Yma gallwch ganfod adnoddau i’ch cynorthwyo i archwilio’r Hinsawdd a Bwyd mewn addoliad, wrth ymrwymo i weithredu ac wrth uno ag eraill i alw am newid. Paratowyd yr adnodd hwn gan Caroline Pomeroy, Cyfarwyddwr Climate Stewards, corff a all eich cynorthwyo i gyfrifo eich ôl-troed carbon, i’w leihau os gallwch, ac i wrthbwyso’r gweddill.

Gwasanaeth sy’n Canolbwyntio ar yr Hinsawdd

Ystyried yr Hinsawdd a Bwyd mewn Diwinyddiaeth

Mae’r Beibl â ‘blas y pridd’ arno, ac mae ganddo lawer i’w ddweud am fwyd a ffermio. Mae ffermwyr yn gymeriadau cyffredin yn yr Hen Destament a’r Newydd, mae deddfau Lefitiaidd yn gwarchod tir a phobl rhag eu camddefnyddio ac mae llawer o’r prif ddigwyddiadau yn gysylltiedig â phrydau bwyd. Wrth graidd ein ffydd mae’r Cymun (neu’r Ewcharist – yn llythrennol ‘diolchgarwch’), pan fyddwn yn bwyta pryd symbolaidd o fara a gwin i’n hatgoffa am farwolaeth ac atgyfodiad Iesu a’i bresenoldeb gyda ni. 

Nid oes gan y Beibl lawer i’w ddweud am olion traed carbon, milltiroedd bwyd na phlastig, ond mae yn sôn am gyfiawnder, haelioni a charu cymydog. Dyna pam rydym yn poeni am ein hôl troed carbon. Mewn ymateb i gwestiwn y Phariseaid ‘Pwy yw fy nghymydog?’ adroddodd Iesu ddameg y Samariad Trugarog, gan ein hatgoffa nad y bobl sy’n byw drws nesa’ o reidrwydd yw ein cymdogion. Yn y byd heddiw, credaf fod ein cymdogion yn cynnwys ein cymdogion lleol sy’n dioddef tlodi bwyd; ein cymdogion byd-eang sy’n wynebu diffyg maeth a newyn oherwydd methiant cnydau, llifogydd a sychder a achosir gan newid yn yr hinsawdd; ein cymdogion i’r dyfodol – ein plant a’n hwyrion, a fydd yn gweld effeithiau llawer llymach newid yn yr hinsawdd; a’n cymdogion ym myd natur sy’n wynebu difodiant o ganlyniad i’n harferion ffermio. Os ydym am ddangos gwir gariad at ein holl gymdogion, yna dylai ein dewisiadau bwyd fod er bendith iddynt, nid er niwed. 

Dyma rai darnau a allai eich helpu i archwilio’r pwnc hwn ymhellach yn ystod eich gwasanaeth sy’n canolbwyntio ar yr hinsawdd:

Gweddi

Dduw’r Creawdwr, 
Diolchwn i ti am dy haelioni wrth ddarparu digonedd o fwyd o gaeau a choedwigoedd, moroedd a ffermydd, ffatrïoedd a cheginau. Diolchwn am y llawenydd a’r pleser o fwyta a rhannu prydau bwyd. 
Ond gwyddom y gall ein dewisiadau bwyd achosi niwed i’th greadigaeth ac i’n cymdogion ledled y byd wrth i ni fwyta mwy nag sydd ei angen arnom, gwastraffu’r hyn y gallai eraill fod yn ei fwyta, a chreu sbwriel diangen. 
Rho ddoethineb i ni wrth i ni benderfynu beth i’w fwyta, ble i siopa, beth i’w dyfu a sut i gael gwared â’n gwastraff. Cynorthwya ni i fyw’n fwy syml, i weithredu’n gyfiawn ac i garu trugaredd.
Gofynnwn hyn yn enw ein Gwaredwr a’n Cynhaliwr, Iesu Grist. Amen. 

Darllen Pellach:

Ymrwymo

Adnoddau i’ch cynorthwyo i ymrwymo fel cymuned i newid 

Byddwch yn ddiolchgar i Dduw bob amser am ddarparu bwyd a molwch ef am hynny. 

Gall hyn fod ar ffurf gweddïau o ddiolchgarwch mewn gwasanaethau eglwysig neu fel rhan o’ch gweddïo personol.

Cyfrifwch eich ôl troed carbon o’ch deiet. 

Gallech ddefnyddio 360ocarbon (ar gyfer eglwysi) neu garboniadur Climate Stewards  (ar gyfer unigolion) i gyfrifo ôl troed carbon eich deiet, fel man cychwyn ar gyfer ymrwymo i newid.

Bwytwch yn is i lawr y gadwyn fwyd.

Pan fyddwch wedi darganfod sut mae eich bwyd yn effeithio ar y blaned, gallwch ddechrau chwilio am ddewisiadau ac arferion amgen fyddai’n cael llai o effaith. Edrychwch ar y graff hwn (Adran 7) i gymharu effaith gwahanol fwydydd. Ymrwymwch i weithredu fel hyn yma.

Peidiwch â gwastraffu bwyd.

Prynwch yr hyn sydd ei angen arnoch yn unig, byddwch yn greadigol gyda bwyd dros ben a chompostiwch wastraff bwyd. Edrychwch ar yr adnoddau hyn i feddwl yn greadigol am y ffordd y gallwch leihau gwastraff bwyd. Yn y Deyrnas Unedig, mae teulu cyffredin yn gwastraffu gwerth £700 o fwyd bob blwyddyn. Ymrwymwch i weithredu fel hyn yma.

Bwytewch fwydydd yn eu tymor.

Dysgwch pa fwyd sydd yn ei dymor, er mwyn cynorthwyo i leihau eich effaith ar yr amgylchedd. Gall bwyta bwydydd yn eu tymor hefyd eich cynorthwyo i osgoi bwyd a gludir ar awyrennau, a all gyfrif am hyd at ddeg y cant o ôl troed carbon rhai bwydydd. Ymrwymwch i weithredu fel hyn yma.

Defnyddiwch gyn lleied o ddeunydd pacio ag y gallwch.

Ewch â’ch bagiau a’ch cynwysyddion eich hun i’r siopau, defnyddiwch lapiadau cwyr, prynwch Gwpan Cadw, chwiliwch am ddewisiadau ailgylchu plastig yn lleol, ond cofiwch nad yw plastig bob amser yn ddrwg. Mae’n atal gwastraffu bwyd (bydd 13 allan o 17 o ffrwythau a llysiau ffres yn para o leiaf dridiau’n hwy pan gânt eu lapio mewn plastig wrth eu storio yn yr oergell).

Codi llais

Adnoddau i’ch cynorthwyo i gydweithio ag eraill i alw am weithredu ynghylch yr Hinsawdd a Bwyd

Mae cysylltu â’ch cyngor lleol, eich aelodau yn Senedd Cymru a’ch Aelod yn Senedd San Steffan gyda’ch pryderon a galw arnynt i weithredu yn gwneud gwahaniaeth. Gall Hope for the Future fod o gymorth i chi. Mae Hope for the Future yn cynnig ymchwil, hyfforddiant a chefnogaeth i grwpiau ffydd i’w galluogi i  adeiladu perthynas â’u Haelod Seneddol lleol.

Ymunwch ag ymgyrch genedlaethol sy’n galw am gyfiawnder hinsawdd drwy feddwl am y bwyd rydym yn ei fwyta a chamau gweithredu eraill y gellid eu cymryd er mwyn cyfyngu’r cynnydd mewn tymheredd byd-eang i 1.5 gradd Celsius. Llofnodwch ddatganiad Nawr yw’r Amser yma.