Datganiad Wythnos y Pasg gan Arweinyddion Eglwysi Prydain ac Iwerddon

Mae byd Duw yng nghanol argyfwng na welwyd ei fath o’r blaen. Yng ngwledydd yr Ynysoedd hyn mae firws Covid-19 yn parhau i effeithio ar bobl ar raddfa frawychus. Mae’r gwasanaethau iechyd, ynghyd â llawer o’n sefydliadau a mudiadau, yn lleol ac yn genedlaethol, dan bwysau enbyd, ac mae pobl yn gorfod dygymod â byw mewn ffordd wahanol iawn, llawer ohonynt mewn unigrwydd eithafol. Fel yn achos pob argyfwng o’r fath, mae yna berygl mai’r rhai mwyaf bregus yn y gymdeithas fydd yn dioddef fwyaf.

Mae Cristnogion ledled y byd ar drothwy cyfnod pwysig yn y flwyddyn eglwysig, pryd byddwn yn cofio marwolaeth ac atgyfodiad Iesu Grist. Mae dyfnderoedd anobaith ac uchelfannau llawenydd ill dau yn ganolog i’n ffydd gyffredin. Yn y Beibl ac yng nghaneuon a litwrgïau’r Eglwys, fe welwn Iesu’n profi’n gyflawn ddioddefaint dynol. Yn ei Atgyfodiad, trawsffurfiwyd y dioddefaint hwnnw drwy ei waith achubol yn obaith a llawenydd. Ar ôl marw Iesu, roedd y disgyblion yn ofnus ac ymddangosai fod popeth ar ben mewn anobaith, ond daeth y Crist atgyfodedig atynt yn eu trallod ac ailgynnau gobaith drwy ei fuddugoliaeth dros angau. Gweddïwn y disodlir anobaith y byd heddiw gan yr un gobaith hwnnw.

Yn Llyfr Daniel, fe ddarllenwn am gaethgludo pobl Dduw i Fabilon. Ni allai Daniel weddïo yn y Deml yn Jerwsalem, ond parhaodd i weddïo yn ei alltudiaeth – gan agor ei ffenestr tuag at Jerwsalem. Er ei fod ar ei ben ei hun, roedd yn ymuno â gweddïau’r bobl ble bynnag yr oeddent. Heddiw, rydym ninnau hefyd wedi’n gwahanu oddi wrth ein gilydd yn gorfforol, ond pan fyddwn yn gweddïo yn ein cartrefi, rydym yn rhan o’r hen draddodiad hwn o weld ein cartref fel tŷ gweddi. Ble bynnag yr ydym, pryd bynnag y gweddïwn, pan lefarwn am Grist a meddwl amdano, yno mae yntau yn ein canol. Unwn ein gweddïau â gweddïau pawb sy’n gweddïo yn ein heglwysi ni ein hunain ac mewn cymunedau ledled y byd.

Fel Arweinwyr Eglwysig o’r holl amrywiaeth o eglwysi yn yr Ynysoedd hyn, galwn ar bawb i ymuno â ni yn ystod yr Wythnos Fawr a thros y Pasg eleni: i weddïo dros y rhai sy’n dioddef, dros y rhai sy’n wynebu marwolaeth annhymig a thros bawb sy’n gofalu amdanynt; i gyd-ddathlu ein ffydd gyffredin ar adeg anodd; i gynorthwyo ein cymdogion sydd mewn angen ac i fod yn gefn iddynt; ac i gadw at yr holl fesurau diogelwch a sefydlwyd i lesteirio lledaeniad y clwyf.

Ein Gweddi

Dduw cariadus, yn Iesu Grist, a fu farw ac a atgyfododd er ein hiachawdwriaeth, diddyma dywyllwch ein pryder, ein ofn a’n galar, cofleidia ni â’th gariad a rho i ni lawenydd a gobaith y Pasg hwn. Amen.

Archbishop Justin Welby Archbishop of CanterburyCardinal Vincent Nichols Archbishop of Westminster  
Very Rev Dr William Henry Moderator General Assembly Presbyterian Church of Ireland  Rt. Revd Colin Sinclair Moderator General Assembly Church of Scotland  
Archbishop Eamon Martin Archbishop of Armagh  Commissioner Anthony Cotterill The Salvation Army  
Revd Nigel Uden Moderator of General Assembly United Reformed Church  Archbishop-elect John McDowell Archbishop of Armagh  
Bishop Hugh Gilbert Bishop of Aberdeen  Revd Dr Barbara Glasson President Methodist Church of Great Britain  
His Eminence Archbishop Nikitas Archbishop of Thyateira and Great Britain  Revd Lynn Green General Secretary Baptist Union of Great Britain  
Bishop Mark Strange Primus, Scottish Episcopal Church  Archbishop John Davies Archbishop of Wales  
His Eminence Archbishop Angaelos Coptic Archbishop of London  Pastor Agu Irukwu Redeemed Christian Church of God  
Mr Rheinallt Thomas President Free Church Council Wales  Revd Hugh Osgood Moderator Free Church Federal Council  
Revd Brian Anderson President Irish Council of Churches   Gavin Calver CEO Evangelical AllianceRevd Sam McGuffin President Methodist Church in Ireland   Paul Parker Religious Society of Friends