Ar 6 Gorffennaf 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Fil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru). Cyhoeddwyd hefyd nifer o ddogfennau cefndirol. Nod y Bil yw gosod sail statudol i Gwricwlwm i Gymru a gyhoeddwyd yn Ionawr 2020 ar gyfer ysgolion i’w gyflwyno o Fedi 2022. Mae’r Llywodraeth o hyd yn bwriadu i gyflwyno’r cwricwlwm ddechrau yn 2022, ond mewn tystiolaeth gerbron pwyllgor Seneddol ar Orffennaf 14, fe ddywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams AS, nad yw’n gwarafun oedi yn dilyn helbul Covid-19.

Mae Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Senedd Cymru ar hyn o bryd yn craffu ar y Bil, a byddant yn llunio adroddiad yn cynnig eu sylwadau a gwelliannau posibl i’r Bil erbyn Rhagfyr 4 2020. Mae’r Pwyllgor yn gwahodd tystiolaeth ysgrifenedig gan y cyhoedd tan Medi 29 2020. Mae’r Pwyllgor hefyd wedi cyhoeddi arolwg arbennig i blant a phobl ifainc. Mae angen ymatebion i hwnnw erbyn Medi 13.

Mae Cytûn wedi darparu cynrychiolaeth ar gyfer cymunedau ffydd trwy gydol y broses o baratoi’r cwricwlwm hwn, trwy fod yn rhan o Grŵp Rhanddeiliaid Strategol y Cwricwlwm (yn cynrychioli’r Fforwm Cymunedau Ffydd), llinyn Addysg Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector (yn cynrychioli Cyngor Rhyng-ffydd Cymru), trwy nifer fawr o gyfarfodydd wyneb yn wyneb â swyddogion Llywodraeth Cymru (rhai ohonynt ar y cyd â Chyngor Eglwysi Rhyddion Cymru, yr Eglwys yng Nghymru, Gwasanaeth Addysg yr Eglwys Gatholig a/neu Dyneiddwyr Cymru), trwy drefnu cyfarfod rhyng-ffydd â’r Gweinidog Addysg i drafod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb, ac yn fwyaf diweddar trwy ddod yn aelod o Grŵp Ymgysylltu Cymunedau Ffydd a Du a Lleiafrifol Ethnig.

Trwy gydol y broses, mae’r Eglwys yng Nghymru a Gwasanaeth Addysg yr Eglwys Gatholig, gan eu bod yn ddarparwyr addysg o fewn y drefn a gynhelir, wedi gallu defnyddio hefyd eu sianeli cyfathrebu eu hunain â Llywodraeth Cymru. Gan ein bod yn cydnabod yr amrywiaeth barn sydd o fewn ein haelodaeth am addysg enwadol, nid yw Cytûn yn anelu at gynrychioli’n ffurfiol farn yr enwadau hynny yn eu gwaith o ddarparu addysg.

Nod y papur hwn yw crynhoi y Bil 64 tudalen a’r 500 tudalen o ddogfennau cwricwlwm sydd wedi eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru yn sail i Gwricwlwm 2022. Bu raid dethol a dewis yn llym, felly! Daw’r geiriau mewn print italig a’r rhifau tudalennau yn uniongyrchol o’r ddogfen Canllawiau Cwricwlwm i Gymru. Mae Gwasanaeth Ymchwil Senedd Cymru wedi cyhoeddi papur briffio defnyddiol iawn am y Bil, ac fe anogir y sawl sydd â diddordeb yn y manylion cyfreithiol droi at hwnnw am arweiniad.

Llunio cwricwlwm lleol i bob ysgol

Nod y Canllawiau Cwricwlwm yw helpu pob ysgol i ddatblygu ei chwricwlwm ei hun (t. 4). Cwricwlwm yr ysgol yw popeth mae dysgwyr yn ei brofi ar drywydd y pedwar diben [gweler isod]. Mae’n fwy na’r hyn rydyn ni’n ei addysgu yn unig. Mae hefyd yn ymwneud â sut rydyn ni’n ei addysgu ac, yn allweddol, pam ydyn ni’n ei addysgu. (t. 5) Mae hyn yn dra gwahanol i’r model cyfarwyddol a ddefnyddir gan y cwricwlwm presennol (1988 a diwygiadau wedyn). Fe ddiwedderir y canllawiau os yw’r Senedd yn newid y Bil. Mae’r papur hwn yn seiliedig ar y Bil a gyflwynwyd yng Ngorffennaf 2020.

Siâp y cwricwlwm

Mae’r Bil yn nodi pedwar diben y cwricwlwm (t. 11), sef

galluogi dysgwyr i ddatblygu fel:

  • dysgwyr uchelgeisiol, galluog, sy’n barod i ddysgu gydol eu bywydau
  • cyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith
  • dinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd
  • unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.

Rhaid i bob ysgol a gynhelir a lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir fabwysiadu cwricwlwm. [Yn y cyd-destun hwn, mae “mabwysiadu” yn golygu “llunio a mabwysiadu”]. Rhaid i gwricwlwm a fabwysiedir fodloni’r gofynion cyffredinol canlynol.

  • Galluogi dysgwyr i wneud cynnydd tuag at y pedwar diben.
  • Bod yn eang a chytbwys.
  • Bod yn addas ar gyfer dysgwyr o wahanol oedrannau, galluoedd a doniau.
  • Darparu ar gyfer dilyniant priodol i ddysgwyr a chynnwys ystod o ddarpariaeth i sicrhau hyn (yn gysylltiedig ag oedrannau, galluoedd a doniau). (t. 12)

Rhaid i’r chwe maes dysgu a phrofiad canlynol gael eu hadlewyrchu mewn cwricwlwm a fabwysiedir.

  • Y Celfyddydau Mynegiannol.
  • Iechyd a Lles.
  • Y Dyniaethau.
  • Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu.
  • Mathemateg a Rhifedd.
  • Gwyddoniaeth a Thechnoleg.

Bydd yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi cod yn nodi’r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig. Mae’n rhaid i gwricwlwm pob ysgol a phob lleoliad a ariennir nas cynhelir gynnwys yr holl elfennau a nodir yng nghod datganiadau o’r hyn sy’n bwysig.

Bydd y canlynol yn elfennau gorfodol o gwricwlwm (t. 12)

  • Crefydd, gwerthoedd a moeseg
  • Addysg cydberthynas a rhywioldeb
  • Cymraeg
  • Saesneg (heblaw y bydd gan benaethiaid a darparwyr addysg feithrin a ariennir nas cynhelir hawl i ddewis a ydyn nhw’n cyflwyno Saesneg i ddysgwyr hyd at 7 oed, ac i ba raddau y maen nhw’n gwneud hynny. Mae hyn er mwyn cynorthwyo dysgwyr i fod yn rhugl yn y Gymraeg.) (t. 13)

Bydd llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol yn sgiliau trawsgwricwlaidd gorfodol a rhaid eu hymgorffori mewn unrhyw gwricwlwm a fabwysiedir. (t. 13)

Bydd yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi cod cynnydd yn nodi’r ffordd y mae’n rhaid i ddilyniant gael ei adlewyrchu mewn cwricwlwm a fabwysiedir. Bydd yn rhaid i gwricwlwm ysgol adlewyrchu’r egwyddorion cynnydd a nodir yn y cod. (t. 13)

Ar gyfer dysgwyr 14 i 16 oed, rhaid i ysgol gynllunio cwricwlwm fel ei fod yn darparu, yn ogystal ag elfennau gorfodol cwricwlwm a sgiliau trawsgwricwlaidd gorfodol:

  • ddewis i ddysgwyr yn y dysgu arall y byddan nhw’n ei wneud, ond mewn ffordd sy’n sicrhau bod pob dysgwr yn dal i ymgymryd â pheth dysgu ym mhob Maes
  • elfennau eraill y mae’r ysgol yn gofyn i bob dysgwr (neu rai grwpiau o ddysgwyr) eu cyflawni. (t. 14)

a gall Gweinidogion Cymru bennu gofynion ar gyfer yr oedran hon yn fwy manwl.

Mae’r Bil yn rhoi i Weinidogion Cymru y gallu yn nes ymlaen, trwy reoliadau, i newid y meysydd dysgu a phrofiad dynodedig, y datganiadau o’r hyn sy’n bwysig, yr elfennau gorfodol, y sgiliau trawsgwricwlaidd gorfodol, y cod cynnydd a’r trefniadau cenedlaethol ar gyfer oedran 14-16. Byddai hyn yn rhoi cryn ofod i lywodraethau Cymru yn y dyfodol i newid yn sylweddol y ffordd y mae’r cwricwlwm newydd yn gweithredu heb orfod newid y ddeddfwriaeth sylfaenol.

Mae Fframwaith Cwricwlwm i Gymru yn annog ysgolion i ddatblygu eu gweledigaeth eu hunain ar gyfer eu dysgwyr o fewn cyd-destun y pedwar diben a’r dysgu a ddiffinnir ar lefel genedlaethol. Mae’n rhoi lle i ymarferwyr fod yn greadigol a datblygu dysgu ystyrlon drwy ystod o brofiadau a chyd-destunau sy’n diwallu anghenion eu dysgwyr. (t. 21)

Ymhlith yr egwyddorion cynllunio a gweithredu cwricwlwm a argymhellir gan Lywodraeth Cymru (t. 21) yw y dylai pob ysgol ddatblygu cwricwlwm sydd yn

  • adlewyrchu amrywiaeth safbwyntiau, gwerthoedd a hunaniaethau sy’n llunio eich ardal leol a Chymru, a meithrin dealltwriaeth o’r byd ehangach
  • ymgorffori cyd-awduro gyda dysgwyr, eu teuluoedd a’r gymuned ehangach

Cyfleoedd i eglwysi lleol a mudiadau Cristnogol

Ystyr y patrwm newydd hwn o bob ysgol leol yn datblygu ei chwricwlwm ei hun i’w gyflwyno (yn ôl yr amserlen gyfredol) o Fedi 2022, yw y bydd y prif gyfleoedd i gyfrannu i gwricwlwm i’w canfod yn lleol. Bydd sicrhau cyfranogiad gan y gymuned ehangach wrth ddatblygu’r cwricwlwm yn rheidrwydd ar bob ysgol. Dylai cwricwla ysgolion hefyd gydnabod ac adlewyrchu anghenion a chyd-destunau’r cymunedau yn yr ysgol a thu hwnt. Dylai ymarferwyr hefyd geisio cydweithredu a manteisio ar ystod o arbenigwyr a rhanddeiliaid a all gyfrannu at ddysgu, gan ddarparu profiadau unigryw a chyfoethogol i ddysgwyr. (t. 49) Felly, bydd angen i eglwysi lleol sydd am gyfrannu trwy eu hysgolion i ddatblygiad addysgol, moesol ac ysbrydol plant eu hardal a chynnig eu hadeiladau a’u harbenigedd i gyfoethogi’r cwricwlwm, ddatblygu perthynas yn uniongyrchol â’u hysgolion lleol.

Mae’r cwricwlwm yn gosod pwyslais arbennig ar wreiddio’r addysg yng nghynefin yr ysgol ei hun (defnyddir y gair Cymraeg yn y ddogfen Saesneg hefyd). Mae bod â hyder yn eu hunaniaeth yn helpu dysgwyr i werthfawrogi’r cyfraniad y gallan nhw ac eraill ei wneud yn eu cymunedau ac i ddatblygu ac archwilio eu hymatebion i faterion lleol, cenedlaethol a byd-eang. Mae hefyd yn eu helpu i archwilio, creu cysylltiadau a meithrin dealltwriaeth o fewn cymdeithas amrywiol. Mae hyn hefyd yn cydnabod nad yw Cymru, fel unrhyw gymdeithas arall, yn unffurf, ond ei bod yn hytrach yn gyfuniad o werthoedd, safbwyntiau, diwylliannau a hanes sy’n cynnwys pawb sy’n byw yng Nghymru. (t. 30).

Bydd gan eglwysi gyfraniad arbennig i helpu disgyblion ddeall hanes a hunaniaethau crefyddol heddiw yn eu cynefin, a bydd cynulleidfaoedd Cymraeg yn gallu cyfrannu’n arbennig at ddealltwriaeth ieithyddol plant. Dylai fod llwybrau ar gael i bob dysgwr ddysgu Cymraeg a Saesneg er mwyn eu galluogi i fagu’r hyder i ddefnyddio’r ddwy iaith mewn bywyd bob dydd… Gall mynediad at y ddwy iaith helpu i agor y drws i lenyddiaeth, daearyddiaeth, democratiaeth, hanes a diwylliant cyfoethog ac unigryw Cymru. Mae meddu ar wybodaeth, profiad a dealltwriaeth o’r rhain yn cefnogi dysgwyr i fod yn ddinasyddion gweithredol a llwyddiannus yn y Gymru gyfoes. (t. 30)

Wedi dweud hynny, fe fydd pob ysgol leol yn chwilio am adnoddau a deunydd y tu hwnt i’w hardal leol hefyd, yn enwedig wrth feithrin dealltwriaeth disgyblion o faterion cenedlaethol a byd-eang a’u gallu i ymateb iddynt. Mae yna gyfleoedd, felly, i fudiadau cenedlaethol a rhyngwladol ddatblygu deunydd pwrpasol ar gyfer ysgolion i’w helpu gyda’r gwaith hwn – naill ai trwy gynnig adnoddau rhag blaen i’w helpu wrth lunio’r cwricwlwm, a/neu drwy ymateb i ofynion ysgolion unwaith y gwelir beth yw cynnwys eu cwricwlwm.

Pynciau penodol o ddiddordeb arbennig i eglwysi

Mae Cytûn wedi cyfrannu at ddatblygu pob agwedd ar Fframwaith Cwricwlwm 2022 a bydd gan Gristnogion ymrwymiad i weld datblygu’r cwricwlwm cyfan. Ond rydym wedi ymddiddori mewn dau faes yn arbennig, gan iddynt fod o bryder penodol i aelodau nifer o eglwysi a chymunedau ffydd.

Bydd Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb bellach yn orfodol i bob disgybl fel rhan o Faes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles. Mae Cymal 24(2) y Bil yn dweud fod rhaid i’r ddarpariaeth yn y pwnc hwn fod yn briodol yn ddatblygiadol i ddisgyblion. Mae Cytûn yn rhan o Grŵp Ymgysylltu Cymunedau Ffydd a Du a Lleiafrifol Ethnig, sydd yn darparu adborth i’r sawl sy’n datblygu’r canllawiau cenedlaethol manwl a gyhoeddir maes o law ar gyfer ysgolion. Bydd y rhan hwn o’r cwricwlwm yn llawer mwy penodol na meysydd eraill, yn hytrach na chael ei benderfynu yn bennaf yn lleol.  

Fe ailenwir Addysg Grefyddol yn Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg ac fe ddaw yn orfodol i bob disgybl fel rhan o Faes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau. Mae’n bwysig fod gan ddysgwyr gyfleoedd i drafod ac archwilio eu safbwyntiau personol ar fydolygon crefyddol ac anghrefyddol, heriau moesol a materion cynhwysiant cymdeithasol. (t. 101)

Dyma’r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig yn y Dyniaethau (tt 102-104):

  • Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a’i ddyfodol.
  • Mae digwyddiadau a phrofiadau dynol yn gymhleth a chânt eu hamgyffred, eu dehongli a’u cynrychioli mewn gwahanol ffyrdd.
  • Mae ein byd naturiol yn amrywiol a deinamig, wedi’i ddylanwadu gan brosesau a gweithredoedd dynol.
  • Mae cymdeithasau dynol yn gymhleth ac yn amrywiol, ac maen nhw’n cael eu llywio gan weithredoedd a chredoau pobl.
  • Mae dinasyddion gwybodus, hunanymwybodol yn mynd i’r afael â’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu dynoliaeth, ac yn gallu cymryd camau ystyrlon ac egwyddorol.

Yn y Maes Dysgu a Phrofiad hwn, fel ymhob un arall, fe gysylltir pob datganiad am beth sy’n bwysig i gyfres o gamau cynnydd, sy’n cyfateb yn fras iawn â’r cyrhaeddiad a ddisgwylir erbyn oedrannau 5, 8, 11, 14 ac 16. Dyma enghraifft o’r trydydd datganiad uchod (Mae ein byd naturiol yn amrywiol a deinamig…) (tt 110-111):

CC 1: Rwy’n gallu adnabod pam mae lleoedd yn bwysig i mi.

CC 2: Rwy’n gallu disgrifio sut mae lleoedd, gofodau, amgylcheddau a thirweddau yn bwysig i wahanol bobl ac am wahanol resymau.

CC 3: Rwy’n gallu disgrifio ac esbonio’n syml sut a pham mae rhai lleoedd, gofodau, amgylcheddau a thirweddau yn arbennig o bwysig i wahanol bobl ac am wahanol resymau.

CC 4: Rwy’n gallu deall ac esbonio sut mae lleoedd, gofodau, amgylcheddau a thirffurfiau arwyddocaol yn y byd naturiol yn gysylltiedig â chredoau ac arferion economaidd, hanesyddol, gwleidyddol, crefyddol ac anghrefyddol.

CC 5: Rwy’n gallu gwerthuso i ba raddau mae credoau, arferion a gweithredoedd economaidd, cymdeithasol, gwleidyddol, diwylliannol, crefyddol ac anghrefyddol wedi arwain at newidiadau yn y byd naturiol.

Dywed y canllawiau penodol ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg:

Dylai cynllun cwricwlwm ysgol:

  • ddatblygu dealltwriaeth o’r disgyblaeth a’i gwerth
  • cynnig cyd-destunau cyfoethog i ddysgwyr fod yn chwilfrydig, i archwilio’r cwestiynau eithaf, ac i chwilio am ddealltwriaeth o’r cyflwr dynol, yn ogystal â darparu cyfleoedd i ddysgwyr fyfyrio, ac i brofi gwefr a rhyfeddod mewn ystod o gyd-destunau ystyrlon o fewn y byd go iawn.
  • datblygu cyd-destunau cyfoethog ar gyfer ymchwil i gysyniadau crefydd, bydolwg, seciwlariaeth, ysbrydolrwydd, safiad bywyd, hunaniaeth a diwylliant i ddatblygu dealltwriaeth y dysgwyr o fydolygon crefyddol ac anghrefyddol
  • cynnig cyd-destunau cyfoethog i ymwneud â chysyniadau cred, ffydd, gwirionedd, diben, ystyr, gwybodaeth, ffynonellau awdurdod, hunan, tarddiad, bywyd, marwolaeth a Realiti Eithaf sy’n galluogi dysgwyr i ddatblygu dealltwriaeth o fydolygon personol a sefydliadol am natur bywyd a’r byd o’u cwmpas
  • datblygu cyd-destunau cyfoethog ar gyfer archwilio cysyniadau hunaniaeth, perthyn, perthynas ag eraill, cymuned, cynefin, amrywiaeth, plwraliaeth a chydgysylltiad sy’n galluogi dysgwyr i feithrin synnwyr o’r hunan a datblygu’n ysbrydol
  • archwilio cysyniadau cydraddoldeb, cynaladwyedd, goddefgarwch, rhyddid, rhagfarn, gwahaniaethu, eithafiaeth, da a drwg sy’n galluogi i ddysgwyr gael golwg ar y sialensau a’r cyfleoedd sy’n wynebu cymdeithasau
  • adlewyrchu cysyniadau a chyd-destunau crefyddoldeb, arfer, defod, traddodiad, moli, cysegredigrwydd, symboliaeth a dathliad er mwyn datblygu dealltwriaeth dysgwyr o grefydd a chred fyw
  • cynnig cyd-destunau cyfoethog ar gyfer archwilio cysyniadau moeseg, moesoldeb, cyfiawnder, cyfrifoldebau, awdurdod, dynoliaeth, hawliau, gwerthoedd a gweithredu cymdeithasol
  • datblygu dealltwriaeth o grefydd a chred fyw trwy archwilio’r cysyniadau allweddol (t. 126).

Fe gyhoeddwyd y Bil cyn gorffen cyfnod ymgynghori am union batrwm llunio a dynodi meysydd llafur ysgolion o ran Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg. Addawodd y Llywodraeth y byddai canlyniad yr ymgynghoriad yn bwydo i welliannau i’r Bil. Mae’r Pwyllgor Seneddol eisoes wedi ysgrifennu at y Gweinidog Addysg yn gofyn nifer o gwestiynau penodol am hyn.

Y broses sydd yn Atodlenni 1 a 2 y Bil ar hyn o bryd o ran llunio cwricwlwm ysgolion ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yw a ganlyn:

  1. Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi canllawiau statudol i awdurdodau lleol ynghylch y meysydd llafur cytunedig ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg.
  2. Bydd yn ofynnol i bob awdurdod lleol gynnal cynhadledd maes llafur cytunedig i lunio’r maes llafur cytunedig o ran Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg ar gyfer yr ysgolion a gynhelir yn ei ardal. Mae’r Bil yn newid cyfansoddiad y Gynhadledd Maes Llafur Cytunedig i gynnwys pedwar pwyllgor (mae gan bob pwyllgor un bleidlais ar y cyd):
    – Pwyllgor yn cynrychioli enwadau crefyddol yr ardal, yn ôl doethineb yr awdurdod lleol;
    – Pwyllgor newydd yn cynrychioli “such non-religious philosophical convictions … as, in the opinion of the authority, ought to be represented”;
    – Pwyllgor yn cynrychioli’r Awdurdod Addysg Lleol;
    – Pwyllgor yn cynrychioli cymdeithasau’r athrawon.
    Mae angen i’r pedwar pwyllgor fod yn gytûn er mwyn mabwysiadu maes llafur; os na allant gytuno, bydd Llywodraeth Cymru yn penodi a body of persons appearing to the Welsh Ministers to possess relevant experience to prepare a syllabus of Religion, Values and Ethics i gyflawni’r gwaith (Atodlen 2 para 26(9)).
    Bydd raid i’r maes llafur cytunedig:
    a) adlewyrchu’r ffaith mai Cristnogol yn bennaf yw’r traddodiadau crefyddol ym Mhrydain Fawr, gan ystyried dysgeidiaeth ac arferion y prif grefyddau eraill a gynrychiolir ym Mhrydain Fawr, a
    b) adlewyrchu hefyd y ffaith y delir ystod o argyhoeddiadau athronyddol nad ydynt yn grefyddol ym Mhrydain Fawr.
  3. Bydd ysgolion wedyn yn llunio eu maes/meysydd llafur lleol eu hunain, fel a ganlyn:

Ysgolion cymunedol ac ysgolion sefydledig a gwirfoddol heb gymeriad crefyddol: Bydd raid i’r ysgolion hyn ddylunio eu cwricwlwm ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM) gan roi sylw i’r maes llafur cytunedig lleol (yn hytrach nag addysgu’n unol â’r maes llafur Addysg Grefyddol, fel ar hyn o bryd.)

Ysgolion sefydledig ac ysgolion gwirfoddol a reolir sydd â chymeriad crefyddol (Ysgolion VC): Bydd gofyn i’r ysgolion hyn ddarparu ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM) enwadol a CGM gan roi sylw i’r maes llafur y cytunedig. Y drefn ddiofynar gyfer yr ysgolion hyn fydd i ddysgwyr dderbyn addysg CGM a gynlluniwyd gan roi sylw i’r maes llafur cytunedig, ond bydd rhaid darparu CGM yn unol â gweithredoedd ymddiriedolaeth neu ddaliadau’r ffydd (h.y. CGM enwadol) pan fydd rhiant yn gofyn am y ddarpariaeth honno. (Mae hyn yn wahanol i’r sefyllfa bresennol, lle mae dim ond ystyried cais ar gyfer darpariaeth enwadol y mae’n rhaid i ysgol VC ei wneud).

Ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir sydd â chymeriad crefyddol (Ysgolion VA): Bydd yn ofynnol i’r ysgolion hyn ddarparu ar gyfer CGM enwadol a CGM yn unol â maes llafur cytunedig. Y drefn ddiofyn ar gyfer yr ysgolion hyn fydd i ddysgwyr gael addysg CGM yn unol â gweithredoedd ymddiriedolaeth neu ddaliadau ffydd yr ysgol (CGM enwadol). Fodd bynnag, os bydd rhiant yn gofyn am addysg CGM yn unol â’r maes llafur cytunedig, rhaid ei darparu. Noder yn achos ysgol VA mai darparu yn unol â’r maes llafur cytunedig fydd raid, ac nid darparu gan roi sylw i’r maes llafur hwnnw. (Mae hyn yn wahanol i’r sefyllfa bresennol, lle mae dim ond ystyried cais ar gyfer darpariaeth yn unol â’r maes llafur cytunedig y mae’n rhaid i ysgol VA ei wneud). Dyma’r unig ysgolion fydd dan rwymedigaeth i addysgu CGM yn unol â’r maes llafur cytunedig.

Mae’r newidiadau hyn yn sefyllfa ysgolion VA o ran Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg wedi arwain at gryn bryder gan yr Eglwys Gatholig a’r Eglwys yng Nghymru – sef yr unig ddau gorff crefyddol sydd ar hyn o bryd yn noddi ysgolion o’r fath yng Nghymru.

Asesu

Er bod y gair ‘Asesu’ yn nheitl y Bil, prin yw’r cyfeiriadau at y pwnc o’i fewn. Fe gyhoeddwyd Canllawiau drafft ar gyfer asesu yn Ionawr 2020.

Mae Adran 58 y Bil yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau ynghylch cynllunio, gweithredu, gwerthuso, adolygu a gwybodaeth a ddarperir sy’n gysylltiedig â threfniadau asesu. Gwneir y rheoliadau hyn o dan weithdrefn negyddol y Seneddar gyfer is-ddeddfwriaeth – hynny yw, fe fydd angen i’r Senedd bleidleisio yn benodol yn eu herbyn os nad ydynt yn cytuno, ac ni fydd modd cyflwyno gwelliannau ar lawr y Senedd. Mae’n debyg y bydd digwyddiadau Awst 2020 o ran asesu disgyblion 16-18 mlwydd oed yn codi cwestiynau am y diffyg sylw i’r mater hwn ar wyneb y Bil a’r diffyg rhan i’r Senedd yn nhrefniadau asesu’r dyfodol.

Materion eraill

Mae’r Bil a’r ddogfennaeth yn cynnwys hefyd arweiniad am ddefnyddio’r fframwaith cwricwlwm gyda disgyblion sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, mewn Unedau Cyfeirio Disgyblion, mewn meithrinfeydd nas cynhelir, wrth addysgu gartref, ac mewn amgylchiadau eraill.

Casgliad

Byddwn am annog holl aelod eglwysi a mudiadau Cytûn i ystyried ymateb i ymgynghoriad y Pwyllgor Seneddol i fynegi barn. Ond yn bwysicach, dyma’r cyfle i’n haelodau ddechrau ystyried sut y maent am annog ac arfogi eu cynulleidfaoedd a changhennau lleol i ymwneud â’u hysgolion lleol, a chynnig arweiniad ar sut y dylent ymateb i geisiadau gan ysgolion lleol, gan fod gennym gymaint i’w gyfrannu i gyfoethogi’r cwricwlwm newydd hwn yng nghynefin y disgyblion.

Gethin Rhys  24.08.2020