Mae’r etholiad Ewropeaidd hwn yn wahanol i bob un arall.

Nid yw Llywodraeth y DU a llawer eraill yn credu y dylai’r etholiad hwn ddigwydd. Efallai na fydd y bobl a etholir fyth yn cymryd eu seddi, a hyd yn oed os gwnânt, efallai na fyddant yn gwasanaethu am dymor llawn. Cynhelir yr etholiad hwn yng nghanol sgwrs genedlaethol a fu’n aml yn ddryslyd ac sydd wedi pegynnu, ac sydd wedi datgelu llawer o raniadau yn ein gwlad.

Er bod gan Senedd Ewrop bwerau gwirioneddol dros nifer eang o faterion, yn y DU, mae’r materion hyn ar ymylon y ddadl gyhoeddus. Mae prif bwnc yr Etholiad Ewropeaidd hwn yn un y mae llawer o bobl (ond nid pawb o bell ffordd) yn ystyried sydd eisoes wedi ei setlo, ac yn un na fydd gan y sawl sy’n sefyll yn yr etholiad ddim neu fawr ddim dylanwad ffurfiol drosto: Brexit.

Gall rhai ddewis peidio â phleidleisio, a bydd eraill yn bwrw eu pleidlais fel protest.
Mae pegynnu teimladau am Brexit a rhwystredigaeth gyda’r etholiad hwn yn golygu y gall yr ymgyrch, yn genedlaethol ac ar lawr gwlad, fod yn annifyr ei naws. Mewn cyfnod pan fo teimladau gwleidyddol yn gryf, mae arnom angen dadl wâr a pharchus.

Beth yw rôl Cristnogion ar adeg fel hon? Mae’r papur briffio hwn yn ystyried peth o’r cyd-destun gwleidyddol lle cynhelir yr etholiad, ac yn eich gwahodd i ystyried yr hyn mae’n olygu i chi a sut y gallwch ymateb.

Cynnwys

Pam ein bod yn pleidleisio? 

Beth fedrwn ni wneud?     

Cyd-destun gwleidyddol     

Gwybodaeth hanfodol

Pam ein bod yn pleidleisio?

Bron i dair blynedd wedi i’r Deyrnas Unedig bleidleisio o fwyafrif bach i adael yr Undeb Ewropeaidd a’i senedd, gofynnir i bleidleiswyr ddychwelyd at y blychau pleidleisio i benderfynu pwy maent eisiau i’w cynrychioli yn Senedd Ewrop.

Yn y blynyddoedd ers y bleidlais, ni welsom unrhyw wir ddadl gyhoeddus na gwleidyddol ynghylch y math o wlad yr ydym eisiau byw ynddi wedi Brexit. Yr ydym wedi canolbwyntio yn hytrach ar yr ymadael ei hun. Mae cytundeb Llywodraeth y DU wedi ei gwrthod dro ar ôl tro gan senedd San Steffan, ac o ganlyniad, ymestynnwyd proses dwy-flynedd Erthygl 50 ddwywaith, bellach hyd at 31 Hydref 2019.

Gobaith Llywodraeth y DU yw atal yr etholiad hwn rhag digwydd. Fodd bynnag, tra bod y DU yn dal yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd, mae rheidrwydd arnom i gymryd rhan yn yr etholiadau hyn sy’n digwydd ledled Ewrop.

Ymbresenoli … hyd yn oed pan fo hyn yn anodd

Mae’r etholiadau Ewropeaidd sydd ar y gweill yn codi nifer o gwestiynau am ddemocratiaeth a’n rôl fel dinasyddion gweithgar ac ymroddedig. Fel Cristnogion, fe’n gelwir i fyw a gweithio dros gymdeithas well, gan garu ein cymdogion a gweithio dros Deyrnas Dduw o gyfiawnder a llawenydd. Gallwn wneud hyn mewn llawer modd. Mae pleidleisio mewn etholiadau yn un. Trwy bleidleisio, rydym yn cydnabod ein cyfrifoldeb i gymryd rhan yn y broses wleidyddol, i ymbresenoli a gofalu bod ein lleisiau’n cael eu clywed.

Mae’r cyfrifoldeb hwn yn bwysicach fyth mewn cyfnod cyfnewidiol ac ansicr.

Bydd Cristnogion yn anghytuno’n ddilys ynghylch yr agwedd iawn i’w chymryd wrth i ni nesáu at ddiwrnod yr etholiad, a byddant yn pleidleisio dros wahanol bleidiau. Fodd bynnag, gan ein bod yn byw mewn democratiaeth fel disgyblion Iesu, gelwir arnom i ymwneud â’r broses wleidyddol i geisio cyfiawnder, trawsnewidiad a lles ein cymdogion.

Yng nghyd-destun yr etholiadau Ewropeaidd sydd ar ddigwydd, hawdd iawn fyddai bod yn sinigaidd am ein gallu i wneud hyn. Bydd yr etholiadau hyn ar frig yr agenda newyddion, ac nid oes modd rhagweld beth fydd oblygiadau’r canlyniad.

Ond fel Cristnogion, gelwir arnom i ymbresenoli a gofalu bod ein lleisiau’n cael eu clywed, hyd yn oed pan fo hyn yn anodd.

Sut beth yw “ymbresenoli” i chi? Gall olygu pendroni dros y cwestiwn o sut i fwrw eich pleidlais, ar ôl myfyrio ar yr alwad i garu ein cymydog. Gall olygu cofrestru i bleidleisio, neu helpu’r sawl sydd nesaf atoch i gofrestru. Efallai y bydd yn golygu siarad ag eraill, yn enwedig y sawl yr ydych yn anghytuno â hwy am y bleidlais, a’r pynciau y tu ôl i’r cyfan. Fe all olygu dod o hyd i ffyrdd o herio naratif sy’n rhannu, yn ymosodol neu’n cau pobl allan, gan gydnabod yr angen am ddiogelwch a gwarineb yn y broses etholiadol. Mae’r her i “anghytuno’n dda” yn un sydd yn arbennig o angenrheidiol yn yr etholiad hwn.

Fel etholedigion Duw…gwisgwch amdanoch dynerwch calon, tiriondeb, gostyngeiddrwydd, addfwynder ac amynedd.
Colosiaid 3:12, BCN

Beth fedrwn ni wneud?

Meddyliwch

Dewch i wybod dros beth mae’r gwahanol bleidiau yn eich ardal yn ymgyrchu. Mae’n bwysig cymryd amser i ddeall y gwahaniaethau, a’r hyn sy’n flaenoriaeth iddynt. Medrwch gael gwybodaeth am eich rhanbarth yma: democraticdashboard.com

Mewn etholiadau blaenorol, yr ydym wedi annog eglwysi i drefnu neu gymryd rhan mewn cyfarfodydd hystings i ymgeiswyr. Mae hyn lawer iawn yn fwy anodd i etholiadau Ewrop gydag etholaethau rhanbarthol a rhestrau caeedig, heb sôn am y teimladau cryfion ynghylch yr etholiad hwn. Dylai unrhyw gyfarfodydd hystings gael eu trefnu gydag eraill a hynny ar ôl cymryd cyngor yr heddlu ac awdurdodau eraill. Efallai y byddai’n well gan eich eglwys neilltuo ei hegnïon i gychwyn sgyrsiau yn yr eglwys neu’r gymuned. Bwriad adnodd Conversation Welcome JPIT yw helpu eglwysi a grwpiau cymunedol lleol i gynnal trafodaethau parchus ar sail o wybodaeth am y materion o bwys sydd yn rhannu ein cymdeithas. Dewch o hyd iddo yn www.jointpublicissues.org.uk/conversationwelcome/

Gweddïwch

Dduw Cyfiawnder,

rhoddaist i ni’r cyfle i bleidleisio.
Helpa ni i adlewyrchu a defnyddio ein pleidleisiau’n ddoeth
i fynd i’r afael ag anghyfiawnder lle bynnag y gwelwn ef,
ac i weddïo dros wledydd lle nad oes gan bobl y cyfle i bleidleisio.

Dduw Cariad,

Rwyt yn dweud wrthym am garu ein cymdogion fel ni ein hunain.
Helpa ni i gymryd rhan mewn etholiadau mewn ffyrdd
sy’n arddangos ein cariad at ein cymydog,
ac i fynd i’r afael â’r hyn mae lles cyffredin yn olygu i ni heddiw.

Dduw Trawsnewid,

rwyt wedi galw rhai pobl
i’w cynnig eu hunain fel ymgeiswyr.
Helpa hwy wrth i ni drafod eu syniadau am well byd
a’u cynnal wrth iddynt brofi straen a braint etholiad.

Gofynnwn hyn oll yn enw dy fab Iesu Grist,
Amen.

Defnyddiwch y weddi a gynigir yma yn y cyfnod cyn yr etholiad.

Gweddïwch dros ymgeiswyr, yn ôl eu henwau efallai, gan gydnabod y pwysau mae etholiadau yn roi ar unigolion a theuluoedd.

Gweddiwch dros y pleidiau gwleidyddol, iddynt gael eu tywys gan awydd i weithio er lles pawb yn Nheyrnas Dduw.

Gweddiwch dros bleidleiswyr i ni ddefnyddio ein pleidleisiau yn ddoeth a deallus.

Gweddiwch dros bawb sy’n rhan o drefnu’r etholiadau a sicrhau unplygrwydd.

Pleidleisiwch

Ac wrth gwrs, cofiwch bleidleisio!

Y cyd-destun gwleidyddol

Mae pleidleiswyr yn y DU wedi defnyddio etholiadau Ewropeaidd ers amser i wneud datganiad gwleidyddol am wleidyddiaeth gartref, yn ogystal ag ethol ASEau. Mae’r etholiadau eleni yn debygol o fod yn fwy o adlewyrchiad o farn pobl am Brexit nac yn fynegiant o’r pleidiau y maent eisiau iddynt eu cynrychioli yn Senedd Ewrop.

Mae dwy blaid – y Brexit Party ac UKIP – yn ceisio pleidleisiau ar lwyfan o adael yr UE yn sydyn heb gytundeb. Mae’r ddwy blaid fwyaf yng Nghymru a Lloegr, y Ceidwadwyr a Llafur, ill dwy wedi eu rhannu’n ddwfn ar fater Brexit. Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol, Change UK a’r Blaid Werdd yn galw am “Bleidlais y Bobl” neu ail refferendwm; felly hefyd y ddwy blaid genedlaethol yn San Steffan, yr SNP a Phlaid Cymru.

Nid oes gan ASE y gallu i beri i Brexit cyflymach nac ail refferendwm ddigwydd. Yn nwylo ASau yn San Steffan y mae’r pwerau hynny. Mae’n amlwg, er y bydd y canlyniad yn esgor ar lawer o drafodaeth ynghylch yr hyn mae’n olygu i Brexit, mae’n debyg na fydd yn datgelu fawr mwy na’r ffaith fod y wlad yn dal yn hynod ranedig am Brexit.

Mae’r etholiad hwn yn rhoi anawsterau mawr i lawer. Mae’n debygol iawn y bydd nifer fawr o bobl yn aros gartref – fel y gwnaeth llawer mewn etholiadau Ewropeaidd blaenorol – tra bydd llawer eraill yn mynd yn groes i’w teyrngarwch gwleidyddol traddodiad ac yn pleidleisio dros bleidiau na wnaethant eu hystyried o’r blaen. Gall pobl ddewis anfon neges i San Steffan gyda’u pleidlais, tra gall eraill ddewis edrych ar bynciau y tu hwnt i Brexit yn y gobaith y caiff yr ymgeiswyr gyfle i weithio’n effeithiol fel ASE.

Mae’r cyfuniad o gynrychiolaeth gyfrannol a niferoedd isel yn pleidleisio yn ei gwneud yn fwy posib i bleidiau hiliol ac eithafol weld ethol eu hymgeiswyr hwy.

Gelwir arnom i gymryd rhan hyd yn oed pan fo hyn yn anodd. Gelwir arnom i herio’r sawl sydd â gwerthoedd sydd, yn ein barn ni, yn anghydnaws â Christnogaeth. Mae’n anodd cysoni cerdded i ffwrdd oddi wrth yr etholiad hwn â’n cyfrifoldeb i adeiladu cymdeithas lle’r ydym yn caru ein cymydog.

Ni fydd yn hawdd a bydd angen i ni ddysgu o’n camgymeriadau. Fodd bynnag, mae’r etholiad hwn yn gyfle i ni ddechrau ar y dadleuon heriol hyn fydd yn llunio ein gwlad am flynyddoedd i ddod.

Yn y tymor hir – poen darganfod hunaniaethau newydd

Mae gwleidyddiaeth yn newid mewn ffordd sydd yn mynd ymhell y tu hwnt i’r etholiad hwn. Ers degawdau, bu proses faith ac araf o newid yn digwydd wrth i bobl ddechrau uniaethu yn llai fyth â’r labeli Llafur a Cheidwadol a arferai fod mor bwysig. Ffurfiwyd y pleidiau hyn o gwmpas hunaniaethau economaidd a dosbarth sydd wedi newid yn sylfaenol. Mae ein teyrngarwch pleidiol yn gyffredinol wedi mynd yn fwy bas a hyblyg.

Datgelodd refferendwm 2016 raniad cras. Nid oedd y rhaniad hwn yn seiliedig ar y sbectrwm gwleidyddol chwith/dde traddodiadol ond ar echel agored/caeëdig ynghylch newid diwylliannol a byd-olwg. Bwriodd pobl eu pleidlais am lawer rheswm yn y refferendwm, ond mae’r termau “Gadawr” ac “Arhoswr” yn mapio’r rhaniad newydd hwn yn agos.

Mae hyn yn rhoi bod i ddadleuon sydd yn fwy amlwg gysylltiedig â hunaniaethau personol na chwestiynau economaidd. Mae profiad Unol Daleithiau’r America o ymdrin â rhai o’r pynciau hyn, yn yr hyn a elwir ganddynt yn “rhyfeloedd diwylliant”, yn dangos grym a gallu’r pynciau ‘gyrru lletem’ hyn i frifo, eithrio a rhannu.

Ni wyddom beth fydd hynt hyn yng nghyd-destun gwleidyddiaeth y DU. Mae system ein pleidiau fel y mae ar hyn o bryd wedi rheoli’r tensiynau hyn am ddegawdau ac efallai y gall ymaddasu i fynd i’r afael â hwy eto. Gall y canlyniad, fodd bynnag, fod yn fwy sylweddol a gall hyd yn oed arwain at newidiadau yn ein prosesau a’n sefydliadau democrataidd.

Yr hyn sy’n amlwg yw bod gwir bosibilrwydd yn ystod y newid hwn y bydd dadleuon yn gwenwyno ac yn niweidio. Mae ffiniau “dadleuon dilys” ac iaith briodol eisoes wedi eu hymestyn yn dynn eithriadol. Rhaid i ni fel Cristnogion ymwneud mor llawn ag erioed ond hefyd dangos patrwm o ymddygiad fydd yn annog deialog adeiladol a heddychlon.

Gwybodaeth hanfodol

Ar ddydd Iau 23 Mai bydd y DU yn ethol 73 Aelod o Senedd Ewrop. Cynhelir etholiadau ar draws y 28 gwlad sy’n aelodau o’r Undeb Ewropeaidd am 751 ASE i wasanaethu am y pum mlynedd nesaf.

Cofrestrwch i bleidleisio!

Er mwyn pleidleisio roedd angen i chi gofrestru erbyn dydd Mawrth 7 Mai. I fod yn gymwys i bleidleisio, mae angen i chi fod yn 18 oed neu’n hŷn ar ddiwrnod yr etholiad a bod yn ddinesydd Prydeinig, yn ddinesydd cymwys o’r Gymanwlad, neu’n ddinesydd o wlad arall o’r Undeb Ewropeaidd sy’n byw yn y DU.

Os ydych yn ddinesydd gwlad arall yn yr EU (ar wahân i Iwerddon, Malta a Chyprus) sy’n byw yn y DU, gallwch bleidleisio naill ai yn y DU neu yn eich gwlad enedigol. I bleidleisio yn y DU, rhaid i chi fod wedi cofrestru i bleidleisio a hefyd rhaid i chi lenwi ffurflen gofrestru arbennig ac anfon hon at eich awdurdod lleol erbyn Mai 7. Mae terfynau amser ar gyfer cofrestru yn amrywio o un wlad i’r llall.

Beth mae Senedd Ewrop yn wneud?

Senedd Ewrop yw un o sefydliadau craidd yr Undeb Ewropeaidd. Mae’n ymwneud â llunio deddfwriaeth a chyllidebau Ewropeaidd a goruchwylio gwaith y Comisiwn Ewropeaidd. Hi yw’r senedd ail fwyaf yn y byd a etholir yn uniongyrchol, yn ôl nifer etholwyr, gan ei bod yn cael ei hethol gan ddinasyddion y 28 o aelod-wladwriaethau yn yr Undeb Ewropeaidd. Mae’n cwrdd ym Mrwsel a Strasbwrg.

Sut mae pleidleisio yn gweithio?

Yn wahanol i etholiadau eraill y DU, byddwch yn pleidleisio dros blaid ac nid unigolyn, ar wahân i Ogledd Iwerddon. Rhennir Prydain yn 12 rhanbarth etholiadol a phob rhanbarth yn ethol rhwng 3 a 10 ASE. Mae pob plaid yn gosod eu hymgeiswyr ym mhob rhanbarth etholiadol yn y drefn yr hoffent hwy iddynt gael eu hethol, yn yr hyn a elwir yn ‘rhestr gaeedig’. Fe gewch un bleidlais, i’w bwrw dros eich dewis blaid. Mae’r seddi yn y rhanbarth yn cael eu neilltuo yn gyfrannol i nifer y pleidleisiau gafodd pob plaid.

Mewn system rhestr-gaeedig, lle byddwch yn pleidleisio dros blaid yn hytrach na thros ymgeisydd penodol, mae’n fwy anodd i bleidleiswyr holi ymgeiswyr unigol ac yn amhosib dangos pwy yw eich dewis ymgeisydd penodol chi o’r rhestr.

Adnoddau pellach:

Dewch i wybod mwy am yr etholiadau a Senedd Ewrop yn

www.european-elections.eu

Myfyrion Beiblaidd (Saesneg) wedi’u cynhyrchu gan y Tîm Materion Cyhoeddus ar y Cyd –
www.jointpublicissues.org.uk/election-resources/

Cyngor Swyddfa Seneddol Eglwysi’r Alban ar redeg patrwm o gyfarfod Gwleidyddiaeth y Bobl
www.scpo.scot/meet-your-msp/peoples-politics-model/

Cynhyrchwyd gan y Tîm Materion Cyhoeddus ar y Cyd: Undeb Bedyddwyr Prydain Fawr, Eglwys yr Alban, yr Eglwys Fethodistaidd a’r Eglwys Ddiwygiedig Unedig yn gweithio gyda’i gilydd dros heddwch a chyfiawnder. Mai 2019

Am fwy o wybodaeth, ewch at
                         www.jointpublicissues.org.uk

Os hoffech ddod i gysylltiad, cysylltwch â ni ar:         

e-bost            enquiries@jointpublicissues.org.uk

ffôn    020 7916 8632

post 25 Marylebone Road
Llundain
NW1 5JR

Cyfieithwyd gan Newid Cymru ar ran Cytûn (Eglwysi Ynghyd yng Nghymru).

Cytûn – Eglwysi Ynghyd yng Nghymru/Churches Together in Wales

58 Richmond Road, Caerdydd/Cardiff, CF24 3AT

Tel:  029 2046 4378  

Mae Cytûn yn gwmni cofrestredig yng Nghymru a Lloegr | Rhif: 05853982 | Enw cofrestredig: “Cytûn: Eglwysi Ynghyd yng Nghymru/Churches Together in Wales Limited” | Mae Cytûn yn elusen gofrestredig | Rhif: 1117071 | Cytûn is a registered company in England and Wales | Number: 05853982 | Registered name: “Cytûn: Eglwysi Ynghyd yng Nghymru/Churches Together in Wales Limited” | Cytûn is a registered charity | Number: 1117071

Clawr blaen: ©miluxian/iStock/thinkstock, ©sinonimas/iStock/thinkstock. Tudalen 7: ©Ffynhonnell Senedd Ewrop: www.europarl.europa.eu/unitedkingdom/ên/european-elections/uk_meps.html

Dyfyniad o’r ysgrythur o’r Beibl Cymraeg Newydd (c) BFBS 1988. Defnyddiwyd trwy ganiatâd. Cedwir pob hawl.