PRESENNOL ANSICR A DYFODOL ANISCR I ADDOLDAI?

Mae’r rheoliadau cyfnewidiol ar draws Cymru wedi ei gwneud hi’n anodd i eglwysi o bob enwad gynllunio eu gweithgarwch am y misoedd nesaf. Gallwch ddarllen crynodeb o’r canllawiau cyfredol ar dudalen arbennig gwefan Cytûn, sy’n cael ei diweddaru yn rheolaidd, a mae Cytûn yn anelu at ddarparu gwybodaeth ddefnyddiol i’r eglwysi – er na fedrwn ddarparu cyngor cyfreithiol ffurfiol. Dylai eglwysi lleol sy’n rhan o enwad hefyd sicrhau eu bod yn cadw mewn cyswllt â’u hawdurdodau enwadol, gan fod llawer o’r rhain yn cyhoeddi eu canllawiau eu hunain.

Ond beth am y dyfodol tu hwnt i’r cyfyngiadau presennol? Mae Christopher Catling, ysgrifennydd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, a chadeirydd Fforwm Addoldai Hanesyddol Cymru – sy’n dwyn ynghyd Cytûn, Cadw, enwadau unigol a llawer o elusennau ac asiantaethau sy’n gweithio yn y maes – yn cynnig ei sylwadau am ba fath o ddyfodol all fod o’n blaen.

Fe fyddai’n fendigedig pe bai pob eglwys a chapel cyn bo hir yn codi baner fawr y tu allan yn cyhoeddi ‘Rydyn ni ar agor; dewch i mewn!’. Beth am i ni fanteisio ar y cyfle hwn i ddangos gwerth yr adeiladau cymunedol hyn ar adeg pan fo’r wlad gyfan yn rhoi ystyriaeth ddwys i’r gorffennol a’r dyfodol. Mae rhai addoldai wedi gwneud ymdrechion clodwiw i fod yn rhan o’r gweithgarwch hwn, drwy gynnig gwasanaethau ar-lein, gweminarau a gwybodaeth gyffredinol am eu hadeiladau a’u cymunedau er mwyn rhoi cyfle i’w cynulleidfaoedd a phobl eraill gymryd rhan a theimlo eu bod yn cael eu cefnogi (gweler, er enghraifft, gwefan Capel Gellionnen ac Eglwysi Llandaf @ChurchcareL ar Twitter). Hyd yn oed wedyn, roedd peidio â chael mynd i’w haddoldai i weddïo a myfyrio’n breifat yn golled fawr i lawer.

Huw Edwards, newyddiadurwr a darllenydd newyddion ar y BBC ac Is-lywydd yr Ymddiriedolaeth Eglwysi Genedlaethol, yn cyflwyno’r achos dros ddarparu mwy o gymorth ar gyfer addoldai hanesyddol mewn dadl gyda Dafydd Elis-Thomas, Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, ym mhulpud Tabernacl Treforys.

Yr her bellach yw sicrhau nad cau fydd yr arfer o hyn ymlaen. Does dim rhaid i chi fod yn grefyddol i boeni am hyn. Pan fydd addoldai’n cau, collwn fwy na’r adeilad. Collwn ganolbwynt bywyd cymunedol, y lle sy’n cynnal defodau newid byd – bedyddiadau, priodasau, angladdau a gwasanaethau coffa – a digwyddiadau coffáu cenedlaethol – y Cadoediad, Diwrnod VE, Diwrnod y Cofio. Collwn y gwyliau hynny y mae’n bosibl bod ganddynt wreiddiau paganaidd yn ogystal â rhai Cristnogol – y Nadolig a’r Pasg, Gŵyl yr Holl Eneidiau a Gŵyl Ddiolchgarwch. Collwn glychau, gwyliau blodau, corau a datganiadau cerddorol, mannau cyfarfod, a lleoedd cymdeithasol sy’n rhoi sicrwydd o gwmni cyfeillgar unwaith yr wythnos. Pan werthir addoldai, collir yr archifau a phob math o decstilau. Yna’r seddau, yr orielau a’r grisiau, ynghyd â’r organ a llofft yr organ, y sêt fawr, y pulpud, y desgiau darllen, placiau, byrddau a chofebau, drysau a phaneli – llawer ohonynt yn enghreifftiau da o grefftwriaeth leol.

Ni fydd modd i’r cyhoedd wedyn werthfawrogi nodweddion celfyddydol, hanesyddol a phensaernïol yr adeilad, nac astudio’r hanes cymdeithasol sydd ynghlwm wrth y cofebau, na mynd i’r fynwent i archwilio’r cerrig beddau a mwynhau’r bywyd gwyllt. Os na allwch fynd i eglwysi, ni fyddwch yn gallu astudio’r casgliadau gorau o waith coed, cerflunwaith a gwydr lliw. Yr adeiladau hyn, yn ôl unrhyw ddiffiniad o dreftadaeth, yw’r rhai pwysicaf yn ein cymunedau. Maen nhw’n ymgorffori gwerthoedd pensaernïol, hanesyddol, tystiolaethol, cysylltiadol a chymunedol. Mae’r Gymdeithas Henebion yn amcangyfrif bod gan lai na 50 y cant o addoldai rhestredig gofnod cynhwysfawr, a bach iawn yw’r wybodaeth am y mwyafrif llethol o addoldai yng Nghymru, sef capeli syml y werin a fu’n rhan annatod o fywydau cymaint o bobl am fwy na 200 o flynyddoedd.

Capel y Ffin, Sir Frycheiniog. Mae tu mewn eglwys y Santes Fair, a godwyd ym 1762, yn llawn o gelfi syml – seddau, pulpud ac oriel – a luniwyd gan saer lleol yn yr arddull gwerinol. Ceir Capel y Bedyddwyr ar lan arall Afon Honddu, sy’n dyddio o 1737 ac sydd bron yr un fath yn union â Chapel y Ffin.

Llanegryn, Sir Feirionnydd. Rhoddwyd grant yn ddiweddar i ddyddio’r groglofft ganoloesol bwysig hon, sy’n deyrnged i grefft y saer coed Cymreig.

Maes-yr-onnen, Sir Faesyfed. Tu mewn syml ond ysblennydd un o gapeli cynharaf Cymru, a gofrestrwyd wedi’r Ddeddf Goddefiad (1689).

Beth y gallwn ei wneud felly? Yn gyntaf oll, rhaid i ni gynyddu’r nifer o bobl yn ein cymunedau sy’n teimlo’n gryf dros eu heglwysi neu gapeli lleol ac sy’n awyddus i’w cadw’n adnodd i’r gymuned. Mae hyn yn golygu agor y drysau led y pen a gwahodd pobl i ddysgu am yr adeilad. Mae Croeso Cymru wedi cyhoeddi pecyn offer Profi Cymru Sanctaidd i helpu pobl gyda hyn.

Mae ymchwil a wnaed gan Sefydliad Plunkett yn dangos mai anaml y bydd cynulleidfaoedd yr eglwysi neu’r capeli eu hun yn cynnig syniadau ar gyfer gwneud defnydd ychwanegol o’u haddoldai – daw’r syniadau bron yn ddieithriad o’r gymuned ehangach. Mae angen i’r agwedd fewnblyg hon newid a bydd Sefydliad Plunkett yn lansio ymgyrch cyhoeddusrwydd yn ddiweddarach eleni i annog pobl sy’n gyfrifol am ofalu am addoldai i geisio ysbrydoliaeth gan bobl sydd wedi llwyddo i gynnwys siopau a swyddfeydd post, ysgolion meithrin, dosbarthiadau ioga, caffis, mannau cyfarfod, clybiau ar ôl ysgol, egin fusnesau a busnesau bach yn eu haddoldai heb amharu ar eu swyddogaeth grefyddol.

Pennant Melangell, Sir Drefaldwyn. Eglwys wedi’i hadfer yw hon. Mae’n gartref i gysegr o’r 12fed ganrif ac mae’n gyrchfan i bererinion yr 21ain ganrif.

Mae gan lawer o addoldai y potensial i ennill incwm o dwristiaeth, ac mae yna ddigon o fentrau yng Nghymru sy’n annog hyn, o lwybrau pererinion i ysguboriau gwersylla, o deithiau tywys i wyliau cerddorol ac arddangosfeydd celf a chrefft, a hyd yn oed gwyliau cwrw, gwin a jin. Mae twristiaeth ffydd yn werth £14 biliwn drwy’r byd ac mae’r potensial ar gyfer ei chynyddu yng Nghymru yn enfawr. Mae gwefan Explore Churches, a reolir gan yr Ymddiriedolaeth Eglwysi Genedlaethol, yn drysorfa o wybodaeth am addoldai werth eu gweld. Mae gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru nifer fawr o gynlluniau a ffotograffau o gapeli ac eglwysi yn ei archif ac ar Coflein. Mewn partneriaeth ag Addoldai Cymru fe grëwyd ‘rhith amgueddfa’ sy’n adrodd hanes capeli Cymru o safbwynt crefydd, pensaernïaeth, diwylliant a chymdeithas. Enw’r prosiect yw Anghydffurfio Digidol: Hanes Capeli Cymru. Mae’r holl wybodaeth yng Nghronfa Ddata Capeli’r Comisiwn – cyfanswm o 6,430 o safleoedd – ar gael ar-lein ar wefan y prosiect, ac mae’r Comisiwn wedi darparu rhith fynediad i’r capeli sy’n eiddo i Addoldai Cymru drwy greu teithiau ffotograffig Gigapicsel a hediadau-drwodd wedi’u laser-sganio, fel bod modd i bobl o bedwar ban byd archwilio’r adeiladau o bell.

Ein nod yw cofnodi’r adeiladau hyn fel y maent cyn iddynt gael eu diberfeddu a’u newid at ddefnydd arall – ond nid yw cofnod mewn archif yn gallu cymryd lle’r adeilad ei hun, a dyfodol gwell o lawer fyddai cadw addoldai’n lleoedd at ddefnydd crefyddol a chymunedol.

Testun (wedi’i grynhoi) a lluniau wedi eu hatgynhyrchu gyda chaniatâd o wefan www.cbhc.gov.uk

Felly – beth nesaf? Ymunwch â’r drafodaeth mewn cynhadledd Zoom Ffydd yn y Dyfodol? dan arweiniad Fforwm Addoldai Hanesyddol Cymru am 9.15 ar fore Iau 22 Hydref. Cofrestrwch yma: https://us02web.zoom.us/webinar/register/WN_dS7WnEyZTRSBMAd5U0H-Wg

Arian i ddiogelu treftadaeth a gwaith eglwysi Catholig

Cafwyd £186,700 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol i helpu cynnal eglwysi o fewn Archesgobaeth Catholig Caerdydd sy’n agored i’w cymunedau.

Bydd y cynllun yn darparu cefnogaeth benodol ar gyfer Eglwys y Santes Fair, Casnewydd (llun ar y chwith), Eglwys San Mihangel, Casnewydd, Our Lady of Peace, Trecelyn ac Eglwys Dyfrig Sant, Trefforest (darlunnir y neuadd brysur isod ar y dde).

Meddai Archesgob Caerdydd, George Stack, ‘Mae Eglwys y Santes Fair, Our Lady of Peace, Eglwys San Mihangel ac Eglwys Dyfrig Sant yn asedau cymunedol hynod werthfawr yn ogystal â bod yn emau pensaernïol yn gwasanaethu rhai o aelwydydd mwyaf difreintiedig Cymru. Mae ymchwil yn dangos fod angen i adeiladau eglwysig, er mwyn bod yn ffyniannus, gael eu gwerthfawrogi gan eu cymunedau, a bod o ddefnydd iddynt. Gydag ychydig o ddychymyg, gall y cynllun hwn ddarparu patrwm i addoldai eraill ei ddilyn o ran datblygu gwirfoddoli ac ymwneud cymunedol cynaliadwy. Rydym yn hynod ddiolchgar i Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol am eu cefnogaeth’.

Sail y cynllun tair blynedd yw’r gred mai’r unig ffordd gynaliadwy o gadw adeiladau treftadaeth yr elusen yw rhoi i’r gymuned y sgiliau i’w cynnal. Mae’r cynllun yn canolbwyntio ar gadw a gwarchod addoldai rhestredig a’u hadeiladau cysylltiedig megis neuaddau, tai offeiriaid a thir. Nod y cynllun yw galluogi cymunedau i ofalu am dreftadaeth weladwy ac anweladwy yr eglwys trwy ddwyn cymunedau ynghyd i gyd-ddysgu. Bydd sicrhau diogelu’r sgiliau angenrheidiol i’r dyfodol yn golygu y gall cenedlaethau i ddod fwynhau gwerth ein hadeiladau gwych. Bydd y cynllun yn edrych tu hwnt i drwsio adeiladau yn y byr-dymor ac yn helpu datblygu ffyrdd newydd o gyd-weithio gyda chymunedau lleol.

EGLWYSI YN GALW AM AIL-OSOD Y DDYLED

Mae pedair o aelod eglwysi Cytûn – Undeb Bedyddwyr Prydain Fawr, yr Eglwys Fethodistaidd a’r Eglwys Ddiwygiedig Unedig, gyda chefnogaeth Eglwys Bresbyteraidd Cymru – wedi lansio ymgyrch newydd dan yr enw Reset the Debt, mewn partneriaeth ag Eglwys yr Alban a Church Action on Poverty. Yn ystod y cyfnod clo, meddent, fe orfodwyd miliynau o deuluoedd ledled y Deyrnas Unedig i fenthyg arian i gael dau ben llinyn ynghyd – gyda’r cynnydd mywaf o ran dyled ymhlith y teuluoedd tlotaf.

  • Mae chwe miliwn o bobl wedi syrthio’n fyr o’u taliadau rhent, treth gyngor a biliau eraill y cartref oherwydd Covid-19.
  • Mae bron un aelwyd ymhob pump wedi benthyg arian i brynu bwyd neu hanfodion eraill yn ystod mis Gorffennaf.

Maen nhw’n dweud fod hon yn broblem frys sy’n gofyn am ddatrysiad buan. Felly maen nhw’n cynnig y dylai Canghellor y Trysorlys greu Cronfa Jiwbilî fyddyn darparu grantiau i dalu a dileu dyledion anorfod a grynhowyd gan deuluoedd yn ystod y cyfnod clo.Maent yn credu y bydd Jiwbilî yn galluogi adfer cydberthynas, ail-bwyso cymunedau ac adfer urddas pobl. Mae’r adroddiad yn rhannu hanesion profiadau bywyd y sawl a ddaliwyd ym magl dyled gan Covid-19, a gellir ei chyrchu – ynghyd â fideos a deunydd ymgyrchu – ar resetthedebt.uk

SUL YR HINSAWDD AC WYTHNOS HINSAWDD CYMRU

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal wythnos arbennig o weithgareddau ar ddechrau mis Tachwedd i ffocysu ar argyfwng yr hinsawdd a sut y gall Cymru ymateb. Bydd manylion yn cael eu cyhoeddi maes o law ar: https://llyw.cymru/wythnos-hinsawdd-cymru.

Bydd yr wythnos yn digwydd flwyddyn union cyn cynhadledd fawr byd-eang COP26 yn Glasgow yn Nhachwedd 2021. Mae Rhwydwaith Materion Amgylcheddol Eglwysi ynghyd ym Mhrydain ac Iwerddon eisoes wedi lansio cyfle i eglwysi ymbaratoi ar gyfer y gynhadledd honno trwy gymryd rhan yn Sul yr Hinsawdd. Gellir cynnal Sul yr Hinsawdd yn lleol ar unrhyw Sul tan 5 Medi 2021. Ceir adnoddau dwyieithog ar wefan Cytûn, a dolenni at lu o adnoddau Saesneg ar wefan www.climatesunday.org Yno hefyd yw’r man i gofrestru fel ein bod yn gwybod bod eich eglwys neu ofalaeth – neu grŵp Cytûn lleol – yn cymryd rhan. Mae’r Sul yn eich herio i addoli, i ymateb yn lleol (trwy gynllun EcoChurch, neu – yn achos plwyfi Catholig – trwy gynllun Byw’n Syml CAFOD) ac arwyddo datganiad Clymblaid yr Hinsawdd a fydd yn cael ei gyflwyno i gynhadledd COP26.

Mae rhai eglwysi wedi mentro yn barod, a gallwch glywed oedfaon ar lein gan Eglwysi Diwygiedig Unedig Caerdydd a Phenarth ac Eglwys Crist, Y Rhath. Fe hoffem wybod am a rhoi cyhoeddusrwydd oedfaon Sul yr Hinsawdd yng Nghymru – yn Gymraeg, Saesneg neu mewn ieithoedd eraill –ebostiwch gethin@cytun.cymru neu tagiwch ni @CytunNew ar Trydar.

Fe effeithiwyd ar bobl du a lleiafrifol ethnig (BAME) yn anghymesur gan Covid-19. Sefydlwyd y llinell gymorth newydd hon gan EYST, Women Connect First, Henna Foundation, ProMo Cymru a TUC Cymru, a mae’n anelu at fod yn fan cymorth cyntaf i unigolion o gefndiroedd BAME.

  • Mae’r llinell gymorth yn cael ei chynnal yn y lle cyntaf fel cynllun peilot 6 mis wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru trwy gronfa argyfwng y trydydd sector.
  • Mae’n llinell gymorth amlieithog. Rhyngddynt mae’r tîm yn medru 11 iaith a gellir trefnu trosi i ieithoedd eraill yn ôl y gofyn.
  • Ceir gwybodaeth am: iechyd, gwaith, lles, addysg, tai, a diogelwch personol.
  • Nid llinell gynghori yw hon – yn bennaf fe gyfeirir pobl at wasanaethau arbenigol eraill, ag eithrio cyngor am gyflogaeth a ddarperir gan TUC Cymru.
  • Mae’r llinell gymorth ar gael Llun-Gwener 10.30 yb – 2.30 yp
  • Rhif y llinell gymorth – 0300 2225720 (galwadau pris galwad leol)
  • Rhif testun SMS – 07537 432416
  • Gwefan – https://bame.wales/cy/
  • Ebost – bamehelpline@eyst.org.uk

CAM WRTH GAM AT GWRICWLWM NEWYDD

Dros y pum mlynedd ddiwethaf, mae Cytûn wedi bod yn weithgar, ar ran y Fforwm Cymunedau Ffydd, fel “rhanddeiliad” swyddogol wrth lunio cwricwlwm newydd i ysgolion Cymru. Ceir papur briffio am y cwricwlwm a’n gwaith ni yn ei gylch ar ein gwefan.

Ar Hydref 5, cynrychiolwyd Cytûn mewn gweminar i lansio adroddiad newydd gan adran Addysg yr OECD (y Mudiad er Hybu Cydweithredu a Datblygu Economaidd) ar gynnydd tuag at lansio’r cwricwlwm mewn ysgolion yn 2022. Mae’r adroddiad, a’r sawl gyflwynodd ar ran yr OECD, yn nodi mai taith deng mlynedd yw ail-lunio’r holl drefn addysg, sef yr hyn sy’n cael ei geisio yng Nghymru – felly hanner ffordd ydym ni! Wrth ateb cwestiwn gan Cytûn, fe gytunon nhw fod llwyddiant yn dibynnu ar gyfranogiad nid yn unig pawb sy’n ymwneud â byd addysg – yn enwedig felly plant a phobl ifainc – ond hefyd gan y gymdeithas ehangach. Mae Cytûn yn argyhoeddedig fod cyfleoedd i eglwysi a grwpiau ffydd eraill gyfoethogi addysg yng Nghymru ac edrychwn ymlaen at helpu ein haelodau i gymryd rhan.

Mae yna hefyd ambell her, yn eu plith y newidiadau a gynigir ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (yr enw newydd am Addysg Grefyddol) a rôl ysgolion â chymeriad crefyddol (‘ysgolion eglwysig’). Hefyd ar Hydref 5, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddadansoddiad o’r ymatebion dderbyniwyd i ymgynghoriad am y materion hyn, y bu i Cytûn a nifer o’n haelod eglwysi a mudiadau ymateb. Rydym yn aros ymateb Llywodraeth Cymru gyda chryn ddiddordeb.

CADW GOLWG AR DDEDDFWRIAETH CYMRU

Nod Cytûn yw galluogi eglwysi a mudiadau Cristnogol ledled Cymru i gydweithio mor effeithiol ag y bo modd, tra’n arddel eu daliadau a chredoau penodol eu hunain. Er mwyn hyrwyddo hynny yn y maes polisi, mae Cytûn yn cynnull Grŵp Laser, sy’n dwyn ynghyd swyddogion polisi (cyflogedig neu wirfoddol) ein haelod eglwysi a mudiadau, a rhai partneriaid Cristnogol eraill megis y Gynghrair Efengylaidd yng Nghymru. Trwy gyfarfod chwe gwaith y flwyddyn (yn rhithiol ar hyn o bryd, wrth gwrs) mae’r swyddogion yn gallu briffio ei gilydd am eu gwaith, a monitro datblygiadau yn Senedd a Llywodraeth Cymru a’r hyn sy’n berthnasol i Gymru yn San Steffan. Gwelir ffrwyth llawer o’r gweithgarwch hwnnw yn y Bwletin hwn.

Ymhlith materion eraill sydd wedi derbyn sylw gan y grŵp yn ddiweddar, nad oes gofod adrodd amdanynt yn llawn yn y rhifyn hwn, mae:

  • Cynorthwyo eglwysi gyda threfnu sesiynau holi ac ateb gydag ymgeiswyr, deunydd briffio a gweithgarwch eraill gogyfer ag etholiadau Senedd Cymru a’r etholiadau ar gyfer pedwar Comisiynydd Heddlu a Throsedd Cymru ym Mai 2021. Nid yw union siâp yr etholiadau hynny, na’r gweithgarwch fydd yn bosibl ar eu cyfer, yn eglur eto oherwydd yr argyfwng Covid, ond gobeithir gallu trefnu ffyrdd i helpu aelodau eglwysig ystyried beth mae’r pleidiau yn eu cynnig, a sicrhau y clywir lleisiau Cristnogol yn y drafodaeth gyhoeddus.
  • Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig. Mae’r Bil hwn, sydd wedi pasio trwy Tŷ’r Cyffredin yn San Steffan ac a fydd cyn bod hir yn mynd i Dŷ’r Arglwyddi wedi bod yn ddadleuol iawn oherwydd ei fod yn rhoi grym i weinidogion Llywodraeth y DU dynnu’n ôl o rai agweddau ar y Cytundeb Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd. Ond mae hefyd yn cynnig newid yn sylfaenol y berthynas rhwng deddfwriaeth Senedd Cymru a’r Deyrnas Unedig ymhob maes lle y mae oblygiadau i weithredu’r farchnad rydd rhwng gwledydd Prydain – megis nid yn unig nwyddau a gwasanaethau ond hefyd yr amgylchedd, cymwysterau proffesiynol, ac yn y blaen. Ceir mwy o wybodaeth a dolenni ym Mwletin Polisi Awst/Medi. Mae Gweithgor Cymru ac Ewrop Cytûn yn gohebu â nifer o Arglwyddi sydd â chyswllt ag eglwysi Cymru ynghylch rhai o’r oblygiadau i ddatganoli i Gymru.
  • Deddfwriaeth sydd gerbron Senedd Cymru allai beryglu hawl gweinidogion a’u teuluoedd i smygu yn y tai a ddarperir iddynt ar gyfer eu gwaith (mans, ficerdy ac ati) – cawsom addewid gan y Llywodraeth y cawn fod yn rhan o lunio canllawiau fydd yn diogelu eu sefyllfa.
  • Deddfwriaeth arall sy’n cwtogi ar ryddid eglwysi i reoli’r eiddo hynny. Mae Pwyllgor y Senedd fu’n ystyried y Bil wedi argymell y dylid eithrio eglwysi sy’n darparu cartref ar gyfer gweinidog gael eu heithrio rhag y gofyn i roi chwe mis o rybudd i’r gweinidog cyn adfeddiannu’r tŷ ar ddiwedd tymor ei wasanaeth. Disgwylir ymateb y Llywodraeth yn fuan.
  • Deddfwriaeth ddrafft allai effeithio ar allu eglwysi i ddefnyddio anifeiliaid yn ystod eu haddoliad (er enghraifft, asyn ar Sul y Blodau neu wasanaeth bendithio anifeiliaid anwes). Cawsom beth sicrwydd yn ymateb y Llywodraeth i’r ymgynghoriad na fydd gweithgareddau felly yn cael eu hatal.

CYSYLLTU Â SWYDDOG POLISI CYTÛN:
Noder cyfeiriad a rhif ffôn ein swyddfa newydd

Parch./Revd Gethin Rhys – Swyddog Polisi/Policy Officer
Cytûn – Eglwysi ynghyd yng Nghymru/Churches together in Wales

Yst 3.3, Tŷ Hastings, Llys Fitzalan (gyferbyn â Tŷ Brunel), Caerdydd CF24 0BL Ffôn y swyddfa: 03300 169860  Gethin: 03300 169857

Mudol/mobile: 07889 858062 E-bost: gethin@cytun.cymru  ww.cytun.co.uk @CytunNew

Hapus i gyfathrebu yn Gymraeg ac yn Saesneg. Happy to communicate in Welsh and English

Dyddiad cyhoeddi: 6 Hydref 2020. Cyhoeddir y Bwletin nesaf 30 Tachwedd 2020.