Deddfwriaeth Coronafeirws:
Papur briffio i eglwysi Cymru

Gwneir pob ymdrech i sicrhau cywirdeb y wybodaeth hon, ond ni ddylid dibynnu arno at ddibenion cyngor cyfreithiol.

Cyfyngiadau lleol: Ardaloedd Diogelu Iechyd ym Mwrdeisdrefi Caerffili (o Fedi 8 2020), Rhondda Cynon Taf (o Fedi 17), Blaenau Gwent, Casnewydd, Merthyr Tudful a Phenybont-ar-Ogwr (o Fedi 22), tref Llanelli (o Fedi 26), Dinasoedd Caerdydd ac Abertawe (o Fedi 27), Bwrdeisdrefi Bro Morgannwg, Castell-nedd Port Talbot a Thorfaen (o Fedi 28), Bwrdeisdrefi Conwy a Wrecsam, Sir Ddinbych a Sir y Fflint (o Hydref 1) a rhan o ddinas Bangor (o Hydref 10)

Cliciwch yma am gyfyngiadau lleol

Mae Llywodraeth Cymru wedi dynodi nifer o Ardaloedd Diogelu Iechyd lleol mewn gwahanol rannau yng Nghymru. Y gyntaf oedd ardal Cyngor Bwrdeisdref Caerffili o 6yh ar Fedi 8. Gellir gweld y rheoliadau yn llawn yma a cheir canllawiau’r Llywodraeth yma.
Daeth cyfyngiadau tebyg iawn i rym yn ardal Cyngor Bwrdeisdref Rhondda Cynon Taf am 6yh ar Fedi 17. Gellir gweld y rheoliadau llawn yma a chanllawiau’r Llywodraeth yma. Cawsant eu hymestyn i Fwrdeisdrefi Blaenau Gwent, Casnewydd, Merthyr Tudful a Phenybont-ar-Ogwr o 6yh ar Fedi 22. Ceir y rheoliadau yna yma.
Gwelir y rheoliadau perthnasol i Gaerdydd ac Abertawe yma, i Fro Morgannwg, Castell-nedd Port Talbot a Thorfaen yma, ac i Fwrdeisdrefi Conwy a Wrecsam, Sir Ddinbych a Sir y Fflint yma.
Mae’r rheoliadau ar gyfer Llanelli yn debyg, ac i’w gweld yma, ond maent yn berthnasol dim ond i ardal benodol – gweler y map yma,
Felly hefyd yr Ardal Diogelu Iechyd ar gyfer rhan o ddinas Bangor – rheoliadau yma, a map o’r ardal benodol yma. Noder nad yw’n bosibl teithio o’r tu allan i’r Ardal Diogelu Iechyd lleol ym Mangor i fynychu addoldy oddi fewn iddi, na fel arall, ond fe all arweinyddion addoli ac eraill sy’n gweithio neu’n darparu gwasanaethau gwirfoddol, wneud hynny.

Nid cyngor cyfreithiol ffurfiol sy’n dilyn, ond ein dealltwriaeth ni yw mai byrdwn y rheoliadau o ran eglwysi a chymunedau ffydd eraill yw:

  1. Gall addoldai o fewn yr ardaloedd hyn aros ar agor, ond bydd angen i bawb dros 11 sy’n mynychu gweithgareddau dan do yno wisgo gorchudd wyneb (heblaw am y sawl sydd wedi eu heithrio am resymau meddygol). Ar Fedi 14, fe gadarnhaodd Llywodraeth Cymru y gall arweinyddion addoli hepgor gorchudd wyneb wrth arwain os yw hynny yn ddiogel – gweler y canllawiau Cymru gyfan isod.
  2. Ni ellir teithio i mewn i nac allan o’r un o’r ardaloedd hyn (na rhwng yr ardaloedd hyn) er mwyn mynychu addoldy (ag eithrio ar gyfer angladd neu briodas – gweler 3 isod). Hynny yw, rhaid i’r sawl sy’n byw ym Mwrdeisdref Caerffili addoli yno, ac ni all pobl o’r tu allan i Gaerffili fynd yno i addoli, ac felly hefyd yn achos pob un o’r ardaloedd eraill. Fe ellir teithio i mewn neu allan i un o’r ardaloedd er mwyn “gweithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol”, felly gall arweinydd addoli neu rywun sy’n gweithio’n wirfoddol mewn addoldy deithio yn gyfreithlon i’r perwyl hwnnw, os nad yw’n rhesymol ymarferol gwneud eu gwaith gartref (gweler 5 isod).
  3. Gellir teithio i mewn neu allan o’r ardaloedd i fynychu gwasanaeth angladd neu briodas – i’w arwain, ar wahoddiad, neu fel gofalwr i rywun sy’n arwain neu wedi’i wahodd – ond ni ellir mynychu gwledd briodas na lluniaeth ynghlwm wrth angladd os ydych wedi teithio i mewn neu allan o’r ardal ar gyfer y gwasanaeth. [Mae’n ymddangos fod y cyfyngiad hwn yn berthnasol hyd yn oed i’r cwpwl sy’n priodi ac i deulu agos yr ymadawedig].
  4. Gellir teithio i mewn neu allan o’r ardaloedd hyn er mwyn (ymysg pethau eraill) “cael gafael ar wasanaethau cyhoeddus neu gael y gwasanaethau hynny” ac er mwyn “cael gafael ar ofal plant neu wasanaethau addysg neu gael y gofal neu’r gwasanaethau hynny”. Noder na ellir teithio i mewn neu allan o’r ardaloedd cyfyngedig ar gyfer pethau megis cyrchu gwasanaethau gwirfoddol, mynychu dosbarth ymarfer corff neu gymdeithasu, a bydd hyn yn cyfyngu ar ba weithgareddau y mae’n ymarferol i addoldai o fewn yr ardaloedd hyn eu cynnal yn ystod y cyfnod clo lleol hwn.
  5. Mae’n ofynnol i weithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol gartref os yw’n rhesymol ymarferol i wneud hynny yn hytrach na defnyddio addoldai neu ganolfannau eraill o fewn yr ardaloedd hyn. Felly dylai clerigion ac addoldai ystyried yn ofalus pa waith a gwasanaethau y gellir eu cynnig oddi cartref yn hytrach na’r tu hwnt iddo.
  6. Mae’r trefniant yng ngweddill Cymru i ffurfio aelwydydd estynedig yn cynnwys aelodau hyd at bedair aelwyd wedi eu hatal am y tro o fewn yr ardaloedd hyn, felly ni all aelodau aelodau’r aelwydydd estynedig hynny gyd-deithio na chyd-eistedd mewn addoldy (neu unman arall) – rhaid i aelodau pob aelwyd llythrennol (hynny yw, y bobl sydd yn cyd-fyw) gadw 2 fetr ar wahan i bob aelwyd arall.
  7. Ond o Hydref 3, fe all aelwydydd sy’n cynnwys dim ond un oedolyn (gyda neu heb blant) yn yr ardaloedd hyn ffurfio “aelwyd estynedig dros dro”, dros gyfnod y cyfnod cyfyngiadau ychwanegol, gydag un aelwyd arall (o unrhyw faint) sy’n byw o fewn yr un Ardal Diogelu Iechyd. Fe all aelodau’r aelwydydd estynedig dros dro hyn gyd-deithio a chyd-eistedd mewn addoldai (a mannau eraill) os y dymunant.
  8. Gall bwytai aros ar agor, ond ni all neb gyfarfod â rhywun o’r tu allan i’w aelwyd yno – rhaid i bob aelwyd eistedd ar wahân a rhaid cadw pellter corfforol caeth rhwng pob aelwyd.

Rydym yn ymwybodol fod y cyfyngiad (2) uchod yn golygu na fydd rhai pobl yn yr ardaloedd hyn yn gallu mynychu addoldy o’u ffydd neu eu henwad eu hunain. Mae Llywodraeth Cymru yn dweud wrthym eu bod yn fodlon fod y cyfyngiad hwn yn angenrheidiol, a’i fod yn gydnaws â dyletswyddau hawliau dynol a chydraddoldeb y Llywodraeth, ond rydym yn parhau i drafod y mater hwn gyda’r Llywodraeth.

Gwybodaeth ar gyfer gweddill Cymru, a chanllawiau Cymru gyfan, o Fedi 14

Mae bellach yn gyfreithlon trefnu ail-agor addoldai. Mae Llywodraeth Cymru, ar y cyd ag eglwysi a chymunedau ffydd eraill, wedi llunio canllawiau ar weithredu’r gofynion cyfreithiol o ran addoli a gweithgareddau crefyddol (gweler isod). Mae yna ganllawiau eraill ar gyfer gweithgarwch cymunedol – gweler isod. Mae Cymal 13 y Rheoliadau yn gosod dyletswydd ar y sawl sy’n gyfrifol am addoldy neu ganolfan gymunedol i roi sylw i’r canllawiau hyn (a chanllawiau eraill y Llywodraeth sy’n berthnasol – gweler isod). Mae’n bwysig, felly, fod y sawl sy’n gyfrifol yn darllen y canllawiau hyn yn ofalus.

Yn ganolog i gynnal unrhyw weithgarwch mewn unrhyw addoldy mae cynnal asesiad risg cyflawn. Pan fo’r gweithgarwch yn cael ei gynnal gan fudiad arall yn eich adeilad, dylid cynnal yr asesiad risg ar y cyd – a rhaid cofio fod y cyfrifoldeb cyfreithiol yn aros gyda’r sawl sy’n gyfrifol am yr adeilad (a dyna sy’n wir pan fo eglwys neu gymuned ffydd yn defnyddio adeilad yn perthyn i rywun arall). Gellir gweld templed y Gweithgor Iechyd a Diogelwch yma (Saesneg yn unig).

Wrth i reoliadau newid yn gyson, arfer Llywodraeth Cymru yw diweddaru yn gyntaf eu tudalen Cwestiynau Cyffredin – gellir gweld yr adran am addoldai, priodasau ac angladdau yma. Wrth chwilio am y newidiadau mwyaf diweddar, felly, dylid troi yno yn gyntaf. Ond nid yw’r dudalen honno yn ateb pob cwestiwn, felly dylid troi wedyn i’r canllawiau llawnach y cyfeirir atynt uchod ac isod.

Er eglurder, nid yw’r “Rheol 6“, yn cyfyngu niferoedd sy’n cyfarfod yn gymdeithasol dan do i 6, yn berthnasol i weithgareddau a ganiateir mewn addoldai (hyd yn oed yn y bwrdeisdrefi hynny gyda chyfyngiadau ychwanegol), yn unol a’r canllawiau sy’n dilyn.

Beth mae’r Rheoliadau yn ei ddweud

O dan Gymal 12 y Rheoliadau diweddaraf, yn sgîl COVID-19 prif ddyletswydd gyfreithiol ychwanegol y ‘person’ (all fod yn gorff, megis cyngor eglwys y plwyf) sy’n gyfrifol am yr adeilad yw:

(a) cymryd pob mesur rhesymol i sicrhau—  
(i) y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng unrhyw bersonau yn y fangre (ac eithrio rhwng dau aelod o’r un aelwyd, neu rhwng gofalwr a’r person sy’n cael cymorth gan y gofalwr);
(ii) pan fo’n ofynnol i bersonau aros i fynd i’r fangre, fod pellter o 2 fetr yn cael ei gynnal rhyngddynt (ac eithrio rhwng dau aelod o’r un aelwyd, neu ofalwr a’r person sy’n cael cymorth gan y gofalwr),
(b) cymryd unrhyw fesurau rhesymol eraill at y diben hwnnw, er enghraifft mesurau sy’n cyfyngu ar ryngweithio agos wyneb yn wyneb ac sy’n cynnal hylendid megis—
(i) newid trefn y fangre gan gynnwys lleoliad y dodrefn a’r gweithfannau;
(ii) rheoli’r defnydd o fynedfeydd, tramwyfeydd, grisiau a lifftiau;
(iii) rheoli’r defnydd o gyfleusterau a rennir megis toiledau a cheginau;
(iv) fel arall rheoli’r defnydd o unrhyw ran arall o’r fangre neu fynediad iddi;
(v) gosod rhwystrau neu sgriniau;
(vi) darparu, neu’n ei gwneud yn ofynnol defnyddio, cyfarpar diogelu personol, ac
(c) darparu gwybodaeth i’r rhai sy’n dod i mewn neu’n gweithio yn y fangre ynglŷn â sut i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws.

(2A) Mae mesurau y gellir eu cymryd o dan baragraff (2) hefyd yn cynnwys—
(a) peidio â gwneud gweithgareddau penodol;
(b) cau rhan o’r fangre.
(c) casglu gwybodaeth gyswllt oddi wrth bob person yn y fangre neu, mewn perthynas â phersonau o’r un aelwyd, oddi wrth un ohonynt, a’i chadw am 21 o ddiwrnodau at ddiben
ei darparu i unrhyw un o’r canlynol, ar ei gais—
(i) Gweinidogion Cymru,
(ii) swyddog iechyd cyhoeddus,
(iii) person a ddynodir gan yr awdurdod lleol y mae’r fangre yn ei ardal i brosesu gwybodaeth at ddibenion cysylltu â phersonau a all fod wedi dod i gysylltiad â’r coronafeirws.

O Fedi 14 mae yna ofyniad cyfreithiol ychwanegol o dan Reoliad 12B i bob person (P) wisgo gorchudd wyneb mewn mangreoedd perthnasol o dan do (sy’n cynnwys addoldai a chanolfannau cymunedol)
(2) Ond nid yw hyn yn ofynnol—
(a) pan fo esemptiad yn gymwys o dan baragraff (3);
(b) pan fo gan P esgus rhesymol dros beidio â gwisgo gorchudd wyneb, ac o ran hynny gweler paragraff (4).
(3) Mae esemptiad i’r gofyniad i wisgo gorchudd wyneb yn gymwys—
(a) pan fo P yn blentyn o dan 11 oed;
(b) pan fo P mewn mangre lle y gwerthir bwyd neu ddiod, neu lle y darperir bwyd neu ddiod
fel arall, i’w fwyta neu i’w hyfed yn y fangre honno.
(4) Mae’r amgylchiadau pan fo gan P esgus rhesymol dros beidio â gwisgo gorchudd wyneb yn cynnwys—

(a) pan na fo P yn gallu rhoi gorchudd am ei wyneb, neu wisgo neu dynnu gorchudd wyneb, oherwydd salwch neu nam corfforol neu feddyliol, neu anabledd (o fewn yr ystyr a roddir i “disability” yn adran 6 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010(19));
(b) pan fo P yn ymgymryd â gweithgaredd ac y gellir ystyried yn rhesymol bod gwisgo gorchudd wyneb yn ystod y gweithgaredd hwnnw yn peri risg i iechyd P;
(c) pan fo P yn gorfod tynnu’r gorchudd wyneb i gyfathrebu â pherson arall sy’n cael anhawster i gyfathrebu (mewn perthynas â lleferydd, iaith neu fel arall);
(d) pan fo P yn gorfod tynnu’r gorchudd wyneb er mwyn osgoi niwed neu anaf, neu’r risg o niwed neu anaf, i P ei hunan neu i eraill;
(e) pan fo P yn y fangre i osgoi anaf, neu i ddianc rhag risg o niwed, ac nad oes gan P orchudd wyneb;
(f) pan fo P yn gorfod tynnu’r gorchudd wyneb i—
(i) cymryd meddyginiaeth;
(ii) bwyta neu yfed, pan fo’n rhesymol angenrheidiol;
(g) pan ofynnir i P dynnu’r gorchudd wyneb gan swyddog gorfodaeth.

Mae Llywodraeth Cymru yn diffinio “gorchudd wyneb” fel a ganlyn – “Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn argymell o leiaf dair haen mewn gorchudd wyneb. Rhaid i orchuddion wyneb orchuddio’r geg a’r trwyn.” Mae yna eithriadau i’r gofyniad i wisgo gorchudd am resymau meddygol, a mae modd tynnu’r gorchudd i gyfathrebu â pherson arall sy’n cael anhawster i gyfathrebu (mewn perthynas â lleferydd, iaith neu fel arall) [Rheoliad 12B94)(c)]. Noder nad oes angen i blant dan 11 oed wisgo gorchudd wyneb. Ceir canllawiau llawn am orchuddion wyneb i’r cyhoedd yma – ac i reolwyr mangreoedd yma. .

Ar Fedi 14, fe ychwanegodd Llywodraeth Cymru y canlynol at y dudalen Cwestiynau Cyffredin ar ei gwefan. Rydym yn credu y bydd gan y sawl sy’n arwain yr addoliad neu’r seremoni esgus rhesymol dros beidio gwisgo gorchudd wyneb os na allent wneud eu gwaith yn effeithiol tra’n gwisg un. Ond rhaid iddynt gymryd camau digonol eraill fel cadw dros 2 fetr oddi wrth eraill a gwisgo feisor.

Noder nad yw’r Rheoliadau na’r canllawiau ar wefan Llywodraeth Cymru yn cynnwys yr “esgus rhesymol” hwn, ac nid yw’r canllawaiau ar gyfer addoldai nac angladdau wedi eu diweddaru yn yr un modd. Cyngor Cytun, felly, yw y dylid cynnwys unrhyw benderfyniad i’r arweinydd beidio â gwisgo gorchudd wyneb tair haen, ac unrhyw gamau eraill a gymerir i liniaru hynny, yn asesiad risg yr eglwys wrth drefnu oedfa.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud nad oes angen o Awst 3 cynnal pellter o 2 fetr rhwng unigolion sydd dan 11 oed, na rhwng y plant hynny ac oedolion, ond nid yw’r newid hwnnw wedi ei gynnwys yn y Rheoliadau. Mae’n arbennig o bwysig, felly, wrth drefnu gweithgarwch sy’n cynnwys plant dan 11 oed bod asesiad risg yn cael ei lunio yn tafoli’r mater hwn – yn ogystal â’r ystyriaethau eraill o ran diogelu plant.

Wrth gwrs, mae gofynion cyfreithiol eraill – megis iechyd a diogelwch cyffredinol, diogelu plant ac oedolion bregus, diogelu data personol, ac yn y blaen – yn parhau mewn grym hefyd, ac ni ddylid eu hanghofio wrth drefnu ail-agor.

Angladdau a phriodasau

Yn achos angladdau a gynhelir dan do, mae yna gyfyngiad cyfreithiol ar y sawl sy’n gallu mynychu, sef o dan Gymal 14(2)(h) y gellir mynychu angladd:     
(i) fel person sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd,        
(ii) os caiff ei wahodd gan berson sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd, neu
(iii) fel gofalwr person sy’n mynd i’r angladd.

Mae canllawiau’r Llywodraeth am gynnal angladdau yma, a rhaid rhoi sylw iddynt wrth drefnu angladd. (Dylid nodi bod y canllawiau, er wedi eu cyfeirio at awdurdodau lleol, yn berthnasol i angladdau mewn addoldai hefyd). Noder nad oes caniatad bellach i ganu mewn angladd, a bod y gofyniad i wisgo gorchudd wyneb yn berthnasol i angladd.

Ar Awst 21 fe ddiweddarwyd y rheoliadau er mwyn caniatáu cyfarfodydd coffa dan do o hyd at 30 o bobl ar ôl gwasanaethau angladd, ond nid yw’r newid hwn yn effeithio ar y gwasanaeth angladd ei hun.

Yn achos priodasau a seremonïau partneriaethau sifil (a mae’n rhaid eu cynnal dan do), mae yna gyfyngiad tebyg ar y sawl sy’n gallu mynychu, o dan Gymal 14(2)(g), sef y gellir:
mynd i weinyddiad priodas neu ffurfiad partneriaeth sifil—
(i) fel parti i’r briodas neu’r bartneriaeth sifil,
(ii) os caiff ei wahodd i fynychu, neu
(iii) fel gofalwr person sy’n mynd i’r briodas neu’r bartneriaeth sifil;

Mae’r canllawiau y mae angen rhoi sylw iddynt wrth drefnu priodas neu bartneriaeth sifil yma.

Mae’r gofyniad i wisgo gorchudd wyneb yn berthnasol i briodasau a phartneriaethau sifil. Ond ar Fedi 14 fe ychwanegodd Llywodraeth Cymru y canlynol at y Cwestiynau Cyffredin ar ei gwefan: Bydd angen i westeion wisgo gorchudd wyneb, ond oherwydd pwysigrwydd y seremoni i’r cwpl a lefel y risg, rydym yn credu ei bod yn rhesymol i’r cwpl dynnu eu gorchudd wyneb i gusanu, i ddweud eu haddunedau ac ar gyfer y “ddawns gyntaf”, cyn belled bod mesurau eraill ar waith i ddiogelu’r bobl sy’n bresennol yn y seremoni rhag y risg o ddal coronafeirws, er enghraifft, bod y gwesteion yn aros 2 fetr oddi wrth y cwpl bob amser.
Ond nid yw’r lliniariad hwn wedi ei gynnwys yn y Rheoliadau nac yn y canllawiau a gyhoeddwyd ynghylch priodasau, ac felly os dymunir cymryd mantais ar y lliniaru hwn, dylid ei gynnnwys, a mesurau diogelwch a gymerir o ganlyniad, yn yr asesiad risg ar gyfer yr achlysur.

Er nad yw’n fater i addoldai yn benodol (oni bai eu bod yn cynnig lluniaeth ar gyfer priodasau), fe all y bydd cyplau sydd am ohirio eu priodas neu bartneriaeth sifil yn cael arweiniad yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd am ad-dalu costau (Saesneg yn unig) yn ddefnyddiol.

Defnydd cymunedol ar addoldai

O Awst 7 fe laciwyd y cyfyngiadau ychwanegol ar ganolfannau cymunedol aml-bwrpas, gan gynnwys defnydd cymunedol addoldai. Ar Awst 27 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau ar gyfer hyn. Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru wedi llunio canllawiau ychwanegol ar gyfer ail-agor canolfannau cymunedol a all fod yn ddefnyddiol i ddefnydd cymunedol addoldai hefyd. Diweddarwyd canllawiau CGGC ar Hydref 9.

Mae canllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer canolfannau cymunedol yn cynnwys canllaw cam-wrth-gam ar wneud penderfyniadau ynghylch ail-agor, a thybiwn y bydd yr adran honno yn arbennig o ddefnyddiol i’r sawl sy’n gyfrifol am wneud penderfyniadau o’r fath.

Mae yna ddau beth penodol i’w nodi:

  1. Dywed y canllawiau ar gyfer canolfannau cymunedol: Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 yn gosod dyletswydd ar y rheini sy’n gyfrifol am y ganolfan i gasglu gwybodaeth gyswllt gan bob person yn yr eiddo, neu yn achos pobl o’r un aelwyd, wybodaeth gyswllt gan un ohonynt. Dylid cadw’r wybodaeth hon am 21 diwrnod er mwyn gallu ei rhoi i Weinidogion Cymru neu i swyddog iechyd cyhoeddus os byddant yn gofyn amdani. Mae rhagor o wybodaeth ar gael am Profi, Olrhain, Diogelu ynghyd â chanllawiau ar gadw cofnodion ynghylch staff, cwsmeriaid ac ymwelwyr.
    Mae hyn yn ddehongliad annisgwyl o’r rheoliadau (sy’n dweud y gellir casglu’r wybodaeth hon yn hytrach na bod rhaid), ond yn wyneb y geiriad yn y canllawiau hyn fe gynghorir addoldai i gasglu gwybodaeth gyswllt ar gyfer mynychwyr gweithgareddau cymunedol, gan ofalu ei chadw a’i dinistrio yn unol â rheoliadau diogelu data (GDPR).
  2. Nid yw’r canllawiau yn newid y rhestr o weithgareddau a ganiateir o fewn canolfan gymunedol, ond mae’n nodi y gall y rhestr honno newid o dro i dro, neu mewn ardaloedd daearyddol penodol, a mae’n dweud mai cyfrifoldeb y sawl sy’n gyfrifol am ganolfan yw sicrhau eu bod yn ymwybodol o beth a ganiateir ar hyn o bryd a beth ddim. Mae rhestr gyflawn o’r gweithgareddau a ganiateir ar hyn o bryd (Awst 28) ledled Cymru yng Nghymal 14 y Rheoliadau. Gall fwy na 6 aelod o’r cyhoedd ymgynnull dan do dim ond at y dibenion canlynol [hepgorwyd pwrpasau na fyddent yn berthnasol i ddefnydd cymunedol addoldai]:

(a) cael cynhorthwy meddygol …;

(b) darparu neu gael gofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006(26), pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;

(c) darparu neu gael cynhorthwy brys;

(d) rhoi gwaed;

(e) gweithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol;

(g) mynd i weinyddiad priodas neu ffurfiad partneriaeth sifil—
(i) fel parti i’r briodas neu’r bartneriaeth sifil,
(ii) os caiff ei wahodd i fynychu, neu
(iii) fel gofalwr person sy’n mynd i’r briodas neu’r bartneriaeth sifil

(h) mynd i angladd—
(i) fel person sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd,
(ii) os caiff ei wahodd gan berson sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd, neu
(iii) fel gofalwr person sy’n mynd i’r angladd;

(hza) cymryd rhan mewn cynulliad o ddim mwy na 30 o bobl mewn mangre agored—
(i) i ddathlu gweinyddiad priodas neu ffurfiad partneriaeth sifil sy’n digwydd ar neu ar ôl 22 Awst 2020,
(ii) i ddathlu bywyd person ymadawedig y cynhelir ei angladd ar neu ar ôl 22 Awst 2020;

(ha) mynd i fan addoli;

(i) bodloni rhwymedigaeth gyfreithiol…;

(j) cael gafael ar wasanaethau cyhoeddus neu gael y gwasanaethau hynny,

(ja) cael gafael ar ofal plant neu gymryd rhan mewn gweithgareddau o dan oruchwyliaeth i blant;

(jb) cael gwasanaethau addysgol

(k) mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw yn yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto;

(o) osgoi anaf neu salwch neu ddianc rhag risg o niwed.

(p) gwneud ymarfer corff gydag eraill, mewn cynulliad o ddim mwy na 30 o bobl, mewn stiwdio ffitrwydd, campfa, pwll nofio, canolfan neu gyfleuster hamdden arall o dan do neu unrhyw fangre agored arall.

Mae’r gofyniad blaenorol fod rhaid i “wasanaethau” fod yn rhai “hanfodol” wedi ei hepgor, ac felly hefyd y gofyniad i gael caniatâd yr Awdurdod Lleol ar gyfer cynnal gwasanaethau o’r fath yn yr adeilad. Felly mater i’r sawl sy’n gyfrifol am yr adeilad yw pennu beth sy’n “wasanaeth gwirfoddol neu elusennol” neu “gwasanaeth cyhoeddus” neu “gwasanaeth addysgol” a beth sy’n “addoli”.

O ran y diffiniad o “addoli”, dywed y Llywodraeth wrthym nad ydynt am ddiffinio hynny yn gyfreithiol, a’u bod yn ymddiried ymhob cymuned ffydd i ddehongli’r ystyr mewn modd cyfrifol o fewn eu traddodiad eu hunain.

O ran “darparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol”, noder y gellir ymgynnull er mwyn darparu‘r rhain ond nid er mwyn cael gafael arnynt fel aelod o’r cyhoedd. Felly, cyngor Cytûn yw y gellir ymgynnull pwyllgor ac ymgymryd â gwaith (yn Covid-ddiogel) er mwyn cymryd camau tuag at ail-agor gweithgareddau cymunedol, ond ni ddylid eu hail-ddechrau ar unwaith oni bai eu bod yn syrthio i un o’r categorïau uchod.
O ran “gwasanaethau cyhoeddus” a “gwasanaethau addysgol”, nid yw’r rhain yn cael eu diffinio’n fanwl, ond ein dealltwriaeth ni yw na ellir ar hyn o bryd gosod yr adeilad at weithgarwch masnachol (felly ddim yn “wirfoddol neu elusennol” nac yn “wasanaeth cyhoeddus” na “gwasanaeth addysgol”) nad yw yn y rhestr uchod (megis clybiau colli pwysau masnachol nad ydynt yn cynnwys gweithgarwch ymarfer corff); nac at weithgareddau sy’n gwbl gymdeithasol heb elfen o “wasanaeth” neu “addysg”, neu’n gaeedig i aelodau clwb neu gymdeithas penodol yn unig (ac felly ddim yn “wasanaethau” nac yn “gyhoeddus”).

Argymhelliad cryf Cytûn yw fod penderfyniad i ail-agor gweithgarwch cymunedol dan nawdd yr addoldy neu o ran gosod yr adeilad yn cael ei gofnodi yn eglur, gydag esboniad o’r rhesymeg a ddefnyddiwyd i ddod i’r penderfyniad, rhag ofyn y codir cwestiynau yn nes ymlaen.

Dolenni at ganllawiau eraill perthnasol i addoldai

Mae yna ganllawiau eraill gan Lywodraeth Cymru fydd yn berthnasol i rai addoldai:

  • Canllawiau ar gyfer busnesau twristiaeth a lletygarwch (yn cynnwys bwytai a gynhelir gan addoldai). Mae Hospitality Cymru wedi datblygu canllawiau manwl (Saesneg yn unig) ar gyfer bwytai yn seiliedig ar ganllawiau Llywodraeth Cymru.
  • Manwerthwyr (gan gynnwys siopau a siopau elusen a gynhelir gan addoldai)
  • Gweithleoedd (mae pob addoldy yn weithle i gyflogeion a/neu wirfoddolwyr, ond bydd y canllawiau hyn yn arbennig o berthnasol i weithleoedd penodol megis swyddfeydd eglwysig)
  • Cyrchfannau a lleoliadau diwylliant a threftadaeth (gan gynnwys addoldai hanesyddol sydd ar agor i’r cyhoedd)
  • Ymarfer, perfformio a chymryd rhan yn y celfyddydau perfformio – mae’r canllawiau hyn a gyhoeddwyd ar Fedi 15 yn cyfeirio’n benodol at weithgareddau o’r fath mewn addoldai. Noder bod y canllawiau hyn yn fanwl ac yn gofyn am lawer o waith paratoi cyn ail-gychwyn gweithgarwch celfyddydol. Nid yw’r canllawiau yn caniatau ail-gychwyn canu cynulleidfaol.
  • Gofal plant a chynlluniau chwarae wedi eu cofrestru gyda’r Awdurdod Lleol (gan gynnwys gofal plant sydd wedi ei eithrio rhag cofrestru, e.e. am ei fod yn para llai na dwy awr). Cyfrifoldeb darparwr y gofal plant fydd sicrhau cydsyniad yr Awdurdod Lleol i’r trefniadau os ydynt wedi eu rheoleiddio.
  • Cynlluniau chwarae agored i blant (Er mai “cynlluniau chwarae” y cyfeirir atynt ym mhennawd y canllawiau, o’u darllen fe welir eu bod yn berthnasol i ystod eang o weithgarwch gyda phlant)
  • Canllaw am waith ieuenctid
    Fe welir, o ddilyn y canllawiau am ofal plant, “cynlluniau chwarae agored” a gwaith ieuenctid yn fanwl, y gall y bydd angen gwneud tipyn o ail-drefnu ar gyfleusterau’r ganolfan, ac o bosibl cyfyngu ar ei defnydd gan bobl eraill, er mwyn ail-gychwyn gofal plant yn ddiogel. Nid oes angen i blant dan 11 oed wisgo gorchudd wyneb.
  • Landlordiaid ar eiddo preswyl. Tan 31 Mawrth 2021 fe fydd gan y rhan fwyaf o denantiaid preswyl yng Nghymru – gan gynnwys y sawl sydd yn rhentu gan addoldai – hawl i 6 mis o rybudd cyn diweddu eu tenantiaeth, ag eithrio mewn rhai amgylchiadau penodol iawn. Gellir gweld y rheoliadau perthnasol yma. Nid yw Cytun yn gallu darparu cyngor cyfreithiol am denantiaethau preswyl, a dylai landlordiaid eglwysig gyrchu cyngor proffesiynol priodol os oes angen.

Y ffordd orau i gwrdd â’r gofynion cyfreithiol yw cynnal asesiad risg sy’n cynnwys o leiaf y materion a restrir yng Nghymal 12 y Rheoliadau (uchod). Mae nifer o enwadau wedi llunio templadau i’r diben hwn. Mae templadau yr Eglwys yng Nghymru (Saesneg yn unig) ac Eglwys Bresbyteraidd Cymru wedi eu llunio ar sail y Rheoliadau sy’n berthnasol yng Nghymru. Bydd angen i eglwysi o enwadau eraill ac eglwysi anenwadol gymhwyso peth o’r cynnwys i’w trefniant llywodraethiant eu hunain.

Tybiwn y bydd pob addoldy am ddefnyddio posteri i roi cyfarwyddiadau i bobl sy’n mynychu’r adeilad. Mae’r Eglwys yng Nghymru ac Undeb Bedyddwyr Cymru wedi cyhoeddi posteri dwyieithog y gellir eu defnyddio i’r perwyl hwnnw.

Mae’r gyfraith yn caniatáu i hyd at 30 o bobl gyfarfod yn yr awyr agored, yn amodol ar gadw pellter corfforol, at unrhyw ddiben. Yn ôl Cymal 14A gall mwy na 30 ymgynnull i’r dibenion canlynol:

(a) gweithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol;
(b) pan fo’r person yn athletwr elît, hyfforddi neu gystadlu;
(c) bodloni rhwymedigaeth gyfreithiol;
(d) cael gafael ar wasanaethau cyhoeddus neu gael y gwasanaethau hynny;
(e) cael gafael ar ofal plant neu gymryd rhan mewn gweithgareddau o dan oruchwyliaeth i blant
;
(f) cael gwasanaethau addysgol.

Nid oes rheidrwydd dan y Rheoliadau hyn llunio asesiad risg ar gyfer cyfarfod yn yr awyr agored, ond yn achos digwyddiadau a drefnir gan addoldai fe all fod yn ofyniad cyfreithiol i wneud hynny am resymau eraill (e.e. o ran diogelu plant ac oedolion bregus), a mae’n arfer da i wneud hynny pob tro y trefnir gweithgarwch.

Perthynas y canllawiau hyn a chanllawiau enwadol a rheoliadau perthynol i Loegr

Dylai eglwysi sy’n rhan o enwad, yn enwedig lle bo’r enwad yn ymddiriedolwr ar yr adeilad lleol, sicrhau eu bod yn ceisio cyngor eu henwad eu hunain am unrhyw ofynion enwadol perthnasol. Dylid nodi fod canllawiau nifer o enwadau traws-ffiniol yn seiliedig ar y Rheoliadau sy’n gymwys yn Lloegr yn hytrach na’r rhai sy’n gymwys yng Nghymru. Mater i’r enwad unigol yw hyn, a lle bo gwrthdaro rhwng cyngor enwadol a Rheoliadau Cymru dylid trafod hyn o fewn yr enwad perthnasol.

Ymhlith y gwahaniaethau amlycaf rhwng Rheoliadau Lloegr a Chymru mae:

  • Yn Lloegr gellir gostwng y pellter corfforol dan do i hyd at 1 metr os cymerir camau diogelwch ychwanegol; ond yng Nghymru 2 fetr yw’r pellter corfforol y mae’n rhaid gwneud pob ymdrech i’w gadw dan do.
  • Yn Lloegr mae yna gyfyngiad o 30 ar y nifer all fynychu bedydd, priodas neu angladd (oni bai ei fod yn rhan o wasanaeth crefyddol cyhoeddus arall); yng Nghymru fe gyfyngir mynychu priodasau ac angladdau (ond nid gwasanaethau bedydd) i’r sawl a wahoddir – gweler uchod – ond fe bennir yr uchafswm gan bob addoldy yn hytrach na thrwy reoliad.

Mae Eglwys Bresbyteraidd Cymru wedi cyhoeddi gwybodaeth ddefnyddiol am rai o’r gwahaniaethau eraill rhwng Rheoliadau Lloegr a Chymru.

Mae nifer o’r bobl hynny sy’n gyfrifol am addoldai yn bryderus am gydymffurfio â’r Rheoliadau, yn enwedig pan eu bod yn newid yn rheolaidd. Fe all y bydd yn gymorth, felly, darllen canllawiau Llywodraeth Cymru i swyddogion gorfodi, i weld yr hyn y byddan nhw yn chwilio amdano a sut  byddant yn gweithredu wrth sicrhau cydymffurfio â’r gyfraith.

Ambell gwestiwn penodol

Dyma atebion i ambell gwestiwn a ofynnir yn gyson. Byddwn yn ychwanegu at y rhestr hon yn rheolaidd.

Offerynnau a chanu

Ar hyn o bryd, mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn argymell na ddylai’r gynulleidfa ganu ac na ddylai offerynnau chwyth gael eu defnyddio dan do. Gall unawdydd ganu y tu ôl i sgrîn briodol os yw hynny yn angenrheidiol i’r gwasaneth.

Ar Awst 7 fe ddiweddarwyd y cyngor am ganu organ bîb i ddweud: Dylai’r penderfyniad i ganu organau lle mae angen gwthio aer drwy’r system i’w gweithredu gael ei wneud ar sail asesiad risg a chydymffurfio gyda canllawiau, hylendid dwylo, glanhau a chadw pellter corfforol er enghraifft oddi wrth gweddill y gynulleidfa a pheidio defnyddio cynorthwywr wrth yr organ. Fe’ch cynghorir i ddefnyddio offerynnau amgen megis piano, offerynnau electronig neu recordiadau.
Lle bo’n ddymuniad ystyried defnyddio organ bîb, gellir defnyddio templed asesu risg penodol yr Eglwys yng Nghymru (Saesneg yn unig).

Mae’r cyfyngiadau hyn yn gymwys i briodasau ac angladdau.

Glanhau’r adeilad

Mae canllawiau Llywodraeth Cymru am addoldai yn cynnwys arweiniad cyffredinol defnyddiol. Mae Iechyd Cyhoeddus Lloegr wedi cynhyrchu arweiniad mwy manwl (Saesneg yn unig) am lanhau cyffredinol ac am lanhau adeilad wedi darganfod fod rhywun â Covid-19 wedi bod yno.
Noder nad yw gadael adeilad yn wag heb ei gyffwrdd am 72 awr yn gallu cymryd lle glanhau yn unol a chanllawiau Llywodraeth Cymru.

Profi, Olrhain, Diogelu ac ap Covid-19 y GIG

Mae Cymal 12(2A)(c) y Rheoliadau yn ei gwneud hi’n gyfreithiol glir fod hawl penderfynu cadw rhestr o’r fath dan unrhyw amgylchiad, ac felly hawl i wrthod mynediad i’r sawl sy’n gwrthod cydymffurfio. Cyhoeddwyd canllawiau llawn am hyn yma: https://llyw.cymru/cadw-cofnodion-ynghylch-staff-cwsmeriaid-ac-ymwelwyr-profi-olrhain-diogelu. Mae’n orfodol cadw rhestr o bawb sy’n mynychu’r oedfa neu weithgarwch dim ond pan fo pob aelwyd wedi methu â chadw pellter o 2 fetr, er enghraifft rhai sy’n cymryd rhan mewn oedfa priodas neu fedydd. Serch hynny, mae rhai enwadau yn argymell y dylid cadw rhestr felly ar gyfer pob gweithgarwch ac fe ellir penderfynu’n lleol i gadw rhestr ar unrhyw achlysur. Os penderfynir cadw rhestr, rhaid sicrhau cadw’r rhestr – a maes o law ei dinistrio – yn unol a’r rheoliadau diogelu data (GDPR).
Mae canllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer canolfannau cymunedol yn dweud bod dyletswydd ar y sawl sy’n gyfrifol am ganolfan gymunedol casglu’r wybodaeth hon, ac felly cynghorir addoldai i gasglu gwybodaeth am bob un sy’n mynychu gweithgarwch cymunedol.
Mae Llywodraeth Cymru yn argymell unigolion sy’n berchen ar ffon sy’n gallu gwneud hynny i lawrlwytho ap Covid-19 y GIG. Gellir gweld canllawiau Llywodraeth Cymru yma a cheir rhagor o wybodaeth yma: https://covid19.nhs.uk/introducing-the-app-welsh.html. Mae’r ap ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mater i unigolion fydd penderfynu ei lawrlwytho ai peidio, ond fe fydd angen i addoldai benderfynu a ydynt am argraffu ac arddangos posteri côd QR i alluogi pobl i logio mewn wrth gyrraedd yr adeilad. Mae Cytun yn tynnu’ch sylw at y canlynol wrth i chi benderfynu sut i weithredu:
1. Yng Nghymru, hyd yn oed os ydych yn arddangos côd QR, fe fydd angen parhau i gasglu enwau a manylion cyswllt trwy ddulliau traddodiadol ar gyfer y gwasanaeth Profi Olrhain Gwarchod, wrth i bobl gyrraedd ar gyfer gweithgareddau cymunedol (ond nid ar gyfer oedfaon, lle mae casglu’r wybodaeth yn ddewisol). Fe fydd angen trefnu mynediad i’ch adeilad, felly, mewn modd sy’n galluogi pobl i gofrestru eu manylion ar bapur a sganio’r ap, gan gadw pellter o 2m ar hyd yr amser.
2. Wedi logio i mewn i adeilad, fe fyddwch yn aros wedi eich logio mewn hyd nes i chi logio mewn i adeilad arall, neu tan ganol nos y diwrnod hwnnw. Fe gewch rybudd am unrhyw un arall fu yn yr adeilad yn ystod yr holl gyfnod hwnnw a gafodd Covid-19, hyd yn oed os ydynt yn cyrraedd wedi i chi ymadael. Ni fyddwch yn gwybod pryd y bu’r llall yn yr adeilad, ond fe fydd gofyn i chi hunan-ynysu am 14 diwrnod. Bydd angen i gymunedau ffydd, felly, fod yn ymwybodol y gall staff a gwirfoddolwyr orfod hunan-ynysu ar sail rhybudd gan yr ap, er na fuont mewn gwirionedd mewn cyswllt â Covid-19.
3. Yn yr un modd, mae’r ap yn eich rhybuddio os bu eich ffôn chi am 15 munud yn agos at ffôn rhywun sydd wedi ei heintio â Covid 19. Mae’n ddoeth, felly, diffodd yr ap os ydych yn gadael eich ffôn mewn man lle gall fod yn agos at ffonau eraill heb fod yn agos at berchnogion y ffonau hynny (er enghraifft mewn canolfan hamdden). Pan gewch rybudd i hunan-ynysu, ni fydd modd i chi wybod pryd na ble y cofnodwyd y cyswllt.
4. Ni fydd perchnogion/rheolwyr yr adeilad yn cael gwybod fod Covid-19 wedi ei ddarganfod yno trwy’r ap – fe fydd angen aros i’r gwasanaeth Profi Olrhain Gwrachod neu wasanaethau iechyd cyhoeddus gysylltu â chi.
5. Yn Lloegr, mae yn ofyniad cyfreithiol i rai mathau o adeiladau arddangos côd QR, a mae hynny yn cynnwys rhai addoldai. Nid oes gofyniad cyfreithiol tebyg yng Nghymru.

Unigolion sy’n bryderus am fynychu

Nid oes unrhyw reidrwydd ar neb i fynychu addoldy am unrhyw bwrpas, a dylid sicrhau gofal bugeiliol priodol o unrhyw sy’n bryderus am hynny.

  1. Fe all y bydd o gymorth i rai defnyddio’r adnodd asesu risg ar gyfer unigolion a luniwyd gan Lywodraeth Cymru. Er iddo gael ei lunio’n bennaf ar gyfer gweithleoedd, mae’n gymwys ar gyfer pawb hyd at 79 mlwydd oed ac yn rhoi amcan o lefel risg yr unigolyn o ran Covid-19. Mae’r Eglwys Ddiwygiedig Unedig wedi llunio offeryn tebyg ar gyfer aelodau cynulleidfaoedd (Saesneg yn unig), yn cynnwys y rhai sydd dros 80. Mae’n defnyddio metric ychydig yn wahanol.
  2. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi adnoddau hawdd eu darllen ar gyfer y cyhoedd yn cynnig arweiniad cyffredinol am gadw’n ddiogel.
  3. Mae Llywodraeth Cymru wedi creu bathodynnau priodol i bobl eu gwisgo er mwyn atgoffa eraill i gadw eu pellter.

Bedydd trochiad

Gwnaeth Llywodraeth Cymru ddiweddaru ei chyngor am fedydd trochiad ar Awst 18. Dyma’r cyngor diweddaraf:

Os yn bosib dylid osgoi bedydd lle caiff yr unigolyn ei drochi’n llawn. Dylid ddilyn yr un canllawiau a phyllau nofio os am ddefnyddio bedyddfan. Gellir dod o hyd i ganllawiau Llywodraeth Cymru ac mae UK Active a Chwaraeon Cymru wedi paratoi canllawiau hefyd. Dim ond un bedydd y dylid ei gynnal ym mhob sesiwn a dylid gwacáu a glanhau’r bedyddfan. Er mwyn cydymffurfio gyda canllawiau cadw pellter corfforol, dylid hunan-drochi (Mae hunan-drochi’n golygu dim ond yr unigolyn ddylai fod yn y bedyddfan neu’r pwll, ac na ddylai unrhyw un gyffwrdd ag ef/hi oni bai eu bod o’r un aelwyd). ni ddylai unrhyw un gael ei fedyddio gan berson arall heblaw aelod o’i aelwyd ei hun. Dylai pobl eraill sy’n bresennol symud oddi wrth y fedyddfan er mwyn osgoi cael eu sblasio. Gellid cynnal bedydd ‘hunan-drochi’ mewn man wedi ddynodi ar gyfer nofio megis traeth sy’n cael ei batrolio gan achubwr bywydau neu bwll nofio awyr agored.

Mae’r paragraff uchod yn rhan o ganllaw statudol Llywodraeth Cymru am addoldai – https://llyw.cymru/canllawiau-ar-ailagor-mannau-addoli-coronafeirws-html#section-44815. Mae’n rhaid i unrhyw un sy’n cynllunio gwasanaeth bedydd credinwyr yng Nghymru roi sylw i’r canllawiau hyn. Argymhellir cynnal asesiad risg penodol cyn mentro trefnu gwasanaeth o’r fath.

Mewn gweminar ar Hydref 8, cadarnhawyd gan Lywodraeth Cymru y gellir, mewn egwyddor, trefnu bedydd trochiad mewn pwll nofio lleol, o fwrw fod awdurdodau’r pwll yn caniatáu, ond rhaid gwneud hynny o fewn y canllawiau ar fedydd uchod.

Mae Undeb Bedyddwyr Prydain Fawr wedi cyhoeddi canllawiau am fedydd credinwyr dan yr amgylchiadau presennol – https://www.baptist.org.uk/Publisher/File.aspx?ID=257882 (tudalennau 8-9), ac fe all y bydd rhain o ddefnydd i rai eglwysi eraill. Noder mai awgrymiadau enwadol yn unig yw’r rhain, ac fe all na fydd rhai o’r awgrymiadau yn dderbyniol i rai traddodiadau Cristnogol.

Gweithgareddau ar gyfer plant a phobl ifainc

  1. Addoli: O ran y diffiniad o “addoli”, dywed y Llywodraeth wrthym nad ydynt am ddiffinio hynny yn gyfreithiol, a’u bod yn ymddiried ymhob cymuned ffydd i ddehongli’r ystyr mewn modd cyfrifol o fewn eu traddodiad eu hunain. Felly, fe ganiateir gweithgareddau plant a gynhelir fel rhan o ddarpariaeth addoli ar gyfer yr eglwys gyfan (hyd yn oed os oes elfen o chwarae a gweithgarwch arall ynghlwm). Fe ganiateir hefyd addoli ar gyfer, neu’n cynnwys, plant (megis Llan Llanast a’i debyg – er noder nad yw darparu pryd o fwyd yn bosibl ar hyn o bryd oni bai y gellir defnyddio caffi i’r diben hwnnw a chadw pellter cymdeithasol).
  2. Gweithgareddau eraill i blant a phobl ifainc: Mae’r Rheoliadau yn caniatau “gofal plant” a “gweithgareddau dan oruchwyliaeth i blant”. Dylai’r sawl sydd yn trefnu gweithgarwch o’r fath roi sylw i Ganllawiau priodol Llywodraeth Cymru:
    Gofal plant a chynlluniau chwarae wedi eu cofrestru gyda’r Awdurdod Lleol (gan gynnwys gofal plant sydd wedi ei eithrio rhag cofrestru, e.e. am ei fod yn para llai na dwy awr). Cyfrifoldeb darparwr y gofal plant fydd sicrhau cydsyniad yr Awdurdod Lleol i’r trefniadau os ydynt wedi eu rheoleiddio.
    Cynlluniau chwarae agored i blant (Er mai “cynlluniau chwarae” y cyfeirir atynt ym mhennawd y canllawiau, o’u darllen fe welir eu bod yn berthnasol i ystod eang o weithgarwch gyda phlant)
    Canllaw am waith ieuenctid
    Fe welir, o ddilyn y canllawiau am ofal plant, “cynlluniau chwarae agored” a gwaith ieuenctid yn fanwl, y gall y bydd angen gwneud tipyn o ail-drefnu ar gyfleusterau’r ganolfan, ac o bosibl cyfyngu ar ei defnydd gan bobl eraill, er mwyn ail-gychwyn gofal plant yn ddiogel. Mae’n arfer da i eglwysi wrth drefnu diweddaru eu polisi diogelu plant a’u hasesiad risg ar gyfer y sefyllfa bresennol.
    Nid oes angen i blant dan 11 oed wisgo gorchudd wyneb.

Cyfarfodydd llywodraethiant eglwysig

Nid oes bellach rheidrwydd cyfreithiol (y tu allan i’r ardaloedd hynny lle mae yna gyfyngiadau lleol ychwanegol – gweler brig y dudalen) i weithio neu wirfoddoli gartref oni bai fod hynny yn amhosibl, ond cyngor Llywodraeth Cymru yw i barhau i wneud hynny lle bo’n ymarferol. Serch hynny, mae cynnal cyfarfod llywodraethiant (ar gyfer Cyngor Plwyf, Diaconiaid, Blaenoriaid, ayb) o fewn addoldy neu ganolfan gymunedol bellach yn bosibl, ond bod yr holl reoliadau uchod yn cael eu dilyn a bod yr asesiad risg lleol yn caniatáu. Bydd angen i bawb sy’n cymryd rhan wisgo gorchudd wyneb. Lle bo rhai o aelodau’r cyfarfod yn oedrannus a/neu yn dioddef iechyd gwael a/neu yn drwm eu clyw, dylid cymryd hynny i ystyriaeth ddwys wrth lunio’r asesiad risg.

Clybiau colli pwysau

Gwyddom fod llawer o addoldai a chanolfannau cymunedol yn derbyn ceisiadau gan glybiau colli pwysau i ail-gychwyn eu gweithgarwch. Mae rhai o’r ceisiadau hyn yn cyfeirio at reoliadau yn Lloegr neu at wybodaeth arall sy’n wallus, ond mae o leiaf un awdurdod lleol yng Nghymru wedi dweud ei bod yn dderbyniol iddynt ail-gychwyn. Ond nid awdurdodau lleol sy’n penderfynu beth all ddigwydd mewn addoldy. Yn y pen draw, mater i ymddiriedolwyr a rheolwyr pob addoldy neu ganolfan yw pa fudiadau y gellir eu croesawu i’r adeilad ac o dan ba delerau – yr unig eithriad yw os yw awdurdod lleol neu Lywodraeth Cymru yn gorchymyn defnyddio adeilad at wasanaeth cyhoeddus. Nid yw clwb colli pwysau yn wasanaeth cyhoeddus yn yr ystyr honno.

Dealltwriaeth Cytûn, a gadarnhawyd gan Lywodraeth Cymru, yw nad yw clybiau colli pwysau ymhlith y gweithgareddau y gellir ar hyn o bryd cyfarfod dan do i’w cynnal. Os penderfynir yn lleol i ganiatáu defnydd o’r fath, rydym yn argymell yn gryf gwneud y penderfyniad hwnnw mewn cyfarfod llywodraethiant ffurfiol, cofnodi’r penderfyniad a’r rhesymu y tu ôl iddo, a sicrhau asesiad risg llawn cyn ail-gychwyn. Mae Llywodraeth Cymru wedi addo darparu arweiniad cyfreithiol eglur am y mater hwn cyn bo hir.

Addoli mewn adeiladau nad ydynt yn perthyn i’r gymuned ffydd

Y sawl sy’n gyfrifol am yr adeilad sy’n gyfrifol am sicrhau cydymffurfiant â’r rheoliadau ac am drefnu asesu’r risg. Dylid, felly, trafod gyda’r awdurdod priodol am sut a phryd y gellid ail-gychwyn addoli.

Gorfodi’r rheolau

Mae’r Rheoliadau yn cynnwys pwerau gorfodaeth i awdurdodau lleol, Gweinidogion Cymru ac – yn y pen draw – yr heddlu. O Fedi 14, fe roddwyd pwerau ychwanegol i awdurdodau lleol reoli safleoedd, digwyddiadau a mannau cyhoeddus yn eu hardal er mwyn rheoli lledaeniad y coronafeirws. Gellir gweld y rheoliadau ychwanegol hyn yma.

Gethin Rhys
Diweddarwyd 09.10.2020