Yma gallwch ganfod adnoddau i’ch cynorthwyo i archwilio thema’r argyfwng hinsawdd mewn addoliad, wrth ymrwymo i weithredu ac wrth ymuno ag eraill i alw am newid. Paratowyd yr adnodd hwn gan Tearfund, mudiad Cristnogol sy’n eiddgar dros roi terfyn ar dlodi, mewn cydweithrediad â Chymorth Cristnogol a llawer o gyrff ac ymgyrchwyr eraill.

Drwy gydol yr Ysgrythur gwelwn gariad Duw tuag at y byd hwn. ‘Eiddo’r Arglwydd yw’r ddaear a’i llawnder,’ medd y Salmydd (Salm 24:1). Ond gyda stormydd cryfach nag erioed, cyfnodau o sychder difrifol a thymheredd y ddaear ar gynnydd, rydym yn gweld y greadigaeth yn cael ei thaflu oddi ar ei hechel – ac, o ganlyniad, pobl yn cael eu gwthio’n ôl i dlodi. Os ydym wir i garu’n cymdogion ledled y byd, rhaid i ni fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.

Ym mis Tachwedd 2021, bydd arweinwyr y byd yn ymgynnull yn Glasgow ar gyfer trafodaethau allweddol (cyfarfod COP26) ynghylch sut i ymdrin â newid hinsawdd.

Mae Cristnogion ledled y byd yn gweithredu ar frys, i ddangos cariad at gymydog, i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd ac i achub bywydau. Gall eich eglwys chi fod yn rhan o hynny, yn cymryd camau syml ond grymus fydd yn eich galluogi i ddylanwadu ar benderfyniadau’r rhai sydd mewn grym. Mae pob eglwys sy’n datgan neu’n cydnabod yr argyfwng yn tynnu sylw ato, gan bwysleisio difrifoldeb y sefyllfa a’r angen i arweinwyr y byd gytuno ar gynnydd sylweddol mewn gweithredu yn ystod y trafodaethau. Gyda’n gilydd gallwn fod yn llais proffwydol ar gyfer newid.

Gofynnir i eglwysi wneud tri pheth ar Sul yr Hinsawdd:

  • Addoli: Cynnal gwasanaeth sy’n canolbwyntio ar yr hinsawdd 
  • Ymrwymo:  i weithredu hirdymor ynghylch allyriadau carbon
  • Codi llais: Llofnodi’r alwad gyffredin

Efallai bydd rhai eglwysi am roi pwyslais arbennig ar y thema’r argyfwng hinsawdd fel rhan o’u gweithgareddau Sul yr Hinsawdd, neu adeiladu ar yr hyn a wneir ar Sul yr Hinsawdd drwy archwilio’r thema honno ymhellach yn y dyfodol. Mae yna amrywiaeth o adnoddau ar gael i’ch cynorthwyo gyda hynny.

Lluniwyd Pecyn Cymorth Argyfwng Hinsawdd mewn cydweithrediad ag amryw o fudiadau ac arweinwyr eglwysig i’ch cynorthwyo.

Mae’r Pecyn Cymorth Argyfwng Hinsawdd hefyd yn cynnwys map trywydd sy’n amlinellu tri cham y gall eich eglwys neu eich sefydliad eu cymryd wrth ddilyn y thema:

  • Paratoi – mae’r cam hwn yn creu gofod i bobl ddysgu mwy, i ofyn cwestiynau ac i rannu eu hadwaith i’r argyfwng hinsawdd, gan ystyried sut gallant ymateb drwy eu haddoliad a’u bywyd fel disgyblion.
  • Cyhoeddi neu gydnabod yr argyfwng hinsawdd – mae’n bwysig gwneud datganiad cyhoeddus: byddai gwneud hynny mewn gwasanaeth Sul yr Hinsawdd yn gweithio’n dda.
  • Sicrhau effaith – gweithio gydag eraill o fewn eich cymuned leol a chodi llais dros newid.

Gobeithiwn y bydd y pecyn a’r adnoddau isod yn eich cynorthwyo i ymateb yn fwy effeithiol i’r argyfwng hinsawdd wrth i chi gyflawni’r gweithredoedd cyffredin yr anogir pob eglwys i’w cyflawni, neu ar ôl hynny. Gallwch gyflawni’r camau mewn unrhyw drefn, yn y ffordd fwyaf priodol ar gyfer eich cyd-destun chi.

Cynnal gwasanaeth sy’n canolbwyntio ar yr hinsawdd

Mae llawer o’r cyrff sy’n gysylltiedig â Sul yr Hinsawdd wedi cynhyrchu adnoddau i’ch cynorthwyo i gynllunio gwasanaeth ar thema newid hinsawdd a gallwch ganfod rhai ohonynt ar y dudalen adnoddau. Gallwch ddewis pa fath o gynllun fydd yn gweithio ar gyfer eich cyd‑destun eglwysig, gan gynnwys wrth addoli a gweddïo, wrth ddefnyddio testunau o’r Beibl a phan fyddwch am wneud datganiad cyhoeddus eich bod yn bwriadu gweithredu yn wyneb yr argyfwng hinsawdd.

Yn y Beibl, mae Iesu’n dweud wrthym mai’r ddau orchymyn pwysicaf yw i garu Duw ac i garu’n cymdogion. Mae mynd i’r afael â newid hinsawdd yn hollbwysig ar gyfer y ddau ohonynt – anrhydeddu Duw drwy warchod ei greadigaeth a charu ein cymdogion ledled y byd sydd yn dioddef gyntaf ac yn dioddef waethaf yn sgil yr hyn sydd bellach yn argyfwng hinsawdd. Mae nodiadau pregethu ynghylch hinsawdd Tearfund (a’u PowerPoint) yn nodi’r meysydd i’w cynnwys ynghyd â darnau o’r Ysgrythur i ddewis o’u plith. Bydd ffilm sy’n cynnwys hanes Orbisa, ffermwr yn Ethiopia, o gymorth i chi adrodd hanes un o’n cymdogion byd-eang. Mae’r rhestr ffeithiau argyfwng hinsawdd yn cynnwys ystadegau a dyfyniadau defnyddiol.

Gallai eich gwasanaeth sy’n canolbwyntio ar yr hinsawdd gynnwys cyhoeddi neu gydnabod yr argyfwng hinsawdd fel eglwys, ynghyd ag ychwanegu eich llais at yr Alwad Gyffredin, y gofynnir i’r holl eglwysi drwy’r wlad ei llofnodi. Drwy wneud hynny rydych yn dweud wrth eich aelodau a’ch cymuned ehangach bod eich eglwys neu eich sefydliad yn deall pa mor bwysig yw ymateb yn ddi-oed i newid hinsawdd ac yn ymrwymo i weithredu. Mae hefyd yn gwahodd eich cymuned i ymuno â chi ar y daith honno.

Drwy godi llais proffwydol ynghyd, rydym yn cynyddu dealltwriaeth y cyhoedd o ddifrifoldeb y sefyllfa, yn ysbrydoli pobl i weithredu ac yn annog arweinwyr ein gwledydd i gymryd camau uchelgeisiol.

Dyna’n union a wnaeth Eglwys Gateway yn Leeds yn eu gwasanaeth yn canolbwyntio ar yr hinsawdd. Fel yr eglura John Davy, un o’r arweinwyr:

Mae Eglwys Gateway yng nghanol dinas Leeds yn gysylltiedig â rhwydwaith eglwysi ChristCentral (sy’n rhan o Newfrontiers). Hyd at 2020, nid oedd gennym wir unrhyw ymrwymiad i ymateb i’r argyfwng amgylcheddol ond rydym bellach wedi ymrwymo i gymryd y mater hwn lawer mwy o ddifrif. Ym mis Tachwedd (2020), cynaliasom Sul yr Hinsawdd pan wnaethom ddatganiad Cydnabod yr Argyfwng Hinsawdd yn ystod y gwasanaeth. Rydym yn gweld ein hunain ar gamau cyntaf taith. I’n cynorthwyo i sefydlu fframwaith o weithredu dilynol, rydym wedi ymaelodi â chynllun Eco-eglwys A Rocha, ac rydym ar hyn o bryd wrthi’n recriwtio tîm i weithio ar hynny. Ein bwriad yw llunio cynllun cynhwysfawr, gyda thargedau, erbyn dim hwyrach na mis Medi 2021. Gyda chefnogaeth lawn y tîm uwch-arweinwyr a’r ymddiriedolwyr, ein gobaith bellach yw y bydd pawb yn yr eglwys yn cyfranogi yn y fenter hon.’

Gallwch wylio eu gwasanaeth yma a chanfod templedi enghreifftiol o ddatganiadau yn y pecyn cymorth.

Gweddi

Dduw ein Tad, diolchwn i ti mai Duw cyfiawnder ydwyt.
Diolchwn i ti dy fod yn adnabod pawb y mae newid hinsawdd eisoes wedi effeithio arnynt.
Iesu, mae’n ddrwg gennym am y ffyrdd rydym wedi difrodi dy greadigaeth.
Cynorthwya ni i wneud newidiadau yn ein bywydau ein hunain er mwyn caru’n cymdogion ledled y byd yn well.
Ysbryd Glân, cynhyrfa galonnau’r rhai sydd mewn Llywodraeth,
cyfarwydda hwy wrth iddynt wneud penderfyniadau,
ac ysbrydola hwy i amddiffyn y rhai mwyaf bregus.
Amen.

Ymrwymo: Adnoddau i’ch cynorthwyo i ymrwymo i newid fel cymuned

Mae’r argyfwng hinsawdd yn gorfodi pawb ohonom i gymryd camau hirdymor i leihau ein harylliadau nwyon tŷ gwydr. Fel y dengys gweithgarwch Eglwys Gateway, gallwch ddechrau gyda gwasanaeth a dilyn hynny â chynllunio ac yna gweithredu ynghylch eich arylliadau. Neu, os ydych eisoes wedi dechrau gweithredu, gall gwasanaeth fod yn ffordd o wneud hynny’n fwy amlwg. A beth bynnag arall a wnewch, gall gwneud datganiad argyfwng hinsawdd gynorthwyo eglwysi i ganolbwyntio a meithrin ymdeimlad o atebolrwydd i’w haelodau.

Mae’r Pecyn Cymorth Argyfwng Hinsawdd yn ysgogi eglwysi i lunio cynllun ac i ddechrau gweithredu yn sgil hynny, ac mae’n cynnig ffordd eglur ymlaen drwy fabwysiadu dulliau gwych megis Eco-eglwys ac Eco-gynulleidfa i gynorthwyo eich cymuned eglwysig i weithredu gyda’i gilydd. 

Ymhlith y teclynnau eraill mae’r rhain:

Galw: Adnoddau i’ch cynorthwyo i ymuno ag eraill i alw am weithredu ynghylch yr argyfwng hinsawdd

Gall pawb ohonom gymryd y cam syml o lofnodi Datganiad y Glymblaid Hinsawdd.

Mae’r adran ynghylch effaith yn y Pecyn Cymorth Argyfwng Hinsawdd yn ymwneud âr effaith ehangach y gallech ei gael fel eglwys drwy godi eich lleisiau dros newid, gan gydweithio ag eraill yn lleol. Mae angen i ni weld symudiad o bobl gyffredin yn galw am weithredu yn ystod 2021 yn arwain at drafodaethau Glasgow ynghylch yr hinsawdd (COP26). Mae llawer o ffyrdd o wneud hynny a gwahanol ymgyrchoedd y gallwch ymuno â hwy. Lawrlwythwch eich copi eich hun o’r Pecyn Cymorth i ganfod rhagor a darllenwch hanes Laura isod am ysbrydoliaeth ynghylch yr effaith a’r dylanwad y gall ein gweithredoedd eu cael.

Hanes Laura

Fy enw yw Laura ac rwy’n byw yn Taunton. Pan ddarllenais yr adroddiad a gyhoeddodd y Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd yn 2018, bu wir yn sioc i mi. Roedd fy ffrind Mel, roeddwn yn ei hadnabod ers mynychu dosbarth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Geni Plant gyda’n gilydd (fe anwyd ein plant ond diwrnod ar wahân), yn teimlo’n debyg. Felly fe wnaethon ni benderfynu dechrau grŵp Gweplyfr, Taunton Green Parents, i weld a oedd yna eraill a oedd am wneud rhywbeth. Chwyddodd aelodaeth y grŵp yn gyflym iawn – roedd pobl wedi bod yn disgwyl am ffordd o ddangos eu bod nhw’n pryderu.

O fewn ychydig fisoedd, roeddem wedi ysgrifennu at ein Haelod Seneddol ac yna wedi cyfarfod â hi. Fe wnaethon ni ganfod grwpiau eraill yn y dref a oedd yn gweithio ym maes newid hinsawdd a chyda’n gilydd llwyddo i berswadio Cyngor Tref Taunton i ddatgan argyfwng hinsawdd. Rydym wedi cyflawni pob mathau o weithgareddau ers hynny – wedi trefnu gorymdaith hinsawdd, wedi bod yn rhan o’r farchnad werdd gyntaf erioed yn Taunton ac wedi cyfrannu at golofn werdd wythnosol yn y Taunton Gazette. Rydym yn cyfarfod yn rheolaidd â grwpiau eraill yn amrywio o’r Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt hyd at Gwrthryfel Difodiant i bwyso am weithredu i fynd i’r afael â newid hinsawdd yn lleol a ledled y byd.

Mae fy eglwys yn gweithio tuag at ddod yn Eco-eglwys ac at fod yn ddi-blastig. Credwn ein bod yn addoli Duw wrth gynnal gwasanaeth ar y Sul a hefyd wrth gasglu sbwriel allan yn y gymuned. Cefais fy ysbrydoli’n ddiweddar gan rai o eiriau Martin Luther King, pan soniodd am ddatgloi ‘drysau gobaith a seiliwyd ar gau’. Mae ar bobl yn ein cymunedau angen gobaith i’r dyfodol ynglŷn â’r hinsawdd ac rwy’n credu bod Duw yn rhoi i ni’r allweddi i rai o’r drysau hynny.

Felly cymerwn yr argyfwng hwn o ddifrif, a chyda’n gobaith yn Nuw, ymrown i gymryd yr union gamau sydd eu hangen.

Dywedodd wrthyt, feidrolyn, beth sydd dda,
    a’r hyn a gais yr Arglwydd gennyt:
dim ond gwneud beth sy’n iawn, caru teyrngarwch,
    ac ymostwng i rodio’n ostyngedig gyda’th Dduw.     (Micha 6:8)