DECHRAU DEGAWD NEWYDD A CHYFNOD NEWYDD

Gyda chanlyniad Etholiad Cyffredinol 12 Rhagfyr 2019, fe ddaeth yn amlwg y bydd y Deyrnas Unedig yn ymadael â’r Undeb Ewropeaidd yn ffurfiol ar 31 Ionawr 2020, er y bydd yna gyfnod pontio byr tan ddiwedd y flwyddyn cyn y bydd rhan fwyaf canlyniadau hynny yn cael eu gweithredu. Ledled y Deyrnas Unedig, ac yn fwy felly yng Nghymru, fe bleidleisiodd mwyafrif yr etholwyr dros bleidiau oedd yn addo cynnal refferendwm arall ar fater Ewrop, neu diddymu refferendwm 2016 yn llwyr, ond mae mwyafrif sylweddol o’r Aelodau Seneddol a etholwyd yn bleidiol i weithredu canlyniad y refferendwm.

Yn ystod wythnos lawn gyntaf 2020, fe basiodd Tŷ’r Cyffredin Fil yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb ymadael) trwy fwyafrif llethol a’i ddanfon ymlaen i Dŷ’r Arglwyddi. Er y bydd ymgais i newid y Bil mewn rhai ffyrdd yno (gan gynnwys gwelliannau a gynigir ar ran Llywodraeth Cymru), gan fod y Bil yn addewid ym maniffesto buddugol yr etholiad ni fydd yr Arglwyddi yn rhwystro’r Bil yn y pen draw. Mae Llywodraeth Cymru wedi argymell y dylai Senedd Cymru wrthod cydsynio â’r Bil, fel y mae Senedd yr Alban eisoes wedi gwneud, ond ni fydd hyn chwaith yn rhwystro’i weithredu.

Mae rhan fwyaf eglwysi Cymru a Cytûn wedi aros yn niwtral ar fater aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd, ond fe fydd gwaith Gweithgor Cymru ac Ewrop Cytûn yn parhau dros y misoedd nesaf i gadw golwg ar yr hyn sy’n digwydd ar ran ein haelodau, a pharhau i bwyso am weithredu yn y meysydd sydd o bennaf ofid i ni, gan gynnwys:

Yn Araith y Frenhines ar 19 Rhagfyr 2019, fe gyhoeddodd Llywodraeth newydd y Deyrnas Unedig raglen ddeddfwriaethol hynod uchelgeisiol, hyd yn oed o gofio bod ganddi fwyafrif sylweddol. Fe ymddengys mai rhaglen ar gyfer y Senedd ar ei hyd yn hytrach nag ar gyfer un tymor yn unig a gyhoeddwyd, ac ni wyddys eto beth fydd y blaenoriaethau – heblaw bod yna o leiaf ddwsin o ddeddfau y bydd angen eu pasio erbyn diwedd 2020 er mwyn mynd i’r afael â chanlyniadau ymadael â’r Undeb Ewropeaidd. Mae’r rhain yn cynnwys deddfau swmpus mewn meysydd datganoledig megis amaethyddiaeth, pysgodfeydd a’r amgylchedd. Nid yw’n eglur hyd yma beth fydd oblygiadau’r deddfau hyn yn San Steffan i ddeddfwriaeth Cymru, er bod Llywodraeth y DU yn dweud y bydd yn parchu trefn ddatganoledig Prydain wrth gyflawni hyn. Mae Swyddog Polisi Cytûn wedi paratoi crynodeb o’r holl ddeddfwriaeth gyda sylwadau am yr oblygiadau i Gymru, a gellir derbyn copi o hwnnw trwy gysylltu â gethin@cytun.cymru

Prosiect Cynghori Hawliau Dinasyddion yr UE yng Nghymru

Mae gwasanaeth Prosiect Hawliau Dinasyddion yr UE yn cael ei gynnig ar draws Cymru er mwyn cefnogi gwladolion yr UE, Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir ac aelodau eu teuluoedd agos (beth bynnag fo’u cenedligrwydd) i geisio statws preswylydd sefydlog a statws preswylydd cyn-sefydlog o dan y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE (EUSS) yn y DU. Mae Cyngor ar Bopeth Cymru wedi derbyn ariannu gan Lywodraeth Cymru i ddarparu dau wasanaeth fel ran o’r Prosiect:

Gwasanaethau Cynghori Cyffredinol: Darpariaeth wedi ei arwain gan gleientiaid sy’n darparu gwybodaeth, canllaw, cyngor a gwaith achos ceisiadau statws preswylydd sefydlog a statws preswylydd cyn-sefydlog (Lefel 1 OISC) syml. Awgrymir atgyfeiriadau i wasanaethau eraill, yn cynnwys cyngor ar les cymdeithasol lle y byddai cleientiaid yn buddio o gymorth pellach mewn materion cymhleth. Gallwn hefyd atgyfeirio pobl i Newfields Law sy’n rhedeg y contract ar gyfer ceisiadau mwy cymhleth ar gyngor mewnfudo ar lefel 2 a 3 OISC.

Gwasanaethau Cynghori Arbenigol: Bydd y cyngor arbenigol hwn yn cynorthwyo dinasyddion yr UE, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir i ddeall eu hawliau yn y gweithle ac yn medru herio camfanteisio, yn ogystal â gweithio gyda chyflogwyr i’w cynorthwyo i greu gweithleoedd sy’n cydymffurfio sydd o fydd i bob gweithwyr yn hytrach nag unigolion. Bydd hwn yn cynnwys gwasanaethau cyfryngu a thribiwnlys.

Bydd y gwasanaeth ar gael ar draws Cymru tan Ragfyr 2020 a bydd yn cael ei ddarparu drwy Cyngor ar Bopeth Sir y Fflint, Cyngor ar Bopeth Caerdydd a’r Fro a Chyngor ar Bopeth Casnewydd. Bydd ein gwasanaethau Cyngor ar Bopeth yn cael eu cefnogi gan weithgareddau allgymorth wedi eu darparu gan EYST (Ethnic Youth Support Team) sydd â hanes llwyddiannus o weithio ac ymwneud â grwpiau cymunedol sy’n cefnogi cymunedau o fudwyr, yn cynnwys dinasyddion yr UE. Bydd EYST yn ymgymryd â nifer o weithgareddau wedi’u dylunio i ganfod unigolion a grwpiau ac annog defnydd o’r gwasanaethau cynghori sydd ar gael ac atgyferio iddynt.

Mae mynediad i gyngor mewn perthynas â statws preswylydd sefydlog a statws preswylydd cyn-sefydlog ar gael drwy linell gymorth Cymru ar 0300 3309 059. Mae gan y wefan wybodaeth defnyddiol, yn cynnwys taflenni mewn 5 iaith Ewropeaidd, ac fe’ch anogir i rannu’r manylion gydag aelodau eglwysi a’r gymuned: https://www.citizensadvice.org.uk/wales/immigration/staying-in-the-uk-after-brexit/staying-in-the-uk-after-brexit/

CYLLIDEB CYMRU – TAMAID I AROS PRYD?

Oherwydd amseru’r Etholiad Cyffredinol, cyhoeddwyd cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2020-21 trwy ddatganiad ysgrifenedig ar Ragfyr 16, ac nis trafodwyd yn Senedd Cymru tan Ionawr 7. Nid yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn bwriadu cyhoeddi ei chyllideb hi tan Fawrth 11. Y bwriad yw (yn dilyn cyfnod craffu gan bwyllgorau Senedd Cymru) cytuno’r gyllideb derfynol ar Fawrth 3, a chynnwys unrhyw newidiadau oherwydd cyllideb y DU mewn cyllideb atodol maes o law.

Er gwaethaf yr ansicrwydd hwn, mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl y bydd ariannu o Lywodraeth y DU yn cynyddu digon iddi allu cynyddu ei gwariant ymhob maes bron – er bod beirniadu wedi bod am ostyngiad yn y gyllideb ar gyfer yr iaith Gymraeg. Gellir gweld crynodeb gweledol Gwasanaeth Ymchwil Senedd Cymru o’r gyllideb yma a dadansoddiad annibynnol Canolfan Llywodraethiant Cymru yma.

Er gwaethaf y codiadau hyn, mae yna heriau yn aros. Tra bod gwariant cyhoeddus yn y DU yn agosáu eto at yr hyn a welwyd yn 2010, mae’r boblogaeth sydd dros 65 mlwydd oed, ac felly’n fwy tebygol o fod angen gwasanaethau cyhoeddus, bellach 18.4% yn uwch nag ydoedd bryd hynny.

Yn yr un modd, mae’r gyllideb yn cynnig codiadau mewn termau real i gyllideb pob awdurdod lleol yng Nghymru am y tro cyntaf ers blynyddoedd. Gellir gweld y ffigurau llawn yma. Serch y codiadau hyn, mae gwariant llywodraeth leol yng Nghymru o hyd 13.5% yn llai mewn termau real nag yn 2010, a 16.2% yn llai o ystyried y cynnydd yn y boblogaeth yn y cyfamser. Mae’r Dreth Gyngor bellach yn cyfrannu dros 30% o incwm awdurdodau lleol Cymru.

Daw’r rhifau a ddyfynnir uchod o gyflwyniad Canolfan Llywodraethiant Cymru ar y gyllideb ar 13 Ionawr 2020.

EGLWYSI AM WELD GWEITHREDU BRYS AM YR HINSAWDD

Nid oedd amheuaeth gan y 90 o bobl fynychodd gynhadledd undydd Cytûn am newid hinsawdd yn Nhŷ’r Gymuned, Casnewydd, yn Hydref 2019 ynghylch yr argyfwng sy’n wynebu’r byd. Mae digwyddiadau oddi ar hynny yn Awstralia a mannau eraill ond wedi dwysáu’r ymdeimlad hwnnw.

Yn Nhachwedd 2020, fe gynhelir cynhadledd nesaf arweinyddion y byd am newid hinsawdd (COP26) yn Glasgow, a bydd eglwysi ac elusennau datblygu  ac amgylcheddol Cristnogol yn canolbwyntio yn ystod y flwyddyn ar bwyso ar lywodraethau’r DU a’r tu hwnt i weithredu. Mae Cytûn yn rhan o hybu Sul yr Hinsawdd, i’w gynnal yn ystod Tymor y Cread (1 Medi – 4 Hydref) 2020, a bydd mwy o fanylion ar wefan Cytûn cyn bo hir.

Yn dilyn cynhadledd COP 25 ym Madrid yn Rhagfyr 2019, fe ysgrifennodd Dr Olav Fykse Tveit, Ysgrifennydd Cyffredinol Cyngor Eglwysi’r Byd, at ei holl aelodau yn pwysleisio pwysigrwydd ymateb Cristnogol i’r argyfwng. Dyma’i lythyr, wedi’i dalfyrru ryw ychydig.

“Gwelodd Duw y cwbl a wnaeth, a roedd yn dda iawn.”—Genesis 1:31

Ysgrifennaf atoch heddiw oherwydd fy mhryder dwfn a brys am ein byd a pherygl newid hinsawdd, sy’n cau amdanom. Mae ein ffydd yn ein creawdwr, ein cariad at y cread a’n bywyd fel disgyblion yng nghwmni Iesu, oll yn cael eu dwyn i brawf gan yr argyfwng hwn.

Yn wir, mae ein dyfodol, lles ein cartref cyffredin, a hyd yn oed bodolaeth y ddynol ryw, yn y fantol. Ni all yr alwad i’n heglwysi ac i ni’n hunain fod yn fwy eglur; ac ni fu ar y byd erioed cymaint angen ein hundod, ein cydsefyll a’n dycnwch.

Beth rydym wedi’i ddysgu? Yn nhrafodaethau hinsawdd y Cenhedloedd Unedig (COP 25) ym Madrid yn ystod pythefnos cyntaf Rhagfyr, fe ddysgom i’r 200 o wledydd fethu ag ymateb yn ddigonol i argyfwng cynyddol yr hinsawdd. Siomedig oedd y canlyniadau, heb uchelgais newydd i gwrdd â graddfa’r addasu, lleddfu ac ariannu sydd eu hangen.

Rydym wedi dysgu hefyd, gan wyddonwyr a llunwyr polisi, fod y gagendor yn agor rhwng y camau a gymerwyd gan lywodraethau, ar y naill law, a’r dystiolaeth wyddonol ddiwrthdro a’r rheidrwydd moesol i weithredu, ar y llall. Mae’r raddfa gynyddol bresennol o gynhesu byd-eang yn dwyn y byd yn agosach at gyfnewid di-droi’n-ôl. Bydd yr hyn a wnawn dros y deng mlynedd nesaf i arafu cynhesu’r byd yn penderfynu dyfodol am filoedd o flynyddoedd i ddod ein hunig gartref, y cartref yr ydym oll yn ei rannu – ein oikos, y ddaear.

Ym Madrid fe fuom yn dysgu hefyd gan alwadau proffwydol ar i ni warchod y ddaear gan bobl ifainc, Pobloedd Brodorol, a dioddefwyr hinsawdd. Fe fuom yn gwrando ar leisiau cryf pobl ifainc wrth iddynt ymateb i argyfwng yr hinsawdd, yn cynnwys gweithrediadau “Gwener ar gyfer y Dyfodol”. Bu Pobl Frodorol, sydd yn rheng flaen effeithiau’r hinsawdd, yn coleddu dulliau amgen o fyw yn dyner â’r blaned, wrth iddynt godi eu lleisiau er amddiffyn y tir, y coedwigoedd a’r dyfroedd. Fe anwybyddwyd eu galwadau proffwydol. Yn hytrach, bu i lawer o arweinyddion eu pardduo, a chafodd rhai o’u harweinyddion eu dirmygu a’u sarhau yn gyhoeddus. Fe wyddom ni yn well: mae’r cread yn rhodd gan Dduw i ni ei hanwesu a’i rhannu. Mae’r byd yn atebol i bobl ifainc a phobl fregus yn y byd, ac nid yw’n foesol dderbyniol i gerdded o’r tu arall heibio.

Beth rydym i’w wneud? Mae’r amser ar gyfer trafod a dadlau am ffeithiau gwyddonol cydnabyddedig wedi hen ddarfod. Mae’r amser ar gyfer gweithredu yn dirwyn yn gyflym i ben. Fe fyddwn oll yn atebol am ein diffyg gweithredu a’n stiwardiaeth drychinebus ar y blaned annwyl ac unigryw hon. Mae argyfwng yr hinsawdd yn ganlyniad i’n pechodau ecolegol. Dyma amser metanoia i ni oll. Mae’n rhaid i ni nawr archwilio ein calonnau, ac egwyddorion mwyaf sylfaenol ein ffydd, er mwyn gweld trawsnewidiad ecolegol o’r newydd, a cheisio arweiniad dwyfol ar ein camau nesaf i adeiladu gwytnwch yn wyneb yr her digynsail dirfodol hwn.

Fel eglwysi mewn cyfeillach, gadewch i ni ddwysáu ein hymdrechion i gyfrannu’n ystyrlon yn ein cyd-destun ein hunain i atal canlyniadau mwyaf dinistriol diffyg gweithredu a gweithrediadau negyddol gan lywodraethau. Boed i ni ymuno i wynebu’r argyfwng byd-eang hwn trwy ddadlau’n groch dros atal defnyddio tanwydd ffosil a “thrawsnewid cyfiawn”.

Wrth weithredu fel eglwysi yn y maes cyhoeddus, boed i ni bwyso’n ddi-baid ar i swyddogion cyhoeddus, llywodraethau a busnesau gadw ffydd â’r bobl a’u dyfodol. Boed i ni alw ar lywodraethau’n cenhedloedd i anelu at liniaru colledion a difrod amgylcheddol, trwy ariannu’n ddigonol ac yn ychwanegol er mwyn lleihau allyriadau i gyfyngu cynhesu byd-eang i 1.5C.

Arweinyddion busnesau a llywodraethau, mae arnom angen i chi wynebu’r her o wasanaethu mewn modd atebol. Yn fwyaf arbennig mae angen i arweinyddion gwledydd cyfoethog, a fu’n gyfrifol yn hanesyddol am allyrru carbon, yn ogystal â’r allyrwyr carbon mwy newydd, baratoi i ddarparu cefnogaeth ariannol mewn cydlyniad â chymunedau bregus ledled y byd sy’n wynebu’r colledion a’r difrod sy’n ganlyniad i newid yr hinsawdd. Mae angen i wledydd sy’n cynhyrchu tanwydd ffosil ddatblygu cynlluniau ar gyfer lleihau’r rhan hon o’u heconomi ac yn fwriadol newid eu pwyslais i gynaliadwyedd byd-eang ac ynni adnewyddol, fel y mae llawer ym myd busnes eisoes yn ei wneud.

Genhedloedd ac asiantaethau rhyngwladol, mae arnom angen i chi gamu y tu hwnt i’ch arferion cyfforddus byrhoedlog, i weddnewid polisïau, derbyn cyfrifoldeb, a gweithredu yn erbyn y patrwm o orddefnydd sy’n dinistrio’n byd. Ni all ffiniau cenedlaethol atal codiadau yn lefelau’r môr, nwyon tŷ gwydr, corwyntoedd, seiclonau a sychder. Dinistrio coedwigoedd, difodi ecosystemau, a dadfeddiannu a dadleoli Pobloedd Brodorol – mae’r rhain oll yn amsugno bywyd yr un blaned fyw sydd gennym.

Yn Gristnogion unigol mewn cymunedau lleol, boed i ni weddïo dros ein byd a’n gilydd, gan gwestiynu’n feirniadol ein ffyrdd personol o fyw a’n heconomïau i weld beth sydd fwyaf ei angen ar ein teuluoedd, ein cymunedau a’n cyd-destun lleol, ac yna ymdynghedu gydag eraill i’w hwynebu.

Yn bobl o ffydd ac ewyllys da, boed i ni ymuno ar draws traddodiadau a gwahanfuriau crefyddol i feithrin a gwarchod y cread ar gyfer pob creadur byw heddiw ac am genedlaethau i ddod. Yn ymgnawdoliad Iesu, ymlawenhawn yng nghadarnhad gorchestol Duw i fywyd daearol a llewyrch dynol. Ein cyfraniadau mwyaf fel Cristnogion ac eglwysi Cristnogol i ddiogelu bywydau a dyfodol yr holl deulu dynol yw ffydd yn y Duw byw, gobaith diysgog yn addewid Duw am ddaear newydd, a chariad sy’n ein hysgogi i ymrwymiad creadigol. Boed i ni ymgyrraedd â’r her mwyaf hwn, uno i warchod y cread a chreaduriaid Duw heddiw ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Fe fydd Cymorth Cristnogol ar ganol yr ymateb i’r argyfwng hinsawdd yn ystod 2020, ac chyda’i gyd-aelodau yn Atal Anhrefn Hinsawdd Cymru a chyda’r eglwysi yn pwyso am ganlyniadau cadarnhaol o gynhadledd COP 26.

Yr ymgyrch canolog i hyn fydd galw am fargen newydd gan Lywodraeth y DU o ran cyfiawnder hinsawdd, ac yn benodol:

Bydd mwy o fanylion am yr ymgyrch hon ar gael yn fuan ar wefan Cymorth Cristnogol, ond gallwch ddechrau trwy arwyddo’r ddeiseb nawr.

MYNEGAI AMDDIFADEDD CYMRU O’R NEWYDD

Yn Nhachwedd 2019, cyhoeddwyd Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2019, sy’n diweddaru’r mynegeion a gyhoeddwyd ers 2005. Mae’r mynegai yn pwysoli llu o ystadegau ynghylch pob ardal fechan yng Nghymru (1909 ohonynt) sy’n mesur eu poblogaeth o ran incwm, cyflogaeth, iechyd, addysg, mynediad at wasanaethau, tai, diogelwch cymunedol a’r amgylchedd ffisegol. Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu offeryn rhyngweithiol sy’n caniatáu i ddefnyddwyr archwilio’r data, gan gynnwys chwilio yn ôl cod post ac yn ôl etholaethau seneddol. Defnyddir y mynegai at nifer o bwrpasau cyhoeddus gan Lywodraeth Cymru (megis lleoli gwasanaethau Dechrau’n Deg), ac fe’i defnyddir hefyd gan gyrff eraill, megis gan rai eglwysi wrth bennu cyfraniadau enwadol.

O gymryd y cyfan at ei gilydd, gwelir mai’r pump ardal fwyaf difreintiedig yw dwy ardal yng Ngorllewin y Rhyl, Stad Parc Lansbury yng Nghaerffili, ardal Penrhys yn y Rhondda, ac ardal Caerau ym Mhenybont ar Ogwr. Mae’r adroddiad canlyniadau yn cynnwys dadansoddiad o ardaloedd o amddifadedd ‘hirsefydlog’. Mae hwn yn dangos fod y pump ardal fwyaf difreintiedig yn 2019 wedi bod ymhlith y mwyaf difreintiedig ers 2005, ac eisoes bu trafod yn Senedd Cymru am sut i fynd i’r afael â phroblemau cymunedau sy’n barhaus ddifreintiedig. Mae’n sicr y bydd gan eglwysi lleol brofiad gwerthfawr i’w gyfrannu i’r drafodaeth hon.

Ceir y pump ardal leiaf ddifreintiedig yn Abertawe (Newton a Mayals), Pentre’r Eglwys ger Pontypridd, Merffordd a Hoseley yn Wrecsam a de’r Wyddgrug.

Isafbris am alcohol yng Nghymru – beth mae angen i eglwysi ei wybod?

Mae Andrew Misell, Cyfarwyddwr Cymru yr elusen Alcohol Change UK, yn ystyried beth ddylai gweinidogion, swyddogion a gwirfoddolwyr eglwysi wybod am yr isafbris newydd ar gyfer alcohol.

Ar 2 Mawrth, fe welwn ni newid mawr yn rheolau gwerthu alcohol Cymru. Mae’r isafbris am alcohol wedi cael ei ddisgrifio fel “cyfraniad pwysig at leihau’r difrod mae niwed perthynol i alcohol yn ei achosi yng Nghymru”. Ond mae llawer o bobl yn ansicr o hyd ynglŷn â beth yw’r mesur, pam mae’n digwydd, a beth fydd ei oblygiadau. Yma, byddaf i’n ceisio bwrw tipyn o oleuni ar y mater.

Mae’n eglur ers blynyddoedd mai pris alcohol yw un o’r dylanwadau pwysicaf ar faint mae pobl yn ei yfed. Mae’r rhan fwyaf o yfwyr yn sensitif i brisiau, hyd yn oed os nad ydyn nhw’n sylweddoli hynny. Mae Llywodraeth Cymru, felly, am ddefnyddio prisiau er mwyn lleihau goryfed a niwed, trwy osod isafbris, sef pris gwaelodol o 50c na ellir gwerthu un uned o alcohol o dano. Beth yw uned o alcohol? Deg mililitr neu ddwy lond llwy de o alcohol pur. Mae peint o gwrw yn cynnwys tua 2½ uned o alcohol pur. Felly, o fis Mawrth 2020 ymlaen, ni ellir ei werthu am lai na £1.25 (2½ x 50c). Tua 10 uned sydd mewn potelaid o win. Felly, ni fydd ar werth am lai na £5 (10 x 50c).

Fe welwch yn syth na fydd hyn yn effeithio dim ar brisiau’r tafarndai. Yn yr archfarchnadoedd a siopau eraill bydd y brif effaith. Mae ein hymchwil ni mewn siopau yng Nghymru yn awgrymu mai ym mhris seidr cryf a rhad bydd y cynnydd mwyaf oll – y math o seidr sydd ar werth yn aml mewn poteli plastig mawr. Bydd prisiau rhai gwinoedd cadarn a gwirodydd rhad hefyd yn codi. A bydd yn fwy anodd i’r siopau bwyd mawr barhau i gynnig rhai disgowntiau – fel 25% oddi ar bris chwe photelaid o win, neu ail slabyn o gwrw am hanner pris yr un cyntaf – gan y bydd rhai iddyn nhw sicrhau nad yw pris unrhyw eitem yn disgyn o dan 50c yr uned.

Yn ôl pob tebyg, ni fydd y sawl sy’n yfed yn gymedrol yn sylwi ar ddim gwahaniaeth, ond bydd y rhai sy’n yfed yn drwm iawn yn ei deimlo, yn sicr. Mae’n bosibl bydd hynny’n cynnwys rhai o’r yfwyr bregus sy’n defnyddio gwasanaethau eglwysi led-led Cymru, fel llochesi nos, timau dosbarthu bwyd a sesiynau cynghori. Mae’r dystiolaeth o’r Alban – lle mae ganddynt isafbris am alcohol ers blwyddyn a rhagor – yn awgrymu nad yw’n arwain at rai o’r problemau difrifol roedd rhai yn eu rhagweld, fel salwch diddyfnu (‘withdrawal’) neu bobl yn dwyn alcohol neu’n troi at gyffuriau eraill. Ond fe fydd llawer o yfwyr yn sylwi bod pris eu diod arferol wedi cynyddu neu fod y ddiod wedi diflannu o’r silffoedd. Felly, bydd yn werth i staff a gwirfoddolwyr gwasanaethau ddeall rhywfaint am yr isafbris a bod yn barod i’r mater godi wrth sgwrsio ag yfwyr. Bydd yn werth hefyd sicrhau fod staff a gwirfoddolwyr yn gwybod at ba wasanaethau lleol mae pobl yn gallu troi am gymorth ynglŷn â phroblemau alcohol, ac mae rhestr gynhwysfawr o’r rheini ar wefan DAN 24/7.  

Os oes gennych gwestiynau neu angen mwy o wybodaeth am yr isafbris, cysylltwch ag Andrew Misell trwy andrew.misell@alcoholchange.org.uk, 029 20226746 neu 0755 2474446. Bydd gwybodaeth hefyd ar wefannau Llywodraeth Cymru ac Alcohol Change UK.

Gwasanaeth bwyd £5 yr wythnos yn herio tlodi yng Nghaerdydd

Mae traean o boblogaeth Caerdydd yn byw mewn tlodi. Mae bron hanner y rheiny yn Nhrelai. Gyda mwy na 3,000 o gartrefi lle mae’r incwm dan 60% o’r incwm cyfartalog, Trelai yw maesdref fwyaf difreintiedig y brifddinas. Ond ers yr haf diwethaf mae Church Action on Poverty (sy’n Aelod o chwaer rwydwaith Cytûn, Eglwysi ynghyd ym Mhrydain ac Iwerddon), mewn partneriaeth ag ACE (Action in Caerau & Ely) yn ceisio newid hynny drwy wasanaeth tanysgrifio arloesol sy’n arbed arian i deuluoedd ac yn lleihau gwastraff bwyd. Lleolir Your Local Pantry yn y Dusty Forge ar ran orllewinol Heol y Bontfaen.

Sefydlwyd y ganolfan i gynnig rhywbeth gwahanol i fanciau bwyd. Am ddim ond £5 yr wythnos gall aelodau ddewis 10 eitem o fwyd, yn cynnwys llysiau a ffrwythau ffres. Bydd cynnwys y fasged werth ryw £20. Fe ddaw’r bwyd o’r hyn sydd dros ben gan archfarchnadoedd.

OSGOI TRASIEDI HUNANLADDIAD GAN BOBL IFAINC

Mae’r elusen PAPYRUS Atal Hunanladdiad Ifanc yn dweud fod canfyddiadau adroddiad hir-ddisgwyliedig gan yr Athro John, Prifysgol Abertawe, yn cynnig cyfleoedd amlwg i gyflwyno ymyriadau allai helpu achub bywydau ifainc. Mae’r adolygiad, sy’n rhan o Raglen Adolygu Marwolaethau Plant Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn archwilio marwolaethau 33 o blant a phobl ifainc rhwng 10 ac 17 mlwydd oed fu farw yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf, mwy na thebyg oherwydd hunan laddiad.

Meddai Kate Heneghan, Pennaeth PAPYRUS yng Nghymru: “Yr her nawr yw i ni sydd mewn sefyllfa i ddylanwadu ar a newid polisi yng Nghymru wthio o ddifri i’r cyfleoedd hyn gael eu cymryd yn egnïol, yn benderfynol ac ar frys.”

“Fe fuom yn ymwybodol ers rhai blynyddoedd am gynnydd yn nifer y marwolaethau trwy hunanladdiad ymysg y garfan 15-19 mlwydd oed. Mae’r adolygiad hwn yn ein helpu i ddeall yn well pa ffactorau allai gyfrannu at hyn a beth allai helpu atal yr hunanladdiadau hyn.

“Mae llawer o’r materion y mae’r adroddiad y neu crybwyll fel ffactorau allai gyfrannu at hyn, megis camdrin rhywiol, profedigaeth, trais ddomestig, problemau addysgol, hunan-niweidio, camddefnydd sylweddau, bwlio a’r cyfryngau cymdeithasol yn gyson â beth rydym yn ei glywed gan bobl ifainc ar ein llinell gymorth HOPELINEUK bob dydd o’r wythnos.”

Mae’r adolygiad yn cyfeirio at stigma fel her fawr wrth geisio atal hunan-laddiad. Mae PAPYRUS yn credu mai siarad am hunanladdiad yw’r unig ffordd i herio’r stigma ac fe wyddom fod siarad yn agored yn annog pobl ifainc sy’n ymgodymu â meddyliau am hunanladdiad i geisio cymorth. Trwy ofyn ‘Ydych chi’n meddwl am hunanladdiad?’ rydych yn cyfleu eich bod yn rhywun diogel i siarad â nhw ac y byddwch yn eu helpu nhw i gael help. Mater o eiliadau yw hi. Ddylech chi fyth petruso: gallech chi achub bywyd. “Dyna pam yr ydym yn credu fod hyfforddiant atal hunanladdiad yn rheidrwydd ar gyfer pobl broffesiynol sy’n gweithio gyda phobl ifainc,” medd Kate Heneghan.

“Beth wnaeth taro tant oedd darllen am y nifer o bobl ifainc a gynhwysir yn yr adroddiad oedd wedi hunan-niweidio a roedd eu rhieni yn ansicr sut i ymateb. Yn rhy aml yn PAPYRUS rydym yn clywed gan rieni mewn profedigaeth sy’n dweud iddynt deimlo ar goll, heb wybod at bwy na ble i droi, ac yn difaru nad oeddent yn gwybod am ein llinell gymorth pan oedden nhw’n ceisio diogelu eu plentyn.”

Mae PAPYRUS Atal Hunanladdiad Ifanc yn elusen a sefydlwyd ym 1997 gan griw o rieni oedd wedi colli eu plant oherwydd hunan-laddiad. Ei chenhadaeth yw atal pobl ifainc (dan 35 mlwydd oed) rhag diweddu eu bywydau eu hunain. Mae PAPYRUS yn credu bod modd atal llawer o hunanladdiadau ifainc ac yn ceisio cefnogi pobl ifainc sy’n profi argyfwng trwy llinell gymorth genedlaethol HOPELINE UK (0800 068 41 41) sydd ar gael i bobl ifainc a phobl broffesiynol a rhieni sy’n gweithio gyda nhw. Mae hefyd yn hyfforddi pobl broffesiynol ac eraill sy’n dod i gyswllt â phobl ifainc ac yn ceisio dylanwadu ar bolisïau’r llywodraeth ar atal hunanladdiad.

Er i HOPELINE UK fod ar gael o’r cychwyn i bobl o Gymru ei galw, ers Ionawr 2019 fe fu yna ganolfan ddynodedig i Gymru yng Nghaerdydd ac oddi yno y cynhelir cyrsiau ar gyfer mudiadau yng Nghymru sydd am greu cymunedau mwy diogel o ran hunanladdiad. Mae staff PAPYRUS hefyd yn teithio ledled Cymru yn codi ymwybyddiaeth o agweddau ar hunanladdiad ifanc ac yn cyflwyno hyfforddiant o ran atal hunanladdiad.

Mae PAPYRUS wedi gweithio gyda nifer o eglwysi i hybu gwybodaeth am atal hunanladdiad a helpu herio’r stigma o amgylch siarad am y peth. Os hoffech ddarganfod mwy neu am gyrchu deunydd neu hyfforddiant PAPYRUS, cysyllter â David Heald, Rheolwr Rhanbarthol PAPYRUS drwy david.heald@papyrus-uk.org neu 029 20789755.

CARTREFI FFORDDIADWY NEWYDD AR DIR CAPEL YNG NGHAERDYDD

Bydd chwe chartref fforddiadwy newydd ar gael yng Nghaerdydd yn dilyn partneriaeth rhwng capel a chymdeithas tai lleol a hyrwyddwyd gan Housing Justice Cymru, sy’n aelod o Cytûn.

Roedd gan Eglwys Bedyddwyr Stryd Pentyrch, Caerdydd dir dros ben ar bwys y capel ac fe hyrwyddodd gynllun Faith in Affordable Housing (FiAH) bartneriaeth gyda Chymdeithas Tai Cadwyn i adeiladu chwe chartref fforddiadwy newydd ar y tir.

Mae Faith in Affordable Housing yn gynllun arloesol gan Housing Justice sy’n cynorthwyo eglwysi o bob enwad i ryddhau tir ac adeiladau sydd dros ben ar gyfer cartrefi fforddiadwy, gan alluogi’r eglwys i wneud rhywbeth o fudd uniongyrchol i’r gymdogaeth yn hytrach na gwerthu ar y farchnad agored.

Mae’r fflatiau un llofft hunangynhwysol newydd wedi eu cynllunio i weddu â’r ardal breswyl a’r capel gerllaw. Maent wedi eu cynllunio’n effeithlon er mwyn lleihau costau ynni a bydd llecynnau ar y cyd y tu fewn a’r tu allan i’r adeilad i’r preswylwyr eu mwynhau.

Meddai Cyfarwyddydd Housing Justice Cymru, Sharon Lee: “Bydd y datblygiad hwn yng nghanol Caerdydd yn darparu cartrefi sydd mawr eu hangen i’w gosod, ac mae wedi helpu cefnogi’r gwaith ardderchog mae’r eglwys yn ei wneud yn y gymdogaeth. Mae’n dangos sut all cydweithio wneud lles.”

Meddai Prif Weithredydd Cymdeithas Tai Cadwyn, Kath Palmer: “Mae tir ar gyfer cartrefi yn brin o fewn y ddinas, ond gyda rhyw 8,000 o bobl ar y rhestr aros cyffredin yng Nghaerdydd, mae’n hanfodol ein bod yn parhau i adeiladu cartrefi newydd i gwrdd â’r angen. Trwy gyd-weithio â’r eglwys yn y ffordd hon fe allwn wneud gwahaniaeth.”  

Meddai Bugail Eglwys Bedyddwyr Stryd Pentyrch, Rob Morse: “Mae Crist yn annog ei ddisgyblion i fod yn radical o ran meddwl a gweithred. Dim ond cariad gweithredol wedi’i anwesu gan ffydd all ddod â gwir obaith. Rydym ni’n ddiolchgar am y bartneriaeth hon am helpu creu gofod lle fod gan bawb rywun.”

Mae’r cartrefi newydd yng Nghaerdydd yn dilyn cynlluniau llwyddiannus eraill a hyrwyddwyd gan FiAH yn y blynyddoedd diwethaf ym Merthyr Tudful, Casnewydd, Penybont-ar-Ogwr ac Abertawe, gyda nifer o gynlluniau eraill ar y gweill ledled de a gogledd Cymru.

CYSYLLTU Â SWYDDOG POLISI CYTÛN:
Noder cyfeiriad a rhif ffôn ein swyddfa newydd

Parch./Revd Gethin Rhys – Swyddog Polisi/Policy Officer
Cytûn – Eglwysi ynghyd yng Nghymru/Churches together in Wales

Yst 3.3, Tŷ Hastings, Llys Fitzalan (gyferbyn â Tŷ Brunel), Caerdydd CF24 0BL Ffôn y swyddfa: 03300 169860  Gethin: 03300 169857

Mudol/mobile: 07889 858062 E-bost: gethin@cytun.cymru  ww.cytun.co.uk @CytunNew

Hapus i gyfathrebu yn Gymraeg ac yn Saesneg. Happy to communicate in Welsh and English

Dyddiad cyhoeddi: 14 Ionawr 2020. Cyhoeddir y Bwletin nesaf ar 13 Mawrth 2020.