Ar 28 Ionawr, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Chwricwlwm i Gymru newydd ar gyfer ysgolion i’w gyflwyno o Fedi 2022. Mae Cytûn wedi darparu cynrychiolaeth ar gyfer cymunedau ffydd trwy gydol y broses o baratoi’r cwricwlwm hwn, trwy fod yn rhan o Grŵp Rhanddeiliaid Strategol y Cwricwlwm (yn cynrychioli’r Fforwm Cymunedau Ffydd), llinyn Addysg Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector (yn cynrychioli Cyngor Rhyng-ffydd Cymru), trwy nifer fawr o gyfarfodydd wyneb yn wyneb â swyddogion Llywodraeth Cymru (rhai ohonynt ar y cyd â Chyngor Eglwysi Rhyddion Cymru, yr Eglwys yng Nghymru, Gwasanaeth Addysg yr Eglwys Gatholig a/neu Dyneiddwyr Cymru), trwy drefnu cyfarfod rhyng-ffydd â’r Gweinidog Addysg i drafod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb, ac yn fwyaf diweddar trwy ddod yn aelod o Grŵp Ymgysylltu Cymunedau Ffydd a Du a Lleiafrifol Ethnig.

Trwy gydol y broses, mae’r Eglwys yng Nghymru a Gwasanaeth Addysg yr Eglwys Gatholig, gan eu bod yn ddarparwyr addysg o fewn y drefn a gynhelir, wedi gallu defnyddio hefyd eu sianeli cyfathrebu eu hunain â Llywodraeth Cymru. Gan ein bod yn cydnabod yr amrywiaeth barn sydd o fewn ein haelodaeth am addysg enwadol, nid yw Cytûn yn anelu at gynrychioli’n ffurfiol farn yr enwadau hynny yn eu gwaith o ddarparu addysg.

Nod y papur hwn yw crynhoi’r 500 tudalen o ddogfennau cwricwlwm sydd wedi eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru yn sail i Gwricwlwm 2022. Bu raid dethol a dewis yn llym, felly! Daw’r geiriau mewn print italig yn uniongyrchol o’r ddogfen Canllawiau Cwricwlwm i Gymru.

Nod y canllawiau yw helpu pob ysgol i ddatblygu ei chwricwlwm ei hun (t. 4). Cwricwlwm yr ysgol yw popeth mae dysgwyr yn ei brofi ar drywydd y pedwar diben [gweler isod]. Mae’n fwy na’r hyn rydyn ni’n ei addysgu yn unig. Mae hefyd yn ymwneud â sut rydyn ni’n ei addysgu ac, yn allweddol, pam ydyn ni’n ei addysgu. (t. 5) Mae hyn yn dra gwahanol i’r model cyfarwyddol a ddefnyddir gan y cwricwlwm presennol (1988 a diwygiadau wedyn). Bwriedir cyflwyno Bil Cwricwlwm ac Asesu i’r Senedd yn ystod 2020; fe ddiwedderir y canllawiau os yw’r Senedd yn newid y Bil.

Os caiff ei gytuno, bydd y Bil yn nodi pedwar diben y cwricwlwm (t. 11), sef

galluogi dysgwyr i ddatblygu fel:

  • dysgwyr uchelgeisiol, galluog, sy’n barod i ddysgu gydol eu bywydau
  • cyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith
  • dinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd
  • unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.

Rhaid i bob ysgol a gynhelir a lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir fabwysiadu cwricwlwm. Rhaid i gwricwlwm a fabwysiedir fodloni’r gofynion cyffredinol canlynol.

  • Galluogi dysgwyr i wneud cynnydd tuag at y pedwar diben.
  • Bod yn eang a chytbwys.
  • Bod yn addas ar gyfer dysgwyr o wahanol oedrannau, galluoedd a doniau.
  • Darparu ar gyfer dilyniant priodol i ddysgwyr a chynnwys ystod o ddarpariaeth i sicrhau hyn (yn gysylltiedig ag oedrannau, galluoedd a doniau). (t. 12)

Rhaid i’r chwe maes dysgu a phrofiad canlynol gael eu hadlewyrchu mewn cwricwlwm a fabwysiedir.

  • Y Celfyddydau Mynegiannol.
  • Iechyd a Lles.
  • Y Dyniaethau.
  • Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu.
  • Mathemateg a Rhifedd.
  • Gwyddoniaeth a Thechnoleg.

Bydd yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi cod yn nodi’r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig. Mae’n rhaid i gwricwlwm pob ysgol a phob lleoliad a ariennir nas cynhelir gynnwys yr holl elfennau a nodir yng nghod datganiadau o’r hyn sy’n bwysig.

Bydd y canlynol yn elfennau gorfodol o gwricwlwm (t. 12)

  • Crefydd, gwerthoedd a moeseg
  • Addysg cydberthynas a rhywioldeb
  • Cymraeg
  • Saesneg (heblaw y bydd gan benaethiaid a darparwyr addysg feithrin a ariennir nas cynhelir hawl i ddewis a ydyn nhw’n cyflwyno Saesneg i ddysgwyr hyd at 7 oed, ac i ba raddau y maen nhw’n gwneud hynny. Mae hyn er mwyn cynorthwyo dysgwyr i fod yn rhugl yn y Gymraeg.) (t. 13)

Bydd llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol yn sgiliau trawsgwricwlaidd gorfodol a rhaid eu hymgorffori mewn unrhyw gwricwlwm a fabwysiedir. (t. 13)

Bydd yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi cod cynnydd yn nodi’r ffordd y mae’n rhaid i ddilyniant gael ei adlewyrchu mewn cwricwlwm a fabwysiedir. Bydd yn rhaid i gwricwlwm ysgol adlewyrchu’r egwyddorion cynnydd a nodir yn y cod. (t. 13)

Ar gyfer dysgwyr 14 i 16 oed, rhaid i ysgol gynllunio cwricwlwm fel ei fod yn darparu, yn ogystal ag elfennau gorfodol cwricwlwm a sgiliau trawsgwricwlaidd gorfodol:

  • ddewis i ddysgwyr yn y dysgu arall y byddan nhw’n ei wneud, ond mewn ffordd sy’n sicrhau bod pob dysgwr yn dal i ymgymryd â pheth dysgu ym mhob Maes
  • elfennau eraill y mae’r ysgol yn gofyn i bob dysgwr (neu rai grwpiau o ddysgwyr) eu cyflawni. (t. 14)

a gall Gweinidogion Cymru bennu gofynion ar gyfer yr oedran hon yn fwy manwl.

Mae’n bwysig nodi y cynigir y bydd gan Weinidogion Cymru y gallu yn nes ymlaen, trwy reoliadau, i newid y meysydd dysgu a phrofiad dynodedig, y datganiadau o’r hyn sy’n bwysig, yr elfennau gorfodol, y sgiliau trawsgwricwlaidd gorfodol, y cod cynnydd a’r trefniadau cenedlaethol ar gyfer oedran 14-16. Byddai hyn yn rhoi cryn ofod i Lywodraethau Cymru yn y dyfodol i newid yn sylweddol y ffordd y mae’r cwricwlwm newydd yn gweithredu heb orfod newid y ddeddfwriaeth sylfaenol.

Mae Fframwaith Cwricwlwm i Gymru yn annog ysgolion i ddatblygu eu gweledigaeth eu hunain ar gyfer eu dysgwyr o fewn cyd-destun y pedwar diben a’r dysgu a ddiffinnir ar lefel genedlaethol. Mae’n rhoi lle i ymarferwyr fod yn greadigol a datblygu dysgu ystyrlon drwy ystod o brofiadau a chyd-destunau sy’n diwallu anghenion eu dysgwyr. (t. 21)

Ymhlith yr egwyddorion cynllunio a gweithredu cwricwlwm a argymhellir gan Lywodraeth Cymru (t. 21) yw y dylai pob ysgol ddatblygu cwricwlwm sydd yn

  • adlewyrchu amrywiaeth safbwyntiau, gwerthoedd a hunaniaethau sy’n llunio eich ardal leol a Chymru, a meithrin dealltwriaeth o’r byd ehangach
  • ymgorffori cyd-awduro gyda dysgwyr, eu teuluoedd a’r gymuned ehangach

Ystyr hyn i gyd yw y bydd y prif gyfleoedd i gyfrannu i gwricwlwm ysgolion o 2022 i’w canfod yn lleol. Bydd sicrhau cyfranogiad gan y gymuned ehangach wrth ddatblygu’r cwricwlwm yn rheidrwydd ar bob ysgol. Dylai cwricwla ysgolion hefyd gydnabod ac adlewyrchu anghenion a chyd-destunau’r cymunedau yn yr ysgol a thu hwnt. Dylai ymarferwyr hefyd geisio cydweithredu a manteisio ar ystod o arbenigwyr a rhanddeiliaid a all gyfrannu at ddysgu, gan ddarparu profiadau unigryw a chyfoethogol i ddysgwyr. (t. 49) Felly, bydd angen i eglwysi lleol sydd am gyfrannu trwy eu hysgolion i ddatblygiad addysgol, moesol ac ysbrydol plant eu hardal a chynnig eu hadeiladau a’u harbenigedd i gyfoethogi’r cwricwlwm, ddatblygu perthynas yn uniongyrchol â’u hysgolion lleol.

Mae’r cwricwlwm yn gosod pwyslais arbennig ar wreiddio’r addysg yng nghynefin yr ysgol ei hun (defnyddir y gair Cymraeg yn y ddogfen Saesneg hefyd). Mae bod â hyder yn eu hunaniaeth yn helpu dysgwyr i werthfawrogi’r cyfraniad y gallan nhw ac eraill ei wneud yn eu cymunedau ac i ddatblygu ac archwilio eu hymatebion i faterion lleol, cenedlaethol a byd-eang. Mae hefyd yn eu helpu i archwilio, creu cysylltiadau a meithrin dealltwriaeth o fewn cymdeithas amrywiol. Mae hyn hefyd yn cydnabod nad yw Cymru, fel unrhyw gymdeithas arall, yn unffurf, ond ei bod yn hytrach yn gyfuniad o werthoedd, safbwyntiau, diwylliannau a hanes sy’n cynnwys pawb sy’n byw yng Nghymru. (t. 30). Bydd gan eglwysi gyfraniad arbennig i helpu disgyblion ddeall hanes a hunaniaeth crefyddol eu cynefin, a bydd cynulleidfaoedd Cymraeg yn gallu cyfrannu’n arbennig at ddealltwriaeth ieithyddol plant. Dylai fod llwybrau ar gael i bob dysgwr ddysgu Cymraeg a Saesneg er mwyn eu galluogi i fagu’r hyder i ddefnyddio’r ddwy iaith mewn bywyd bob dydd… Gall mynediad at y ddwy iaith helpu i agor y drws i lenyddiaeth, daearyddiaeth, democratiaeth, hanes a diwylliant cyfoethog ac unigryw Cymru. Mae meddu ar wybodaeth, profiad a dealltwriaeth o’r rhain yn cefnogi dysgwyr i fod yn ddinasyddion gweithredol a llwyddiannus yn y Gymru gyfoes. (t. 30)

Mae Cytûn wedi cyfrannu at ddatblygu pob agwedd ar Fframwaith Cwricwlwm 2022. Ond rydym wedi ymddiddori mewn dau faes yn arbennig, gan iddynt fod o bryder penodol i aelodau nifer o eglwysi a chymunedau ffydd.

Bydd addysg cydberthynas a rhywioldeb bellach yn orfodol i bob disgybl. Gwahoddwyd Cytûn i fod yn rhan o Grŵp Ymgysylltu Cymunedau Ffydd a Du a Lleiafrifol Ethnig, a fydd yn darparu adborth i’r sawl sy’n datblygu’r canllawiau cenedlaethol manwl ar gyfer ysgolion. Bydd y maes hwn o’r cwricwlwm yn llawer mwy penodol na meysydd eraill, yn hytrach na chael ei benderfynu yn bennaf yn lleol.  

Fe ailenwir addysg grefyddol yn Crefydd, gwerthoedd a moeseg ac fe ddaw yn orfodol i bob disgybl fel rhan o Faes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau. Mae’n bwysig fod gan ddysgwyr gyfleoedd i drafod ac archwilio eu safbwyntiau personol ar fydolygon crefyddol ac anghrefyddol, heriau moesol a materion cynhwysiant cymdeithasol. (t. 101)

Dyma’r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig yn y Dyniaethau (tt 102-104):

  • ·         Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a’i ddyfodol.
  • ·         Mae digwyddiadau a phrofiadau dynol yn gymhleth a chânt eu hamgyffred, eu dehongli a’u cynrychioli mewn gwahanol ffyrdd.
  • ·         Mae ein byd naturiol yn amrywiol a deinamig, wedi’i ddylanwadu gan brosesau a gweithredoedd dynol.
  • ·         Mae cymdeithasau dynol yn gymhleth ac yn amrywiol, ac maen nhw’n cael eu llywio gan weithredoedd a chredoau pobl.
  • ·         Mae dinasyddion gwybodus, hunanymwybodol yn mynd i’r afael â’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu dynoliaeth, ac yn gallu cymryd camau ystyrlon ac egwyddorol.

Yn y Maes Dysgu a Phrofiad hwn, fel ymhob un arall, fe gysylltir pob datganiad am beth sy’n bwysig i gyfres o gamau cynnydd, sy’n cyfateb yn fras iawn â’r cyrhaeddiad a ddisgwylir erbyn oedrannau 5, 8, 11, 14 ac 16. Dyma enghraifft o’r trydydd datganiad uchod (Mae ein byd naturiol yn amrywiol a deinamig…) (tt 110-111):

CC 1: Rwy’n gallu adnabod pam mae lleoedd yn bwysig i mi.

CC 2: Rwy’n gallu disgrifio sut mae lleoedd, gofodau, amgylcheddau a thirweddau yn bwysig i wahanol bobl ac am wahanol resymau.

CC 3: Rwy’n gallu disgrifio ac esbonio’n syml sut a pham mae rhai lleoedd, gofodau, amgylcheddau a thirweddau yn arbennig o bwysig i wahanol bobl ac am wahanol resymau.

CC 4: Rwy’n gallu deall ac esbonio sut mae lleoedd, gofodau, amgylcheddau a thirffurfiau arwyddocaol yn y byd naturiol yn gysylltiedig â chredoau ac arferion economaidd, hanesyddol, gwleidyddol, crefyddol ac anghrefyddol.

CC 5: Rwy’n gallu gwerthuso i ba raddau mae credoau, arferion a gweithredoedd economaidd, cymdeithasol, gwleidyddol, diwylliannol, crefyddol ac anghrefyddol wedi arwain at newidiadau yn y byd naturiol.

Dywed y canllawiau penodol ar gyfer Crefydd, gwerthoedd a moeseg:

Dylai cynllun cwricwlwm ysgol:

  • ddatblygu dealltwriaeth o’r disgyblaeth a’i gwerth
  • cynnig cyd-destunau cyfoethog i ddysgwyr fod yn chwilfrydig, i archwilio’r cwestiynau eithaf, ac i chwilio am ddealltwriaeth o’r cyflwr dynol, yn ogystal â darparu cyfleoedd i ddysgwyr fyfyrio, ac i brofi gwefr a rhyfeddod mewn ystod o gyd-destunau ystyrlon o fewn y byd go iawn.
  • datblygu cyd-destunau cyfoethog ar gyfer ymchwil i gysyniadau crefydd, bydolwg, seciwlariaeth, ysbrydolrwydd, safiad bywyd, hunaniaeth a diwylliant i ddatblygu dealltwriaeth y dysgwyr o fydolygon crefyddol ac anghrefyddol
  • cynnig cyd-destunau cyfoethog i ymwneud â chysyniadau cred, ffydd, gwirionedd, diben, ystyr, gwybodaeth, ffynonellau awdurdod, hunan, tarddiad, bywyd, marwolaeth a Realiti Eithaf sy’n galluogi dysgwyr i ddatblygu dealltwriaeth o fydolygon personol a sefydliadol am natur bywyd a’r byd o’u cwmpas
  • datblygu cyd-destunau cyfoethog ar gyfer archwilio cysyniadau hunaniaeth, perthyn, perthynas ag eraill, cymuned, cynefin, amrywiaeth, plwraliaeth a chydgysylltiad sy’n galluogi dysgwyr i feithrin synnwyr o’r hunan a datblygu’n ysbrydol
  • archwilio cysyniadau cydraddoldeb, cynaladwyedd, goddefgarwch, rhyddid, rhagfarn, gwahaniaethu, eithafiaeth, da a drwg sy’n galluogi i ddysgwyr gael golwg ar y sialensau a’r cyfleoedd sy’n wynebu cymdeithasau
  • adlewyrchu cysyniadau a chyd-destunau crefyddoldeb, arfer, defod, traddodiad, moli, cysegredigrwydd, symboliaeth a dathliad er mwyn datblygu dealltwriaeth dysgwyr o grefydd a chred fyw
  • cynnig cyd-destunau cyfoethog ar gyfer archwilio cysyniadau moeseg, moesoldeb, cyfiawnder, cyfrifoldebau, awdurdod, dynoliaeth, hawliau, gwerthoedd a gweithredu cymdeithasol
  • datblygu dealltwriaeth o grefydd a chred fyw trwy archwilio’r cysyniadau allweddol (t. 126).

Er gwaetha’r cyfeiriad yma at “gynllun cwricwlwm ysgol”, cafodd Cytûn sicrwydd gan Lywodraeth Cymru y bydd rôl Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog ar AG a Chynadleddau Meysydd Llafur Cytunedig y siroedd yn aros gyda’r cwricwlwm newydd. Bydd Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar Ganllawiau Fframwaith Atodol ar gyfer Crefydd, gwerthoedd a moeseg yn y gwanwyn.

Mae’r ddogfennaeth yn cynnwys hefyd arweiniad am ddefnyddio’r fframwaith cwricwlwm gyda disgyblion sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, mewn Unedau Cyfeirio Disgyblion, mewn meithrinfeydd nas cynhelir, wrth addysgu gartref, ac mewn amgylchiadau eraill.

Byddwn am annog holl aelod eglwysi a mudiadau Cytûn i ddechrau ystyried nawr sut y maent am annog ac arfogi eu cynulleidfaoedd a changhennau lleol i ymwneud â’u hysgolion lleol, a chynnig arweiniad ar sut y dylent ymateb i geisiadau gan ysgolion lleol, gan fod gennym gymaint i’w gyfrannu i gyfoethogi’r cwricwlwm newydd hwn yng nghynefin y disgyblion.

Gethin Rhys  09/02/2020