Beth yw’r cyd-destun?

Mae pandemig Covid-19 a’r cyfyngiadau iechyd cyhoeddus angenrheidiol wedi golygu heriau i’r economi, diweithdra cynyddol a system gofal cymdeithasol ac iechyd dan bwysau. Mae’r pandemig wedi amlygu a gwaethygu anghydraddoldebau ar draws ein cymdeithas[1]. Mae wedi dangos yn eglur ein dibyniaeth ar seilwaith cymdeithasol a’i allu i ymdopi â’r galw. Mae hyn i gyd wedi digwydd yng nghysgod argyfyngau’r hinsawdd a bioamrywiaeth.

Wrth i ni edrych i’r dyfodol, sut gallai’r etholiadau hyn chwarae rhan yn y gwaith o sefydlu adferiad cyfiawn a gwyrdd o Covid-19?

Beth yw’r weledigaeth?

Wrth i ni adeiladu’n ôl o’r pandemig, gallwn flaenoriaethu penderfyniadau sy’n galluogi i bobl a’r blaned ffynnu. Mae hyn yn golygu cydbwyso’r angen am seilwaith cymdeithasol cryf, gwaith diogel gydag adnoddau priodol a system les ddiogel gyda pholisïau sy’n ein helpu i gyrraedd allyriadau carbon sero-net erbyn 2050. Un o weithredoedd olaf y Senedd sy’n ymadael oedd pasio deddfwriaeth sy’n dynodi allyriadau sero-net yng Nghymru erbyn 2050, gyda rhwymedigaeth gyfreithiol i sicrhau gostyngiad o 63% o leiaf (o’i gymharu â 1990) erbyn 2030 ac o leiaf 89% erbyn 2040.

Mae’r etholiadau hyn yn cynnig cyfleoedd i ymgeiswyr egluro sut y byddant yn deddfu ar bolisïau, a’u hyrwyddo, i’n galluogi i symud ymlaen yn unol â’r ymrwymiad hwn.

Meysydd allweddol i chwilio amdanynt

  • Iechyd a gofal cymdeithasol: cynllun sy’n galluogi ariannu’r GIG a systemau gofal cymdeithasol yn briodol (gweler ein briff  etholiadol ar ofal cymdeithasol yng Nghymru).
  • Gwasanaethau cyhoeddus: gwasanaethau cyhoeddus wedi eu hariannu’n ddibynadwy, gan gynnwys y rhai sy’n cael eu darparu’n gyfan gwbl neu’n rhannol gan yr eglwysi a sefydliadau trydydd sector eraill.
  • Trafnidiaeth: systemau trafnidiaeth gyhoeddus datblygedig iawn sy’n annog teithio diogel a glân.
  • Swyddi: swyddi newydd sy’n cefnogi datgarboneiddio ac addasu i’r hinsawdd sy’n newid, megis teithio cynaliadwy, gwres ac ynni adnewyddadwy, ac effeithlonrwydd ynni mewn cartrefi, gweithleoedd ac adeiladau cyhoeddus – gan gynnwys adeiladau eglwysig.
    Gwaith cyflog byw achrededig sy’n sicrhau bod gan bawb ddigon i fyw arno.
  • Cyllid adfer hinsawdd-bositif: sicrhau bod cyllid i fusnesau wrth wella o’r pandemig yn cymryd i ystyriaeth yr effaith ar yr hinsawdd ac yn blaenoriaethu datblygiadau sy’n annog sero-net[2]. Gallai hyn adeiladu ar y Contract Economaidd presennol rhwng Llywodraeth Cymru a busnesau sy’n derbyn cyllid gan y llywodraeth.
  • Tai: Y math iawn o dai fforddiadwy ym mhob cymuned ledled y wlad sy’n golygu bod gan bawb le diogel i’w alw’n gartref.
  • Llywodraeth leol: Awdurdodau  lleol sydd â’r math cywir o adnoddau a chyfrifoldeb i wneud penderfyniadau sydd o fudd i’r gymuned leol ac sy’n symud tuag at allyriadau carbon sero-net.
  • Gwledig a threfol: Rhaid i bolisïau alluogi pawb mewn cymunedau gwledig a threfol ledled Cymru i fod yn rhan o newid. Rhaid i lunwyr polisi adnabod y gwahaniaethau bach mewn  polisïau a fydd yn annog datblygiadau yn y cyd-destunau gwahanol hyn.
  • Pawb gyda’i gilydd: Polisïau sy’n sicrhau nad yw’r tlotaf a’r rhai mwyaf ymylol yn ein cymunedau yn cael eu gadael ar ôl wrth i ni geisio gwella. Mae hyn yn golygu cymorth lles wedi’i ariannu’n briodol, gan gynnwys materion datganoledig fel tai a gofal cymdeithasol.

Cwestiynau i’w gofyn

  1. Ydych chi’n cefnogi’r dyheadau yn Llwybr Newydd  (strategaeth drafnidiaeth bresennol Llywodraeth Cymru) i symud tuag at deithio llesol  a thrafnidiaeth gynaliadwy? Sut ydych chi’n meddwl y gall hyn ddigwydd tra hefyd yn diogelu, er enghraifft, yr opsiynau ar gyfer pobl anabl?
  2. Sut byddwch chi’n sicrhau bod y GIG a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn gwella o’r pandemig fel bod y rhai mwyaf agored i niwed yn cael eu hamddiffyn a bod yr ôl-groniad gwaith  yn cael ei wneud yn deg?
  3. Ydych chi’n credu y dylai cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer busnesau gynnwys ‘Contract Economaidd’ sy’n gosod amodau sy’n gysylltiedig ag arferion cyflogaeth a datgarboneiddio? Os felly, beth ddylai’r amodau hynny fod?
  4. A ddylai polisi ynglŷn â thai cymdeithasol yng Nghymru flaenoriaethu cynyddu nifer y cartrefi sydd ar gael, neu sicrhau bod tai newydd yn garbon isel? Ydy hi’n bosibl gwneud y ddau? Os felly, sut?

Cysylltu

Fe hoffem wybod sut yr oedd y canllawiau hyn yn ddefnyddiol a beth y dylid ei ychwanegu neu ei newid ar gyfer cyhoeddiadau yn y dyfodol.

Os oes gennych gwestiynau, awgrymiadau neu sylwadau, ysgrifennwch at:

Gethin Rhys gethin@cytun.cymru  

Diweddarwyd yr erthygl ym mis Mawrth 2021 gan Gethin Rhys


[1] Gweler er enghraifft adroddiad y Gell Ymgynghorol Technegol ar Covid-19 ac anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru – https://llyw.cymru/sites/default/files/publications/2020-10/y-gell-cyngor-technegol-coronafeirws-covid-19-ac-anghydraddoldebau-iechyd.pdf

[2] Gweler, er enghraifft, y cynigion hyn gan TUC Cymru – https://www.tuc.org.uk/sites/default/files/2020-08/Wales%20TUC%20-%20Transition%20Economics%20-%20Job%20Creation%20Just%20Recovery.pdf