ALL CYMRU FOD YN WLAD WRTH-HILIOL?

Ar Fehefin 7, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol. Gan ddefnyddio profiadau cymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol o hiliaeth ac anghydraddoldeb hil, mae’r Cynllun yn nodi cyfres o gamau gweithredu ar draws y Llywodraeth i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl. Mae’r camau gweithredu’n canolbwyntio ar y ddwy flynedd nesaf, ac wedi’u gosod yn erbyn y weledigaeth o Gymru wrth-hiliol erbyn 2030.

Mae’r Cynllun yn mabwysiadu dull gweithredu gwrth-hiliol, sy’n golygu ystyried sut mae hiliaeth yn rhan o’n polisïau, ein rheolau a’n rheoliadau ffurfiol ac anffurfiol, a’r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio. Mae’n canolbwyntio ar y ffyrdd y mae hiliaeth yn effeithio ar fywydau pobl ethnig leiafrifol, megis eu profiad o hiliaeth mewn bywyd bob dydd, wrth ddefnyddio gwasanaethau ac fel rhan o’r gweithlu, ynghyd â phrinder modelau rôl gweladwy mewn swyddi grymus.

Mae’r Nodau a’r Camau Gweithredu yn y Cynllun yn cwmpasu meysydd polisi ar draws y llywodraeth, gan gynnwys iechyd, diwylliant, cartrefi a lleoedd, cyflogadwyedd a sgiliau ac addysg, yn ogystal â chanolbwyntio ar arweinyddiaeth a chynrychiolaeth o fewn Llywodraeth Cymru ac ar draws gwasanaethau cyhoeddus.

Bydd Cytûn yn astudio’r ddogfen yn ofalus. Rydym yn falch i weld cynnwys – ar ein cais ni ac eraill – cyfeiriadau at ragfarn wrth-grefyddol ac ar sail crefydd. Mae hyn yn benodol yng nghyd-destun gwrth-Semitiaeth ac Islamoffobia, ond mae’n cynnwys ymrwymiad mwy cyffredinol i ehangu’r rhaglen Mae Casineb yn Brifo Cymru “yn tynnu sylw at y niwed a achosir gan gasineb a chulni crefyddol” (t. 128).

CYMHLETHDOD DEDDFU YNG NGHYMRU AC YN SAN STEFFAN

Roedd Araith y Frenhines ar 10 Mai 2022 yn dilyn y cynsail diweddar drwy gynnwys nifer o ddarnau o ddeddfwriaeth i’w cyflwyno yn San Steffan sydd yn ymdrin â materion sydd fel arfer wedi’u datganoli i’r Senedd yng Nghymru. Cynigir deddfwriaeth hefyd mewn meysydd a fu’n ddadleuol yn sesiwn flaenorol San Steffan.

Er enghraifft, bydd y Bil Caffael yn San Steffan yn deddfu i gysoni rheolau caffael ledled Cymru a Lloegr, gan gynnwys caffael gan Lywodraeth Cymru a chyrff datganoledig, â pholisi caffael Llywodraeth y DU. Mae hyn yn debygol o lesteirio Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) Llywodraeth Cymru a gyflwynwyd i Senedd Cymru ar Fehefin 7. Bwriad y Bil hwnnw yw cyflwyno elfen foesegol i gaffael cyhoeddus yng Nghymru, a sicrhau bod egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn cael eu gweithredu wrth wario arian cyhoeddus. Bydd caffael yn y sector cyhoeddus hefyd yn cael ei effeithio yn San Steffan gan y Bil Masnach (Awstralia a Seland Newydd) sy’n gweithredu cytundebau masnach a negodwyd gan Lywodraeth y DU, a’r Bil Boicotio, Dadfuddsoddi a Sancsiynau a fydd yn atal awdurdodau cyhoeddus, gan gynnwys rhai wedi’u datganoli i Gymru, rhag cyfyngu ar gaffael gan rai gwledydd ar sail foesegol.

Mae Cytûn wedi cynhyrchu briff llawn ar Araith y Frenhines sydd ar gael o gethin@cytun.cymru.  Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei rhaglen ddeddfwriaethol ar gyfer 2022-23 ym mis Gorffennaf a bydd hon yn cael sylw yn rhifyn nesaf y Bwletin Polisi.

CYFANSODDIAD CYMRU YN ÔL AR YR AGENDA

Nid oes ymadrodd llai addas yng ngeiriadur gwleidyddol Cymru na “setliad datganoli”. Rywfodd ni fu’r un o’r ymgeisiadau i ddiwygio Deddf Llywodraeth Cymru 1998 (yn 2006, 2014 a 2017), na’r newidiadau a wnaed gan ddeddfau megis Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020, yn fodd i “setlo”’r mater am fwy na blwyddyn neu ddwy. Mae llu o ddeddfau San Steffan yn gorfod newid y setliad datganoli er mwyn iddynt weithio ar draws Gymru a Lloegr, a mae Senedd Cymru wedi gorfod ystyried a ddylai gydsynio neu beidio i ran neu’r cyfan o ddim llai nag ugain o filiau San Steffan ers dechrau 2021 – gyda mwy i ddod yn dilyn Araith y Frenhines 2022 (gweler tud. 1)

Dyma ni yn 2022, felly, yn trafod y cyfansoddiad drachefn! Fe wnaeth Deddf Cymru 2017 ddatganoli i Senedd Cymru yr hawl i ddeddfu ar rai materion mewnol – megis nifer yr aelodau a’r drefn bleidleisio. Mae Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau i ddiwygio’r ddeubeth erbyn etholiad nesaf Senedd Cymru yn 2026 trwy gynyddu nifer yr aelodau i 96 a newid y drefn bleidleisio i drefn rhestr – lle bo etholwyr yn cael pleidleisio dros blaid yn unig, ac nid dros unigolion, a’r seddau yn cael eu dosbarthu yn gyfrannol o fewn pob etholaeth. Dyma yn fras y drefn yr arferid ei defnyddio i ethol Aelodau Senedd Ewrop o Gymru tan yr etholiad olaf ym Mai 2019, cyn i’r Deyrnas Unedig ymadael â’r Undeb Ewropeaidd yn 2020.

Y prif ddadleuon o blaid y newidiadau hyn yw bod angen mwy o aelodau yn Senedd Cymru i sicrhau craffu digonol ar waith Llywodraeth Cymru ac ar ddeddfwriaeth arfaethedig heb orlwytho aelodau meinciau cefn â gwaith pwyllgor. Mae’r drefn bleidleisio trwy restri yn unig hefyd yn caniatáu gosod cwotâu yn eu lle i sicrhau cydbwysedd rhwng dynion a merched yn y Senedd – canlyniad na ellid byth ei sicrhau os caniateir i etholwyr ddewis rhwng ymgeisyddion unigol.

Nid yw’r argymhellion wrth fodd y Blaid Geidwadol Gymreig na Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, ond fe’u cymeradwywyd trwy fwyafrif gan aelodau Llafur a Phlaid Cymru ar bwyllgor diben arbennig Senedd Cymru. Gellir gweld crynodeb defnyddiol o argymhellion y pwyllgor hwnnw ar wefan Senedd Cymru. Byddai Cytûn yn croesawu clywed gan ein haelod eglwysi am eu hymateb nhw i’r argymhellion hyn – cysyllter â gethin@cytun.cymru

Y bwriad yw deddfu i “setlo”’r mater hwn mewn da bryd erbyn 2026. Ond mae yna gwestiynau eraill na ellir eu datrys mor gyflym, ac fe sefydlwyd Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru i fynd i’r afael â’r dyfodol hir-dymor o ran y cyfansoddiad. Cyd-gadeiryddion y Comisiwn yw’r Esgob Rowan Williams (cyn Archesgob Cymru yr Eglwys yng Nghymru ac Archesgob Caergaint) a’r Athro Laura McAllister. Hyd at ddiwedd Gorffennaf, bydd y Comisiwn yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus Dweud eich dweud, sy’n annog unigolion a sefydliadau i ddanfon eu syniadau am y dyfodol atynt. Er nad oes ffurf ymateb gosod, mae’r Comisiwn wedi awgrymu cyfres o gwestiynau i’w hystyried:

1. Beth sy’n bwysig i chi o ran sut y caiff Cymru ei rhedeg?

2. Yn eich barn chi, beth ddylai blaenoriaethau y Comisiwn fod?

3. Wrth ystyried sut y caiff Cymru ei llywodraethu, gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, beth yw cryfderau’r drefn bresennol, pa agweddau sy’n fwyaf gwerthfawr i chi ac yr hoffech eu hamddiffyn? A allwch roi enghreifftiau?

4. A oes unrhyw broblemau gyda’r drefn bresennol? Os oes, sut y gellid mynd i’r afael â nhw? Rhowch enghreifftiau os gwelwch yn dda.

5. Wrth ystyried Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol yng Nghymru (eich cyngor lleol), beth yw eich barn ynglŷn â’r cydbwysedd pŵer a chyfrifoldeb rhwng y tri math o lywodraeth – a yw’n iawn ar y cyfan, neu a ddylai newid, ac os felly, sut? Er enghraifft, pwy ddylai gael mwy o bŵer, neu lai?

6. Fel gwlad ac uned wleidyddol benodol, sut ddylai Cymru gael ei llywodraethu yn y dyfodol? A ddylem:

  • cadw’r trefniadau presennol yn fras, lle caiff Cymru ei llywodraethu fel rhan o’r DU, â Senedd San Steffan yn dirprwyo rhai cyfrifoldebau i’r Senedd a Llywodraeth Cymru, … NEU
  • symud tuag at fwy o ymreolaeth i Gymru benderfynu drosti hi ei hun o fewn Deyrnas Unedig mwy ffederal, gyda’r mwyafrif o faterion i’w penderfynu gan Senedd Cymru a Llywodraeth Cymru, a Senedd San Steffan yn gwneud penderfyniadau ar faterion ledled y DU ar ran Cymru (a gweddill y DU)? NEU
  • symud tuag at ymreolaeth lawn i Gymru lywodraethu ei hun yn annibynnol o’r DU? NEU
  • mynd ar drywydd unrhyw fodel llywodraethu arall yr hoffech ei gynnig?
  • ochr yn ochr ag unrhyw un o’r opsiynau hyn, a ddylai cynghorau lleol gael mwy o bwerau a thrwy hynny ddod â’r broses o wneud penderfyniadau yn nes at bobl Cymru – os felly rhowch enghreifftiau os gwelwch yn dda.

7. Drwyddi draw, beth sy’n fwyaf pwysig i chi am sut y dylid llywodraethu Cymru yn y dyfodol?

Fe hoffai Cytûn wybod a yw ein haelodau am i ni lunio ymateb, ac os felly beth ddylem ei ddweud. Gellir cysylltu â gethin@cytun.cymru i gynnig sylwadau – ac yn y cyfamser gallwch ddanfon eich ymateb eich hun trwy wefan Dweud eich dweud.

BYW GYDA COVID AC YMCHWILIO I’R HANES

Daeth y rheoliadau iechyd cyhoeddus olaf ynghylch Covid yng Nghymru i ben ar Fai 30. O ganlyniad, mae’r sefyllfa gyfreithiol ar gyfer addoldai a digwyddiadau a drefnir gan eglwysi wedi dychwelyd i’r hyn a oedd yn bodoli cyn Mawrth 2020. Mae hyn yn golygu bod cyfrifoldebau ymddiriedolwyr neu reolwyr mannau addoli a chanolfannau cymunedol, a’r sawl sy’n trefnu digwyddiadau cyhoeddus gan gynnwys addoli, yn dychwelyd i ofynion blaenorol Iechyd a Diogelwch, Diogelu ac ati. Fodd bynnag, bydd angen i asesiadau risg a wneir o dan y ddeddfwriaeth hon bellach gynnwys asesiad o’r risgiau sy’n gysylltiedig â Covid ynghyd â risgiau sy’n gysylltiedig â throsglwyddo clefydau heintus eraill.

Mae Cytûn yn parhau i gyhoeddi papur briffio ar ein gwefan, wedi’i ddiweddaru yn ôl yr angen. Mae’r dudalen bellach yn ymwneud yn bennaf â goblygiadau cyfreithiol a moesol ‘byw gyda Covid’ yn y dyfodol. Tra bod y sefyllfa gyfreithiol yn un y dylai eglwysi fod yn gyfarwydd â hi, gwyddom fod agweddau at risg wedi newid ymhlith aelodau’r eglwys a’r gymdeithas yn gyffredinol, a byddwn yn parhau i gynnig gwybodaeth gyffredinol ar ein gwefan am y dyfodol rhagweladwy. Yn anffodus, nid yw Cytûn yn cael ei ariannu i lefel ddigonol i’n galluogi i geisio cyngor arbenigol ar Iechyd a Diogelwch, Diogelu, ac yn y blaen, a chan nad yw Cytûn ei hun yn berchen ar neu’n rheoli mannau addoli nid oes gennym unrhyw sail i geisio cyngor cyfreithiol pwrpasol – a fydd, beth bynnag, yn amrywio o enwad i enwad yn dibynnu ar eu gwahanol strwythurau cyfreithiol a threfn eglwysig.

Cyfrannodd Cytûn, Eglwysi ynghyd ym Mhrydain ac Iwerddon ac ychydig o enwadau unigol at ymgynghoriad ar gylch gorchwyl Ymchwiliad Covid-19 y DU. Mae ein mewnbwn wedi dwyn ffrwyth, ac mae cyfeiriadau penodol at gau ac ailagor mannau addoli, rôl y sector gwirfoddol, a’r ymgysylltu rhwng y llywodraethau datganoledig a Llywodraeth y DU bellach wedi’u cynnwys yn y cylch gorchwyl a argymhellwyd gan y Farwnes Hallett i’r Prif Weinidog. Mae Llywodraeth Cymru yn dal yn bendant na fyddant yn sefydlu ymchwiliad penodol i Gymru, felly bydd cymryd rhan yn ymchwiliad y DU yn hanfodol i eglwysi a phobl Cymru. Byddwn yn parhau i gysylltu â’r tîm ymchwilio a Covid-19 Bereaved Families for Justice Cymru ynghylch sicrhau bod ein cyfraniad yn derbyn ystyriaeth briodol.

GALW AR WASANAETHAU GWAITH IEUENCTID EGLWYSIG YNG NGHYMRU!

Mae prosiect newydd a chyffrous i fapio a gwerthuso’r Sector Gwaith Ieuenctid Gwirfoddol yng Nghymru wedi’i lansio. Mae Prosiect KESS – Mapio a Gwerthuso Sector Gwaith Ieuenctid Gwirfoddol Cymru yn brosiect Meistr yn ôl Ymchwil a gynhelir gan Brifysgol De Cymru ac a ariannir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop mewn partneriaeth â CWVYS (Cyngor Cymreig Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol). Nod yr ymchwil yw gwneud y sector gwaith ieuenctid gwirfoddol yn fwy gweladwy a sicrhau bod pob budd-ddeiliad yn gwerthfawrogi eu cyfraniadau.

Efallai eich bod yn ymwybodol nad oes digon o ymchwil a gwerth i’r sector gwirfoddol o’i gymharu â gwasanaethau statudol, sy’n cynnal archwiliad bob blwyddyn. Gobeithir y gall yr ymchwil hwn newid hyn. Fe fu Cytûn ynglŷn â chamau cyntaf llunio’r prosiect, a rydym yn argymell y dylai gwasanaethau ieuenctid ein heglwysi gymryd rhan.

I wneud hynny, gofynnir i chi ymateb i arolwg byr ar-lein. Os ydych yn fudiad sy’n darparu gwasanaethau gwaith ieuenctid gwirfoddol i bobl ifanc yng Nghymru, dilynwch y ddolen isod i’r arolwg sy’n syml yn nodi natur eich mudiad a’r gefnogaeth a ddarperir i bobl ifanc. Ni ddylai cwblhau’r arolwg gymryd mwy na 15 munud. Gwerthfawrogir eich amser a’ch sylwadau yn fawr.

I gychwyn yr arolwg, dilynwch y dolenni isod:

Arolwg yn Saesneg: https://southwales.onlinesurveys.ac.uk/mapping-and-evaluating-the-voluntary-youth-work-sector-for-7

Arolwg yn Gymraeg: https://southwales.onlinesurveys.ac.uk/mapio-a-gwerthuso-sector-gwaith-ieuenctid-gwirfoddol-cymru

Gofynnir ichi hefyd rannu dolen a gwybodaeth yr arolwg ymhlith eich rhwydweithiau (e.e. drwy e-bost at weithwyr ieuenctid eglwysig rhanbarthol neu bartneriaid, neu trwy’r cyfryngau cymdeithasol) – po fwyaf o ymatebion a geir, y gorau y cynrychiolir profiadau’r sector cyfan a’r bobl ifanc y maent yn eu cefnogi.

Fe gewch ragor o wybodaeth am y prosiect ar ddechrau’r arolwg. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu adborth ar yr ymchwil, mae croeso i chi gysylltu â’r ymchwilydd drwy e-bost: Elizabeth.bacon@southwales.ac.uk

CARTREFI I WCRAIN … A PHOBL O WLEDYDD ERAILL

Mae Cymru, ar anogaeth yr eglwysi a mudiadau eraill, yn amcanu i fod yn Genedl Noddfa. Nid yw’n syndod, felly, fod nifer dda o eglwysi lleol ac aelodau unigol wedi cynnig cartrefi i ffoaduriaid o Wcrain trwy gynllun Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu fel ‘uwch-noddwr’ ar gyfer ffoaduriaid sydd yn dod i Gymru, a mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi gwybodaeth fanwl am sut y mae cynlluniau’r ddwy lywodraeth yn cyd-weithio. Argymhellir i’r sawl sydd am ddeall mwy am y cynlluniau hyn droi at y dudalen honno yn y lle cyntaf.

Mae cynllun lletya Housing Justice Cymru (sy’n aelod o Cytûn) ar gyfer ffoaduriaid o wledydd heblaw Wcrain nad ydynt yn gallu cyrchu cefnogaeth gyhoeddus hefyd yn cynnig cyfle i helpu. Gellir gweld manylion pellach a chofrestru trwy https://housingjustice.org.uk/cymru/hosting

Mae gwefan Noddfa Llywodraeth Cymru yn cynnig arweiniad i ffoaduriaid eu hunain ynghylch sicrhau eu hawliau yng Nghymru.

EIDDO EGLWYSIG – CAPELI, EGLWYSI A THAI

Lluniau: Bethabara, Crughywel (top) a Bethel, Aberystwyth. © Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru   https://addoldaicymru.cymru/gallery/ Atgynhyrchwyd gyda chaniatâd.

Mae’n gyfnod prysur i’r sawl sy’n gyfrifol am eiddo eglwysig yng Nghymru. Crynhoir y materion cyfredol yma. Darperir wybodaeth fwy manwl i swyddogion eiddo enwadol yn ôl yr angen. Dylai unrhyw un nad yw’n derbyn y wybodaeth hon ac sy’n dymuno gwneud hynny gysylltu â Gethin Rhys ar gethin@cytun.cymru

• Wrth ymateb i ddadl awr o hyd yn y Senedd ar 23 Mawrth 2022 am ddyfodol adeiladau crefyddol yng Nghymru, cyhoeddodd Dawn Bowden AS, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon yn Llywodraeth Cymru, ei bwriad i adolygu’r Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Addoldai Hanesyddol yng Nghymru. Arweinir yr adolygiad hwn gan CADW a Fforwm Addoldai Hanesyddol Cymru. Cynrychiolir Cytûn a llawer o aelod enwadau ar y Fforwm, ynghyd ag Addoldai Cymru, Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Eglwysi, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru a mudiadau eraill priodol. Mae union ffurf yr adolygiad yn cael ei drafod ar hyn o bryd, a bydd Cytûn yn rhoi cyhoeddusrwydd i bob cyfle i gymryd rhan yn y drafodaeth gyhoeddus bwysig hon.

• Yn Araith y Frenhines ym mis Mai 2022 (gweler hefyd tud. 1), cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei bwriad i gyflwyno ac ymgynghori ar fil drafft i greu Dyletswydd Diogelu, er gosod dyletswyddau ar berchnogion adeiladau sydd ar agor i’r cyhoedd i gymryd camau i gadw defnyddwyr yr adeilad yn ddiogel rhag ymosodiadau terfysgol. Ymatebodd Cytûn, Gwasanaeth Cynghori ar Ddeddfwriaeth yr Eglwysi (CLAS) a nifer o enwadau i ymchwiliad, pob un yn mynegi pryder ynghylch y beichiau cyfreithiol posibl y gellid eu gosod yn enwedig y sawl sy’n rheoli adeiladau sydd yn nwylo cynulleidfaoedd bychain sy’n annhebygol o fod yn dargedau terfysgol. Mae Cytûn yn gweithio gyda’r Swyddfa Gartref, ei Grŵp Hyfforddiant Diogelwch Ffydd, i godi llais eglwysi Cymru.

• Agorodd rownd diweddaraf Cynllun Ariannu Diogelwch Gwarchodol Addoldai ar gyfer Cymru a Lloegr ar 19 Mai ac yn cau ar 14 Gorffennaf. Mae’n cynorthwyo gyda chostau offer a gosod mesurau diogelwch, a chostau cynnal a chadw am flwyddyn o’r dyddiad gosod.

• Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn oedi gweithredu Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 tan Ragfyr 1 eleni. Mae’r papur briffio ar ein gwefan wedi’i ddiweddaru yn unol â hynny, ac i nodi bod testun Saesneg (ond nid testun Cymraeg) y Ddeddf ar legislation.gov.uk bellach wedi’i ddiweddaru. Mae’r ddeddfwriaeth hon yn berthnasol i bron bob eiddo preswyl yng Nghymru a feddiannir gan rywun heblaw’r perchennog – nid yn unig tenantiaid sy’n talu, ond hefyd y rhai sy’n byw mewn cartref sy’n gysylltiedig â’u gwaith. Mae nifer o’n haelod enwadau wedi derbyn cyngor cyfreithiol am oblygiadau’r Ddeddf ar gyfer tai i glerigwyr mewn eiddo eglwysig; mae’r cyngor hwnnw wedi amrywio o enwad i enwad. Mater i bob enwad neu gorff ymddiriedolwyr priodol yw ceisio a gweithredu cyngor cyfreithiol sy’n berthnasol i’w sefyllfa.

• Mae Cytûn wedi derbyn gohebiaeth gan Lywodraeth Cymru yn cadarnhau nad yw clerigion a gweithwyr eglwysig sy’n byw mewn eiddo eglwysig, gyda’r eglwys (yn hytrach na’r gweinidog) yn gyfrifol am dalu Treth y Cyngor, yn gymwys ar gyfer Cynllun Cymorth Costau Byw Llywodraeth Cymru, hyd yn oed os ydynt yn gyfrifol am dalu biliau ynni’r eiddo. Mae’r Llywodraeth yn awgrymu y dylai clerigion yn y sefyllfa honno wneud cais i’r Cynllun Cymorth Disgresiynol ar gyfer Costau Byw a weinyddir gan eu hawdurdod lleol.

AIL-GYDIO YNG NGWEITHGARWCH CYTÛN

Gyda chyfarfod wyneb yn wyneb yn ogystal ag arlein bellach yn bosibl, mae Cytûn wedi ail-gychwyn ein rhaglen ddigwyddiadau. Mae croeso i holl ddarllenwyr y Bwletin ymuno â ni.

Fe drefnwyd ymweliad â Senedd Cymru ar brynhawn Llun Mehefin 27 am 1.45 erbyn 2yp. Prif fwriad yr ymweliad hwn yw cyflawni ein haddewid i gyfranogwyr cwrs Croeso i Gymru yn 2020 a 2021 (a gynhaliwyd arlein) i ymweld â’r Senedd, ond mae yna ambell le ar gael o hyd. Arweinir taith o gwmpas yr adeilad gan un o dywysyddion y Senedd a Gethin Rhys, a bydd yn cymryd rhyw 45 munud. Bydd cyfle wedyn i’r sawl sy’n dymuno ddod i’r caffi, prynu lluniaeth a pharhau â’r sgwrs yno. Mae’r daith yn rhad ac am ddim, ond gofynnir i chi gofrestru erbyn Mehefin 20 fan bellaf trwy gysylltu â gethin@cytun.cymru

Ar fore Iau Mehefin 30 am 10 cynhelir cyfarfod ar lein ar gyfer swyddogion cenedlaethol a rhanbarthol sydd am drafod materion amgylcheddol a’u heglwysi. Bydd Delyth Higgins, swyddog newydd Cymru ar gyfer y cynllun EcoChurch, a Julia Edwards, Hyrwyddwr Newid Hinsawdd yr Eglwys yng Nghymru, yn sôn am eu gwaith, a bydd cyfle i rannu profiadau ar draws enwadau Cymru a gwneud cysylltiadau i’r dyfodol. Gallwch gael y ddolen ar gyfer y cyfarfod trwy ebostio gethin@cytun.cymru (Noder nad cyfle i roi cyngor manwl i gynulleidfaoedd lleol penodol yw hwn – trefnir cyfleoedd felly ar wahân gan EcoChurch, yr Eglwys yng Nghymru ac enwadau eraill).

Yn dilyn wythnos lwyddiannus a phoblogaidd yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Dinbych (llun ar y dde), bydd pabell yr eglwysi yn teithio i Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd ar Orffennaf 18-21 ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Tregaron ar Orffennaf 30 – Awst 6. Yn y ddau le, gan ei bod yn dair blynedd ers i ni gyfarfod diwethaf, fe fydd pwyslais y babell ar ail-gysylltu Cristnogion Cymru â’i gilydd ledled Cymru a thu hwnt. Bydd croeso i bawb o bob cefndir, gyda lluniaeth ysgafn ar gael trwy’r dydd, arddangosfeydd gan ein haelod fudiadau, gweithgareddau i blant, a stondin lyfrau ac adnoddau. Cynhelir oedfaon byr yn ddyddiol am 11 y bore (gydag oedfa’r Eisteddfod Genedlaethol ar y prif lwyfan am 9 y bore ar ddydd Sul Gorffennaf 31) ac fe fydd ambell ddigwyddiad arall hefyd yn y babell. Bydd angen talu i ddod i’r maes, ond nid oes tâl ychwanegol am weithgareddau pabell yr eglwysi.

CYSYLLTU Â SWYDDOG POLISI CYTÛN

Parch./Revd Gethin Rhys – Swyddog Polisi/Policy Officer
Cytûn – Eglwysi ynghyd yng Nghymru/Churches together in Wales

Swyddfa gofrestredig: Yst. 3.3, Tŷ Hastings, Llys Fitzalan, Caerdydd CF24 0BL

Mudol/mobile: 07889 858062
E-bost: gethin@cytun.cymru         www.cytun.co.uk        @CytunNew

Hapus i gyfathrebu yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Happy to communicate in Welsh and English

Mae Cytûn yn gwmni cofrestredig yng Nghymru a Lloegr | Rhif: 05853982 | Enw cofrestredig: “Cytûn: Eglwysi Ynghyd yng Nghymru/Churches Together in Wales Limited” |
Mae Cytûn yn elusen gofrestredig | Rhif: 1117071 |

Dyddiad cyhoeddi: 7 Mehefin 2022. Cyhoeddir y Bwletin nesaf ar Orffennaf 27 2022.