Darlleniad: Genesis 41: 1-40, 47-49, 53-57

Crynodeb o’r Bregeth

Thema:

Dangos nad yw Duw yn gwneud i drychinebau ddigwydd er mwyn cosbi pobl, ond bod trychinebau’n digwydd oherwydd gwendidau penodol. Gellir cymryd camau i leihau gwendidau fel nad yw trychinebau’n anochel. Mae newid yn yr hinsawdd yn cynyddu natur fregus y cymunedau tlotaf a mwyaf agored i niwed.

Cyflwyniad:

Mae trychinebau’n digwydd yn rheolaidd – ond pam mae Duw yn caniatáu iddynt ddigwydd?  Mae hyn yn her i ni, os ydyn ni’n credu mewn Duw cariad.

Rhan 1 – Beth mae rhai Cristnogion yn ei ddweud am drychinebau?

Cosb am bechod? Mae hon yn farn gyffredin, wedi’i datgan gan rai Cristnogion amlwg.

Job – tybiodd ei ffrindiau ei fod yn dioddef trafferthion oherwydd pechod.

Mae’r Beibl yn dangos nad yw hyn yn wir:

  • Mae Job yn ddyn da a chyfiawn, nid pechadur
  • Tŵr Siloam yn cwympo yn Luke – Iesu’n gwrthod y farn fod y rhai fu farw yn bechaduriaid gwaeth
  • Mathew 5 – mae’r haul yn codi ar y drwg a’r da, y glaw yn disgyn ar y cyfiawn a’r anghyfiawn – gall amgylchiadau da a drwg ddigwydd i bob un ohonom

Os oes trychinebau’n digwydd oherwydd pechod, nid pechod y rhai sy’n dioddef ydynt o reidrwydd

Rhan 2 – Pam mae trychinebau’n digwydd?

Trychinebau ‘naturiol’ – does dim byd naturiol am drychineb

Mae peryglon (e.e. llifogydd, sychder, seiclon, daeargryn) yn naturiol – ond does dim rhaid iddyn nhw arwain at drychineb

Mae trychinebau’n digwydd pan fydd perygl yn digwydd i bobl sy’n arbennig o agored i’r perygl hwnnw

PERYGL           X         GWENDIDAU             =          TRYCHINEB                                       

Gall perygl tebyg achosi trychineb mewn un lle ond digwyddiad llai difrifol yn rhywle arall

Rhan 3 – Hanesion am drychinebau

Dwy stori i ddangos sut y gall peryglon tebyg arwain at effeithiau gwahanol yn dibynnu ar lefel y gwendidau

  • Daeargryn Haiti 2010 a daeargryn Chile 2010: daeargrynfeydd tebyg o ran maint, ychydig fisoedd yn unig ar wahân.  Dinistr enfawr yn Haiti, gyda cholled enfawr o fywyd a dinistrio seilwaith, tra yn Chile, roedd y difrod yn llawer mwy cyfyngedig.  Haiti yn wlad llawer tlotach na Chile gyda diffyg llywodraethiant da a seilwaith gwael, o’i gymharu â Chile
  • Seiclonau Bangladesh 1991 a 2007: seiclonau tebyg iawn o ran cyflymder y gwynt a’r llwybr, ond yn wahanol iawn o ran nifer y rhai a anafwyd a difrod.  Mewn blynyddoedd rhwng y ddau ddigwyddiad, cafodd llawer o waith ei wneud yn Bangladesh i ba mor agored i niwed yn sgil seiclonau mae pobl – systemau rhybuddio cynnar, llochesi seiclon ac ati
  • [Efallai y bydd straeon tebyg eraill ar gael]

Mae peryglon yn naturiol, ond nid yw trychinebau – maent yn cael eu hachosi gan wendidau pobl

Newid yn yr hinsawdd – yn gwneud peryglon yn fwy dwys ac yn amlach, ond y rhai mwyaf agored i niwed sy’n dal i gael eu heffeithio fwyaf.  Gyda digwyddiadau trychinebus yn digwydd yn amlach, mae gan bobl sy’n agored i niwed lai o amser i adfer cyn y trychineb nesaf, felly cânt eu gwthio ymhellach i dlodi a bod yn agored i niwed.

Rhan 4 – Pechod?

Mae newid yn yr hinsawdd yn ganlyniad i ddiwydiannu’r gwledydd cyfoethocaf ac mae’n gysylltiedig â threuliant gormodol a thrachwant.  Ond y rhai lleiaf cyfrifol am y newid sy’n dioddef fwyaf o ganlyniad iddo.

Dywedodd Iesu wrthym i garu ein cymdogion fel ni ein hunain, felly gellid ystyried ein trachwant a’n hesgeulustra o’r amgylchedd a’n heffaith ar yr hinsawdd yn bechod.  Felly mae trychinebau’n ganlyniad i bechod, ond nid pechodau’r rhai sy’n ddioddefwyr.

Fodd bynnag, mae’n bosibl lleihau gwendidau pobl:

  • Bod yn fwy parod
  • Lliniaru risgiau
  • Adeiladu gwydnwch

Rhan 5 – Stori o’r Beibl: Breuddwyd Joseph a Pharo

“Joseph a’i Bolisi Rheoli Sychder Amryliw, Anhygoel”

Dehonglodd Joseph freuddwydion Pharo am 7 buwch dew a 7 buwch denau, a’r 7 dywysen iach a’r 7 dywysen wag.

Roedd hyn yn cynrychioli 7 mlynedd o ddigonedd ac yna 7 mlynedd o newyn.

Cafodd system ei roi ar waith i gadw bwyd o’r blynyddoedd da i ymdopi â’r blynyddoedd gwael.  Rhybudd cynnar oedd breuddwyd Pharo ac felly roedd modd paratoi’r Aifft am y 7 mlynedd o newyn drwy storio bwyd, a lliniaru risgiau’r blynyddoedd gwael.

Cafodd trychineb ei rwystro drwy weithredu o flaen llaw.

Rhan 6 – Stori prosiect World Vision

Prosiect yn Uganda wedi’i ariannu gan UK Aid.

Rhagolygon y tywydd wedi’u cyfieithu i 22 o ieithoedd lleol, a’u symleiddio, i ddarparu gwybodaeth hanfodol i ffermwyr tlawd.  Hefyd yn rhoi cyngor ar beth i’w wneud mewn ymateb i’r rhagolygon.

Mae’r wybodaeth hon wedi helpu dros 160,000 o ffermwyr i fod yn fwy parod ac yn fwy gwydn i newid yn yr hinsawdd ac elfen fwy anrhagweladwy’r tywydd.

Rhan 7 – Casgliad

  • Nid cosb gan Dduw yw trychinebau.
  • Gallwn helpu pobl i fod yn llai agored i beryglon naturiol.
  • Bydd gweithredu ar newid yn yr hinsawdd yn helpu i wneud y tlotaf yn llai agored i niwed.
  • Gweddïwch dros ffermwyr tlawd, y bydd ganddynt well mynediad at wybodaeth i’w helpu i wneud penderfyniadau gwell.
  • Gweddïwch dros bobl sy’n ailadeiladu ar ôl trychinebau, y gallant fod yn fwy gwydn i ddigwyddiadau tebyg yn y dyfodol.

Nodiadau siaradwyr – Mwy am World Vision

Yn World Vision, rydym yn canolbwyntio ar helpu’r plant mwyaf agored i niwed i oresgyn tlodi a phrofi llawnder bywyd. Rydym yn helpu plant o bob cefndir, hyd yn oed yn y lleoedd mwyaf peryglus, wedi ein hysbrydoli gan ein ffydd Gristnogol.

Mae gan World Vision dros 70 mlynedd o brofiad o weithio gyda chymunedau, rhoddwyr, partneriaid a llywodraethau i greu cyfleoedd ar gyfer dyfodol gwell i blant sy’n agored i niwed … hyd yn oed yn y mannau anoddaf.

Rydym yn mynd i’r afael â thlodi yn ei wreiddiau. Mae ein dull integredig yn cynnwys dŵr, gofal iechyd, addysg, amddiffyn plant, a chynhyrchu incwm, fel y gall pob plentyn dyfu i fod y person y creodd Duw ef i fod.

Os hoffech ddysgu mwy am waith World Vision a sut y gallwch chi a’ch cymuned eglwys ymuno â ni, cysylltwch â ni –
E-bostiwch ein tîm Eglwysi :  churches@worldvision.org.uk
Ewch i: worldvision.org.uk/get-involved/resources/
Ymunwch â ni mewn gweddi: worldvision.org.uk/get-involved/resources/pray-together/