Efallai y bydd mwy o bobl yn ystyried pleidleisio drwy’r post ar gyfer yr etholiadau ar 6  Mai eleni. Gallwch wneud cais i bleidleisio drwy’r post mewn un etholiad yn unig neu am gyfnod hirach.

Sicrhau pleidlais bost

Yn gyntaf, gwiriwch eich bod wedi cofrestru i bleidleisio. Os ydych wedi newid eich enw, eich cyfeiriad neu eich cenedligrwydd, bydd angen i chi ddiweddaru eich cofrestriad pleidleisio. Gallwch gofrestru neu ddiweddaru eich manylion ar-lein yn https://www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio gan ddefnyddio eich rhif Yswiriant Gwladol. Fel arall, cysylltwch â’ch swyddfa leol.

Ble mae eich swyddfa leol?

Eich swyddfa leol yw swyddfa’r Tîm Gwasanaethau Etholiadol yn eich Cyngor lleol. Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt  eich swyddfa leol drwy chwilio gan ddefnyddio’ch cod post ar wefan y Comisiwn Etholiadol o dan ‘Nodwch eich cod post’. Fel arall, gofynnwch i’ch Cyngor lleol.

Beth yw’r dyddiadau cau ar gyfer gwneud cais?

Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru neu ddiweddaru eich cofrestriad i bleidleisio ar 6Mai yw hanner nos ar 19Ebrill 2021.

Rhaid i’ch cais am bleidlais bost gyrraedd eich swyddfa leol erbyn 5pm ar 20 Ebrill.

Sut i wneud cais

I wneud cais am bleidlais bost, mae angen i chi lawrlwytho, argraffu, llenwi a llofnodi ffurflen sydd i’w gweld ar wefan y Comisiwn Etholiadol yma: https://www.electoralcommission.org.uk/cy/rwyf-yneg-pleidleisiwr/pleidleisiwr/sut-i-fwrwch-pleidlais/pleidleisio-drwyr-post. Postiwch y ffurflen i’ch swyddfa leol, neu efallai  gallwch ei sganio a’i hanfon drwy e-bost. Os ydych wedi newid cyfeiriad ers i chi wneud cais am bleidlais bost ddiwethaf,  bydd angen i chi wneud cais eto. Os oes angen y ffurflen arnoch mewn fformat hygyrch neu os na allwch ei hargraffu, cysylltwch â’ch swyddfa leol.

Pryd fydd y pecyn pleidleisio drwy’r post yn cyrraedd?

Bydd pecynnau pleidleisio drwy’r post a chardiau pleidleisio drwy’r post yn cael eu hanfon allan o ganol mis Ebrill. Os  bydd eich pleidlais bost yn mynd ar goll neu’n cael ei difetha, gallwch wneud cais am un newydd yn bersonol yn eich swyddfa leol hyd at 5pm ar ddiwrnod yr etholiad.

Sut i ddychwelyd y bleidlais bost

I ddychwelyd y bleidlais bost, postiwch hi mewn da bryd i gyrraedd eich swyddfa leol erbyn 6 Mai.   Neu gallwch fynd â’r bleidlais yn bersonol, neu ofyn i rywun yr ydych yn ymddiried ynddo/ynddi i fynd â hi, i’r orsaf bleidleisio ar ddiwrnod yr etholiad.

Rhaid dychwelyd pleidleisiau post wedi’u cwblhau erbyn 10pm ar ddiwrnod yr etholiad, 6 Mai 2021.