Yma gallwch ddod o hyd i adnoddau i’ch helpu chi i ystyried sut y gallwn ni gael ein harfogi’n well i gydnabod a wynebu materion galar a cholled yn ymwneud â newid yn yr hinsawdd yn ein cymunedau eglwysig; ac i’n helpu i ddod o hyd i adnoddau am sut y gallwn wneud hyn. Cynhyrchwyd yr adnodd hwn gan A Rocha UK.

Mae’r pecyn adnoddau hwn yn cynnwys:

– Cyflwyniad byr i’r pwnc

– Cyngor ar gyfer cynnal gwasanaeth yn canolbwyntio ar hinsawdd a gofal bugeiliol, gan gynnwys adran sy’n archwilio galarnadu ac arweiniad ar gyfer cefnogi cymunedau yn fugeiliol

– Awgrymiadau ar gyfer ymrwymo i weithredu tymor hir

– Ymgyrchoedd i gefnogi galw am ddyfodol mwy gwyrdd

– Adnoddau pellach

Cyflwyniad byr i alar hinsawdd a gofal bugeiliol

Efallai y bydd gennym ymdeimlad dwfn o alar pan feddyliwn am ein perthynas doredig â natur, a’r ffyrdd y gwelir hyn yn ein byd heddiw: colli bioamrywiaeth, tanau gwyllt, gwres sy’n torri pob record, rhewlifoedd yn toddi – i enwi ond ychydig. Efallai y byddwn yn teimlo galar am yr hyn yr ydym eisoes wedi’i golli, a’r hyn yr ydym yn debygol o’i golli yn y dyfodol, wrth inni feddwl am rywogaethau sy’n wynebu difodiant yn y degawdau nesaf a phobl sydd wedi’u dadleoli gan newid yn yr hinsawdd.

Mae’n amlwg erbyn hyn bod gan newid hinsawdd effeithiau pellgyrhaeddol ar iechyd meddwl, gydag ymadroddion fel galar hinsawdd ac eco-bryder bellach yn gyffredin. Efallai y byddwn yn profi galar, pryder, trawma a straen – nid yn unig ni Gristnogion sy’n meddwl am ofalu am y cread a daear Duw, ond y ddynoliaeth i gyd. Nid oes gennym lawer o eiriau am alar hinsawdd yn y Gymraeg, ond gallwn ei gyffelybu i hiraethu am gartref tra’ch bod yn eich cartref. Mae pryder yn wyneb y bygythiad hwn i’n dyfodol yn gwbl ddealladwy, ond pan ddaw’n bryder neu’n alar heb unman i fynd, gall ein gwanio’n llwyr.

Felly mae arnom angen fwy o offer yn ein heglwysi i gydnabod a wynebu’r ymdeimlad hwn o golled a galar oherwydd yr argyfwng amgylcheddol, ac i gynnig cefnogaeth i’n cynulleidfaoedd a’n cymunedau. Gall eglwysi chwarae rhan hanfodol wrth ddarparu gofal bugeiliol ar gyfer galar hinsawdd. Mae gan yr Eglwys lawer o brofiad o fyw gyda dioddefaint, dangos tosturi a darparu adnoddau i bobl wynebu marwolaeth – yn ogystal â dyfalbarhau wrth geisio dyfodol mwy cyfiawn. Felly, yn yr un modd ag y mae eglwysi lleol wedi ymateb gyda gofal bugeiliol a chefnogaeth i’r rhai y mae’r argyfwng Covid wedi effeithio arnynt, felly bydd angen iddynt ymateb fwyfwy o ran gofal bugeiliol i’r sawl sy’n dioddef oherwydd yr argyfwng amgylcheddol.

Mae gan eglwysi adnoddau cyfoethog at eu defnydd. Gallant ddarparu lle i alarnadu a gobeithio; gofod i bobl alaru a mynegi eu hemosiynau, ond hefyd gofod i weithredu – i gymryd rhan mewn prosiectau bywyd gwyllt a rhandiroedd lleol, i gynnig gwasanaethau gweddi a chwnsela, i ddarparu man diogel i’r gymuned drafod y dyfodol y mae ei heisiau, yn ogystal â mynnu atebolrwydd gan ein sefydliadau a’n llywodraethau ar eu hymateb i’r argyfwng amgylcheddol.

Gwasanaeth Hinsawdd – Cynnal gwasanaeth ar thema yr Hinsawdd a Gofal Bugeiliol

Galarnad fel ymateb bugeiliol i alar hinsawdd:
Gyda llawer o ddiolch i Hannah Malcolm am ei sesiwn ar alarnad fel rhan o’r gweminar arlein Gofal Hinsawdd a Bugeiliol: prosesu galar am y blaned a gynhaliwyd gan A Rocha UK.

Mae galarnad yn fath o weddi, sy’n ein helpu i archwilio ystyr ffydd yn y mannau llwm lle nad oes ateb cyflym, clir na syml.

Ar Dduw yr ydym yn galarnadu. Mae galarnad yn agored i’r dyfodol, yn cydnabod nad ydym ni fel bodau dynol yn gwybod yr holl ganlyniadau. Mae’n waith ar y cyd, yn rhythm cymunedol, wedi’i siapio gan ein profiadau ein hunain a phrofiadau pobl eraill. Mae galarnad yn dristwch, cynddaredd, protest – yn union fel rydyn ni’n gweld Iesu yn wylo ac yn galw ar Dduw am newid, felly gallwn ninnau hefyd. Mae galarnad a phrotest yn rhannau hanfodol o weddi; nid yn unig i’r galarus, ond safiad y gallwn ei gymryd mewn byd sy’n dioddef. Nid oes rhaid i ni brofi ymateb emosiynol ein hunain er mwyn ymuno â galarnad.

Mae galarnad yn ein tywys at weithredu doeth – gostyngeiddrwydd amdanom ni’n hunain a faint yr ydym yn ei wybod. Mewn anobaith, rydym yn cymryd ein bod yn gwybod beth fydd yn digwydd. Mae galarnad yn wahanol i anobaith, ac ni ddylai ein gadael ni nac eraill mewn trallod. Yn hytrach, mae galarnad yn alwad ar Dduw, yn cydnabod dyfodol anhysbys ac yn ofni’r Arglwydd yn fwy na phwerau’r byd hwn.

Mae galarnad yn gofyn i ni fod yn fugeiliol gyfrifol – rhaid inni osgoi trin galarnad fel digwyddiad unwaith ac am byth, er mwyn ysgogi galar yn y rhai o’n cwmpas. Yn hytrach, mae’n ymwneud â gosod galarnadu wrth galon ein cymuned, ac fe’i cynhelir gan wybod bod Duw yn ein clywed.

Dylai galarnad felly arwain at weithgarwch bywiol ar ein rhan. Mae’n ein gwahodd i wella yn wyneb bregusrwydd, ac yn ein gwahodd i fyw yn wyneb marwolaeth.

Adnoddau ym maes galarnad:

Time for Tears erthygl gan Engage Worship am ymgysylltu â galar, tristwch a phoen wrth addoli

Part 2 – Learning to Lament | Exploring Prayer fideo defnyddiol gan yr Archesgob Justin Welby am sut i weddïo pan welwn bethau yn y byd sy’n boenus neu’n anodd

Adnoddau ar gyfer gwasanaeth:

Fel yr eglura Hannah Malcolm yn ei gwaith, gall ystyried galar yr hinsawdd beri i bobl deimlo eu bod wedi eu gorlethu neu mewn trallod. Mae Hannah yn siarad am hyn yn fwy yn y podlediad ‘Galar ecolegol’, sydd ar gael yma. Felly nid ydym yn awgrymu bod siarad am alar neu alarnad hinsawdd yn weithgarwch unwaith ac am byth – nid yw’n ymwneud â thywys pobl i gyflwr emosiynol dwys ac yna eu gadael yno ar ddiwedd y gwasanaeth. Yn hytrach, mae’n ymwneud â gofal bugeiliol parhaus ynghylch emosiynau y gallai pobl fod yn eu teimlo mewn ymateb i’r argyfwng hinsawdd. Mae canolbwyntio ar alarnad yn ymwneud yn fwy ag agwedd y galon yn ein bywydau ar y cyd fel cymunedau eglwysig; mae gweddi a galarnad am y mannau toredig yn ein byd yn beth parhaus yr ydym yn gweiddi ar Dduw amdano.

Fel rhan o hyn, dyma rai adnoddau ar gyfer gwahanol elfennau o wasanaeth eglwysig a allai fod yn ddefnyddiol ynghylch y pwnc hwn:

Gweithgareddau i’w defnyddio wrth addoli yn unigol neu ar y cyd – oedfaon pob oed, plant neu oedolion

  • Lludw galarnad – syniad gweithredol/corfforol y gellid yn rhwydd ei ffocysu ar yr hinsawdd
  • Duw sy’n gweld a chlywed – ffordd agos-atoch o alarnadu gyda symudiadau corfforol, y gellid yn hawdd ei addasu i gyfeirio at yr amgylchedd/difodiant/gofal am y cread

Straeon – am brofiadau ac effeithiau y gall pobl eu rhannu am y maes, mewn pregeth neu oedfa

Soniodd Zoe Matties am brofiad iachusol o alarnad cymunedol yn y gweminar Ecological Grief and Exploring Hope: A Panel Discussion a gynhaliwyd gan A Rocha Canada, yn cyffwrdd ar alarnad yn benodol am 00:46:00, a gofyn y cwestiynau: beth yw galarnad? Sut mae gwneud? Oes yna ddefodau? Ydy e’n iachusol? Ellid ei wneud e fel gweithgarwch cymunedol?

Cerddi – gall rhannu cerdd fod yn ffordd ddwys o grynhoi emosiynau yr ydym yn ei chael hi’n anodd i’w lleisio yng nghyd-destun galar hinsawdd. Enghreifftiau Saesneg:

  • When Great Trees Fall – Maya Angelou
  • I thank you God for this most amazing day – E.E Cummings

Gweddïau – ar gyfer adran arbennig o’r gwasanaeth (ymbil, mawl, cyffesu, ymgysegriad) neu ar gyfer gweddi ar eich pen eich hun

ac yn Saesneg:

Emynau a chaneuon – ar gyfer addoli ar y cyd neu ar eich pen eich hun

  • – Mae gan Engage Worship lawer o adnoddau ynghylch galarnad ar eu gwefan yma. Gellir canfod adnoddau penodol ar gyfer galar a galarnad hinsawdd yma.
  • The Porter’s Gate: Lament Songs – mae’r casgliad hwn o ganeuon galarnadus yn ychwanegiad bach i’r traddodiad o Gristnogion yn dwyn bregusrwydd y byd hwn i Dduw ar weddi a chân.         
    Doxecology – albwm gan Resound Worship o ganeuon addoli ar themâu ecolegol, yn cyffwrdd â’r cread, ecoleg, a gobaith Cristnogol. Mae yna hefyd cyfeirlyfr astudio i gydfynd â’r albwm.

Harvest Worship – Church Service pack – Fideo ymbil am y cread, yn canolbwyntio ar alarnad ar dud. 26

Pregethau a Litwrgi – i arfogi cynulleidfaoedd ac arweinyddion i gynnal oedfa am yr hinsawdd.

Fideos – y gellir eu defnyddio mewn oedfa neu eu rhannu arlein.

  • Galarnad am yr Argyfwng Hinsawdd ac Ecolegol, ar gael yma.

Cynnal gwasanaeth yn yr awyr agored:

Gallech ystyried cynnal gwasanaeth yn yr awyr agored er mwyn cysylltu’n agosach â natur. Ys dywed Liuan Huska yn ei blog Healing and the Earth: ‘mae bod allan yn y byd naturiol yn falm i lawer. Dan gadeirlan y coed neu yn nhawelwch sanctaidd yr anialwch rydym yn synhwyro ein bod yn un â phob dim a grëwyd gan Dduw. Nid ydym ar ein pennau ein hunain. Gyda ni yn ein llawenydd a’n poen mae yna nid yn unig pobl eraill ond hefyd y cennin Pedr, y buchod coch cwta, a’r masarn siwgr. Felly rydym yn trin y ddaear fel rhan o’n hiacháu.

Gweler pecyn Engage Worship Worship in the Woods, sy’n darparu deg sesiwn ar gyfer ymwneud â Duw yn y goedwig. Mae ganddynt hefyd adnoddau eraill am gynnal oedfa awyr agored yma.

Gweler hefyd adnodd Tearfund ar gyfer eu menter Prayer in the Park. Cynhaliwyd Prayer in the Park ar y 5ed o Fehefin, Dydd Amgylcheddol y Byd, cyn i arweinyddion byd gyfarfod yng Nghernyw ar gyfer uwch-gynhadledd G7. Mae llawer o’r adnoddau yma yn ddefnyddiol ar gyfer cynnal gwasanaeth yn yr awyr agored. Gellir gweld eu canllaw gweddi yma. Mae yna adran ddefnyddiol am sut i weddïo gweddi galarnad ar dud. 3.

Canllawiau ar gyfer cefnogi cymunedau yn fugeiliol:

Mae eglwysi wedi eu harfogi’n dda i gynnig gofal bugeiliol, ac eisoes yn gwneud hynny mewn sawl rhan arall o’n bywyd. Gellir addasu darpariaeth gofal bugeiliol o’r fath i gefnogi cymunedau i ddelio â’u hemosiynau ynghylch yr argyfwng hinsawdd. Mae eglwysi mewn lle unigryw yn y gymuned, yn aml yn cael eu hystyried yn fan diogel, a gallant greu a chadw lle i bobl gael y mathau hyn o sgwrs.

Mae Hannah Malcolm hefyd yn pwysleisio nad yw galarnad yn cymryd lle mathau eraill o ofal bugeiliol. Mae angen i ni gadw gofod a chynnig cefnogaeth, gan hwyluso sgyrsiau parhaus am yr emosiynau y mae pobl yn eu teimlo o ganlyniad i’w dealltwriaeth a’u profiad o’r hyn sy’n digwydd i’r byd o’u cwmpas. Ym mhennod pump o’r Podlediad Fieldnotes, mae Stuart Blanch, llywydd A Rocha Awstralia, yn siarad am effaith ymgyrchu amgylcheddol ac ymgysylltu ag argyfwng yr hinsawdd ar ei iechyd meddwl a’i brofiad o dderbyn cwnsela ynghylch galar hinsawdd a’i brofiadau o golli bioamrywiaeth, ar gael yma.

Mae cynnal cylch galar yn ffordd arall y gallech fod yn cefnogi’ch eglwys a’ch cymuned ehangach yn fugeiliol. Mae cylchoedd galar yn ofod cefnogol i gysylltu â galar, rhannu straeon, a phrofi galar ar y cyd. Mae Christian Climate Action wedi bod yn datblygu cylchoedd galar fel ffordd o helpu pobl i gydnabod yr emosiynau dwfn a deimlir o amgylch yr argyfwng hinsawdd. Mae ganddyn nhw rai adnoddau ar eu gwefan yma gyda dwy fersiwn wahanol o gynnal cylch galar, y gallwch chi eu haddasu ar gyfer eich cymuned eich hun. Mae gwybodaeth hefyd yn eu llyfr Time To Act o’r enw “Running Grief Circles” ar dudalen 253.

Fel y mae Hannah yn pwysleisio, mae gweithredu ar y cyd yn rhan hanfodol o’n hymateb bugeiliol i alar am yr hinsawdd. Rydyn ni’n galarnadu yn gyntaf, ac yna rydyn ni mewn gofod lle gallwn ni weithredu.

Ymrwymo

1) Ymunwch ag un o’r cynlluniau gwyrddio seiliedig ar ffydd

Cofrestrwch ar gyfer un o’r cynlluniau gwyrddio a dewch yn rhan o gymuned o eglwysi a sefydliadau sy’n ymwneud ag addysgu ac addoli sy’n canolbwyntio ar yr hinsawdd, a gwneud eu lleoedd yn fwy cynaliadwy. Dewch o hyd i’r un mwyaf perthnasol i chi yma:

– Ar gyfer rhan fwyaf eglwysi Cymru a Lloegr rydym yn eich annog i ymuno â’r rhaglen Eco Church

– Ar gyfer cynulleidfaoedd Catholig, rydym yn awgrymu ymuno â Live Simply.

2) Llwybrau ar gyfer iachâd – treulio amser ym myd natur

Mae’n bwysig galarnadu a myfyrio yn gyntaf cyn bod mewn man lle gallwch ymrwymo i weithredu. Efallai yr hoffech chi ystyried y ddau gam isod.

Mynd i ardd dawel i fyfyrio. Mae Mudiad y Gerddi Tawel yn meithrin mynediad i ofod awyr agored ar gyfer gweddïo, myfyrio a gorffwys mewn amrywiaeth o leoliadau. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y mudiad, a dod o hyd i ardd sy’n lleol i chi, yma.

Cymryd rhan mewn gweithredu ymarferol – gallech wedyn ymrwymo i weithredu trwy wneud rhywfaint o waith cadwraeth ac amgylcheddol ymarferol, er enghraifft cymryd rhan mewn prosiect cymunedol rhandiroedd neu fywyd gwyllt. Gwyliwch y fideo yma gan Hazelnut Community Farm, sy’n rhoi enghraifft hyfryd, unigryw a gobeithiol o ymrwymo i weithredu.

3) Cymryd rhan mewn ymgyrch

Mae yna lawer o sefydliadau yn gwneud gwahaniaeth gydag ymgyrchoedd a gweithgareddau y gallwch chi gymryd rhan ynddynt. Dyma rai enghreifftiau gwych o weithredu gobeithiol:

Cymorth Cristnogol: Cadwyn Weddi – ymunwch â’r gadwyn weddi dros gyfiawnder hinsawdd. Mae gweddi yn ffordd wych o ymateb i’n teimladau o alar yn yr hinsawdd. ‘Bob dydd, cydiwch mewn paned, dywedwch ein gweddi amser te a phostiwch lun ohonoch chi’ch hun a’ch diod. Peidiwch ag anghofio defnyddio’r hashnod #AmenToClimateJustice. ’Cofrestrwch ar y calendr i lenwi slot amser i weddïo naill ai ar eich pen eich hun neu gyda phobl eraill o’ch eglwys. Mae adnoddau Cymraeg ar gael yma.

Young Christian Climate Action: Relay to COP26 – ymunwch â’r daith gyfnewid i Glasgow, gydag amrywiaeth o wahanol ffyrdd i gymryd rhan – o ymuno ar y llwybr o Gernyw i Glasgow, darparu llety i gerddwyr, i gynnig cefnogaeth sefydliadol, i enwi dim ond ychydig. Mae YCCN yn bodoli ar gyfer oedolion 18-30 oed ond maent yn croesawu pobl o bob oed i gymryd rhan.

Rydym yn trefnu’r Daith Gyfnewid hon i COP26 i ddangos ein bod yn poeni am gyfiawnder hinsawdd a gofalu am y cread. Rydym am weld newid systematig ar raddfa fyd-eang a lleol. Gobeithiwn, trwy redeg y daith gyfnewid hon, y gallwn godi ymwybyddiaeth o COP26 a’r rheidrwydd arnom fel Cristnogion i gymryd rhan yn niwinyddiaeth gofal y cread, yn unigol ac ar y cyd.

Crack the Crisis: Wave of Hope – ymunwch ag eraill ledled y DU i alw am ddyfodol gwell trwy ddefnyddio negeseuon gobaith wedi’u llunio yn eich cartref, gan ddweud wrth wleidyddion ein bod am iddynt weithio gyda’i gilydd i gael byd gwell. Codwch ‘law’ yn eich ffenestr ac ychwanegwch luniau i’r oriel ar-lein.
Gallwch hefyd ddod o hyd i becyn cymorth Tearfund Wave of Hope yma a mwy o wybodaeth gan Tearfund am Wave of Hope yma.

CAFOD (Asiantaeth Gatholig dros Ddatblygu Dramor) – mae ganddynt  ystod wych o adnoddau ar gyfer plant a phobl ifanc. Fel y soniwyd, gall pobl ifanc yn benodol fod yn profi emosiynau dwfn ynghylch yr argyfwng hinsawdd a allai fod yn anodd iddynt eu mynegi. Gall ymgysylltu â’r adnoddau hyn helpu i agor deialog i bobl ifanc ddeall a siarad am newid yn yr hinsawdd. Gallwch ddod o hyd i adnoddau addysgu oed ysgol gynradd yma ac adnoddau addysgu ysgolion uwchradd ac ieuenctid yma.

Codi llais

1. Rydyn ni’n gofyn i’r holl eglwysi sy’n cymryd rhan yn Sul yr Hinsawdd arwyddo’r alwad gyffredin hon i’r llywodraeth mai Nawr yw’r Amser i arwain y DU tuag at ddyfodol iachach, gwyrddach a thecach. Mae’r datganiad hwn yn cynnwys galwad i:

‘Adael neb ar ôl trwy gynyddu’r gefnogaeth i’r rhai sydd fwyaf agored i effeithiau newid yn yr hinsawdd gartref a thramor’, gan alw am ddyfodol mwy golau a mwy gobeithiol.

Arwyddwch ddatganiad Nawr yw’r Amser fel rhan o’ch gwasanaeth i ddangos eich cefnogaeth i hyn a chael eich cyfrif ymhlith y miloedd o eglwysi sydd eisoes wedi’i lofnodi fel rhan o Sul yr Hinsawdd. Codwch eich llais i ddweud wrth wleidyddion eich bod eisiau dyfodol glanach, gwyrddach a thecach yng nghalon cynlluniau i ailadeiladu economi gref. Gallwch lofnodi datganiad ‘Nawr yw’r Amser’ Clymblaid yr Hinsawdd fel eglwys ac fel unigolyn.

2. Edrychwch ar Becyn Argyfwng Hinsawdd Tearfund. Wrth i’r argyfwng hinsawdd gyflymu, mae miliynau o fywydau mewn perygl. Mae Cristnogion ledled y byd yn gweithredu ar frys. Cam wrth gam, mae’r Pecyn Argyfwng Hinsawdd yn tywys eich eglwys neu sefydliad Cristnogol trwy gamau syml ond pwerus sy’n cael effaith ymhell y tu hwnt i’ch waliau neu’ch cymuned eich hun.

Adnoddau pellach

Gyda llawer o ddiolch i siaradwyr a mynychwyr y gweminar Hinsawdd a Gofal Bugeiliol a gynhaliwyd gan A Rocha UK, a rannodd lawer o’r adnoddau hyn yn ystod y sesiynau gweminar a thrwy flwch sgwrsio’r mynychwyr.

Deep Waters gan Green Christian:

Rhaglen o wyth sesiwn gan Green Christian yw Deep Waters, sy’n cynnig gofod diogel i gwrdd â grŵp bach o bobl. Trwy sgwrsio, myfyrio, a rhannu profiad, mae Deep Waters yn gwahodd cyfranogwyr ar daith trwy alar hinsawdd ac eco-bryder, i ddarganfod dewrder, eglurder a phwrpas o’r newydd. Mae’r deunydd yn cynnwys ystod eang o fideos, erthyglau, cerddi a delweddau i gynorthwyo myfyrio, yn unigol ac mewn grŵp. Gallwch ddefnyddio’r deunydd yn eich eglwys neu’ch rhwydwaith gyda hwylusydd â sgiliau addas, neu gymryd rhan mewn cyfres a drefnir yn ganolog gan Green Christian.

Mae Deep Waters yn rhan o raglen Borrowed Time, a ddatblygwyd gan Green Christian i feithrin gofal bugeiliol yn yr argyfwng hinsawdd. Mae gan dudalen Facebook Borrowed Time lyfrgell gynhwysfawr o erthyglau o ffynonellau Cristnogol, newyddiadurol ac academaidd ar oblygiadau seicolegol, emosiynol a diwinyddol chwalfa’r hinsawdd.

Mewn achosion lle mae angen cefnogaeth seicolegol ddyfnach, mae cefnogaeth ar gael gan y Climate Psychology Alliance. Mae’r CPA yn cynnal Caffis Hinsawdd rheolaidd – mannau syml, croesawgar, empathetig lle gellir mynegi’n ddiogel ein hofnau a’n hansicrwydd ynghylch argyfwng yr hinsawdd. Mae’r drafodaeth yn canolbwyntio ar feddyliau a theimladau cyfranogwyr am yr argyfwng hinsawdd. Nid oes unrhyw siaradwyr gwadd a dim pregethau, ac mae’n barth di-gyngor.

Mae CPA hefyd yn cynnig cefnogaeth therapiwtig bersonol i unrhyw un a hoffai gael help gydag effaith emosiynol a seicolegol newid hinsawdd ar eu bywydau. Mae CPA yn cadw cofrestr o aelodau sy’n gallu cynnig cefnogaeth, y mwyafrif ohonynt yn seicotherapyddion a chynghorwyr hyfforddedig a chofrestredig. Maent yn cynnig sgyrsiau un i un diogel ac empathetig mewn hyd at dair sesiwn am ddim. Gellir cael mwy o fanylion o wefan CPA.

Adnoddau ar gyfer cefnogi plant a phobl ifanc:

  • – Mae ymchwil Tearfund wedi darganfod bod 9 o bob 10 o bobl ifanc Cristnogol a holwyd yn poeni am newid hinsawdd, ond dim ond un o bob 10 sy’n credu bod eu heglwys yn gwneud digon i ymateb i’r argyfwng hinsawdd. Darllenwch fwy am y canfyddiadau yma.
  • – Mae Shuffle: Green Edition gan Ganolfan Ymchwil YouthScape yn cynnig 42 her dros 42 diwrnod, gan wahodd pobl ifanc i ymgysylltu ag argyfwng yr hinsawdd, gan eu grymuso i wneud gwahaniaeth.
  • Opinion | Facing the Climate Emergency: Grieving The Future You Thought You Had, detholiad o Facing the Climate Emergency: How to Transform Yourself with Climate Truth ganMargaret Klein Salamon. Mae hyn yn rhywbeth y gall oedolion ei ddarllen i helpu i feddwl am sut y gallwn gefnogi eraill, yn enwedig pobl ifanc, i alaru am eu breuddwydion am y dyfodol na fydd, efallai, yn bosibl yng ngoleuni’r argyfwng hinsawdd.

Llyfrau:

  • – Yn Ecology for your Theology Bookshelf gan Hannah Malcolm ceir rhestr amrywiol o argymhellion darllen ynghylch Cristnogaeth a’r amgylchedd. Mae’r silff lyfrau wedi’i rhannu’n sawl pwnc gwahanol fel y gallwch chi leoli a darllen ynghylch materion penodol.
  • – Mae Words for a Dying World: Stories of Grief and Courage from the Global Church, wedi’i olygu gan Hannah Malcolm, yn dwyn ynghyd lleisiau o bob cwr o’r byd i feddwl am sut rydyn ni’n siarad am alar hinsawdd yn yr eglwys, a phan rydyn ni wedi dod o hyd i’r geiriau, beth rydyn ni’n ei wneud gyda’r galar hwnnw.
  • A Field Guide to Climate Anxiety: How to Keep Your Cool on a Warming Planet gan Sarah Jaquette Ray, y “pecyn cymorth dirfodol” cyntaf ar gyfer brwydro yn erbyn eco-euogrwydd a gorflinder wrth eiriol dros gyfiawnder hinsawdd.
  • Saving Us: A Climate Scientist’s Case for Hope and Healing in a Divided World gan Katharine Hayhoe. Gan dynnu ar ymchwil rhyngddisgyblaethol a straeon personol, mae Hayhoe yn dangos y gall sgyrsiau bach gael canlyniadau syfrdanol. Mae Saving Us yn ein gadael gyda’r gallu i agor deialog gydag anwyliaid ynghylch sut y gall pob un ohonom chwarae rôl wrth hybu newid.
  • – Mae Rage and Hope: 75 Prayers for a Better World a olygwyd gan Chine McDonald, yn gasgliad o weddïau herfeiddiol dros gyfiawnder i ddathlu 75 mlynedd o Gymorth Cristnogol. Gan ddwyn ynghyd lleisiau o wahanol gyd-destunau a diwylliannau ar draws y byd, dyma gasgliad o weddïau galarnadus am anghyfiawnderau’r byd, a gweddïau gobaith dros y byd yr ydym am ei weld: ‘mae’r byd wedi torri, yn llawn anghyfiawnder ac anghydraddoldeb , ond er gwaethaf popeth, rydym ni’n gobeithio.’

Sgyrsiau a Gweminarau:

Blogiau, Erthyglau a Gwefannau: