Gellir darllen testun llawn y llythyr yma.

ARCHESGOB CYMRU YN YMUNO Â 1,000 O ARWEINYDDION FFYDD I ANNOG PRIF WEINIDOG Y DU I AILFEDDWL Y BIL FFOADURIAID

Mae Archesgob Cymru,Y Parchedicaf Andrew John, Cadeirydd Synod Cymru yr Eglwys Fethodistaidd y Barch. Jennifer Hurd,a Chadeirydd Bwrdd Cytûn (Eglwysi ynghyd yng Nghymru) Dr Patrck Coyle, ymhlith mwy na 1000 o arweinwyr ffydd ar draws gwledydd Prydain sydd wedi ysgrifennu at Brif Weinidog y DU yn ei annog i ailystyried y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau. Mae’r arweinwyr, yn cynrychioli chwe phrif grŵp ffydd y DU (1), yn dweud eu bod ‘wedi eu harswydo ac wedi dychryn am ganlyniadau posibl’ y Bil ac wedi galw ar y Prif Weinidog i wneud newidiadau brys ‘hyd yn oed mor hwyr â hyn’.

Mae’r llythyr, a gyhoeddwyd heddiw (Dydd Llun 28 Chwefror 2022), y diwrnod y bydd y Bil yn cychwyn ar ei gamau olaf yn Nhŷ’r Arglwyddi – cyfle olaf hollbwysig i wneud newidiadau – yn datgan: ‘Cyhyd ag y bydd gwrthdaro ac anghyfiawnder yn y byd, bydd bob amser pobl ar eu cythlwng yn ceisio lloches rhag rhyfel, erledigaeth a dioddefaint. ‘Allwn ni ddim cau ein drws arnynt, ond dyna’n union y mae’r Bil hwn yn ei wneud.’

“Mynnwn mai’r gwerthoedd sy’n clymu dinasyddion y DU at ei gilydd, yn enwedig y rhai sy’n ymwneud ag urddas a bywyd dynol, yn cael ei niweidio’n sylfaenol gan y Bil hwn.”

Yng nghyd-destun gwrthdaro byd-eang cynyddol, gan gynnwys yr wythnos hon yn yr Wcráin, mae’r ffordd y mae’r bil yn tanseilio gallu’r DU i gefnogi pobl sy’n ffoi rhag gwrthdaro yn amlycach fyth.

Mae’r llythyr yn galw ar Brif Weinidog y DU i wneud newidiadau sylweddol i’r Bil. Mae’r rhain yn cynnwys rhoi’r gorau i gynlluniau’r llywodraeth i gyfyngu ar hawliau pawb sy’n cyrraedd y DU yn ceisio noddfa fel ffoaduriaid y tu allan i gynlluniau a drefnwyd ymlaen llaw, gan gynnwys y rhai sy’n dod trwy lwybrau anghonfensiynol, megis mewn cychod neu loriau, a’u trin fel troseddwyr. Dywed y llofnodwyr fod y polisi hwn wedi’i lunio ‘heb sail o ran tystiolaeth na moesoldeb’.

Mae’r llofnodwyr hefyd yn honni bod yn rhaid i’r llywodraeth fynd i’r afael ar fyrder â’r methiant i sefydlu llwybrau diogel drwy’r Bil, a fyddai’n helpu pobl sy’n ceisio noddfa i gyrraedd y DU, gan ddweud bod y methiant hwnnw yn tanseilio’i nodau sylfaenol. Maen nhw’n annog y Prif Weinidog i fod yn ‘dosturiol ac uchelgeisiol’ trwy agor cynlluniau megis aduniad teuluol, llwybrau ar gyfer plant sy’n ffoaduriaid ar eu pen eu hunain yn Ewrop ac adsefydlu.

Mae cynrychiolwyr o gymunedau ym mhob sir yn Lloegr wedi arwyddo, ac mae yna gynrychiolaeth eang o’r Alban a Chymru. Mae llawer o gymunedau ffydd ar draws y DU yn gallu tystio ar sail profiad i effaith gadarnhaol llwybrau diogel ar bobl yn eu cymunedau, trwy weithio ym mentrau integreiddio ffoaduriaid, rhaglenni noddi cymunedol a darparu cymorth brys i ffoaduriaid sydd newydd gyrraedd o Afghanistan.

Mae’r llythyr yn galw ar y Prif Weinidog i ddangos ‘arweinyddiaeth wleidyddol’ a hybu ‘tosturi, bywyd ac urddas dynol’. Mae arweinyddion ffydd wedi gofyn i’r Prif Weinidog gyfarfod i drafod eu pryderon.

Dywedodd Zara Mohammed, Ysgrifennydd Cyffredinol Cyngor Mwslemaidd Prydain: “Mae yna lawer o ddarpariaethau yn y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau sy’n peri pryder mawr i gymunedau ffydd. Rhaid i ni, felly, beidio â chefnu ar ein rhwymedigaeth foesol i sicrhau llwybrau diogel i’r rhai sydd eu hangen, i gael proses lloches deg a chyfiawn ac amddiffyn cenedligrwydd fel hawl, nid braint yn unig. Mae gennym ddyletswydd i gynnal traddodiad balch y DU fel cenedl sy’n gyfoethocach oherwydd y rhai a ddaeth yma i adeiladu bywyd gwell, neu i geisio noddfa rhag erledigaeth.”

Dywedodd y Rabi Jonathan Wittenberg, Uwch Rabi Iddewiaeth Masorti: “Cafodd fy nau riant eu croesawu yma fel ffoaduriaid. Dysgais gan eu profiadau i groesawu ffoaduriaid yn fy nhŷ a gweithio gyda fy nghymuned i gefnogi llawer o bobl sy’n cael eu gorfodi i ffoi o’u mamwlad yn ofni am eu bywydau.

“Rwyf wedi gwrando ar hanesion torcalonnus am deithiau ceiswyr lloches ifanc sy’n ysu i gael eu haduno â pherthnasau yn y wlad hon. Mae’r Bil Cenedligrwydd a Ffiniau yn cynnig ein bod yn cau’r drws arnynt mewn modd creulon, gan eu gadael heb unrhyw gyfle am ddiogelwch a dyfodol. Ni allwn adael i hyn ddigwydd. Rwy’n erfyn ar y llywodraeth i agor llwybrau diogel a pheidio â gwahaniaethu yn erbyn y rheini sydd, yn eu hangen dirdynnol am loches, yn dod o hyd i ba bynnag ffordd y gallant i gyrraedd noddfa.”

Cydlynwyd y llythyr gan y Tîm Materion Cyhoeddus ar y Cyd eciwmenaidd, sy’n cynnwys yr Eglwys Fethodistaidd ym Mhrydain, Undeb Bedyddwyr Prydain Fawr a’r Eglwys Ddiwygiedig Unedig, yn gweithio gydag Eglwys yr Alban.

DIWEDD

Cyswllt: Hannah Brown, Yr Eglwys Fethodistaidd – brownh@methodistchurch.org.uk, 07517694606

● (1) Yng Nghyfrifiad 2011, dangoswyd y chwe phrif grŵp ffydd a gynrychiolir yn y DU fel Cristnogaeth, Islam, Iddewiaeth, Hindŵaeth, Sikhaeth a Bwdhaeth.

● Mae’r llythyr yn cael ei anfon at y Prif Weinidog ddydd Llun 28 Chwefror 2022. Mae’r testun llawn ar gael yma.

● Disgwylir i ddiwrnod cyntaf Cyfnod Adrodd y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau yn Nhŷ’r Arglwyddi fod ar ddydd Llun, Chwefror 28ain.

● Ar gael i’w cyfweld:

○ Ms Zara Mohammed, Ysgrifennydd Cyffredinol Cyngor Mwslemaidd Prydain

○ Rabi Jonathan Wittenberg, Uwch Rabi Iddewiaeth Masorti

○ Y Gwir Barchedig Rose Hudson-Wilkin, Esgob Dover

○ Parchg Matthew Lunn, Muswell Hill Welcomes (astudiaeth achos o gydweithio rhyng-ffydd i groesawu ffoaduriaid).

Mae testun llawn y llythyr ar gael i’w weld yma.

● Mae llofnodwyr y llythyr o Gymru yn cynnwys:

  • Cadeirydd Bwrdd Cytûn (Eglwysi ynghyd yng Nghymru) – Dr Patrick Coyle
  • Parch Meirion Morris, Ysgrifennydd Cyffredinol, Eglwys Bresbyteraidd Cymru
  • Parch Beti Wyn James, Llywydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg
  • Y Parchedicaf Andrew John, Archesgob Cymru, yr Eglwys yng Nghymru
  • Y Gwir Barchedig Dominic Walker, Esgob Cynorthwyol Mygedol, yr Eglwys yng Nghymru
  • Parch Ddr Jennifer Hurd, Cadeirydd Synod Cymru, yr Eglwys Fethodistaidd ym Mhrydain
  • Parch Stephen Wigley, Cadeirydd Synod Cymru (Saesneg) yr Eglwys Fethodistaidd
  • Parch Mark Fairweather-Tall, Gweinidog Rhanbarthol, Cymdeithasfa Bedyddwyr De Cymru