CYFARCHION NADOLIG 2020

Gwn y byddwch yn ymwybodol, o’r llif cyson o negeseuon e-bost, fod CERhC yn dal i weithredu er nad ydym wedi cyfarfod wyneb yn wyneb fel Cyngor eleni. Yn fy  Nigwyddiadur Rhif 9 dywedais ein bod yn amcannu  “cynnull cyfarfod yng Ngwanwyn 2021 pryd y sefydlir y Parch Simon Walkling i’r Lywyddiaeth.”  Yn ddistaw bach roeddwn yn gobeithio y byddai hynny yn gynnar yn y Gwanwyn ond erbyn hyn rwyf yn croesi’m mysedd y gallwn gynnull cyfarfod go iawn ym mis Mai fydd yn golygu y bydd y sefydlu yn digwydd union flwyddyn yn hwyr.

Er nad yw’r Cyngor wedi cyfarfod  nid yw llais CERhC wedi ei ddiffodd dros y cyfnod rhyfedd hwn yr ydym wedi bod yn ei ddioddef ers y gwanwyn diwethaf. Mae nifer o gyfarfodydd rhithiol wedi digwydd  a rwyf  wedi mynychu cyfarfodydd o Fforwm Cymunedau Ffydd Llywodraeth Cymru a  Grŵp Trawsblediol ar Ffydd yn ogystal â chyfarfodydd dan nawdd CTBI i arweimwyr cyrff Cristnogol y pedair gwlad.  Gofynnais i’r darpar  Lywydd ein cynrychioli ar y Grŵp Tasg a Gorffen  oedd yn ymwneud â’r trefniadau ar gyfer addoldai yn ystod y cyfnod gan ei fod ef yn y rheng flaen ar y mater yma o gymharu â mi, a bu nifer o gyfarfodydd. Gofynnais I Noel Davies ein cynrychioli mewn cyfarfod drefnwyd gan CTBI ar gyfer y pedair gwlad i drafod materion Brexit. Fe’n cynrychiolwyd mewn dau Wasanaeth (Gwasanaeth Diwrnod VJ a Gwasanaeth Cenedlaethol Sul y Cofio)  gan Helen, ein hysgrifennydd, a diau i chi ei gweld ar y teledu ar y ddau achlysur yn darllen yn raenus yn y ddwy iaith.  Mae materion addysg wedi bod yn amlwg dros y misoedd gyda ymgynghoriadau yn digwydd ac rwyf yn hynod o ddiolchgar i Vaughan Salisbury am ei waith diwyd gyda hyn a chyda’i gyd gysyltiad â Phwyllgor Addysg  Llundain.  Cawsoch flas ar hyn mewn erthygl ddiweddar gan Vaughan yn y 4tud.

Felly dyna’r sefyllfa ar hyn o bryd ac mae’n fraint ac anrhydedd cael cynrychioli CERhC a chadw tystiolaeth  yr eglwysi rhyddion yn fyw ac yn iach, ac y ddylanwadol gobeithio, mewn cyfnod mor ddreng ag yr ydym yn ei brofi yn ystod y flwyddyn hon. Er hynny mae gennym ffydd y byddwn yn goroesi yn fuddugoliaethus, drwy ras Duw, er na fydd y “normal newydd” o angenrheidrwydd yn debyg i’n harferion yn y gorffennol. Mae wedi bod yn gyfnod heriol i’n heglwysi ac yn gyffredinol maent wedi ymateb yn gadarnhaol iawn ac wedi datblygu ffyrdd gwahanol ac amrywiol o gyfathrebu nid yn unig â’u  haelodau ond â’r gymdeithas ehangach.  Yr hyn sy wedi amlygu ei hun ydi nad o fewn adeiladau mae y ffydd yn fyw ond mewn eglwysi sydd yn gallu bod yn hyblyg ac yn effro i angenhion eu cymuned. Un peth sy wedi dod yn glir iawn i mi yn ystod y misoedd diwethaf yw bod y meddylfryd crefyddol yn debyg iawn ym mhob crefydd a bod yr egwyddorion sylfaenol o addoli ac o garu cyd ddyn yn greiddiol i bob crefydd. Dylai hynny fod yn symbyliad da i ni i’r dyfodol wrth i ni ddathlu genedigaeth ein Gwaredwr y Nadolig hwn.  Dymunaf Nadolig tangnefeddus a bendithiol i bawb.

Rheinallt A Thomas

Llywydd

Cyngor Eglwysi Rhyddion Cymru