Rhagair

Ers dros ddeng mlynedd ar hugain mae’r ‘Llyfr Gwyrdd’ wedi bod yn adnodd gwerthfawr iawn ar gyfer yr Eglwysi Cyfamodol yng Nghymru: cafodd ei ddefnyddio mewn gwasanaethau Cymun cydeglwysig yn achlysurol, ac yn fwy rheolaidd mewn Partneriaethau Eciwmenaidd Lleol ar hyd a lled Cymru. Fe’i cyhoeddwyd gyntaf gan Gomisiwn yr Eglwysi Cyfamodol fel ffurf gwasanaeth a fyddai’n dderbyniol gan bob eglwys o fewn y Cyfamod, a daeth yn llyfryn cyfarwydd a defnyddiol iawn dros y cyfnod hwnnw; yn wir, enillodd barch a chlod y tu hwnt i ffiniau Cymru.

Bu teimlad ers tro bod angen ei ddiwygio a’i ddiweddaru, a phan ofynnwyd i Banel Litwrgi’r Comisiwn baratoi trefn newydd ar gyfer y Cydgynulliad yn Aberystwyth ym mis Hydref 2012, achubwyd y cyfle i wneud hynny. Ffrwyth llafur y Panel hwnnw yw’r Drefn newydd hon, ac yr ydym yn ei chymeradwyo’n gynnes i’r eglwysi. Mae’r Drefn ei hun yn dilyn y patrwm cydnabyddedig, sef: Pobl Dduw’n Ymgynnull, Cyhoeddi’r Gair, yr Ymbiliau, y Tangnefedd, y Diolch, Rhannu’r Bara a’r Gwin, a’r Anfon Allan.  Er hynny, rhoddir digon o gyfle o fewn y Drefn ar gyfer amrywiaeth naturiol, ac rydym wedi ceisio osgoi’r duedd i or-gyfarwyddo. Fel y dywedir yn y Rhagair i Drefn ‘Y Cymun Sanctaidd’ (1981): ‘Nid yw’r hyn sy’n amlwg mewn un traddodiad bob amser yn amlwg mewn traddodiad arall.’ Uwchlaw popeth arall, rydym wedi ceisio darparu deunydd newydd a ffres.

Wrth ddod o flaen Duw yn y Sacrament dylem fod yn effro i anghenion y byd o’n hamgylch ac yn ymwybodol o gydraddoldeb pob un gerbron Duw, a’r angen am gyfiawnder cymdeithasol a pharch tuag at greadigaeth Duw. Nid pethau ymylol mo’r rhain ond rhan hanfodol o’n bywyd sacramentaidd fel Cristnogion, oherwydd rydym yn byw ein bywydau’n wastad yng nghwmni Crist ac yng nghwlwm ei dangnefedd. Gosodir y cyfan yng nghyd-destun cenhadaeth ac undeb yr eglwys, a hynny wedi ei ddaearu ym mywyd Cymru.

Deuwn ynghyd o wahanol draddodiadau litwrgïaidd, a cheisir adlewyrchu hynny yn y Drefn hon. Hyderwn nad oes dim ynddi sy’n annerbyniol yn ddiwinyddol nac yn peri tramgwydd i bobl wrth adrodd y geiriau. Tra’n bod yn sensitif i’r ddeubeth hynny, roeddem yn awyddus ar yr un pryd i greu rhywbeth newydd, a fyddai ar y naill law yn deilwng o’n hetifeddiaeth ysbrydol gyfoethog ac ar y llaw arall yn addas a pherthnasol ar gyfer y ganrif newydd hon.

Yn olaf, hoffwn ddiolch i aelodau’r Panel am eu hymroddiad a’u gonestrwydd. Nid pob amser yr oeddem yn cytuno â’n gilydd, ond hyderwn fod yr hyn a ddeilliodd o’n cyd-drafod a chydweddïo yn dderbyniol i’r gwahanol eglwysi ac yn gyfrwng i ogoneddu Duw yn ei Fab am flynyddoedd eto i ddod.

GLYN TUDWAL JONES

Cadeirydd, Panel Litwrgi Comisiwn yr Eglwysi Cyfamodol