Parch. Gethin Rhys, MA, MPhil, BLitt | Swyddog Polisi 

07889858062
gethin@cytun.cymru

Cafodd Gethin ei eni a’i fagu yn Rhiwbeina, Caerdydd, a’i addysgu yn Ysgol Gyfun Rhydfelen a Phrifysgolion Rhydychen (lle graddiodd mewn Athroniaeth, Gwleidyddiaeth ac Economeg ac ennill M.Phil. mewn Gwleidyddiaeth) a Birmingham (lle graddiodd mewn Diwinyddiaeth). Ar ôl treulio cyfnodau prawf yn Wrecsam a Llundain, cafodd ei ordeinio yn weinidog gyda’r Eglwys Ddiwygiedig Unedig, a bu’n gwasanaethu gofalaethau yn Aberhonddu (ar y cyd â’r Annibynwyr Cymraeg), Trefforest, Porth y Rhondda a Phenrhys (yn eglwys gyd-enwadol Llanfair). Bu hefyd gyda’i wraig, Dr Fiona Liddell, yn gyd-Warden Coleg Trefeca (Eglwys Bresbyteraidd Cymru) ac yn 2003-5 bu’n Ysgrifennydd Cyffredinol yr Eglwysi Cyfamodol yng Nghymru ac yn Ysgrifennydd Cyffredinol Cynorthwyol i Cytûn. Cychwynnodd ar ei waith fel Swyddog Polisi yn Ionawr 2015 ac mae’n falch o allu cyfuno yn y swydd hon ei gefndir mewn Gwleidyddiaeth a Diwinyddiaeth fel ei gilydd. Mae ganddo ddiddordeb oes mewn agweddau ar gyd-weu diwinyddiaeth Feiblaidd â materion cyhoeddus, ac ef oedd awdur y bennod am Gymru yn y gyfrol Belonging to Britain: Christian Perspectives on a Plural Society (Cyngor Eglwysi Prydain ac Iwerddon, 1991).