canfyddiadau eu hadolygiadau mewnol â ni. Bydd gwybod sut mae’r Gorchymyn hwn yn effeithio ar eglwysi yn ymarferol — newidiadau i ddarpariaeth, costau ychwanegol, neu bwysau penodol ar gymunedau cyfrwng Cymraeg neu gymunedau gwledig — yn cryfhau safle Cytûn wrth i Lywodraeth Cymru ddatblygu canllawiau cymorth cyn dyddiad cychwyn mis Ebrill 2027.
Cymorth Cristnogol yn galw am gadoediad ar unwaith wrth i’r argyfwng dyngarol yn y Dwyrain Canol ddyfnhau
Mae Cymorth Cristnogol wedi galw am gadoediad ar unwaith yn y Dwyrain Canol, gan rybuddio bod trais sy’n gwaethygu yn peryglu creu argyfwng dyngarol cynyddol ledled y rhanbarth.
Mewn datganiad a gyhoeddwyd yr wythnos hon, anogodd yr asiantaeth datblygu rhyngwladol bob parti sy’n rhan o’r gwrthdaro i ddod â’r ymladd i ben ar unwaith er mwyn diogelu bywydau sifiliaid a chynnal cyfraith ddyngarol ryngwladol.
Dywedodd Cymorth Cristnogol fod angen gweithredu ar frys i atal y rhyfel cyn i’r dioddefaint dyngarol cynyddol waethygu ymhellach ac i’r sefyllfa beryglu troi’n argyfwng byd-eang heb ddiwedd clir yn y golwg.
Mae partneriaid sy’n gweithio gyda Chymorth Cristnogol yn y rhanbarth yn adrodd am amodau difrifol sy’n gwaethygu i sifiliaid. Yn Gasa, maent yn rhybuddio bod croesfannau ffin caeedig yn arwain at brinder cynyddol o fwyd. Yn Libanus, dywedir bod llochesi’n gorlifo wrth i bobl ffoi rhag trais, tra bod gweithrediadau cymorth yn Israel hefyd mewn perygl.
Mae maint y dadleoli yn creu heriau ychwanegol i ymdrechion dyngarol. Dywed partneriaid lleol ei bod wedi dod yn amhosibl symud rhai o’r bobl fwyaf agored i niwed, gan gynnwys pobl hŷn a phobl sy’n byw ag anableddau.
Mae Cymorth Cristnogol yn annog eglwysi a chefnogwyr i weddïo dros heddwch ac i sefyll mewn undod â phawb sydd wedi’u heffeithio gan y gwrthdaro. Mae’r sefydliad wedi cyhoeddi gweddïau ac adnoddau ar gyfer eglwysi, ynghyd â gwybodaeth am ei Apêl Ddyngarol y Dwyrain Canol.
Mae gweddi dros heddwch yn Gymraeg ac yn Saesneg hefyd wedi’i rhannu gan Cymorth Cristnogol Cymru ar y cyfryngau cymdeithasol.
Wrth ymateb i’r sefyllfa, dywedodd Cytûn fod maint y dioddefaint ledled y rhanbarth yn peri gofid mawr ac yn tynnu sylw at yr angen brys am heddwch.
“Mae pobl ffydd ledled Cymru yn gwylio’r digwyddiadau hyn â chalonnau trwm wrth i sifiliaid barhau i dalu pris y trais. Mae’r sefyllfa ddyngarol bresennol yn hynod bryderus, a rhaid i ddiogelu bywyd dynol fod yn brif flaenoriaeth.
“Mae Cytûn yn ymuno â’r alwad am gadoediad ar unwaith ac yn annog pob parti i barchu cyfraith ddyngarol ryngwladol. Ar adeg o ddioddefaint dwys, rydym hefyd yn annog eglwysi a phobl ffydd i weddïo dros heddwch ac i weithio lle bynnag y bo modd dros gymod, cyfiawnder a diogelu pob cymuned sydd wedi’u heffeithio gan y gwrthdaro.”
Yr wythnos nesaf, bydd Cymorth Cristnogol yn rhannu myfyrdodau gan y Parchedig Iawn Ganon Richard Sewell, Deon Coleg Sant Siôr yn Jerwsalem, a fydd yn siarad am sut mae’r gwrthdaro hwn yn effeithio ar bobl sy’n byw yn y Wlad Sanctaidd.
Adnoddau: Darlith, Cenedlaetholdeb Cristnogol: Cleddyf dau finiog?
Mae ail ddarlith cyfres Diwinyddiaeth Gyhoeddus Cytûn bellach ar gael fel adnodd newydd yn y Gymraeg ar wefan Cytûn. Cyflwynwyd y ddarlith, Cenedlaetholdeb Cristnogol: Cleddyf dau finiog?, gan y Parchedig Dr Rhys Llwyd.
Mae’r adnodd yn archwilio’r berthynas gymhleth rhwng y ffydd Gristnogol a hunaniaeth genedlaethol o safbwynt Cymreig. Fel y ddarlith gyntaf yn y gyfres, nod yr adnodd yw annog myfyrdod diwinyddol ystyriol ar y materion sy’n siapio bywyd cyhoeddus cyfoes.
Mae’r teitl, Cleddyf Dau Finiog, yn crynhoi thema ganolog y ddarlith: bod y berthynas rhwng Cristnogaeth a hunaniaeth genedlaethol yn gallu ysbrydoli ymgysylltiad cymdeithasol cadarnhaol ond hefyd yn gallu peri peryglon sylweddol os daw ffydd i gael ei chlymu’n rhy agos at rym gwleidyddol. Drwy archwilio’r tensiwn hwn, mae’r ddarlith yn gwahodd eglwysi ac unigolion i fyfyrio’n feirniadol ar sut y dylai’r ffydd Gristnogol siapio ymgysylltiad cyhoeddus mewn tirwedd wleidyddol sy’n newid.
Gellir hefyd lawrlwytho a gweld trawsgrifiad ysgrifenedig o’r ddarlith:
Mae’r ail ddarlith hon yn ategu nodau ehangach rhaglen Diwinyddiaeth Gyhoeddus Cytûn, sy’n ceisio arfogi eglwysi ledled Cymru i ymgysylltu’n ystyriol â’r cwestiynau cymdeithasol a gwleidyddol sy’n wynebu’r genedl. Mae’r ddarlith Gymraeg gan y Parchedig Dr Rhys Llwyd bellach ar gael fel adnodd ar wefan Cytûn i eglwysi, myfyrwyr ac unrhyw un sydd â diddordeb yn y berthynas rhwng diwinyddiaeth, diwylliant a bywyd cyhoeddus yng Nghymru.
Galw i wrthod Cydsyniad Deddfwriaethol
Cytûn yn galw ar y Senedd i wrthod y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Oedolion â Salwch Terfynol (Diwedd Oes)
Mae Cytûn, Eglwysi Ynghyd yng Nghymru, wedi galw ar Aelodau o’r Senedd i bleidleisio yn erbyn y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol (CCD) yn ymwneud â’r Bil Oedolion â Salwch Terfynol (Diwedd Oes) pan fydd yn cael ei drafod (wedi ei drefnu ar hyn o bryd ar gyfer y 24ain Chwefror 2026). Mewn datganiad a gyhoeddwyd heddiw, daeth y corff eciwmenaidd cenedlaethol sy’n cynrychioli eglwysi Cristnogol ledled Cymru i’r casgliad na ddylid rhoi’r CCD, gan nodi pryderon heb eu datrys am ddarpariaethau’r Bil a pharch at gymwyseddau gofal iechyd datganoledig.
Mae’r datganiad yn cydnabod bod safbwyntiau ar farwolaeth â chymorth yn amrywio ar draws enwadau aelodol Cytûn, ond yn nodi bod nifer o eglwysi arwyddocaol—gan gynnwys yr Eglwys Gatholig, yr Eglwys yng Nghymru, yr Eglwys Fethodistaidd, Byddin yr Iachawdwriaeth, ac Eglwys Bresbyteraidd Cymru—wedi mynegi gwrthwynebiad i egwyddor hunanladdiad â chymorth. Mae Cytûn yn pwysleisio na ddylid dehongli enwadau nad ydynt wedi cyhoeddi safbwyntiau ffurfiol, yn aml fel mater o egwyddor eglwysyddol, fel rhai sy’n cefnogi’r ddeddfwriaeth. Nid yw absenoldeb datganiad swyddogol yn dangos cymeradwyaeth.
Mae datganiad Cytûn yn tynnu sylw at y ffaith bod pryderon sylweddol a godwyd gan weithwyr iechyd proffesiynol, arbenigwyr gofal lliniarol, a’r ddau bwyllgor craffu yn y Senedd yn parhau heb eu datrys. Mae mwy na 250 o feddygon a gweithwyr iechyd proffesiynol yng Nghymru wedi disgrifio’r Bil fel un “ddiffygiol iawn”, tra bod Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad y Senedd wedi codi cwestiynau difrifol am oblygiadau cyfansoddiadol “dull cul” Llywodraeth Cymru o benderfynu pa ddarpariaethau sydd angen cydsyniad y Senedd. Nid yw pryderon am ddarpariaeth y Gymraeg, capasiti’r gweithlu, a’r effaith ar gyllid gofal lliniarol wedi eu datrys yn foddhaol ychwaith. Mae Cytûn yn pwysleisio’r angen brys i Lywodraeth Cymru flaenoriaethu buddsoddiad mewn gwasanaethau gofal lliniarol cynhwysfawr yn hytrach na dargyfeirio adnoddau i weithredu deddfwriaeth marwolaeth â chymorth. Byddai ehangu mynediad yn sylweddol at ofal lliniarol a gofal diwedd oes o ansawdd uchel yn darparu cefnogaeth dosturiol wirioneddol i unigolion â salwch terfynol a’u teuluoedd ledled Cymru.
Mae Cytûn hefyd yn nodi ym mis Hydref 2024 fod y Senedd wedi pleidleisio yn erbyn cynnig yn cefnogi marwolaeth â chymorth, gyda gwrthwynebiad gan aelodau ar draws yr holl brif bleidiau gan gynnwys nifer o Weinidogion Llywodraeth Cymru. Mae’r corff eciwmenaidd yn dadlau na fyddai rhoi cydsyniad deddfwriaethol yn parchu’r farn a fynegwyd yn glir, na breintiau’r Senedd a Llywodraeth Cymru ar gyfer darparu gofal iechyd yng Nghymru. Mae Cytûn yn galw ar yr Aelodau i bleidleisio yn erbyn y CCD er mwyn sicrhau bod argymhellion pwyllgorau’r Senedd a phryderon pobl Cymru yn cael eu parchu’n briodol.
I ddarllen y datganiad yn llawn, gweler ein adran adnoddau polisi.