Mewn ymateb i sbarduno Erthygl 50, mae Gweithgor sy’n cynrychioli eglwysi ac enwadau Cristnogol sy’n aelodau Cytûn wedi cyhoeddi rhestr o egwyddorion y credir ddylai fod yn sylfaen i safiad y DG yn ystod y trafodaethau sydd ar gychwyn. Cynhwysant amddiffyn statws a hawliau plant ac ieuenctid, yr anabl a’r oedrannus. Dywedant fod rhaid parchu hawliau dynol parthed yr iaith Gymraeg a lleiafrifoedd ethnig, yn ogystal â chyfreithiau sy’n gwarchod yr amgylchedd a chefn gwlad, gan gynnwys bywoliaeth y rhai sy’n gweithio mewn diwydiannau gwledig.

Mae’r adroddiad – a gyhoeddwyd gan Cytûn (Eglwysi Ynghyd yng Nghymru) ar ran y prif enwadau Cristnogol – yn ychwanegu bod angen i’r rhaniadau dyfnion a amlygodd eu hunain yn ystod y refferendwm ar yr Undeb Ewropeaidd (UE) gael eu cydnabod a’u hiachau.

“Wrth i adael yr UE ddod yn realiti yn awr, rhaid i ni fod yn gefn i bobl y mae eu bywydau wedi newid mewn ffyrdd na fyddent fyth yn eu dymuno,” meddai Dr Patrick Coyle, Cadeirydd Cytûn, ar ran y gweithgor a ffurfiwyd i baratoi ymateb Cristnogol Cymreig i Brexit. “Rhaid deall yr anniddigrwydd sydd wedi ei ddatguddio mewn cymunedau sydd heb elwa o’r globaleiddio a ddigwyddodd a chymryd camau i geisio meithrin datblygiad yr ardaloedd hynny. Rhaid wynebu’r hiliaeth a’r senoffobia cudd a ddatgelwyd gan ymgyrch y refferendwm. Bydd rhaid i’r Eglwysi fod yno gyda’r sawl sydd angen eu cysuro a’u calonogi ac, yn bennaf oll, i feithrin heddwch a chymod.”

Eisoes rhoddodd y Gweithgor, a ffurfiwyd yn yr haf llynedd ar gais Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, dystiolaeth ar y mater hwn i bedwar Pwyllgor Dethol yn y Cynulliad a San Steffan: “Wrth i ni fentro i ddyfroedd dieithr, yn wleidyddol, yn ddiwylliannol ac yn economaidd, mae’n hanfodol ein bod ni fel Cristnogion yn cyfrannu mewn modd adeiladol a chadarn at y ddadl a’r broses ddemocrataidd,” meddai’r Dr Geraint Tudur, Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb yr Annibynwyr Cymraeg.

Ychwanegodd y Barchedig Carol Wardman o’r Eglwys yng Nghymru fod llawer wedi cael sioc pan ddaeth canlyniad y bleidlais yng Nghymru i adael yr UE, gan fod Cymru wedi bod yn wlad sy’n edrych tuag allan a chanddi gwlwm tynn â nifer o rannau eraill y byd. “Tra’i bod yn bwysig nad yw Cymru’n dioddef anfantais o ganlyniad i adael yr UE a’n bod yn cadw cyfeillgarwch a chymdeithas gyda’r cymdogion Ewropeaidd, mae hefyd yn bwysig i gydnabod yr anghyfartaledd a’r dadrithiad a barodd i bobl, yn arbennig yn rhannau tlotaf Cymru, i bleidleisio dros Brexit. Nid yw cymdeithas Eglwys Crist yn cydnabod unrhyw ffiniau a gelwir Cristnogion i weithio dros gymod – felly, mae’r eglwysi mewn sefyllfa ddelfrydol i adlewyrchu ar ein sefyllfa gyfredol ac i ystyried sut mae symud ymlaen gyda’n gilydd mewn cariad.”

Dywedodd y Parchg. Denzil John, o Undeb Bedyddwyr Cymru, fod y Gweithgor wedi bod yn fodd i’r enwadau gwahanol ddarganfod llais cyffredin wrth iddynt ymateb i’r newidiadau a ddaw i Gymru yn dilyn Brexit. “Mae hwn yn gyfle i ni fynd i’r afael â rhai o’r materion sylfaenol sydd yn ein herio fel cenedl, a’u deall mewn cyd-destun Ewropeaidd a byd-eang.”

“Mewn cyfnod o ansicrwydd, mae gan yr eglwys rôl bwysig i’w chwarae o gynnig sefydlogrwydd. Wrth i gynifer o raniadau ymddangos a dyfnhau yn ein cymdeithas, gyda’r ymdeimlad o ymddieithrio oddi wrth eraill yn dod yn amlwg, mae gan gymunedau ffydd gyfrifoldeb i wasanaethu a chymodi” meddai’r Athro Noel Lloyd o Eglwys Bresbyteraidd Cymru.

Blwyddyn wedi’r refferendwm, a chyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyflwyno Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) i’r Senedd, mae Cytûn wedi cyhoeddi adroddiad manwl o ymateb arweinyddiaeth eglwysi Cymru i ymadael â’r Undeb Ewropeaidd. Gellir darllen yr adroddiad hwnnw trwy glicio ar y ddolen “[PDF] Flwyddyn yn ddiweddarach” ar y chwith.

Gellir dilyn holl waith Gweithgor Cytûn am Gymru ac Ewrop drwy’r dudalen hon, neu drwy gysylltu â’r Parch. Gethin Rhys – gethin@cytun.cymru. Ffôn: 029 2046 4378.

Dogfennau