30ain Ionawr 2019

Beth yw Brexit di-gytundeb?

Arfaethir i’r DU ymadael â’r Undeb Ewropeaidd ar 29ain Mawrth 2019 am 11yh. Os nad oes cytundeb ymadael ffurfiol wedi’i gadarnhau erbyn y dyddiad a’r amser hwnnw, fe fydd holl gyfreithiau a rheolau’r UE yn peidio â bod yn gymwys yn y DU ar unwaith. Byddai hyn yn dileu ar unwaith unrhyw gytundebau rhwng y nail ochr a’r llall ynghylch sut i reoli, ymysg pethau eraill, tollau, hawliau teithio a masnach. Byddai’n dileu’r cyfnod pontio arfaethedig (oedd i fod i roi amser i sefydliadau a busnesau ymaddasu i’r newidiadau). Heb i’r ddwy ochr ddod i gytundeb, byddai angen i’r DU gadw at reolau Sefydliad Masnach y Byd (WTO), a wynebu’r un gwiriadau a thollau mewnforio â gwledydd y tu allan i’r UE. Mae beirniaid wedi awgrymu y gallai’r gwiriadau Ychwanegol hyn arwain at brinder mewn meysydd allweddol megis meddyginiaethau, yn ogystal ag achosi ciwiau hir ar gyfer trafnidiaeth.  

Pam y mae hyn yn bwysig i Gymru?

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn bendant ers Refferendwm yr UE y byddai Brexit di-gytundeb yn creu anhrefn yng Nghymru. Meddai Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, “Nid wyf yn derbyn bod Brexit heb gytundeb yn anochel” wedi gohirio rhan fwyaf trafodion Senedd Cymru ar 22ain Ionawr er mwyn trafod paratoadau ar gyfer Brexit di-gytundeb. Mae wedi awgrymu y byddai’n cefnogi ail bleidlais gyhoeddus i ddatrys yr anghydfod pe bai angen, ac wedi galw am ddileu’r bygythiad o adael yr UE heb gytundeb. Mae beirniaid y Llywodraeth, a arweinir gan y Blaid Lafur, wedi’i chyhuddo o “godi bwganod”, yng ngeiriau arweinydd grŵp UKIP, Gareth Bennett, yn eu paratoadau ar gyfer Brexit di-gytundeb. Ond fe fyddai ymadael â’r Undeb Ewropeaidd heb gytundeb yn cael effaith sylweddol ar nifer o feysydd ym mywyd Cymru.

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud?

Wrth i’r tebygrwydd yr ymadewir heb gytundeb gynyddu, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gwneud nifer o baratoadau i geisio lliniaru’r effaith gymaint ag yn bosibl.[1]

Mae’r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol wedi cynhyrchu cyfres o adroddiadau ar ddiwedd 2018 yn canolbwyntio ar sectorau allweddol yng Nghymru ellid eu heffeithio gan ymadawiad di-gytundeb, yn cynnwys paratoi porthladdoedd; gofal iechyd a meddyginiaethau; a bwyd a diod. Fe godwyd y meysydd hyn yn y cyfarfod llawn ar 22ain Ionawr, ac fe’u nodwyd yn fwy ffurfiol ar 29ain Ionawr, gan nodi – ymysg eraill – y pryderon canlynol:

  • Paratoi porthladdoedd: Mae gan yr UE rôl allweddol o ran trafnidiaeth drwy’r awyr, y môr a’r ffyrdd. Mae cyfraith ryngwladol yn darparu peth cefnogaeth wrth gefn, ond mae’n amrywio yn ôl natur y teithio. Rhai o’r materion allweddol a godwyd gan y Pwyllgor oedd: gallu porthladdoedd Cymru i ymdopi â chynnydd posibl yn y drafnidiaeth, cysylltiadau rhwng cyfranogwyr, yn ogystal ag atebion technegol ar gyfer trefniadau tollau’r dyfodol. Derbyniwyd y saith argymhelliad gan Lywodraeth Cymru. Dywedodd Ken Skates, y Gweinidog Economi a Thrafnidiaeth, yn ystod y cyfarfod llawn fod porthladdoedd Cymru yn “gwneud cyfraniad hollbwysig i’n heconomi” drwy “ddarparu swyddi a gwerth ychwanegol i gymunedau lleol” a bod effeithio ar eu “gweithredu effeithlon” yn creu risg sylweddol i Gymru gyfan.
  • Gofal iechyd a meddyginiaethau: Mae statws gofal iechyd a meddyginiaethau yn creu anawsterau penodol. Mae argymhellion y Pwyllgor yn canolbwyntio ar feysydd megis cyflenwi meddyginiaethau a chydnabyddiaeth gilyddol o ran safonau. Derbyniodd Llywodraeth Cymru yr argymhellion hyn. Mae Llywodraeth y DU ar hyn o bryd yn ceisio trefniadau â gwledydd yr UE, Parth Economaidd Ewrop (EEA) a’r Swisdir er mwyn sicrhau parhau gofal iechyd ar gyfer dinasyddion y DU os na cheir cytundeb. Meddai Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, hefyd y byddai unrhyw newidiadau i bolisi mudo “yn cael eu teimlo ddwysaf yn y rhannau hynny o’r sector iechyd a gofal cymdeithasol sy’n dibynnu ar weithwyr cyflog is,” a fyddai’n arwain at “oedi rhyddhau pobl o’r ysbyty a phwysau ychwanegol”.
  • Bwyd a diod: Y sector bwyd a diod yw un o’r mwyaf integredig yn yr Undeb Ewropeaidd, gyda chadwyni cyflenwi yn rhychwantu’r Undeb Ewropeaidd, rhyddid symud i weithwyr, a safonau rheoleiddio wedi eu halinio. Mae rhai o gynhyrchwyr bwyd Cymru hefyd yn rhan o gynlluniau’r UE o warchod nodau daearyddol bwydydd. Disgwylir y bydd y sector hwn yn wynebu anawsterau arbennig heb gytundeb. Derbyniwyd argymhellion y Pwyllgor yma hefyd, gan gynnwys gofyn i Lywodraeth Cymru amlinellu manylion ei chynlluniau i gefnogi busnes er lliniaru effeithiau Brexit di-gytundeb ar gyflenwadau bwyd.

Amlinellwyd meysydd eraill sy’n pryderu Llywodraeth Cymru yng nghyfarfod llawn 22ain Ionawr:

  • Cadarnhaodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, “mae fy swyddogion yn cydweithio’n agos â Llywodraeth y DU ar gynllunio argyfwng i warchod ein cyflenwad bwyd, sicrhau cyflenwad ynni di-dor a chyda Dŵr Cymru a Hafren Dyfrdwy i sicrhau ein cyflenwad dŵr.”
  • Bu Julie James, Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, yn trafod argyfyngau sifil, yn cynnwys cynlluniau argyfwng sifil ar gyfer Canolfan Cydgysylltu Argyfyngau, y gellid ei defnyddio (pe byddai angen) i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus pe ceir ymadawiad di-gytundeb. Cadarnhaodd hefyd fod Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru ar gyfer Troseddau Casineb wedi cydnabod “effeithiau posibl Brexit a throseddau casineb yn targedu lleiafrifoedd ethnig a chrefyddol”, gan gyfeirio at Brosiect Hawliau Dinasyddion yr UE (£1.3m) fydd yn cefnogi mynediad i wasanaethau allweddol ac yn sicrhau bywoliaeth sefydlog barhaol yng Nghymru.
  • Awgrymodd Jeremy Miles, y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit, y byddai Brexit heb gytundeb “yn golygu llai o swyddi, incwm is a mwy o risg o dlodi i bobl mewn cymunedau dros Gymru”, a gofynnodd i Lywodraeth y DU ryddhau arian i helpu cefnogi busnesau a phartneriaid allweddol eraill i liniaru unrhyw effaith negyddol.

Beth sy’n digwydd nesaf?

Cyhoeddodd Llywodraeth y DU arweiniad ar gyfer Brexit di-gytundeb yn hydref 2018, gan esbonio: “fel llywodraeth gyfrifol, wedi treulio dros ddwy flynedd yn paratoi’n drwyadl ar gyfer pob canlyniad posibl, gan gynnwys ymadael heb gytundeb”[2] Mae’r paratoadau hyn yn sicr o gynyddu wrth i’r 29ain o Fawrth agosáu. Ond, ar adeg ysgrifennu hyn, bydd llawer yn dibynnu ar ganlyniad trafodaethau pellach Prif Weinidog y DU â’r Undeb Ewropeaidd i ail-negodi’r cytundeb yn dilyn pleidleisiau yn Nhŷ’r Cyffredin ar 29ain Ionawr. Fe all y ceir cytundeb, ond os na, mae Llywodraethau’r DU a Chymru yn paratoi at bob amgylchiad.


[1]  Gweler rhagor yn: https://beta.llyw.cymru/paratoi-cymru?_ga=2.226547675.7370809.1548852239-871221221.1523462737

[2] Gweler rhagor yn: https://www.gov.uk/government/publications/uk-governments-preparations-for-a-no-deal-scenario/uk-governments-preparations-for-a-no-deal-scenario