Mae adroddiad diweddaraf Panel Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd, a gyhoeddwyd yn Hydref 2018[1], yn pwysleisio bod angen i allyriadau’r byd o nwyon tŷ gwydr a achosir gan bobl syrthio erbyn 2030 o ryw 45% o’r lefel yn 2010, er mwyn osgoi canlyniadau peryglus eithriadol fel arall. Ni ellir gohirio gweithredu; neges glir y gwyddonwyr yw fod y ddynolryw yn wynebu argyfwng.

Y consensws gwyddonol yw fod cost economaidd ymdrin â newid hinsawdd, o ran torri allyriadau ac o ran addasu i’r canlyniadau, yn cynyddu po hiraf yr ydym yn gadael gwneud hynny. Po gyntaf y dechreuwn newid, po debycaf yr ydym o gael economi llwyddiannus a llewyrchus. Mae anwybyddu newid hinsawdd yn gwthio costau na ellir eu rheoli ar ysgwyddau ein plant.

Mae’r cynnydd cyfredol yn syrthio’n fyr o’r argymhellion hyn.

  • Rhwng 1990 a 2015, syrthiodd allyriadau yng Nghymru o 19% – yn sylweddol brin o’r targed a osodwyd gan Lywodraeth Cymru sbel yn ôl o dorri allyriadau Cymru o 40% erbyn 2020. Mae’r ffigurau hyn yn eithrio allyriadau o ganlyniad i hedfan a llongau.
  • Mae Gweinidogion Cymru bellach wedi gosod targed statudol dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) i allyriadau nwyon tŷ gwydr Cymru syrthio o 45% erbyn 2030 o’u cymharu ag allyriadau Cymru ym 1990[2]. Mae hon yn darged sylweddol wannach na thoriad o 45% ar y lefel is o allyriadau yn 2010, sef argymhelliad Panel y Cenhedloedd Unedig.

Mae newid hinsawdd eisoes yn bwrw tlodion y byd, er enghraifft trwy lifogydd, sychder a newyn ychwanegol. Mae Cymorth Cristnogol, mudiad sy’n aelod o Cytûn, yn dweud mai mynd i’r afael â newid hinsawdd yw “yr her fwyaf sy’n ein hwynebu”[3].

Mae gan Gristnogion ddyletswydd i ofalu am y byd, gan eu bod yn credu mai Cread Duw ydyw. Ond mae mynd i’r afael â newid hinsawdd hefyd yn fater o warchod ein hunain. Mae llawer o boblogaeth Cymru yn agored i lifogydd (gan y môr neu gan afonydd), ac ni all yr un wlad eithrio ei hun o’r anhrefn ryngwladol a fyddai’n ganlyniad i newid peryglus yn yr hinsawdd[4].

Mae’r Undeb Ewropeaidd wedi chwarae rhan sylweddol o ran hybu gweithredu hyd yma, er enghraifft trwy ei gynllun masnachu carbon, trwy newid safonau cynnyrch yn y Farchnad Sengl i fynnu eu bod yn fwy effeithlon o ran ynni, a thrwy reoliadau amgylcheddol. Byddai angen i Gymru a’r DU y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd sefydlu eu dulliau eu hun i ymdrin â’r her.

Amaethyddiaeth a newid hinsawdd

Mae’r cwestiynau a godir gan newid hinsawdd ar gyfer ffermio yng Nghymru wedi denu llai o sylw na’r materion cyfredol ynghylch Brexit, ond maent yn gwestiynau sylfaenol.

Yn gyntaf, fe fydd angen i ffermio ymaddasu ar gyfer newid hinsawdd. Er enghraifft, o fewn y ddau ddegawd nesaf, rhagwelir y bydd sychdwr haf o’r math a welwyd yng Nghymru yn 2018 yn gyffredin. Yn ystod yr haf hwnnw, ni thyfodd y glaswellt am ryw ddeufis, gan osod heriau difrifol i ffermwyr anifeiliaid. Ond fe all y bydd cyfleoedd ar gyfer tyfu cnydau newydd, megis gwin.

Yn ail, mae amaethyddiaeth ar hyn o bryd yn cyfrannu rhywfaint dros 10% o allyriadau nwyon tŷ gwydr Cymru. Mae ffermio anifeiliaid yn cynhyrchu allyriadau uchel (e.e. trwy nwy’r gors [methane] wrth i anifeiliaid dreulio eu bwyd). Nid yw’n hawdd lleihau’r allyriadau hyn heb ostwng nifer yr anifeiliaid ar ffermydd Cymru a throi at ddulliau eraill o amaethu. Cynigiodd ymgynghoriad Llywodraeth Cymru Brexit a’n Tir[5] y dylai taliadau’r Llywodraeth i ffermwyr ar ôl ymadael â Pholisi Amaeth Cyffredin yr Undeb Ewropeaidd annog newid o’r fath.

Ymhlith y newidiadau eraill y gellid gofyn i ffermwyr eu gwneud er mwyn mynd i’r afael â newid hinsawdd mae plannu mwy o goed er mwyn amsugno carbon o’r amgylchedd. Bydd angen hefyd rheoli’r pridd mewn ffyrdd newydd i ymdrin â thywydd mwy eithafol ac adfer carbon yn y pridd.[6]

Cwestiynau i’r ymgeiswyr

  1. Os cewch eich hethol, a fyddwch yn pwyso am fwy o weithredu ar newid hinsawdd fel mater o argyfwng?
  2. A fyddwch yn blaenoriaethu torri allyriadau o o leiaf 45% o lefelau 2010 erbyn 2030, fel yr anogwyd gan adroddiad Panel Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd yn Hydref 2018?
  3. A ddylai’r Deyrnas Unedig a Chymru barhau I ddilyn safonau a thargedau newid hinsawdd yr Undeb Ewropeaidd ar ôl i ni adael yr Undeb? Os ydym yn sefydlu ein patrwm ein hunain, sut ddylai fod yn wahanol i eiddo’r Undeb Ewropeaidd?
  4. Ydych chi’n cytuno â newidiadau arfaethedig Llywodraeth Cymru i gefnogaeth amaethyddol wedi Brexit er mwyn annog ffermwyr i gyfrannu at fynd i’r afael â newid hinsawdd? Ydych chi’n credu y dylid diwygio Polisi Amaeth Cyffredin yr UE mewn modd tebyg?

[1] https://www.ipcc.ch/2018/10/08/summary-for-policymakers-of-ipcc-special-report-on-global-warming-of-1-5c-approved-by-governments/ Y Panel yw corff y Cenhedloedd Unedig sy’n asesu’r wyddoniaeth ynghylch newid hinsawdd.

[2] Yn unol ag argymhelliad gan Bwyllgor Newid Hinsawdd y Deyrnas Unedig yn Rhagfyr 2017 – https://www.theccc.org.uk/wp-content/uploads/2017/12/CCC-Adeiladu-economi-carbon-isel-yng-Nghymru-Pennu-targedau-carbon-Cymru.pdf

[3] https://www.christianaid.org.uk/campaigns/climate-change-campaign

[4] Fe ddangosodd Llywodraeth Cymru rai o’r oblygiadau yn ei chynllun addasu draft ar gyfer newid hinsawdd yn 2018 – https://llyw.cymru/cynllun-ymaddasu-cymru-i-newid-yn-yr-hinsawdd Fe gyflwynodd Cytûn ymateb i’r ymgynghoriad hwn, ac fe ddisgwylir y canlyniad.

[5] https://llyw.cymru/cymorth-i-ffermwyr-cymru-ar-ol-brexit?_ga=2.231953311.1233021821.1533113594-1005977374.1461854342 Fe ymatebodd Cytûn i’r ymgynghoriad hwn ac fe ddisgwylir y canlyniad.

[6] https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy/posts/priddoedd-da-yn-gwella-gwytnwch-ffermydd-cymru-mewn-tywydd-eithriadol