ALL EGLWYSI A CHENEDL AIL-ADEILADU’N WELL?

Mae eglwysi Cymru, fel y genedl gyfan, wedi canolbwyntio ers blwyddyn ar amryfal effeithiau Covid-19 a’r cyfyngiadau cyfreithiol ar ein gwaith. Yn ogystal â darparu gwybodaeth am y materion ymarferol hynny, mae Cytûn o’r cychwyn bron wedi bod yn awyddus cynorthwyo ein heglwysi i ystyried sut y gellir ail-adeiladu’n well unwaith y bydd y boblogaeth wedi ei brechu a gweithgarwch arferol yn gallu ail-gychwyn.

Ym Mai 2020 fe gyd-awdurodd Cytûn gyda phartneriaid eraill bapur am ymateb i newid hinsawdd yn wyneb Brexit a Covid, ac fe esgorodd y papur hwnnw ar bodlediad. Ers hynny, mae’r drafodaeth wedi dwysáu gyda Llywodraeth Cymru yn ymgynghori (fe gymerodd Cytûn ran yn yr ymgynghori hynny) ac yn Hydref 2020 yn cyhoeddi ei gweledigaeth o’r heriau a’r blaenoriaethau wrth ail-greu Cymru. Yn Ionawr, bu Gethin Rhys yn rhan o sgwrs arlein gydag Alex Davies-Jones, AS Pontypridd, a drefnwyd gan Eglwys Undebol Dewi Sant.

Mae Cytûn wedi bod yn glir nad argyfwng Covid yw’r unig argyfwng sydd yn wynebu Cymru, gan fod yna argyfyngau o ran newid hinsawdd a cholli byd natur, a fydd yn parhau ar ôl y pandemig. Bydd angen i ail-adeiladu beidio â dwysáu’r argyfyngau hyn, neu ni fydd yn ail-adeiladu o werth.

O ran newid hinsawdd, mae Cytûn a llawer o’n haelod enwadau yn rhan o glymblaid eang o eglwysi ar draws gwledydd Prydain ac Iwerddon sydd yn annog pob cynulleidfa leol i gynnal oedfa Sul yr Hinsawdd, arlein neu wyneb yn wyneb, ar Sul sy’n gyfleus yn lleol. Byddai’n gyfle gwych i gynnal oedfa gyd-enwadol a cheir digon o ddeunydd ecwmenaidd yn Gymraeg ac yn Saesneg ar wefan y Sul neu wefan Cytûn. Gofynnir i bob cynulleidfa hefyd:

  • ymrwymo i weithredu fel cynulleidfa trwy anelu at fod yn EcoEglwys (neu, yn achos plwyfi Catholig, ymuno â chynllun Live Simply), ac
  • uniaethu â datganiad Clymblaid yr Hinsawdd sy’n galw ar y Deyrnas Unedig i achub y cyfle o gadeirio cynhadledd hinsawdd fyd-eang COP26 yn Glasgow fis Tachwedd i arwain y byd o ran lleihau’r allyriadau sy’n cyflymu’r argyfwng hinsawdd. Gall eglwysi hefyd ymuno â chlymblaid climate.cymru, fydd yn cael ei lansio’n llawn ar Fawrth 1, i sicrhau fod gan fudiadau Cymru lais yn y gynhadledd hollbwysig hon.

Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru newydd gyhoeddi adroddiad a chrynodeb fachog yn trafod rhai syniadau am sut y gall Cymru drawsnewid ei heconomi mewn ffordd gyfiawn i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.

O ran yr argyfwng natur, yn Ionawr 2021 fe gyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru Adroddiad o Gyflwr Adnoddau Naturiol Cymru 2020. Mae’r dadansoddiad trylwyr hwn yn frawychus, o ran y rhywogaethau a’r cynefinoedd sydd mewn perygl o ddiflannu’n llwyr dros y degawd nesaf os na wnawn newidiadau sylfaenol. Ys dywed y rhagair, Mae pwysigrwydd gallu mwynhau ein hamgylchedd naturiol, a’r buddion o ran iechyd a lles a ddaw yn ei sgil, yn amlycach nag erioed wrth i ni i gyd addasu i’r cyfyngiadau a roddwyd ar waith i reoli’r feirws. Mae ein hymateb ar y cyd i’r pandemig yn gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i ailosod ein gwerthoedd a’n blaenoriaethau, ac i’w hadlinio â’r rhai a fydd yn creu dyfodol mwy cynaliadwy.

Un o nodau’r cynllun EcoEglwys yw galluogi eglwysi i gyfrannu i’r gwaith hwn o adfer cread Duw. Gellir clywed mwy am y cynllun wrth iddo ddathlu ei benblwydd yn 5 oed mewn oedfa arlein ar Fawrth 26.

Mae degau o filiynau o bunnoedd o fudd-daliadau a chymorth arall yn mynd heb eu hawlio yng Nghymru ar hyn o bryd. Gallai’r arian hyn wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau teuluoedd a’u dyfodol.

Mae’r rhesymau pam nad yw pobl yn manteisio ar y cymorth hwn yn niferus, ac weithiau’n gymhleth, ond y prif resymau yw nad yw pobl yn gwybod bod y cymorth ar gael neu nad ydyn nhw’n credu y gallen nhw fod yn gymwys i’w gael. Efallai nad ydyn nhw’n gwybod i bwy y dylen nhw ofyn am ba gymorth sydd ar gael neu efallai nad ydyn nhw am ymddangos fel pe bai angen cymorth arnyn nhw.

Laniswyd prosiect newydd a ariennir gan Lywodraeth Cymru – Dangos – i geisio mynd i’r afael â hyn trwy gynyddu gwybodaeth ac ymwybyddiaeth gweithwyr cyflogedig neu wirfoddolwyr sydd mewn cysylltiad o ddydd i ddydd â theuluoedd y gall fod angen cymorth ychwanegol arnyn nhw.

Dydyn ni ddim yn mynd i geisio gwneud pobl yn arbenigwyr neu’n gynghorwyr ar fudd-daliadau, dim ond rhoi mwy o ddealltwriaeth a gwybodaeth iddyn nhw am ba gymorth sydd ar gael ac awgrymiadau ynghylch annog pobl i fanteisio ar eu hawliau.

Rydym yn gwneud hyn drwy gynnig cyfres o sesiynau ar-lein am ddim i weithwyr rheng flaen ledled Cymru, gan barhau drwy’r flwyddyn. Bydd y sesiynau tair awr, a fydd yn rhyngweithiol iawn, yn cael eu hategu gan becyn gwybodaeth byr, ac i’r rheiny sydd ei eisiau, mynediad am ddim at gyrsiau e-ddysgu manylach am y system fudd-daliadau a sut mae’n gweithio.

Bydd y sesiynau a’r pecyn gwybodaeth, yn ogystal â rhai o’r cyrsiau ar-lein, yn cael eu darparu yn y Gymraeg a’r Saesneg,. Bydd y sesiynau ar-lein yn cael eu darparu’n bennaf drwy Zoom, ond bydd nifer o sesiynau ar Microsoft Teams. Bydd sesiynau yn Iaith Arwyddion Prydain yn y Gymraeg a’r Saesneg yn ôl y galw. Byddwn hefyd yn falch o ddarparu cyrsiau ar-lein, am ddim, i grwpiau o staff o’r un asiantaeth, gyda rhwng 10 a 20 ym mhob sesiwn. Fe all y bydd modd addasu’r cynnwys yn briodol.

Mae gwefan Dangos yn rhoi rhagor o fanylion ac yn galluogi pobl i gofrestru, yn unigol, ar gyfer sesiynau. Y wefan yw: www.dangos.cymru. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, neu os oes gennych ddiddordeb mewn sesiynau mewnol, cysylltwch â ni: info@dangos.cymru.

HELPU DINASYDDION Y DU SY’N BYW YN EWROP

Fe fu gweithgor Cymru ac Ewrop Cytûn yn ymboeni am sefyllfa dinasyddion y DU a’u teuluoedd sy’n byw yng ngwledydd yr Undeb Ewropeaidd, Parth Economaidd Ewrop (EEA) a’r Swisdir yn dilyn ymadawiad y DU â’r UE. Cawsom wybod fod Esgobaeth Ewrop Eglwys Loegr yn rhan o bartneriaeth i helpu dinasyddion o’r fath yn Ffrainc ac yn Sbaen, a mae eu tudalen we yn rhoi gwybod am bartneriaethau tebyg (heb gynnwys yr Esgobaeth yn ffurfiol) mewn gwledydd eraill.

Dyddiad cau cynlluniau ‘preswylio’n sefydlog’ gwledydd Ewrop yw 30 Mehefin 2021, felly mae amser yn brin. Mae Cytûn felly yn annog ein haelod enwadau a mudiadau, a darllenwyr y Bwletin hwn, i sicrhau fod y wybodaeth hon yn cael ei lledu trwy eu dulliau cyfathrebu priodol a rhwydweithiau Ewropeaidd (lle bo’n gymwys). Pan fu i’r Parch. Ganon Carol Wardman a Gethin Rhys gwrdd â chynrychiolwyr o Esgobaeth Ewrop ym Mrwsel yn Chwefror 2020 roeddent yn awyddus iawn i bwysleisio fod eu cymorth a’u gwasanaeth ar gael i bobl o bob enwad a chefndir, ac nid i aelodau Eglwys Loegr yn unig.

Mae Cytûn hefyd yn parhau i annog eglwysi yng Nghymru i sicrhau fod dinasyddion gwledydd yr UE a’r EEA a’r Swisdir – ac aelodau eu teuluoedd sy’n ddinasyddion o unrhyw wlad ag eithrio’r DU neu Weriniaeth Iwerddon – sy’n byw yma wedi gwneud cais i Gynllun Preswylio’n Sefydlog Llywodraeth y DU. Mae gan Lywodraeth Cymru dudalen we sy’n rhoi gwybodaeth bellach, ac wedi ariannu’n rhannol wasanaeth cynghori a gynhelir gan gonsortiwm o fudiadau trydydd sector cymeradwy. Y dyddiad cau i’r dinasyddion hyn hefyd wneud cais yw 30 Mehefin 2021.

Mae elusen Vesta wedi tynnu ein sylw at y gwasanaethau maen nhw’n eu cynnig i’r gymuned Bwylaidd yng Nghymru.

Grŵp Trawsbleidiol ar Ffydd

‘House of Good’: Gwerth Economaidd a Chymdeithasol Eglwysi’r DU

Siaradwr Gwadd: Claire Walker, Prif Weithredwr yr Ymddiriedolaeth Eglwysi Genedlaethol

Dydd Mercher 24 Chwefror 2021 12.00 – 13.15 trwy Zoom

Am fwy o wybodaeth, anfonwch neges e-bost at Jim Stewart ar jimstewartwales@gmail.com.

Anfonwyd ar ran Darren Millar AS, Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Ffydd

Parhau i eithrio eglwysi rhag cofrestru fel elusennau

Yn dilyn ymgynghori â’r eglwysi dan sylw, mae’r Rheoliadau sy’n darparu nad yw’n ofynnol i gynulleidfaoedd rhai enwadau yng Nghymru a Lloegr gofrestru gyda’r Comisiwn Elusennau os yw eu hincwm yn is na £100,000 yn cael eu hymestyn am ddeng mlynedd arall, tan 31 Mawrth 2031. Gosodwyd y Charities (Exception from Registration) (Amendment) Regulations 2021, gerbron Senedd San Steffan ar 19 Ionawr.

Y disgwyl yw y bydd y Comisiwn Elusennau, ar ryw adeg, yn cyflwyno cofrestriad graddol o gynulleidfaoedd eithriedig, yn ôl pob tebyg mewn cyfrannau ar sail incwm. Mewn e-bost at Wasanaeth Cynghori’r Eglwysi ar Ddeddfwriaeth (CLAS), cadarnhaodd Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y DU (DCMS) y bydd y Comisiwn Elusennau mewn cysylltiad â chyrff cynrychioliadol eglwysig i ddylunio a datblygu’r rhaglen gofrestru wirfoddol yn ystod 2021, a bydd yn cyhoeddi canllawiau ar y rhaglen pan fydd yn barod i gychwyn.

CYFRIFIAD 2021 YN PARHAU ER GWAETHAF COVID-19

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) wedi cadarnhau y cynhelir Cyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr ar Ddydd Sul Mawrth 21 2021 er gwaethaf sefyllfa Covid-19 a gohirio’r Cyfrifiad yn yr Alban tan 2022. Cysylltir â phob annedd trwy’r post oddeutu Mawrth 7 gyda chyfarwyddiadau ynghylch sut i lenwi’r ffurflen arlein neu archebu copi papur. Fe fydd cyfnod o ryw 4-5 wythnos I lenwi a chyflwyno’r ffurflen. Yn ôl yr ONS gellir cwblhau’r ffurflen mewn rhyw 20 munud.

Mae cwblhau’r ffurflen yn ddyletswydd gyfreithiol ar bob teulu. Mae’r ONS yn awyddus iawn i nodi nad ydynt wedi colli unrhyw ddata erioed ac na ryddheir gwybodaeth am unigolion am 100 mlynedd. Bydd cyfrifiad 2021 yn cynnwys cwestiynau newydd am hunaniaeth rywiol a rhyweddol ac am y sawl sydd wedi ymadael â’r lluoedd arfog.

Oherwydd natur arlein y Cyfrifiad gobeithir cyhoeddi amcangyfrifon ystadegol cychwynnol ar gyfer Cymru a Lloegr yn 2022, llawer yn gynt nag yn y gorffennol.

PYTHEFNOS MASNACH DEG Chwefror 22 – Mawrth 7 2021

Bob blwyddyn, mae’r Bythefnos Masnach Deg yn rhoi cyfle i bobl – gan gynnwys cannoedd o eglwysi Masnach Deg – ar draws y DU i ddathlu llwyddiannau Masnach Deg, a dysgu mwy am y gwahaniaeth mae Masnach Deg yn ei wneud.

Yn ystod Pythefnos Masnach Deg 2021, byddwn yn tynnu sylw at yr heriau cynyddol y mae’r newid yn yr hinsawdd yn ei gyflwyno i ffermwyr a gweithwyr mewn cymunedau y mae Masnach Deg yn gweithio gyda nhw. Mae’r ffeithiau’n syml. Effeithir fwyaf ar ffermwyr a gweithwyr yn ne’r byd a nhw sydd wedi gwneud y lleiaf i gyfrannu at y newid yn yr hinsawdd. Maent wedi dweud y canlynol wrthym:

  • Y newid yn yr hinsawdd yw eu her fwyaf ar hyn o bryd.
  • Mae prisiau isel am eu cnydau’n golygu eu bod yn ei chael hi’n anodd ymladd yn ôl.
  • Gyda mwy o arian drwy Fasnach Deg, mae ganddynt fwy o adnoddau i ddiwallu eu hanghenion beunyddiol a mynd i’r afael â’r heriau a wynebir gan y newid yn yr hinsawdd.

Mae’r argyfwng hinsawdd yn fygythiad uniongyrchol a chynyddol ac mae’r sawl sy’n byw mewn gwledydd sy’n agored i niwed oherwydd yr hinsawdd eisoes yn gweld ei effeithiau o sychder a chlefydau cnydau i lifogydd, tonnau gwres a chynaeafau sy’n lleihau.

Gyda’r pandemig COVID byd-eang sydd wedi ymddangos, mae’r heriau y mae ffermwyr yn eu hwynebu bellach yn fwy nag erioed gyda phrisiau is ac ergydau ar hyd ein cadwyni cyflenwi byd-eang. Mae tlodi parhaus mewn cymunedau ffermio’n ei gwneud hi’n fwyfwy anodd i ni ymdopi ag effeithiau’r newid yn yr hinsawdd.

Cydlynir Pythefnos Masnach Deg yn y DU gan yr Ymddiriedolaeth Masnach Deg, sydd eleni’n trefnu gŵyl arlein. Maen nhw’n dweud, Mae angen eich help arnom i roi lleisiau ffermwyr wrth galon taclo argyfwng yr hinsawdd a rhannu realiti eu brwydrau. Mae ein system fasnachu fyd-eang wedi’i phwyso o blaid yr ychydig bwerus. Yn gaeth yn y system hon, mae ffermwyr eisoes yn ei chael hi’n anodd diwallu eu hanghenion sylfaenol. Yn fwy nag erioed, mae angen pris teg arnyn nhw am eu cnydau a’u gwaith caled.

Mae Masnach Deg yn gweithio i godi lleisiau ffermwyr a gweithwyr a blaenoriaethu’r hyn sydd ei angen arnynt i ymateb i’r argyfyngau amgylcheddol sy’n datblygu mewn cymunedau sydd eisoes yn fregus. Y pythefnos hwn, rydym yn gofyn ichi ‘Dewis y Byd yr ydych ei Eisiau’ a chodi eich llais i ddweud wrth eraill am yr heriau y mae ffermwyr yn eu hwynebu yn sgîl newid yn yr hinsawdd.

Ymhlith yr adnoddau mae oedfa arlein ecwmenaidd (yn Saesneg). Mae Masnach Deg Cymru yn trefnu nifer o ddigwyddiadau wedi’u lleoli yng Nghymru, a gellir gweld y manylion yma.

GOHIRIO DIGWYDDIADAU’R HAF AM YR EILDRO

Fe gyhoeddwyd na chynhelir Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru, Sioe Frenhinol Cymru nag Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn 2021 oherwydd effeithiau’r pandemig. Ar ôl colli ein presenoldeb eglwysig yn y gwyliau hyn am ddwy flynedd yn olynol, bydd Cytûn, fel yr holl gyfranogwyr eraill, yn edrych ymlaen at allu cymryd rhan yn y gwyliau hyn eto yn 2022.

A DDYLID DERBYN BRECHIAD COVID-19?

Tra bod nifer yn awyddus iawn i gael eu brechu, mae gan eraill gwestiynau am y brechiadau newydd hyn. Fe drefnodd y Gynghrair Efengylaidd ac Eglwys Elim weminarau (Saesneg) am y cwestiynau moesol all godi, ac fe ellir eu gwylio trwy ddilyn y dolenni hyn.

Mae’r Eglwys Gatholig yng Nghymru a Lloegr wedi cyhoeddi y gall eu haelodau nhw dderbyn y brechiad, a gellir darllen eu rhesymu yma, lle ceir hefyd dolenni i ddadansoddiad moesol pellach.

Ceir gwybodaeth ymarferol gan Lywodraeth Cymru am ddosbarthu’r brechlyn yng Nghymru yma.

CYMRU GYSEGREDIG – EDRYCH YMLAEN AT AIL-DDARGANFOD EIN HEGLWYSI

© explorechurches.org

Er mwyn ein helpu I baratoi I allu crwydro eto, mae’r Ymddiriedolaeth Eglwysi Genedlaethol yn parhau I ehangu ei chanllawiau i ddarganfod eglwysi Cymru ar y wefan explorechurches.org

Yr ychwanegiad diweddaraf yw Ffordd Cymru, teulu o dair taith genedlaethol sy’n arwain ymwelwyr ar hyd arfordir y gorllewin, ar draws gogledd Cymru a thrwy galon Cymru. Mae hyn yn ymuno ag amrywiaeth eang o deithiau eraill, megis eglwysi sy’n hŷn na’n cestyll, dilyn Dewi Sant ac eglwysi ar ynysoedd diarffordd.

Rhywbeth i edrych ymlaen ato wedi’r datgloi!

BIL CWRICWLWM AC ASESU CYMRU

Fel yr adroddwyd ym Mwletin Polisi Rhagfyr 2020, mae Cytûn, Cyngor Eglwysi Rhyddion Cymru a’n haelod eglwysi wedi bod yn trafod yn ddwys gyda Llywodraeth Cymru oblygiadau rhai o’r cynigion yn y Bil Cwricwlwm ac Asesu sydd ar hyn o bryd o flaen Senedd Cymru. Yng ngham 2 y broses graffu yn y Pwyllgor Plant, Pobl Ifainc ac Addysg ar Ionawr 29, gwelwyd cytuno ar welliannau sydd yn ganlyniad i’r trafodaethau hynny.

Cytunwyd newid y Bil fel y byddai’r Cynghorau Ymgynghorol Statudol sirol sydd yn dynodi maes llafur Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn eu sir ac yn monitro ei weithredu yn parhau i gynnwys un pwyllgor yn cynrychioli crefyddau a chredoau anghrefyddol (megis dyneiddiaeth), ynghyd â phwyllgor yn cynrychioli athrawon a phwyllgor yn cynrychioli’r awdurdod lleol. Mae’r Bil hefyd yn ei gwneud yn statudol bod cynrychiolaeth ar y pwyllgor cyntaf yn gymesur, i’r graddau sy’n ymarferol bosibl, â chryfder y grwpiau a gynrychiolir o fewn y sir, a bod Cynghorau Sir yn gorfod dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru yn hyn o beth. Mae Cytûn yn croesawu’r newidiadau hyn yn fawr, gan eu bod yn lleihau’r posibilrwydd y gallai grwpiau ymylol (crefyddol neu fel arall) sydd heb aelodaeth sylweddol yn lleol gael eu cynrychioli ar y pwyllgorau hyn, ac felly dylanwadu yn ormodol ar waith ein hysgolion.

Cytunwyd hefyd ar newidiadau yn cysoni i raddau y gofynion cyfreithiol o ran Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg ar ysgolion eglwysig ac ysgolion eraill, ac yn caniatáu mwy o ymgynghori a phleidlais yn Senedd Cymru pan gyhoeddir côd ar gyfer Addysg Perthynas a Rhywioldeb.

Ar ddiwedd Ionawr, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru Gynllun Gweithredu ar gyfer y cwricwlwm newydd, i helpu ysgolion ac awdurdodau lleol i baratoi y cwricwlwm lleol newydd fydd ei angen ar gyfer pob ysgol. Mae’r Cynllun yn nodi patrwm gweithredu dros bum tymor ysgol (tan Fedi 2022), ond yn nodi hefyd na ddisgwylir i ysgolion allu bwrw ati yn llawn ar hyn o bryd oherwydd y sefyllfa gyda Covid-19.

PARHAU I DRAFOD DYFODOL AMAETH YNG NGHYMRU

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ymgynghoriad Papur Gwyn newydd sy’n nodi’r cynlluniau ar gyfer cam nesaf y polisi amaethyddol yng Nghymru. Mae’r papur yn gosod y cefndir ar gyfer Bil Amaethyddiaeth (Cymru) a fydd yn cael ei gyflwyno yn nhymor nesaf Senedd Cymru. Mae’n cymryd rhai o’r syniadau a gyflwynwyd yn Ffermio Cynaliadwy a’n Tir ac yn adeiladu arnynt, yn dilyn yr ymatebion a gafwyd. Mae’r ymgynghoriad diweddaraf ar agor tan 26 Mawrth 2021.

ETHOLIADAU MAI 2021

Wrth i ni gyhoeddi’r Bwletin hwn, fe ddisgwylir y bydd yna etholiadau pwysig yn cael eu cynnal yng Nghymru ar Fai 6, sef ethol 60 aelod i Senedd Cymru ac ethol y pedwar Comisiynydd Heddlu a Throsedd, un i bob heddlu yng Nghymru.

Mae Cytûn yn rhan o bartneriaeth o eglwysi ar draws gwledydd Prydain sy’n llunio adnoddau amhleidiol i helpu eglwysi a Christnogion unigol i feddwl a gweddïo wrth iddynt baratoi i bleidleisio. Fe fydd deunydd ar gael cyn bo hir ar dudalen bwrpasol ar wefan Cytûn yn rhoi gwybodaeth ffeithiol am yr etholiadau a chanllaw i ystyried y prif bynciau fydd dan sylw.

Mae Cytûn yn rhan o bartneriaeth arall gyda Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA) a Thîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig a Ieuenctid Cymru (EYST) i gynnal sesiwn holi ac ateb arlein gyda’r prif bleidiau gwleidyddol ar nos Fercher 14 Ebrill am 6.30-8yh. Gellir cadw lle arlein yma. Bydd y sesiwn yn canolbwyntio ar yr argyfyngau hinsawdd a natur; addysg a’r cwricwlwm newydd; tlodi ac anghydraddoldeb; a bod yn genedl groesawgar. Bydd Cytûn hefyd yn cynnig arweiniad i grwpiau lleol sydd am gynnal cyfarfodydd tebyg ar gyfer eu hetholaethau neu ranbarthau lleol, naill ai wyneb yn wyneb (os yw’r sefyllfa iechyd cyhoeddus yn caniatáu) neu arlein.

Mae’n bosibl y bydd raid gohirio’r etholiadau, a rhag ofn hynny, mae Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws) wedi’i gyflwyno er galluogi’r Llywydd i ohirio etholiad Senedd Cymru am hyd at chwe mis pe bai angen. Mater i Lywodraeth y DU fyddai gohirio etholiadau’r Comisiynwyr Heddlu.

DARLITH GOFFA GETHIN ABRAHAM-WILLIAMS

Yn dilyn ei gyfnodau sabothol yn ystod 2020 pan fu’n astudio newid hinsawdd, fe wahoddwyd Swyddog Polisi Cytûn, y Parch. Gethin Rhys, i draddodi Darlith Goffa Gethin Abraham-Williams ar nos Iau Mai 20 am 5-6.30yh. Cynhelir y ddarlith hon arlein.

Meddai Gethin, “Mae llawer o bobl yn galw sylwadau pobl megis Greta Thunberg a rhai gwyddonwyr, llenorion ac ymgyrchwyr am newid hinsawdd yn ‘apocalyptaidd’ – ystyrier yr enw ‘Gwrthryfel Difodiant’ er enghraifft. Defnyddir yr un gair i gyfeirio at rannau o’r Beibl, megis rhannau o Lyfr Daniel, Marc pennod 13 neu Llyfr y Datguddiad. Rwy wedi bod yn ystyried beth yw’r berthynas rhwng yr hen lenyddiaeth apocalyptaidd Feiblaidd a’r apocalyptic seciwlar newydd sydd yn codi. Ai arwydd o anobaith yw arddel y syniad o apocalyps, ynteu arwydd o obaith – fel y bwriadai’r awduron Beiblaidd? Dyna fydd maes y ddarlith.”

Teitl y ddarlith fydd Diwedd y Byd? Apocalyptic Cristnogol ac ymatebion i newid hinsawdd. Fe’i traddodir yn ddwyieithog, gyda chyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg, a bydd cyfle i holi cwestiynau ar y diwedd. Gellir cadw lle arlein yma.

Cytûn – Eglwysi ynghyd yng Nghymru

Yst 3.3, Tŷ Hastings, Llys Fitzalan (gyferbyn â Tŷ Brunel), Caerdydd CF24 0BL Ffôn y swyddfa: 03300 169860 

E-bost: post@cytun.cymru  ww.cytun.co.uk @CytunNew

Hapus i gyfathrebu yn Gymraeg ac yn Saesneg. Happy to communicate in Welsh and English

Dyddiad cyhoeddi: 2 Chwefror 2021. Cyhoeddir y Bwletin nesaf 31 Mawrth 2021.