Eglwys a Chymdeithas

Eglwys a Chymdeithas

Ers dyfodiad y Cynulliad Cenedlaethol ym Mai 1999 fe gynhyrchodd Cytûn lu o bapurau ar ddatganoli. Ym Mehefin 2020, cyhoeddwyd papur gwyntyllu gan Cytûn ar y cyd â Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru yn archwilio agweddau

Bwletin Polisi Rhagfyr 2020

Bwletin Polisi Rhagfyr 2020

PANDEMIC YN CYNYDDU’R GOFYN AR FANCIAU BWYD Mae ffigurau newydd gyhoeddwyd fis Tachwedd  yn datgelu fod banciau bwyd yn rhwydwaith Trussell Trust ar draws Cymru wedi darparu 70,393 o barseli bwyd i bobl yn wynebu argyfwng rhwng Ebrill a Medi

Cyngor Rhyng-ffydd Cymru yn annog gofal ynghylch addoli

Cyngor Rhyng-ffydd Cymru yn annog gofal ynghylch addoli

Mae arweinwyr cymunedau ffydd  Cymru yn annog addolwyr i ystyried yn arbennig o ofalus y modd y maent yn ymgynnull ar gyfer gwasanaethau dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd. Er y gall addoldai agor ar gyfer gwasanaethau yn Lefel

Bwletin Polisi Rhagfyr 2020

Bwletin Polisi Rhagfyr 2020

PANDEMIC YN CYNYDDU’R GOFYN AR FANCIAU BWYD Mae ffigurau newydd gyhoeddwyd fis Tachwedd  yn datgelu fod banciau bwyd yn rhwydwaith Trussell Trust ar draws Cymru wedi darparu 70,393 o barseli bwyd i bobl yn wynebu argyfwng rhwng Ebrill a Medi

Read more
Papur briffio am Fil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2020 a Chwricwlwm i Gymru 2022

Papur briffio am Fil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2020 a Chwricwlwm i Gymru 2022

Ar 6 Gorffennaf 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Fil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru). Cyhoeddwyd hefyd nifer o ddogfennau cefndirol. Nod y Bil yw gosod sail statudol i Gwricwlwm i Gymru a gyhoeddwyd yn Ionawr 2020 ar gyfer ysgolion i’w gyflwyno o

Read more
Llythyr i’r Fforwm Cymunedau Ffydd

Llythyr i’r Fforwm Cymunedau Ffydd

Read more

Trydar

Facebook

Cytun: Eglwysi Ynghyd yng Nghymru / Churches Together in Wales
Cytun: Eglwysi Ynghyd yng Nghymru / Churches Together in Wales
Dydd Gwener
Diwrnod 5
Gadael i’r gair ein trawsnewid
“Yr ydych chwi eisoes yn lân trwy’r gair…”
(Ioan 15:3)
• Deuteronomium 30:11-20 Y mae Gair Duw yn agos iawn atat
• Mathew 5:1-12 Gwyn eich byd

Myfyrdod
Mae Gair Duw yn agos iawn atom. Mae’n fendith ac mae’n addo dedwyddwch. Os agorwn ein calonnau, bydd Duw yn siarad â ni ac yn trawsnewid yn amyneddgar yr hyn ynom sy’n marw. Mae’n symud ymaith yr hyn sy’n rhwystro twf bywyd gwirioneddol, yn union fel y bydd y gwinllannwr yn tocio’r winwydden.
Mae myfyrio’n rheolaidd ar destun o’r Beibl, yn unigol neu mewn grŵp, yn newid y ffordd yr edrychwn ar bethau. Bydd llawer o Gristnogion yn gweddïo drwy’r Gwynfydau bob dydd. Mae’r Gwynfydau’n datgelu dedwyddwch sydd ynghudd yn yr hyn sydd heb ei gyflawni, dedwyddwch sydd yr ochr draw i ddioddefaint: gwyn eu byd y rhai, dan gyffyrddiad yr Ysbryd, nad ydynt bellach yn atal eu dagrau ond yn gadael iddynt lifo ac felly’n cael eu cysuro. Wrth iddynt ddarganfod tarddle’r ffynnon sydd ynghudd o’u mewn, mae’r newyn am gyfiawnder a’r syched am estyn allan at eraill i geisio heddwch i’r byd yn tyfu ynddynt.
Fe’n gelwir yn barhaus i adnewyddu’n hymrwymiad i fywyd, drwy ein meddyliau a’n gweithredoedd. Mae yna adegau pan ydym yn blasu’n barod, yma, heddiw, y fendith a brofwn yn gyflawn ar ddiwedd amser.
“Gweddïwch a gweithiwch tuag at deyrnasiad Duw.
Drwy gydol eich dydd
gadewch i Air Duw anadlu bywyd i mewn i’ch gwaith a’ch gorffwys.
Ym mhopeth, byddwch yn dawel ynoch eich hunain
fel y byddwch yn preswylio yng Nghrist.
Llanwer chwi ag ysbryd y Gwynfydau:
llawenydd, symlrwydd, trugaredd.”
[Bydd Chwiorydd Cymuned Grandchamp yn adrodd y geiriau hyn yn feunyddiol.]

Gweddi
Bendigedig wyt ti, Dduw ein Tad,
am rodd dy Air yn yr Ysgrythur Sanctaidd.
Bendigedig wyt ti am ei rym trawsffurfiol.
Cynorthwya ni i ddewis bywyd a thywys ni drwy dy Ysbryd,
fel y gallwn brofi’r dedwyddwch rwyt tithau mor awyddus i’w rannu â ni.

Cwestiynau
• Beth mae “gadael i Dduw deyrnasu” yn eich bywyd yn ei olygu i chi? A oes unrhyw beth y gallech ei newid neu ei addasu?
• Pe byddai i’ch eglwys(i) fyw y Gwynfydau bob dydd pa wahaniaeth fyddai hynny’n ei wneud i’r cymunedau mae’r eglwys(i) yn eu gwasanaethu?
Beth mae’n ei olygu yn ein byd heddiw i fod dan fendith Duw?
Ewch a gwnewch
(gweler www.ctbi.org.uk/goanddo)
Byd-eang: Dysgwch ragor am y fenter Cyfiawn Air a threfnwch sesiwn a fydd yn cysylltu’r eglwysi yn eich ardal â chymuned rywle arall yn y byd.
Lleol: Pa un weithred gariadus a allai’r eglwysi yn eich ardal ei chyflawni gyda’i gilydd er mwyn bod yn fendith unol o fewn eich cymuned ehangach? could the churches in your area take together to be a unified blessing in your wider community?
Personol: Darllenwch drwy’r Gwynfydau (Mathew 5: 3-11) yn araf. Pa un o’r gweithredoedd a ddisgrifir yn y darn hwn o’r Ysgrythur y teimlwch y dylech chithau ei chyflawni heddiw?
Cytun: Eglwysi Ynghyd yng Nghymru / Churches Together in Wales
Cytun: Eglwysi Ynghyd yng Nghymru / Churches Together in Wales
Dydd Iau
Diwrnod 4
Gweddïo gyda’n gilydd
“Nid wyf mwyach yn eich galw yn weision… Yr wyf wedi eich galw yn gyfeillion”
(Ioan 15:15)
• Rhufeiniaid 8:26-27 Y mae’r Ysbryd yn ein cynorthwyo yn ein gwendid
• Luc 11:1-4 Arglwydd, dysg i ni weddïo

Myfyrdod
Mae Duw’n sychedu am berthynas â ni. Mae’n chwilio amdanom fel y bu’n chwilio am Adda, gan alw arno yn yr ardd: “Ble’r wyt ti?”
(Genesis 3:9).
Yng Nghrist, daeth Duw i gyfarfod â ni. Roedd Iesu’n byw mewn gweddi, mewn undod clòs â’i Dad, tra roedd hefyd yn meithrin cyfeillgarwch â’i ddisgyblion ac â phawb y byddai’n eu cyfarfod. Fe’u cyflwynodd i’r hyn oedd fwyaf gwerthfawr iddo: y berthynas gariadus â’i Dad, sydd yn Dad i ninnau hefyd. Canai Iesu a’r disgyblion salmau gyda’i gilydd, o’u gwreiddiau yng nghyfoeth y traddodiad Iddewig. Adegau eraill, ymneilltuai Iesu i weddïo ar ei ben ei hun.
Gallwn weddïo ar ein pen ein hunain neu ar y cyd ag eraill. Gall gweddi fynegi rhyfeddod, anniddigrwydd, yr angen am rywbeth neu ddiolchgarwch – neu gall fod yn dawelwch pur. Weithiau byddwn yn dymuno gweddïo, ond yn teimlo na allwn. Gall troi at Iesu a dweud wrtho “dysga fi” agor y drws. Mae ein dyhead ynddo’i hun eisoes yn weddi.
Gall dod at ein gilydd mewn grŵp fod o gymorth i ni. Trwy emynau, geiriau a thawelwch, crëir cymundeb. Os gweddïwn gyda Christnogion o draddodiadau eraill, efallai cawn ein synnu gan rwymyn y cyfeillgarwch sy’n ein huno, a hynny’n dod o’r Un sydd y tu hwnt i bob ymraniad. Gall y ffurfiau fod yn wahanol, ond yr un Ysbryd sy’n ein clymu ynghyd.
“Yn ein cyd-weddïo rheolaidd, mae cariad Iesu’n ymffrydio o’n mewn, ni wyddom sut. Nid yw gweddïo gyda’n gilydd yn golygu na ddylem weddïo ar ein pen ein hunain. Mae’r naill yn cynnal y llall. Neilltuwn amser bob dydd i adnewyddu’n perthynas bersonol â Iesu Grist.”
[The Rule of Taizé in French and English, Y Gymdeithas er Hyrwyddo Gwybodaeth Gristnogol,
Prydain Fawr t.19 a t.21]

Gweddi
Arglwydd Iesu,
gweddi oedd dy fywyd drwyddo draw,
cynghanedd berffaith â’r Tad.
Trwy’r Ysbryd, dysga ni i weddïo’n unol â’th ewyllys cariadus.
Bydded i ffyddloniaid yr holl fyd uno mewn ymbil a moliant,
a deled dy deyrnas mewn cariad.

Cwestiynau
• Bu Iesu fyw fel esiampl o’r hyn mae’n ei olygu i “fyw mewn gweddi”. Os gweddi yw sail ein perthynas â Duw, faint o amser a sylw allech chi eu rhoi i’ch bywyd gweddi personol chi?
• Beth ydych chi wedi ei ddysgu o weddïo gyda Christnogion eraill? Beth allai Duw fod am ei ddysgu i chi drwy arferion a thraddodiadau pobl eraill?
• Pa angen penodol yn eich cymuned y gallwch chi ymrwymo i weddïo drosto yn ystod y flwyddyn sydd i ddod?
Ewch a gwnewch
(gweler www.ctbi.org.uk/goanddo)
Byd-eang: Ymrwymwch i weddïo drwy Gylch Gweddi Eciwmenaidd Cyngor Eglwysi’r Byd eleni.
Lleol: Unwch ag eraill yn eich cymuned i gyd-weddïo’r wythnos hon mewn cyfarfod go iawn neu ar-lein drwy Zoom neu raglen debyg, neu drwy ymrwymo i weddïo ar wahân ond ar yr un adeg.
Personol: Ystyriwch sut mae eich arferion mewn gweddi’n dylanwadu ar eich gweithredu yn y byd.
Cytun: Eglwysi Ynghyd yng Nghymru / Churches Together in Wales
Cytun: Eglwysi Ynghyd yng Nghymru / Churches Together in Wales
Diolch i Jim Clarke am y myfyrdod hwn ar gyfer yr wythnos weddi...

Wythnos Weddi am Undeb Cristnogol 2021
Yr Eglwys – Corff Crist

Adnod:
Rhufeiniaid 12: 4
Yn union fel y mae gennym aelodau lawer mewn un corff, ond nad oes gan yr holl aelodau yr un gwaith, 5felly hefyd yr ydym ni, sy'n llawer, yn un corff yng Nghrist, ac yn aelodau bob un i'w gilydd.

Darlleniad: Rhufeiniaid 12: 1-8

Myfyrdod:
Pan oeddwn y y tresi fel gweinidog ‘roedd gen i barch mawr tuag at y rhai oedd yn ceisio cynnal yr arfer o drefnu cyfarfodydd Wythnos Weddi Tros Undeb Cristnogol. Ychydig cyn bod yr wythnos ar ein gwartaf am flwyddyn arall, byddai trefniadau lleol yn cael eu gwneudar gyfer cynnal pregeth neu gyfarfodydd gweddi. Mi fyddwn i yn gallu dweud rhag blaen bron pwy a fgyddai yno a phwy na fyddai yno, a phwy byddai’r ffyddloniaid dygn wnaethai ymdrech o ddod allan ar noson waith yng nghanol mis Ionawr. A mi fyddwn yn gofyn i myfi fy hun yn aml, “Os mai dyma’r unig arwydd o undeb yn lleol yn ystod blwyddyn calendr yr eglwys, i ba beth oedd hyn yn bod mewn gwirionedd?” Corff Crist – pob cynulleidfa a’i gorlan leol, a’r gorlan leol honno yn golygu gymaint i’r cynulleidfoedd rheiny rhywsut. Ond wedi’r Covid a‘r cyfnod brechu, sut bydd hi arnom ni? Tybed na allai ‘undeb’ olygu mwy na jest ymgyrch gan rai at uno? Tybed a fydd yna fwy o awydd ynom i gynorthwyo’n gilydd yn lleol i rannu’n tystiolaeth a’n gwasanaeth yn ein cymunedau lleol, fel bod y lleol yn cael gweld ein bod yn un. ‘Yr ydym ni sy’n llawer, yn un corff yng Nghrist, ac yn aelodau bob un i’w gilydd.’ Un Corff, un pwrpas, un bwriad, un cenhadaeth.

Un corff – un greadigaeth anhygoel! Un eglwys – un teulu mwy anhygoel fyth!

Mi fyddai’n meddwl weithiau nad ydym yn diolch ddigon i Dduw am ei greadigaeth anhygoel ac fel y mae ei eglwys wedi esblygu a datblygu dros y blynyddoedd a’r canrifoedd, er bod llawer o’r amrywiaeth wedi tyfu allan i ddawn dyn i ddehongli yr ysgrythurau, a threfn pethau duwiol yn ol ei grebwyll terfynus (‘finite’) ei hun. Ymdangosodd yr eglwys fel weithian megis sefydliad yn cyflawni pethau anodd wrth geisio cydweithio, tra tro arall yn cyd-symud gyda gras a phrydferthwch. Ceisiodd rhai dal gafael ar awenau’r gorffennol rhag iddi grwydro’n rhy bell oddi wrth y seiliau, tra roedd eraill yn gosod mwy a mwy o bwyslais ar gydio law yn llaw a cheisio cyd-gordio a chyd-bererindota i’r dyfodol. A thrwy hyn i gyd – yr ydym yn un corff, yn un teulu, ac yn cynnal yr un ffydd yn Nuw: Corff Crist!

Cofiwn mai:
· Un Corff y sydd – dyna’r dystiolaeth di-ymwad amdanom fel enwadau gwahanol yma yng Nghymru

· Un Ysbryd y sydd – rydym yn edrych heibio gallu’r Ysbryd i’n huno drwy adael i’n trefniadau a’n trefnidaeth gael ei ddylwanwadu’n oromodol gan ddiwylliant crefydd a rhagfarnau crefyddol lleol.

· Un gobaith y sydd – y gobaith hwnnw sy’n troi’n golygon tua’r dyfodol. Y mae’r ffaith i Grist atgyfodi o feirw yn fyw yn rhoi gobaith i’r eglwys y gellir ei hadfywio i fod yn bresenoldeb creadigol a thrugarog yn ei chymuned. Fe rydd hefyd obaith bywiol i’r credinwyr y cant hwythau hefyd eu codi i fod gyda Duw’n dragwyddol.

· Un Arglwydd y sydd – Iesu Grist yw’n Harglwydd a’n Gwaredwr. Credwn ynddo ac ufuddhawn iddo. A phan fyddwn yn anghofio amdano neu ymddwyn yn anufudd iddo, gallwn wastad troi yn ol ato mewn ffydd ac edifeiriwch oherwydd mai ef sydd Dduw, sydd Arglwydd, a pen y corf yr ydym yn rhan ohonni.

· Un Ffydd y sydd – er mor werthfawr yw’r ffydd Gristnogol, y mae’n llawer mwy na meddu ar rhyw farn am Grist, neu credo rhyw ideolegau neu gredoau cywir am Grist a Christionogaeth. Mae’n ffydd yn Iesu Grist deillio o ymrwymiad personol, nid hunanol, ar sail y pethau yr ydym cyd-gredu sy’n sail i’n perthynas fel aelodau o deulu Duw.

· Un Bedydd y sydd – er fod eglwysi gwahanol yn arfer sawl ffordd o weinyddu sacrament bedydd, seilir y sacrament ar gyffes personol rhieni plant neu'r sawl a fedyddir yn oedolyn, yn yr Iesu hwn a fu farw, ac a gladdwyd, ac a atgyfodwyd o farw’n fyw. Y mae’n gyffes o ffydd ac yn addewid o fwriad i droi cefn ar ein pechodau a cherdded ymlaen gyda Duw. Y mae hefyd yn gyffes o’n cred y cawn ninnau rhyw ddydd ein cyfodi i fod gyda Christ.

Felly…
· Un Duw y sydd.
Iesu Grist yw Mab Duw , ein Gwaredwr, a chedwir Corff Crist ynghyd gan Dduw, ein Tad yr hwn sydd yn y nefoedd, Duw a thad yr holl genhedloedd. Mae’n fraint aruthrol cael perthyn i gorff Crist. Mae’n fwy o fraint cael perthyn i Grist ei hun a dibynnu arno bob dydd. Ac os ydym yn aelodau o’r corff hwn, yna yr ydym yn perthyn i’n gilydd, pa mor agos neu bell fo’r berthynas ar hyn o bryd.

Gweddiwn:
Clyma ni’n un o Dduw a chwlwm na ellir ei ddatod
yn un teulu ynot ti,
yn un cynulleidfa ar y ddaear
yn un côr i ganu dy glodydd
yn un corff i'th was’naethu mewn cariad.
Amen.
Cytun: Eglwysi Ynghyd yng Nghymru / Churches Together in Wales
Cytun: Eglwysi Ynghyd yng Nghymru / Churches Together in Wales
Dydd Mercher
Diwrnod 3
Ffurfio un corff
“Carwch eich gilydd fel y cerais i chwi”
(Ioan 15:12b)
• Colosiaid 3:12-17 Gwisgwch amdanoch dynerwch calon
• Ioan 13:1-15; 34-35 Carwch eich gilydd

Myfyrdod
Ar y noson cyn ei farw, penliniodd Iesu i olchi traed ei ddisgyblion. Gwyddai mor anodd oedd cyd-fyw ac mor bwysig oedd maddau a gwasanaethu eraill. “Os na chaf dy olchi di,” meddai wrth Bedr, “nid oes lle iti gyda mi.”
Derbyniodd Pedr Iesu wrth ei draed; cafodd ei olchi a’i gyffwrdd gan wyleidd-dra a thynerwch Crist. Yn ddiweddarach byddai’n dilyn esiampl Iesu ac yn gwasanaethu cymdeithas y ffyddloniaid yn yr Eglwys Fore.
Dymuna Iesu weld bywyd a chariad yn llifo drwom fel y gwna’r sug drwy’r winwydden, er mwyn i gymunedau Cristnogol ddod yn un corff. Ond heddiw, fel yn y gorffennol, nid yw’n hawdd cyd-fyw. Rydym yn aml yn gorfod wynebu ein cyfyngiadau ein hunain. Weithiau byddwn yn methu â charu’r rhai sy’n agos atom mewn cymuned, plwyf neu deulu. Ar adegau, bydd y berthynas rhyngom ag eraill yn dymchwel yn llwyr.
Yng Nghrist fe’n gwahoddir i wisgo amdanom dynerwch calon, gan ddechrau o’r newydd dro ar ôl tro. Mae sylweddoli bod Duw yn ein caru yn ein hysgogi i groesawu ein gilydd, gyda’n cryfderau a’n gwendidau. Dyna pryd bydd Crist yn ein plith.
“Heb feddu ar fawr ddim, a wyt ti’n greawdwr cymod yn y cymundeb cariadus hwnnw, sef Corff Crist, ei Eglwys? Wedi’n cydysgogi at ymlaen, llawenhawn! Nid wyt bellach yn unig, ym mhopeth rwyt yn cerdded ymlaen yng nghwmni dy frodyr a’th chwiorydd. Gyda hwy, fe’th elwir i fyw dameg cymuned.”
[The Sources of Taizé (2000) t.48-49]

Gweddi
Dduw ein Tad,
rwyt yn datgelu dy gariad drwy Grist
a thrwy ein brodyr a’n chwiorydd.
Agor ein calonnau fel y gallwn groesawu ein gilydd,
gyda’n gwahaniaethau, a byw mewn maddeuant.
Caniatâ i ni allu byw yn unedig mewn un corff,
fel y gwelwn mai dy rodd di yw pob unigolyn.
Bydded i ni oll gyda’n gilydd adlewyrchu’r Crist byw.

Cwestiynau
• Allwch chi feddwl am rywun yn eich bywyd y byddech yn gallu dweud ei fod/bod yn“gwisgo tynerwch calon”? A allwch chi gofio adeg pan fu i chi dderbyn trugaredd?
• Ym mha ffordd mae angen i’ch cymuned eglwysig fod yn fwy trugarog tuag at aelodau ac ymwelwyr?
• Beth fyddai bod yn fwy trugarog o fewn eich cymuned yn ei olygu i eglwysi eich ardal? Ble mae angen trugaredd fwyaf yn y byd heddiw?
Ewch a gwnewch
(gweler www.ctbi.org.uk/goanddo)
Byd-eang: Beth allech chi ei wneud mewn ymateb i gri’r byd am drugaredd?
Lleol: Ystyriwch gydweithio fel eglwysi a chyda’r gymuned ehangach i greu baner neu gwilt sy’n darlunio’n pethau sy’n eich cysylltu ac yn eich plethu ynghyd.
Personol: Ystyriwch y dillad sydd yn eich wardrob a’r bywydau a’r dwylo sydd wedi cyffwrdd â hwy. A wnaed y dillad hynny am gyflog teg a than amodau gwaith derbyniol?